 Yn y rhifyn arbennig hwn o'r bwletin Gwaith Ieuenctid, rydym yn taflu goleuni ar enillwyr Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2025.
Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu ehangder prosiectau gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid eithriadol a'r rhai sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru. Mae'r gwobrau bob amser yn denu nifer fawr o enwebiadau, ac nid oedd eleni yn eithriad.
Cyfarfu paneli'r beirniaid yn gynharach yn 2026 i ystyried pob enwebiad a dderbyniwyd. Nid oedd yn hawdd dewis enillydd o'r criw cryf hwn o unigolion a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Hoffem ddiolch i'r holl feirniaid am eu hamser a'u diwydrwydd wrth ystyried pob enwebiad yn ofalus a chytuno ar enillydd ar gyfer pob un o gategorïau'r gwobrau.
Llongyfarchiadau enfawr i'r holl enillwyr. Camp aruthrol!
Mae'r gwobrau hyn yn ein hatgoffa unwaith eto o gryfder ac amrywiaeth y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru, a'i effaith ar fywydau pobl ifanc.
Gallwch ddysgu mwy am yr enillwyr a'r rhai a ddaeth mor agos i'r brig ar wefan Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid.
Rhannwch y straeon hyn ymhell ac agos er mwyn arddangos effaith gwaith ieuenctid yng Nghymru. I'n helpu i roi llwyfan ehangach i'r straeon hyn, ystyriwch ddefnyddio'r hashnodau canlynol mewn unrhyw bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
- #GwobrauGwaithIeuenctid2026
- #YouthWorkAwards2026
Yn cydnabod rhagoriaeth mewn gwaith ieuenctid cydweithredol a gyflawnir drwy bartneriaethau lleol cryf
Enillydd: Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Gabalfa, Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd
Drwy weithio mewn partneriaeth, mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi trawsnewid canolfan gymunedol Gabalfa yn ofod diogel a bywiog sy'n meithrin balchder cymunedol ac yn darparu cyfleoedd lu i bobl ifanc yn eu cymuned leol.
|
Y rhai a ddaeth yn agos at y brig:
- Lle Da, GISDA
- Gwasanaeth Ieuenctid YEPS, Rhondda Cynon Taf
|
|
 |
Yn dathlu prosiectau sy'n gweithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol
 Enillydd: Menter Gwrywdod Cadarnhaol/Positive Masculinity Initiative, Media Academy Cymru
Menter drawsnewidiol sy'n mynd i'r afael â dylanwad niweidiol gwrywdod tocsig a misogynedd ar-lein. Mae'r rhaglen yn creu mannau diogel a chefnogol lle gall pobl ifanc archwilio emosiynau, herio normau niweidiol a datblygu empathi, sgiliau meddwl yn feirniadol a pharch at eraill.
 |
|
Y rhai a ddaeth yn agos at y brig:
- Mind Our Future Gwent, ProMo Cymru a Mind yng Ngwent
- My Things Matter, Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) Cymru
|
Yn tynnu sylw at y defnydd creadigol o ddulliau digidol i gefnogi cyrhaeddiad, ansawdd neu effaith
Cyd-enillwyr: Gwasanaeth Ieuenctid Ynys Môn a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd
Enghreifftiau pwerus o arloesedd digidol mewn gwaith ieuenctid, gan ddefnyddio realiti rhithwir i helpu pobl ifanc i archwilio canlyniadau ymddygiad mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Cymeradwywyd y ddau brosiect hefyd am roi'r wybodaeth, yr empathi a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gydweithwyr ym meysydd addysg, iechyd a phlismona i nodi ac ymateb yn fwy effeithiol i ymddygiad sy'n gysylltiedig â thrawma.
|
Y rhai a ddaeth yn agos at y brig:
- Cynllun Profi, Menter Gorllewin Sir Gâr
|
|
 |
Yn cydnabod rhagoriaeth wrth sicrhau bod cyfleoedd gwaith ieuenctid yn hygyrch ac yn gynhwysol
 Enillydd: Gwasanaeth LHDTC+, YMCA Abertawe
Gwasanaeth hynod ddylanwadol sydd wedi tyfu ar ei ganfed i fod yn wasanaeth sy'n cyrraedd miloedd o bobl ifanc LHDTC+ ledled Cymru. Drwy raglenni addysg, hyfforddiant proffesiynol a gwaith mewn ysgolion, mae'r rhaglen hefyd yn helpu i newid agweddau, herio stigma a grymuso pobl ifanc i arwain newid yn eu cymunedau eu hunain.
