Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2025
Gorffennaf 2026 • Rhifyn arbennig 001
Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2025
Bydd Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2025 ar gyfer ysgolion meithrin a chynradd a gynhelir yn dod i rym ar 31 Hydref 2026. Mae'r Rheoliadau diwygiedig yn adlewyrchu'r cyngor deietegol gwyddonol diweddaraf, gan gryfhau'r gofynion ar gyfer darparu dewisiadau iachach a chyfyngu ar fwydydd sy'n uchel mewn braster, siwgr a halen. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn cael bwyd maethlon sy'n cefnogi eu hiechyd, eu lles a'u cyrhaeddiad addysgol. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y Canllawiau Statudol: Bwyta’n iach mewn ysgolion a gynhelir.
Mae'r gadwyn gyflenwi yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ysgolion ac arlwywyr i ddarparu bwyd iachach a mwy cynaliadwy sy'n bodloni'r gofynion maeth, drwy fwydlenni sydd wedi'u dadansoddi'n faethol. Rhaid i ginio ysgol arferol ddarparu 30% o'r egni dyddiol sydd ei angen ar blant oedran ysgol gynradd, o fewn terfan goddefiant o 15% ar gyfer pob diwrnod unigol a 5% ar draws cylch bwydlen cyfan (rhwng un a phedair wythnos). Er bod y Rheoliadau'n pennu ystod eang o ofynion o ran microfaethynnau ar gyfer babanod a phlant ifanc, hoffem dynnu eich sylw'n benodol at y lefelau diwygiedig ar gyfer siwgrau rhydd a sodiwm:
Siwgrau rhydd - Babanod = 5.7g. Plant ifanc = 7g
Sodiwm - Babanod = 360mg. Plant ifanc = 499mg
Mae'r safonau diwygiedig ar gyfer maetholion yn rhoi mwy o bwyslais ar leihau faint o sodiwm (halen) a siwgrau rhydd sydd mewn prydau sy'n addas i'r oedran. Gall cyflenwyr gefnogi ysgolion ac arlwywyr drwy wneud y canlynol:
Cynnwys cymuned yr ysgol yn gynnar yn y gwaith o ddatblygu bwydlenni a chefnogi digwyddiadau blasu cynnyrch
Datblygu neu ailfformiwleiddio cynhyrchion i gynnwys llai o siwgrau rhydd a sodiwm
Darparu gwybodaeth glir am fanylion cynnyrch, lle bo hynny'n bosibl
Sicrhau bod cynhyrchion ar gael sy'n addas ar gyfer maint dognau babanod a phlant ifanc ac sy'n bodloni'r gofynion maethol perthnasol.
Neu, os oes angen rhagor o gymorth ar eich busnes i ailfformiwleiddio cynhyrchion er mwyn bodloni gofynion y rheoliadau newydd, cysylltwch â'r Is-adran Fwyd: FoodDivisionalBusiness@gov.uk
YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN
Cylchlythyr ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru gyda newyddion, digwyddiadau a materion yn ymwneud â'r diwydiant yng Nghymru.