Mae Cymru ar fin trawsnewid y ffordd y mae'n meddwl am fwyd, gyda chyhoeddi Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru a phenodi Cadeirydd a grŵp arbenigol arfaethedig i lywio'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth.
Gwnaeth y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd y cyhoeddiad heddiw – 21 Gorffennaf – yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, gan nodi cynlluniau ar gyfer dull trawsnewidiol system gyfan o gysylltu polisïau bwyd, sy'n cwmpasu cynhyrchu, prosesu, manwerthu yn ogystal â sut mae'r bwyd rydyn ni'n ei gynhyrchu yn berthnasol i faterion iechyd, addysg, caffael cyhoeddus a'r economi gylchol.
Parhau i ddarllen...
Yn ôl i'r cynnwys
 Mae Clwstwr Defaid Llaeth newydd wedi'i lansio yn Sioe Frenhinol Cymru, gan ddod â ffermwyr, proseswyr, manwerthwyr, y byd academaidd a rhanddeiliaid y diwydiant ynghyd i gefnogi datblygiad sector llaeth defaid Cymru.
Mae'r lansiad yn nodi cam nesaf y gwaith o sefydlu diwydiant cynaliadwy a hyfyw yn fasnachol yng Nghymru, gan adeiladu ar ymchwil y farchnad a datblygu'r gadwyn gyflenwi a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Nododd y gwaith hwn gyfleoedd sylweddol ar gyfer twf, wedi'u cefnogi gan alw byd-eang cynyddol am gynhyrchion llaeth defaid.
Sefydlwyd Clwstwr Defaid Llaeth Cymru Bwyd a Diod Cymru i annog cydweithio ar draws y gadwyn gyflenwi, hwyluso cyfnewid gwybodaeth, cryfhau hyder y farchnad a darparu dull cydlynol o ddatblygu'r sector. Bydd ei weithgareddau'n cynnwys ymgysylltu â chynhyrchwyr, datblygu llwybrau masnachol a helpu i greu'r amodau sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygu'r sector yn y tymor hir.
Parhau i ddarllen...
Yn ôl i'r cynnwys
 Mae arloesedd, buddsoddiad, cymorth busnes a chyfleoedd mewn marchnadoedd newydd yn cael lle canolog yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon, wrth i ddiwydiant bwyd a diod Cymru ddod ynghyd ar gyfer un o wythnosau prysuraf o'r flwyddyn.
Wedi'i ganoli o amgylch y Neuadd Fwyd, y Lolfa Fusnes a'r Pafiliwn Rhyngwladol, mae Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn arddangos ansawdd, amrywiaeth ac uchelgais y sector, gan roi mynediad i fusnesau at gymorth arbenigol, cyfleoedd i rwydweithio ac arbenigedd a gynlluniwyd i'w helpu i dyfu.
Parhau i ddarllen...
Yn ôl i'r cynnwys
 Daeth rhanddeiliaid y sector bwyd a diod ynghyd yn Sioe Frenhinol Cymru i dynnu sylw at y risgiau hinsawdd a'r gadwyn gyflenwi sy'n effeithio ar y diwydiant.
Wedi'i gynhyrchu fel rhan o Wasanaeth Gwydnwch Hinsawdd Bwyd a Diod Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae adroddiad newydd yn archwilio sut y mae'r hinsawdd, gwrthdaro geopoliticaidd, marchnadoedd nwyddau, tarfu ar logisteg a phwysau economaidd wedi cyfuno yn ystod hanner cyntaf 2026 i greu heriau sylweddol i'r gadwyn gyflenwi bwyd.
Mae Adroddiad Monitro Chwarterol ar Risgiau Hinsawdd a Chadwyn Gyflenwi i’r Diwydiant Bwyd a Diod yn dangos bod gweithgynhyrchwyr Cymru yn wynebu mwyfwy o risgiau sy'n deillio o ddigwyddiadau sy'n digwydd ymhell y tu hwnt i ffiniau'r DU, gan gynnwys tywydd eithafol, prisiau nwyddau sy'n codi, cyfyngiadau ar allforion ac aflonyddwch i drafnidiaeth. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ddibyniaeth y DU ar fewnforion bwyd a mewnbynnau amaethyddol o ranbarthau sy'n dod yn fwyfwy agored i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.
