Cylchlythyr Diogelwch Adeiladau

Mehefin 2026

 
 

Croeso i'n newyddlen Diogelwch Adeiladau - a gynlluniwyd i'ch hysbysu yn rheolaidd am gynnydd y Rhaglen Diogelwch Adeiladau a materion diogelwch tân sy'n effeithio ar bobl Cymru.

Gweinidog Cabinet newydd ar gyfer Diogelwch Adeiladau

Yn dilyn etholiad y Senedd fis diwethaf, mae Siân Gwenllian AS wedi cael ei phenodi'n Weinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Wrth nodi ei blaenoriaethau i'r Senedd, cadarnhaodd y Gweinidog Cabinet ei bod wedi ymrwymo i gynnal y cyflymder a'r uchelgais a welodd y Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn pasio drwy'r chweched Senedd gyda chefnogaeth unfrydol. Wrth iddi nodi naw mlynedd ers trasiedi Tŵr Grenfell, dywedodd y Gweinidog Cabinet ei bod wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i fanteisio ar y cyfleoedd trawsnewidiol a ddarperir gan y ddeddfwriaeth.

Holwyd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth am y Rhaglen Cyweirio Diogelwch Adeiladau yn ystod ei ail sesiwn o Gwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd. Dywedodd wrth Aelodau Seneddol bod "gormod o lusgo traed" wedi bod, a bod ei Lywodraeth yn gweithio'n gyflym i gyflwyno rheoliadau fel rhan o'r Ddeddf newydd, i ddarparu amddiffyniadau i lesddeiliaid yng Nghymru a fu ond ar gael yn Lloegr o'r blaen.

Y diweddaraf am Gyweirio

Data

Mae'r cynnydd a wnaed o ran darparu gwaith cyweirio diogelwch tân ledled Cymru yn cael ei adrodd yn y Dangosfwrdd Cyweirio Diogelwch Adeiladau. Mae'r dangosfwrdd yn dwyn ynghyd wybodaeth am yr holl adeiladau yn Rhaglen Cyweirio Diogelwch Adeiladau Cymru, gan olrhain cynnydd o'r amser pan nodir yr angen i gyweirio, hyd at ei gwblhau.

Fel trosolwg, mae'r dangosfwrdd yn nodi:

Cyfanswm nifer yr adeiladau preswyl 11 metr o uchder a throsodd a nodwyd fel rhai lle mae angen gwaith diogelwch tân y tu mewn i fflatiau ac ardaloedd cymunedol, i'r system waliau allanol neu'r ddau.

Gellir hidlo'r wybodaeth i roi gwybodaeth ar agwedd benodol:

  • Yn ôl uchder yr adeilad
  • Yn ôl cyfrifoldeb (ee datblygwr neu landlord cymdeithasol)
  • Yn ôl cam y cynnydd

Mae gan bob adeilad statws cynnydd wedi'i ddiffinio fel a ganlyn:

  • Yn dal i gael ei asesu neu ei arolygu
  • Yn cael ei gynllunio neu ei ddylunio
  • Mae'r gwaith wedi dechrau
  • Mae'r gwaith wedi dod i ben

Mae'r dangosfwrdd yn cael ei ddiweddaru'n fisol, gan helpu i olrhain nid yn unig y cynnydd, ond hefyd lle gall fod angen ymyrraeth wedi'i dargedu gan y tîm Diogelwch Adeiladau.

Mae'r tîm wedi ymrwymo i barhau i wella'r dangosfwrdd, gyda'r datganiad diweddaraf yn cynnwys gwybodaeth newydd ar gyfer adeiladau 'amddifad' neu 'ddatblygwyr llai'. Bydd gwaith diogelwch tân ar yr adeiladau hyn yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl, neu'n rhannol, gan Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru.

Croesewir eich adborth ar y dangosfwrdd. E-bostiwch sylwadau ac awgrymiadau at: DiogelwchAdeiladau@llyw.cymru

Datganiad o Ddiddordeb

Mae Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru (WBSF) yn parhau i gefnogi'r gwaith o nodi a chyweirio materion diogelwch tân sy'n hanfodol i fywyd mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth ledled Cymru. Ei nod yw cefnogi adeiladau sy'n 11 metr ac uwch ac sydd â risgiau diogelwch tân hysbys neu lle mae amheuaeth o risgiau, megis cladin anniogel neu ddiffygion o ran adrannu.

Anogir personau cyfrifol (rhydd-ddeiliaid, asiantau rheoli, a phersonau atebol eraill ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus) yn gryf i ymgysylltu â'r rhaglen.

Gellir cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb (EoI) gan ddefnyddio'r dolenni isod; dim ond ychydig funudau y mae'n ei gymryd i'w gwblhau. Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth am yr adeilad, gan gynnwys ei leoliad, uchder, nifer yr unedau preswyl, math o adeiladu, trefniadau perchnogaeth a rheoli, a manylion unrhyw faterion diogelwch tân sy'n hysbys neu y mae amheuaeth o faterion o’r fath. Bydd y cais wedyn yn cael ei asesu a gellir ei gymeradwyo ar gyfer cymorth ariannol pan fodlonir y meini prawf. Rhagor o wybodaeth:

Rhannwch yr wybodaeth hon hefyd gyda'ch rhwydweithiau fel ei bod yn cyrraedd pawb a allai elwa.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio

Derbyniodd Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026 a gellir dod o hyd iddi yma.

