Bwletin Gwaith Ieuenctid: Ar gael nawr!

Gorffennaf 2026

 
 

Rhaglen Erasmus+

EP

cylchlythyr Erasmus+ y British CouncilGyda'r DU yn ailymuno ag Erasmus+ o 2027 ymlaen, bydd cyfleoedd newydd ar gael i bobl ifanc a sefydliadau ieuenctid ledled Cymru a'r DU. Mae Erasmus+ yn cefnogi cyfnewidiadau ieuenctid, gwirfoddoli, prosiectau cyfranogi a symudedd gweithwyr ieuenctid, gan alluogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a'u hyder, a chreu cysylltiadau rhyngwladol gwerthfawr. Anogir sefydliadau ac ymarferwyr i gofrestru i dderbyn cylchlythyr Erasmus+ y British Council er mwyn cael gwybod am gyfleoedd cyllido, diweddariadau a chyngor. Os ydych chi'n newydd i Erasmus+, dyma'r amser delfrydol i gymryd rhan. Ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau, bydd angen ichi feithrin perthynas waith gryf â phartneriaid rhyngwladol cyn cyflwyno cais. Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i gysylltu â sefydliadau ledled Ewrop ac i archwilio cyfleoedd yn y dyfodol.

Grŵp Ffocws AI ERYICA – Defnydd Moesegol o AI a Sgwrsfotiaid

Gwahoddir gweithwyr ieuenctid i gymryd rhan mewn grŵp ffocws ar-lein, awr o hyd, sy'n archwilio'r defnydd moesegol o AI a sgwrsfotiaid mewn gwaith gwybodaeth ieuenctid, fel rhan o brosiect youthinfo.ai a ariennir gan Erasmus+. I gofrestru: E-bostiwch charlotte.simon@eryica.org gyda chyflwyniad byr yn amlinellu eich rôl, eich profiad a'ch diddordeb yn y maes hwn.

XX

Dewch yn Aseswr Arbenigol Erasmus+ ar gyfer Asiantaeth Genedlaethol y DU

Mae'r British Council yn gwahodd gweithwyr proffesiynol profiadol i ymuno â Chronfa o Aseswyr Arbenigol Erasmus+ y DU.  Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod cyllid Erasmus+ yn cefnogi prosiectau o ansawdd uchel sy'n creu cyfleoedd ystyrlon i ddysgwyr, addysgwyr, pobl ifanc a sefydliadau ledled y DU ac Ewrop.

Ceir rhagor o fanylion am y rôl a'r broses ymgeisio yn yr atodiad. Ystyriwch wneud cais i helpu i sicrhau bod ceisiadau'n cael eu gwerthuso gan bobl sydd â dealltwriaeth fanwl o gyd-destun addysg Cymru.

E-Call-for-Experts_Assessors.pdf

Mae'r Tour de France eich angen chi!

Ydych chi'n dwli ar feicio, neu eisiau helpu i ddangos i'r byd pa mor wych yw Cymru? Mae'r Tour de France yn dod i Gymru ac mae angen help pobl ifanc arnom!

Ym mis Gorffennaf 2027, bydd yr Alban, Cymru a Lloegr yn cynnal Grand Départ y Tour de France, gyda Chymru yn cynnal cymal tri y ras, o'r Trallwng i Gaerdydd, ar 4 Gorffennaf.

Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hadnabod yn swyddogol fel JOY Makers, gan ddod â llawenydd beicio i gefnogwyr a chymunedau.

Trwy wirfoddoli, byddant wrth galon y ras, yn croesawu ymwelwyr, cefnogi trefniadau’r ras, cefnogi gweithgareddau cymunedol a helpu i greu profiad diogel a bythgofiadwy i bawb.

Gall rheini rhwng  18 a 25 oed hefyd wneud cais am y rhaglen ‘Parodrwydd i Weithio’ i feithrin sgiliau trwy hyfforddiant a mentora. Mae modd gwneud cais i fod yn wirfoddolwr yma, a’r dyddiad cau ydy 1 Medi 2026.  

xx

Mislif Fi Cymru

Mae lleolydd cynhyrchion mislif newydd, Mislif Fi, yn helpu pobl ifanc ledled Cymru i ddod o hyd i gynhyrchion mislif am ddim yn gyflym ac yn hwylus. Gallwch chwilio llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a lleoliadau eraill gerllaw lle mae padiau, tamponau, cwpanau mislif ac opsiynau ailddefnyddadwy ar gael am ddim. Mae'r lleolydd yn ei gwneud hi'n hawdd dod o hyd i gefnogaeth pan fydd ei hangen arnoch, ble bynnag yr ydych chi.