Yn ogystal â dadansoddi datblygiadau byd-eang, mae'r adroddiad yn cynnig canllawiau ymarferol i weithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru, gan annog busnesau i adolygu cynlluniau wrth gefn, cryfhau perthnasoedd â chyflenwyr ac ymgorffori risgiau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn eu penderfyniadau strategol.
Wrth siarad yn nigwyddiad Paratoi ar gyfer Pwysau Hinsawdd a Byd-eang: Adeiladu Cadwyni Cyflenwi a Strategaethau Caffael Gwydn yn Sioe Frenhinol Cymru lle cyflwynwyd rhifyn cyntaf yr adroddiad, rhannodd Abi Reader, Llywydd NFU Cymru, ei safbwynt fel ffermwr llaeth ac fel cynrychiolydd y sector ffermio. Dywedodd:
"Mae fy fferm wedi profi cyfnodau o sychder mewn saith o'r wyth mlynedd diwethaf. Mae'r gwres eithafol yn rhoi pwysau ar dda byw ac ar ffermwyr fel ei gilydd, ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni addasu iddo. Mae ffermwyr yn arloesol ac yn dod o hyd i ffyrdd o addasu, o dechnoleg i atebion sy'n seiliedig ar natur. Er enghraifft, rwyf wedi bod yn falch iawn o weithio gyda Coed Cymru ac y South Wales Rivers Trust i blannu mwy o goed er mwyn darparu cysgod i'n buchod. Drwy gydweithio â rhanddeiliaid, mae ein diwydiant yn addasu ac yn chwarae ei ran i sicrhau bod Cymru yn parhau i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel."
Bydd Adroddiad Monitro Chwarterol ar Risgiau Hinsawdd a Chadwyn Gyflenwi i’r Diwydiant Bwyd a Diod yn cael ei gyhoeddi bob chwarter, gan ddarparu gwybodaeth amserol i gefnogi penderfyniadau ynghylch caffael, rhagweld a gwydnwch busnes.
Mae Castell Howell wedi gweld gwerth y gefnogaeth hon yn uniongyrchol, ac amlygodd Edward Morgan, Rheolwr CSR y Grŵp, sut mae gweithio gyda'r gwasanaeth wedi helpu i lywio strategaeth gadwyn gyflenwi'r cwmni yn y dyfodol. Dywedodd:
"Fe wnaethom elwa ar ymchwil fanwl, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn edrych ar rannau allweddol o'n cadwyn gyflenwi, yma yn y DU a thramor. Rydym yn gweld pwysau cynyddol mewn gwledydd sy'n fwy agored i effeithiau'r hinsawdd, fel Sbaen a Moroco, yn ogystal â rhai o'n cyflenwyr yn y DU sydd wedi wynebu anawsterau yn ystod y tonnau gwres diweddar neu sy'n agored i risgiau hinsawdd eraill. Byddwn yn annog unrhyw weithgynhyrchwr bwyd neu ddiod i ymgysylltu â'r Gwasanaeth Gwydnwch Hinsawdd, sy'n cynnig gweithdai pwrpasol i dimau arwain er mwyn helpu busnesau i lywio'r risgiau a'r cyfleoedd y mae'r newid yn yr hinsawdd eisoes yn eu cyflwyno. Mae'n hanfodol ein bod ni'n gyflenwr gwydn i'n cwsmeriaid ac, yn ei dro, bod ein cyflenwyr hwythau'n gallu bod yn wydn yn wyneb y newid yn yr hinsawdd."
