Cylchlythyr Gorffennaf: Awdurdod Cyllid Cymru

31 Gorffennaf 2026

 
  gorfenaf

Croeso

Croeso i rifyn Gorffennaf o gylchlythyr ACC  

Byddwn yn dod â'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am drethi datganoledig Cymru, cofrestru llety ymwelwyr a'r Ardoll Ymwelwyr, yn ogystal â dyddiadau cau allweddol ac adnoddau defnyddiol.  

Os ydych chi'n adnabod unrhyw un a fyddai'n cael budd o dderbyn y diweddariadau hyn, anogwch nhw i gofrestru er mwyn iddyn nhw dderbyn rhifynnau’r dyfodol.  

£400 milion

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2026  

Fis yma, rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2025 i 2026. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe wnaethom gasglu bron i £400 miliwn mewn refeniw treth i Gymru, gan ddod â'n cyfanswm ers 2018 i fwy na £2.7 biliwn. Mae'r refeniw a gesglir yn cael ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i gymunedau ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion a’r GIG.   

Dyma ein hadroddiad cyntaf ar gynnydd yn erbyn ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2025 i 2028.  

fair

Blwyddyn o newid, twf a chyflawni parhaus  

Mae ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2025 i 2028 yn nodi sut rydym yn anelu at fod yn hawdd, yn deg ac yn gynaliadwy. Nid geiriau’n unig yw’r rhain - maen nhw'n disgrifio’r profiad rydym eisiau i bob person a busnes yng Nghymru ei gael wrth ddelio ag awdurdod treth Cymru. 

Mae pigion eleni’n cynnwys: 

  • gostyngiad yn yr amser cyfartalog a gymerir i gwblhau ymchwiliad treth  
  • 88% o bobl yn dweud bod ein gwasanaethau yn hawdd i'w defnyddio  
  • rydym ymhlith y sefydliadau Gwasanaeth Sifil â sgôr mynegai ymgysylltiad gweithwyr uchaf yn y DU am yr wythfed flwyddyn yn olynol 

Rydym hefyd yn cefnogi Llywodraeth Cymru trwy baratoi i gasglu Ardoll Ymwelwyr ar ran cynghorau lleol ac i reoli’r broses o gofrestru darparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru. 

rg

Ein dull ar waith  

Dywedodd Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr ACC:  

“Mae Ein Dull wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Mae hyn yn golygu ein bod yn dechrau o sefyllfa o ymddiriedaeth uchel – gan gydnabod bod y mwyafrif helaeth o bobl a sefydliadau eisiau gwneud y peth iawn ar y cynnig cyntaf, ac rydym yn gweithio gyda nhw i’w helpu i wneud hynny.  

"Pan fydd camgymeriadau'n digwydd, rydyn ni'n eu helpu i’w cywiro. Pan fydd pobl yn fwriadol yn ceisio osgoi eu rhwymedigaethau, rydym yn cymryd camau cadarn a phriodol.  

"Mae ein canlyniadau eleni yn arddangos y dull hwn ar waith. Rydym yn falch o fod wedi casglu bron i £400 miliwn i Gymru. Rydym wedi parhau i gasglu a rheoli trethi datganoledig Cymru yn ogystal â gwneud pethau newydd a gwella sut rydym yn gweithio.” 

tax event

Digwyddiad treth am ddim yng Nghaerdydd 

Rydym yn cynnal fforwm treth rhad ac am ddim ar gyfer cyfreithwyr, trawsgludwyr, a'u timau. Cynhelir y digwyddiad yng Nghaerdydd ddydd Mawrth 22 Medi. Byddwn yn ymdrin â phynciau’n ymwneud â’r Dreth Trafodiadau Tir gan gynnwys addas i'w ddefnyddio, trosglwyddo ecwiti a gwallau cyffredin mewn trafodiadau cyfraddau uwch. 

Cofrestrwch am le am ddim drwy Eventbrite

blog

Profi’r gwasanaeth cofrestru  

Yn gynharach eleni, aeth ein gwasanaeth cofrestru llety ymwelwyr trwy Asesiad Gwasanaeth Digidol. 

Mae'n edrych ar ba mor dda y mae tîm yn deall anghenion ei ddefnyddwyr, sut mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio, ac a yw'n hygyrch, yn ddwyieithog ac yn gynaliadwy. 

Yn ein blog diweddaraf, mae Gareth, ein Harweinydd Cofrestru, yn rhannu beth aeth yn dda a beth rydyn ni'n ei wella. 

gweminarau

Gwylio neu Gofrestru: Gweminarau ‘Paratoi’ ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr yng Nghaerdydd 

Wedi methu ein gweminar ar 17 Gorffennaf? Gallwch ei wylio'n ôl nawr ar YouTube. 

Mae'r sesiynau rhad ac am ddim hyn a gynhelir ar y cyd gan Gyngor Caerdydd ac Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi’u cynllunio i helpu darparwyr llety i ymwelwyr yng Nghaerdydd i baratoi ar gyfer yr ardoll.  

 Gwersi allweddol: 

  • Sut y bydd yr ardoll yn gweithio yng Nghaerdydd – Esboniodd Cyngor Caerdydd sut y bydd incwm o’r ardoll yn cael ei ddefnyddio’n lleol 
  • Beth mae'r Ardoll Ymwelwyr yn ei olygu ar gyfer darparwyr llety 
  • Canllawiau ymarferol, cam wrth gam ar sut i baratoi cyn i’r ardoll gael ei weithredu 

Mae ein gweminar fyw nesaf ddydd Mercher 10 Medi, rhwng 6pm a 7pm. 

LTT

Treth Trafodiadau Tir: Ystadegau Chwarterol wedi'u Cyhoeddi 

Mae'r ystadegau chwarterol diweddaraf ar y Dreth Trafodiadau Tir (TTT), sy'n ymdrin â’r cyfnod Ebrill i Fehefin 2026, bellach wedi'u cyhoeddi. Mae'r ystadegau’n darparu dadansoddiad o drafodiadau a refeniw TTT ar gyfer y chwarter, gan gynnwys ffigurau ar gyfer eiddo preswyl ac amhreswyl, yn ogystal â data ar ryddhadau ac esemptiadau a hawliwyd. 

Rydym ar Facebook ac Instagram

Dilynwch ni am gefnogaeth, arweiniad ac i glywed y diweddaraf am ein gwasanaethau.

Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd Awdurdod Cyllid Cymru

Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd i gael gwybod sut rydym yn prosesu eich data.

 
 
 

AMDANOM NI

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau i bobl gofrestru, cyfrifo a thalu treth yng Nghymru. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/acc

Dilynwch ni ar-lein:

LinkedIn

Facebook

Instagram

X