Mynnwch fwy o wybodaeth ym Mislif Fi: https://mislif-fi.cymru

xx

Astudiaethau Ôl-Raddedig Mewn Gwaith Ieuenctid A Chymunedol

Oes diddordeb gennych chi ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth am bobl ifanc, cymunedau a’u teuluoedd?   

Oes gennych chi’r profiad ond nid y cymwysterau angenrheidiol ar gyfer gwaith proffesiynol? 

A fyddai diddordeb gennych ennill cymhwyster ag ardystiad proffesiynol a gradd Meistr trwy astudio Gwaith Ieuenctid a Cymunedol?  

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn recriwtio i’w gyrsiau Meistr mewn gwaith Ieuenctid a Chymunedol a fydd yn dechrau ym mis Medi 2026, ac os oes diddordeb gennych chi astudio am radd Meistr ond nad oes gradd gennych, gallai ein llwybr mynediad eithriadol weithio i chi.

Ymunwch â fi, Julia Rooney ar gyfer un o fy sgyrsiau ar lein lle byddaf i’n trafod cyrsiau astudio ôl-radd am waith ieuenctid a chymunedol.  

Sgyrsiau ar Lein am y Cyrsiau

 12 Awst, 4–5pm - cliciwch yma i ymuno

Erbyn diwedd y sgwrs, bydd gennych fwy o wybodaeth am sut mae’r rhaglenni’n cael eu strwythuro, ein llwybr carlam i gymhwyso, ein llwybr mynediad eithriadol, y cymhwyster datblygu Arweinyddiaeth trwy Ymchwil ILM unigryw sy’n rhan o’r cyrsiau, disgowntiau sydd ar gael i gyn-fyrfyrwyr a’r manylion pwysig am sut i wneud cais.

Hwyluso recriwtio i waith ieuenctid ar draws Cymru

xx

Platfform cenedlaethol sy’n hwyluso recriwtio a datblygu i yrfaoedd ar draws y gweithlu addysg yng Nghymru, gan gynnwys gwaith ieuenctid, yw Addysgwyr Cymru. Gall sefydliadau gwaith ieuenctid hysbysebu swyddi am ddim, sy’n eu cynorthwyo i gyrraedd cronfa amrywiol o ymgeiswyr.

Mae’r platfform yn darparu gwybodaeth, arweiniad ac eiriolaeth ar lwybrau gyrfaol, cymwysterau a rolau ar draws y sector. Os ydych chi am drafod sut y gall Addysgwyr Cymru helpu eich sefydliad chi, gwahoddwch y tîm i gyfarfod.

Rhannu straeon am waith ieuenctid o bob rhan o Gymru

Llongyfarchiadau i weithwyr ieuenctid, pobl ifanc, gwirfoddolwyr, sefydliadau a phartneriaid o bob rhan o Gymru am y dathliadau, y straeon a’r gweithgareddau a rannwyd yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid a thrwy gydol y flwyddyn.

Mae tîm Marchnata a Chyfathrebu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn casglu straeon go iawn sy’n dangos y gwahaniaeth cadarnhaol y mae gwaith ieuenctid yn ei wneud i bobl ifanc a chymunedau ar draws Cymru.

Gallai eich cyfraniad chi gynnwys stori fer, dyfyniad, ffotograff, fideo neu esiampl o arfer da.

Byddem wrth ein bodd i glywed gennych chi. I rannu eich stori neu ofyn am ragor o wybodaeth, cysylltwch â GICYWW@youthcymru.org.uk

Gwahoddir y sector i ymuno â grŵp WhatsApp Gwaith Ieuenctid yng Nghymru i dderbyn diweddariadau a chyfleoedd hefyd.

xx

Grantiau bach i atal hunanladdiad a hunan-niweidio 2026/27

Ynghlwm mae gwybodaeth am grantiau bach (hyd at £4,000) sydd ar gael i gynorthwyo gweithgarwch lleol sy’n ymwneud â rheoli ac atal hunan-niweidio a hunanladdiad

Gwahoddir ceisiadau gan grwpiau ac asiantaethau sy’n gallu defnyddio’r cyllid o fewn y flwyddyn ariannol hon (erbyn 31 Mawrth 2027).

Ewch i Hyb y Rhaglen Hunanladdiad a Hunan-niweidio (SSHP) am fanylion ac i lenwi’r ffurflen gais.

Rhaid i ffurflenni cais ddod i law erbyn dydd Gwener, 14 Awst. 