I ddysgu mwy am sut y gall y Gwasanaeth Gwydnwch Hinsawdd gefnogi eich busnes bwyd neu ddiod cysylltwch â bwyd-food@bic-innovation.com
Yn ôl i'r cynnwys
Mae Asda yn cydweithio â Bwyd a Diod Cymru i lansio Rhaglen Datblygu Cyflenwyr er mwyn helpu cwmnïau ledled Cymru i ddatblygu eu sgiliau a thyfu eu busnesau.
Cyhoeddwyd y fenter hon yr wythnos hon yn Sioe Frenhinol Cymru, a bydd yn cynnwys mwy na 30 o gyflenwyr lleol o bob rhan o Gymru, gan rannu gwybodaeth ac arbenigedd ar ystod eang o bynciau, o gydymffurfiaeth a marchnata i ddatblygu cynnyrch, logisteg a rheoli cyfrifon.
Parhau i ddarllen...
Yn ôl i'r cynnwys
 Cymorth arbenigol am ddim i helpu'ch busnes i ffynnu.
Mae Gwasanaeth Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru yn rhoi llwybr clir, cydgysylltiedig i weithgynhyrchwyr bwyd a diod leihau costau, gwella perfformiad amgylcheddol a chryfhau gwytnwch - i gyd drwy gymorth ymarferol wedi'i ariannu'n llawn.
Beth mae'r gwasanaeth yn ei gynnig
-
Cynllunio argraffu troed carbon a lleihau - cymorth arbenigol wedi'i ariannu'n llawn i fesur allyriadau, nodi arbedion a datblygu Cynllun Lleihau Carbon cadarn wedi'i alinio â safonau cydnabyddedig.
-
Aelodaeth Clwstwr Cynaliadwyedd - cael mynediad at gyngor arbenigol, rhwydweithiau cymheiriaid a chefnogaeth wedi'i dargedu, gan gynnwys canllawiau i symud ymlaen tuag at ardystiad B Corp.
-
Hyfforddiant, offer a mewnwelediad - gweminarau, adnoddau ymarferol a deallusrwydd sector. **Yn dod yn fuan – bydd ein pynciau newydd yn cwmpasu rheoli ac adrodd carbon, gwastraff bwyd, pecynnu, twf cynaliadwy i'ch busnes a chanllaw cam wrth gam i B-Corp.
Pam mae'n bwysig?
Mae hwn yn gymorth sy'n canolbwyntio ar gyflawni sydd wedi'i gynllunio i helpu'ch busnesau:
- Torri costau ynni a gweithredu
- Gwella gwytnwch a diogelwch ynni
- Cwrdd â disgwyliadau cwsmeriaid, manwerthwyr a chaffael
- Paratoi ar gyfer gofynion adrodd cynaliadwyedd cynyddol
Sut i gael mynediad at gymorth
Mae'r holl gymorth yn cael ei ariannu'n llawn ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd a diod cymwys yng Nghymru, gan ei gwneud hi'n haws gweithredu a gwireddu buddion yn gyflym.
I gael gwybod mwy neu drafod eich anghenion busnes, cysylltwch â SustainableFD@llyw.cymru
Yn ôl i'r cynnwys
 Mae Hybu Cig Cymru wedi lansio ei gynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer y diwydiant, Diwydiant Cig Coch: Cyflawni Gwerth i Gymru, wrth baratoi ar gyfer ei gylch cyflawni nesaf dros bedair blynedd (Ebrill 2026 – 2030).
Mae'r cynllun gweithredu yn canolbwyntio ar dri blaenoriaeth: cynyddu cyfaint a gwerth gwerthiannau cig coch Cymreig â brand, hyrwyddo mentrau sy'n gwella cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol, a darparu llais cryf dros y diwydiant sy'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn.
Gan adeiladu ar y momentwm hwn, mae ymgyrch farchnata integredig newydd gwerth £300,000 wedi'i lansio i annog defnyddwyr yng Nghymru i "Chwilio am y Logo" wrth brynu cig oen a chig eidion.