Bydd rhai manylion ychwanegol sydd eu hangen i roi'r drefn newydd ar waith yn cael eu nodi mewn Rheoliadau. Mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu'r Rheoliadau, a byddwn yn cynnal nifer o ymgynghoriadau yn ystod y misoedd nesaf. Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, rydym wedi sefydlu Grŵp Cynghori allanol sy'n darparu goruchwyliaeth a chyfarwyddyd ar weithredu'r Ddeddf.

Ymgynghoriad ar y Rheoliadau Cyweirio

Mae'r ymgynghoriad cyntaf yn gwahodd barn ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoliadau ynghylch cyweirio rhai diffygion hanesyddol o safbwynt diogelwch adeiladau a chategoreiddio adeiladau a reoleiddir gan y Ddeddf. Yn benodol, mae'n cynnig sut y bydd pwerau gwneud rheoliadau a nodir yn y Ddeddf honno yn cael eu defnyddio i:

  • greu system er mwyn i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl wneud gorchmynion cyweirio a gorchmynion cyfraniadau cyweirio,

  • cyfyngu ar atebolrwydd lesddeiliaid am gost cyweirio a darpariaethau cysylltiedig, ac

  • darparu dull ar gyfer cyfrifo uchder a nifer lloriau adeilad rheoleiddiedig.

Rydym yn eich annog i ymateb i'r ymgynghoriad sydd ar gael yma:

https://www.llyw.cymru/gweithredu-deddf-diogelwch-adeiladau-cymru-2026

Diweddariad Grenfell

Roedd 14 Mehefin yn nodi naw mlynedd ers trasiedi Tŵr Grenfell. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i weithredu argymhellion Ymchwiliad Tŵr Grenfell. Cyhoeddwyd yr adroddiad cynnydd diweddaraf ar y dangosfwrdd ym mis Mawrth ac mae'n dangos ehangder y gwaith sydd ar y gweill i gryfhau diogelwch a gwytnwch adeiladau yng Nghymru.

Mae'r mesurau sydd eisoes wedi eu cymryd a'r rhai sydd ar waith yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddysgu gwersi o drasiedi Tŵr Grenfell ac i gyflawni gwelliannau diogelwch adeiladau parhaol i breswylwyr, tra'n sicrhau etifeddiaeth gadarnhaol a pharhaol yma yng Nghymru i'r rhai a gollodd eu bywydau. 

Dylunio ac Adeiladu

Rheoliadau newydd ar gyfer dylunio ac adeiladu adeiladau risg uwch a rheoliadau sy'n effeithio ar yr holl waith adeiladu

Mae rheoliadau sy'n cryfhau'r system rheoli adeiladu ar gyfer adeiladau risg uwch yng Nghymru, ochr yn ochr â diweddariadau ehangach i'r rheoliadau adeiladu presennol, yn dod i rym o 1 Gorffennaf 2026 ac yn cynnwys y diweddariadau allweddol canlynol:

  • Cyfrifoldebau clir a safonau cymhwysedd i'r rhai sy'n ymwneud â gwaith adeiladu (deiliaid dyletswydd).

  • Hysbysiadau Cydymffurfio ac Atal sy'n darparu pwerau gorfodi newydd i Awdurdodau Lleol,

  • Cyflwyno Pyrth ar gyfer prosiectau adeiladu risg uwch sy'n creu atalfeydd caled lle na all gwaith adeiladu ddechrau heb gymeradwyaeth.

  • Llinyn Aur o wybodaeth adeiladu ar gyfer adeiladau risg uwch, gan sicrhau fod gwybodaeth diogelwch hanfodol o'r cam dylunio ac adeiladu yn cael ei chynnal ac yn hawdd ei chyrraedd.

  • Adrodd gorfodol am unrhyw ddigwyddiadau diogelwch sylweddol yn ystod gwaith ar adeiladau risg uwch.

  • Bydd cymeradwyaeth rheoli adeiladu nawr yn dod i ben yn awtomatig os nad yw'r gwaith yn dechrau o fewn tair blynedd.

Mae'r newidiadau hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i wella diogelwch adeiladu i bawb ledled Cymru. Ceir canllawiau ar y rheoliadau yn y fan hon: Rheoliadau Adeiladu | Is-bwnc | LLYW.CYMRU

Adolygiad Rhan L (Arbed tanwydd a phŵer a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr)

Daeth adolygiad 2025 ar newidiadau i Rannau L, F ac O o'r Rheoliadau Adeiladau ar gyfer anheddau ac adeiladau annomestig i ben ar 17 Tachwedd 2025. Mae ymateb y Llywodraeth ar gyfer y newidiadau i Rannau L ac F wedi'i gyhoeddi: Adolygiad o Ran L o'r Rheoliadau Adeiladu - adolygiad 2025

Amcangyfrifir y bydd ymateb y Llywodraeth ar gyfer cynigion Rhan O yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Daw'r rheoliadau diwygio effeithlonrwydd ynni i rym ar 4 Mawrth 2027. Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2026 (WGC 003/2026) [HTML] | LLYW. CYMRU

Gweler y cylchlythyr am y Dogfennau Cymeradwy newydd: Cyhoeddi Dogfen Gymeradwy L (2026) Cyfrolau 1 a 2, a Dogfen Gymeradwy F, Awyru, Cyfrol 1 (WGC 006/2026 [HTML]|LLYW.CYMRU

 
 
 

AMDANOM NI

Mynd i’r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau canolig ac uchel a diwygio’r system diogelwch adeiladu gyfredol, fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/tai

 

Cysylltu:

BuildingSafety@llyw.cymru