Mae’r Hyb SSHP yn cynnwys manylion cyswllt Arweinwyr Rhanbarthol sy’n gallu cynghori unrhyw un sy’n ansicr am eu cymhwyster neu a fyddai’n hoffi trafod addasrwydd y prosiect hefyd.   

Prentisiaid Llywodraeth Cymru

Ydych chi'n adnabod rhywun a hoffai weithio i sefydliad sy'n ymroddedig i wella bywydau pobl yng Nghymru?

Bydd Llywodraeth Cymru yn recriwtio 30 o brentisiaid ledled Cymru cyn bo hir.

Helpwch ni i ledaenu'r gair trwy rannu'r cyfle hwn trwy eich rhwydweithiau ac annog unrhyw un sydd â diddordeb i gofrestru i dderbyn hysbysiad pan fydd yr hysbyseb yn mynd yn fyw. Gyrfaoedd cynnar Llywodraeth Cymru | LLYW. CYMRAEG

Gwneud Gwahaniaeth gyda Ni

xx

Stori Tom Channon

Mae Coleg Catholig Dewi Sant yng Nghaerdydd, mewn partneriaeth â rhieni'r cyn-fyfyriwr Tom Channon, wedi cynhyrchu adnoddau dwyieithog ar gyfer dysgwyr 16 i 18 oed. Bu Tom farw'n drasig yn 2018 yn ystod gwyliau ar ôl gorffen ei astudiaethau Safon Uwch.

Nod yr adnoddau yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ymhlith pobl ifanc sy'n mynd ar wyliau heb eu teulu am y tro cyntaf.

Mae hon yn fenter ddiogelwch y bwriedir iddi gael ei chyflwyno fel rhan o'r ddarpariaeth fugeiliol mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru. Ei nod yw cynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o risgiau posibl a'u helpu i ddeall yn well sut i gadw'n ddiogel ac osgoi sefyllfaoedd peryglus.

Pa ffordd nawr?

xx

Mae gwasanaeth ieuenctid Caerffili, ar y cyd â Gyrfa Cymru, wedi trefnu rhaglen o gymorthfeydd galw heibio a digwyddiad ‘Pa Ffordd nawr? i bobl ifanc 16-19 oed. Bydd cymorthfeydd galw heibio yn digwydd ar 5, 12, 19 a 26 Awst, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Bydd y digwyddiad ‘Pa Ffordd Nawr?’ yn dod â chyflogwyr, colegau, darparwyr hyfforddiant ac amrywiaeth o asiantaethau cymorth at ei gilydd. Os ydych chi'n cynorthwyo pobl ifanc yn y grŵp oedran hwn sydd angen gwybodaeth neu arweiniad, anogwch nhw i fynd i’r digwyddiad, lle byddan nhw’n cael croeso cynnes a chefnogol.

Cyfrannu at y Bwletin  

Mae Youth Cymru yn cydweithio â phartneriaid ar draws y sector i ddod o hyd i gynnwys sy’n gynrychioliadol ac yn eang. Anogir sefydliadau i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf berthnasol, cyfleoedd a straeon newyddion da sy'n cefnogi blaenoriaethau gwaith ieuenctid cenedlaethol.   

Bydd rhagor o fanylion am amserlenni a gofynion cyflwyno yn cael eu rhannu cyn pob rhifyn.   

Os hoffech gyfrannu at fwletin yn y dyfodol, cofiwch anfon e-bost atom. Cewch ganllaw arddull a gwybodaeth am y nifer geiriau ar gyfer pob adran.   

Dylid anfon y cynnwys at GICYWW@youthcymru.org.uk.   

Gallwch ddilyn y manylion diweddaraf ar Facebook: https://www.facebook.com/GIC.YWW   

Dyddiad cau ar gyfer y bwletin nesaf: A fyddech cystal â chyflwyno cynnwys erbyn 26 Awst 2026.  

banner

Cysylltwch â ni

Cysylltwch drwy e-bost (gwaithieuenctid@llyw.cymru) os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf. Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni, gyda gwybodaeth am nifer geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.

Cofiwch ddefnyddio #GwaithIeuenctidCymru #YouthWorkinWales wrth drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Dilynwch @ieuenctidcymru ar X a Facebook i gadw i fyny gyda'r holl newyddion.

Ydych chi wedi Tanysgrifio i'r Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn sydyn yma

 
 
 

AMDANOM NI

Cyhoeddir y cylchlythyr bob 4 mis i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i'r sector gwaith ieuenctid.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu

 

Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@IeuenctidCymru