Mae cronfa ysgoloriaethau bellach ar agor i ymgeiswyr sydd â diddordeb o bob rhan o'r diwydiant hyd at 31 Awst. Gofynnir i ymgeiswyr ar gyfer Ysgoloriaeth HCC 2026 ddangos sut mae eu rhaglen astudio arfaethedig yn cyd-fynd ag o leiaf un o'r blaenoriaethau hyn ac yn cyfrannu at lwyddiant y diwydiant cig coch Cymreig yn y dyfodol.
Yn ôl i'r cynnwys
 |
|
Dal Amonia o Ffynonellau Amaethyddol
a’i Ailddefnyddio fel Gwrtaith Naturiol a Chynaliadwy
|
Mae'r dechnoleg arloesol yn dal amonia o ffynonellau amaethyddol, gan leihau'r diraddio a achosir i ecosystemau amgylcheddol a chynefinoedd naturiol a diogelu iechyd y cyhoedd.
Trwy addasu ffrydiau gwastraff i fod yn wrtaith naturiol, cynaliadwy, mae Iona Minerals wedi creu system 'dolen gaeedig' sy'n trawsnewid gwastraff amaethyddol yn adnodd gwerth uchel. Mae'r strategaeth hon yn lleihau'r ddibyniaeth ar brosesau cynhyrchu gwrteithiau synthetig sy’n defnyddio llawer iawn o ynni, gan gynnig cymorth uniongyrchol i ffermwyr a meithrin sector amaethyddol a chadwyn gyflenwi bwyd wyrddach o'r 'fferm i'r fforc’.
Mae'r ddolen faetholion gaeedig hon ar y fferm yn lliniaru'r angen am wrtaith synthetig ac yn lliniaru allyriadau a gollir yn uniongyrchol i'r atmosffer a'r amgylchedd, rhywbeth y profwyd ei fod yn niweidiol i'r hinsawdd, iechyd pobl ac anifeiliaid ac ansawdd dŵr.
Mae prosiect Her Contractau ar gyfer Arloesi Cymru wedi nodi ffyrdd o optimeiddio'r broses o ddal amonia yn y ffynhonnell, a chynhyrchu gwrtaith nitrogenaidd naturiol a chynaliadwy i'w ddefnyddio ar dir ac ym maes garddwriaeth, gan arwain at sicrhau mwy o gnydau a manteision pwysig eraill. Trwy ddal ffrydiau gwastraff a lleihau'r angen am fewnbynnau synthetig, mae'r dechnoleg hon yn meithrin sector amaethyddol mwy gwydn sy’n cynhyrchu llai o garbon.
Cipolwg ar Fanteision y Prosiect:
🌬️ Ansawdd Aer
Mae’n lleihau amonia yn y ffynhonnell → anifeiliaid a gweithwyr amaethyddol iachach
Mae’n lliniaru allyriadau uniongyrchol i'r atmosffer → aer glanach
⚙️ Effeithlonrwydd
Mae’n ateb effeithiol, cost isel → llai o ddibyniaeth ar wrteithiau synthetig
Mae’n dechnoleg arloesol y gellir ei gynnig ar raddfa ehangach → potensial masnachol
♻️ Cynaliadwyedd
Mae’n troi ffrydiau gwastraff amaethyddol yn wrtaith naturiol → ateb cylchol go iawn
Mae’n leihau llygredd → yn diogelu'r amgylchedd, aer a dŵr
🌱 Cynhyrchiant Ffermydd
Twf glaswellt → profwyd y gall hynny gynyddu cyfanswm cnwd
Rhyddhau maetholion yn araf → mae’n perfformio’n hirach na gwrteithiau synthetig
Ateb cylchol arloesol sy'n darparu aer glanach, gwella cyfanswm cnydau, llai o ddibyniaeth ar wrteithiau synthetig – â manteisio yn ymwneud â gallu cynnig y dechnoleg ar raddfa eang a sicrhau cynaliadwyedd
I fynegi diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Selwyn Owen yn IonaMinerals@outlook.com neu ContractsforInnovationCymru@wales.nhs.uk
LanoTech Cyf.:
Treial Brwyliaid Cyntaf y Byd yn Cadarnhau Lanolin Cymreig fel Cynhwysyn Porthiant
|
|
 |
Mae cwmni Technoleg-Amaeth (Agri-Tech) o Gymru, LanoTech, wedi cwblhau’r treial brwyliaid byw cyntaf yn y byd gan ddefnyddio lanolin o wlân defaid yn lle olew soia mewn bwyd i ddofednod. Daeth y treial i ben ym mis Ionawr 2026 yng Ngholeg Prifysgol Gwledig yr Alban (SRUC), mewn cydweithrediad â ArloesiAber ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n nodi penllanw gwaith Cyfnod 2 LanoTech o dan Gontractau ar gyfer Arloesi Cymru, a gafodd ei gefnogi drwy gydol y broses gan Gontractau ar gyfer Arloesi Cymru a Llywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd y lanolin (gwlân olew) yn unig yn y cam gorffen, sef yr ychydig wythnosau olaf pan fydd ieir brwyliaid yn magu eu pwysau masnachol. Wrth i’r ieir addasu i’r bwyd newydd bu gostyngiad yn y cynnydd pwysau i ddechrau, ond gwellodd hynny ac roedd pwysau cig y fron yr ieir a fwydwyd â lanolin yr un fath â’r ieir a oedd yn bwyta soia confensiynol. Mewn sector lle mae cynnyrch cig y fron yn gyrru’r gwerth masnachol, dyna’r canlyniad sy’n agor y drws.
“Dywedodd ein prosiect Cyfnod 1 wrthym fod y wyddoniaeth yn gadarn mewn amgylchedd labordy. Mewn egwyddor, gallai lanolin fod yn gynhwysyn bwyd ymarferol. Mae Cyfnod 2 wedi dangos i ni fod y cynnyrch yn gweithio mewn ieir go iawn a bod cynnyrch cig y fron yn dal ei thir. Mae’r canlyniadau hyn yn rhoi hyder i ni symud tuag at ddatblygiad masnachol,” meddai Clodagh Weingart, sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr LanoTech.
Mae’r canfyddiadau hynny wedi datgloi’r cam nesaf o waith sydd wedi’i ariannu. Yn seiliedig yn uniongyrchol ar ddata Cam 2, mae LanoTech wedi sicrhau cyllid Launchpad Technoleg-Amaeth Canolbarth a Gogledd Cymru gan Innovate UK i raddio ei broses fireinio lanolin gradd-ffrwd borthiant o’r fainc i’r cynllun peilot. Mae’r ail dreial yng Ngholeg Wledig Prifysgol yr Alban (SRUC) wedi’i drefnu ar gyfer Awst 2026, y tro hwn yn cyflwyno lanolin o’r cyfnod cychwynnol er mwyn asesu sut mae’r ieir yn ymateb pan fyddant yn cael eu haddasu’n gynharach. Ar ôl hynny, byddwn yn mynd i’r afael â’r treialon cyntaf ar ffermydd ledled Cymru ddiwedd 2026 neu ddechrau 2027 gyda chefnogaeth Mentera Farming Connect. Prifysgol Bangor sy’n arwain yr asesiad cylch bywyd manwl i fesur manteision carbon lanolin Cymreig o’i gymharu â soia a phalmwydd wedi’u mewnforio. Ar yr un pryd, mae gwobr SPARK gan Innovate UK yn ariannu treial dyframaethu ym Mhrifysgol Abertawe, gan ymestyn y defnydd o borthiant dofednod i borthiant pysgod, lle mae’r galw masnachol hyd yn oed yn uwch. Mae pysgod yn naturiol gigysol, fel eog fferm, mae ei ddeiet bellach yn fwy llysieuol sy’n dibynnu ar symiau mawr o olew porthiant wedi’i fewnforio â gwerth calorïaidd uchel. Mae LanoTech yn credu bod nodweddion unigryw lanolin yn ei gwneud yn gynhwysyn amgen deniadol.
“Mae Cytundebau ar gyfer Arloesi Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cefnogi LanoTech o’r prawf labordy cyntaf hyd at ddata ar anifeiliaid byw. Heb y parhad cynnar hwnnw, ni fyddai’r Launchpad na’r wobr SPARK wedi bod o fewn cyrraedd.”
Mae Cyfnod 2 wedi gwneud yr hyn a fwriadwyd: troi cynhwysyn addawol o labordy yn gynnyrch bwyd profedig gyda dyfodol masnachol credadwy, gan symud gwlân Cymreig o fod yn sgil-gynnyrch nad oedd yn cael ei werthfawrogi i galon economi gylchol sy’n tyfu gartref.
I fynegi diddordeb neu i ddysgu rhagor, cysylltwch â Clodagh.Weingart@lanotech.org neu ContractsforInnovationCymru@wales.nhs.uk
 |
|
Troi Gwastraff yn Lliw:
Bioarlosedd Cylchol Madarch Cymru
|
Mae YR ARDD FADARCH ERYRI CYF sy'n masnachu fel Madarch Cymru, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a ariennir trwy Gontractau Cyfnod 2 Technoleg Bwyd-Amaeth (AgriFood Tech) ar gyfer Her Arloesi Cymru, wedi llwyddo i ddatblygu a dilysu proses arloesol sy'n trawsnewid sgil-gynhyrchion o ffermio madarch yn bigmentau naturiol, ensymau a chynhyrchion bioactif.
Mae’r prosiect GWASTRAFF YN LLIW yn dangos sut y gellir troi swbstrad madarch wedi ei ddefnyddio (SMS) — sgil-gynnyrch sy’n aml yn cael ei waredu ar ôl tyfu — yn ddeunydd crai gwerthfawr ar gyfer cynhyrchu lliwiau cynaliadwy, carbon isel. Gan ddefnyddio system eplesu cyflwr solet syml ar hambyrddau, mae’r tîm wedi llwyddo i dyfu ffwng sy’n cynhyrchu pigmentau fel Pycnoporus sanguineus i gynhyrchu lliwiau naturiol llachar oren-goch, gan gynnwys asidau cinnabarin a chinnabaric. Mae gan y pigmentau hyn botensial ar gyfer colur, tecstilau a fformiwlâu cynnyrch naturiol.
Mae Cam 2 y prosiect bellach wedi’i gwblhau, gan lwyddo i raddio’r cynhyrchiad o lefel labordy i lefel peilot. Mae SMS wedi cael ei drawsnewid yn gynhyrchion pigment ac ensym o werth uchel, gan gadarnhau bod y broses yn ymarferol yn dechnegol ac yn gynaliadwy’n amgylcheddol. Ymhlith y prif arloesiadau mae dull cynhyrchu ynni isel, toddydd isel a dull cynaeafu arwyneb sy’n lleihau’r gofynion echdynnu yn sylweddol, gan gefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru tuag at economi gylchol a Sero Net.
Yn ogystal, mae’r prosiect wedi dangos potensial masnachol cryf, gyda chysylltiadau cynnar â’r diwydiant a datblygiad model y gellir ei raddio sy’n cyfuno eplesu datganoledig ac echdynnu canolog. Yn ogystal â’r pigmentau, mae ensymau a chynhyrchion cyd-gynhyrchu bioactif yn cynnig ffrydiau gwerth ychwanegol, gan wella hyfywedd economaidd a chefnogi twf yn y dyfodol.
Mae’r camau nesaf yn canolbwyntio ar ehangu amrywiaeth y lliwiau — yn arbennig pigmentau gwyrdd a glas — a symud ymlaen tuag at ddefnydd masnachol trwy safleoedd cynhyrchu “micro-ganolbwynt” datganoledig ger ffermydd madarch.
Mae’r model hwn yn anelu at gefnogi cyflogaeth leol, arloesi gwledig, a datblygu diwydiant bio-ddeunyddiau newydd yng Nghymru lle mae cynaliadwyedd a chreadigrwydd yn tyfu law yn llaw.
Mae’r prosiect arloesol hwn yn dod â phartneriaid o’r sectorau preifat, academaidd ac amaethyddol yng Nghymru ynghyd, gan weithio tuag at gyflawni Dulliau Gweithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
I fynegi diddordeb neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Cynan@yrarddfadarch.cymru, ffoniwch: 07855 441126 mari@tetrimteas.cymru neu e-bostiwch ContractsforInnovationCymru@wales.nhs.uk
Mechapres: Troi Gwres Gwastraff yn
Stêm Defnyddiol i Gynhyrchu Bwyd
|
|
 |
Mae cyfran fawr o alw am wres o ran cynhyrchu bwyd a diod yn perthyn i'r amrediad 100°C i 200°C - at ddibenion coginio, sychu, sterileiddio, anweddu. Caiff bron yr holl alw am wres ei ddiwallu trwy losgi tanwyddau ffosil ac nid yw'r dechnoleg i fynd i'r afael â hyn wedi bod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o gynyrchwyr bwyd - mae'r datrysiadau presennol wedi cael eu creu ar gyfer diwydiannau mwy o lawer ac nid ydynt yn trosi'n dda ar gyfer graddfa ac economeg prosesu bwyd.
Cafodd Mechapres ei sefydlu i fynd i'r afael â'r bwlch hwnnw. Mae Mechapres yn datblygu pympiau gwres cywasgedig o dymheredd uchel sy'n adfer gwastraff gwers o brosesau diwydiannol ac i'w uwchraddio'n stêm defnyddiol. Yr hyn sy'n ei wneud yn arbennig yw'r cyfuniad o bwmp gwres diwydiannol ar raddfa fach sy'n gallu cynhyrchu stêm, wedi'i integreiddio â storfa thermol - sy'n heriol ar lefel dechnegol i'w gyflawni gyda'i gilydd, ac yn absennol ar raddfa helaeth o'r farchnad ar y lefel hon
Rhoddodd Her Technoleg Bwyd-Amaeth Contractau ar gyfer Arloesi Cymru gyfle i Mechapres greu a phrofi prototeip gweithredol mewn amodau diwydiannol go iawn. Gan weithio ochr yn ochr â'r tîm yn labordai diwydiannol ArloesiAber yn Aberystwyth, gwnaeth Mechapres ddylunio a chomisiynu rig profi â chyfarpar llawn, gwnaethant gynnal profion dilysu diogelwch, a gwnaethant lwyddo i gywasgu stêm yn weithredol o dan amodau rheoledig. Cafodd modiwl storio thermol ei brofi hefyd, gan gadarnhau ei fod yn perfformio'n debyg i ragfynegiadau damcaniaethol. Gwnaeth y ddwy ffrwd waith gynhyrchu data clir ym maes peirianneg sy'n sail i'r cam nesaf o'r broses ddatblygu.
 |
|
"Roedd rhaglen Contractau ar gyfer Arloesi Cymru yn hynod ddefnyddiol - gan ein galluogi i fanteisio ar seilwaith ardderchog - Canolfan Bio-Burfa ArloesiAber - a fyddai wedi bod yn anodd ei gyflawni ar ein lefel ni. |
Yn ogystal, diolch i gefnogaeth Bwrdd Technoleg Bwyd-Amaeth a'n partneriaid prosiect, gwnaeth y prosiect hefyd ein cysylltu â defnyddwyr posibl yng Nghymru."
Mae gwres diwydiannol yn cyfrif am gyfran sylweddol o ddefnydd ynni ym maes cynhyrchu bwyd. Gallai technoleg Mechapres helpu proseswyr bwyd i leihau defnydd o nodwyddau ffosil trwy adfer ac ailddefnyddio gwres gwastraff.
I ddatgan diddordeb neu i ddysgu mwy, cysylltwch â fabio@mechapres.co.uk , tasiosvas@mechapres.co.uk neu ContractsforInnovationCymru@wales.nhs.uk
Yn ôl i'r cynnwys
|