 |
|
Y rhai a ddaeth yn agos at y brig:
- Fforwm Ieuenctid Spectrwm - y Gwasanaeth Ymgysylltu ag Ieuenctid ac Annog Cyfranogiad (YEPS)
- Grŵp Cynghori Pobl Ifanc, Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) Cymru
|
Yn cydnabod arweinwyr enghreifftiol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc ac wedi ysbrydoli eraill i wneud yr un peth
 |
|
Enillydd: Annette Harrison, Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg
Mae arweinyddiaeth Annette yn ysbrydoli cydweithwyr a phobl ifanc, fel ei gilydd, ac yn creu amgylchedd lle mae arloesedd yn ffynnu. Mae hi wedi trawsnewid mynediad at waith ieuenctid awyr agored ar draws Bro Morgannwg, ac mae ei phrosiectau cymunedol amrywiol sy'n rhychwantu'r cenedlaethau wedi grymuso pobl ifanc i fod yn ddinasyddion egnïol ac yn rhai sy'n cyfrannu mewn ffordd gadarnhaol at fywyd eu cymunedau.
|
|
Y rhai a ddaeth yn agos at y brig:
- Steve Drowley, Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru
- Ali Abdi, Pafiliwn Grange
|
|
 |
Yn cydnabod unigolyn sydd wedi cael effaith eithriadol ar fywydau pobl ifanc
 Enillydd: Nazrul Islam
Mae Nazrul Islam wedi cael effaith eithriadol ar fywydau pobl ifanc ledled Casnewydd. Drwy ei waith gydag EYST Cymru a Sefydliad Dreigiau Bengal, Nazrul bellach yw'r person i droi ato pan fo angen yn codi, gan weithredu fel cyswllt hanfodol rhwng pobl ifanc, rhieni, ysgolion a gwasanaethau eraill. Mae ei ymroddiad, ei dosturi a'i ddealltwriaeth ddiwylliannol yn helpu i adeiladucymunedau cryfach, mwy gwydn drwy rymuso'r genhedlaeth nesaf â sgiliau, hyder a dyhead.
 |
|
Y rhai a ddaeth yn agos at y brig:
- Matt Mullender, Gwasanaeth Ieuenctid Conwy
- Kate-Marie Mitchell, Canolfan Ieuenctid POINT, Ymddiriedolaeth Pobl Ifanc Abergwaun ac Wdig
|
Yn tynnu sylw at gyfraniad gwirfoddolwr sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i waith ieuenctid yng Nghymru
 Enillydd: Rayya Bocus - Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) Cymru
Mae Rayya Bocus wedi creu newid ystyrlon a pharhaol i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ledled Cymru. Fel gwirfoddolwr gyda Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, mae Rayya wedi tynnu ar brofiadau ei bywyd ei hun i lywio polisi, dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, herio anghydraddoldeb a sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed lle mae fwyaf pwysig. Mae ymroddiad, dewrder ac effaith Rayya yn ei gwneud hi'n wirfoddolwr rhagorol ac yn fodel rôl i bobl ifanc ledled Cymru.
|
Y rhai a ddaeth yn agos at y brig:
- Amira Begum, Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange
- Tal Davies, Prosiect Ieuenctid Tŷ Cymuned
|
|
 |
Yn dathlu talent sy'n dod i'r amlwg yn y sector gwaith ieuenctid
|
Enillydd: Imogen Watkins, Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân
Mae Imogen Watkins, gweithiwr ieuenctid sesiynol yng Nghanolfan Pobl Ifanc Cwmbrân, yn dangos ymroddiad, tosturi a gallu naturiol i gysylltu â phobl ifanc. Roedd y beirniaid yn ystyried yr hyn yr oedd wedi'i gyflawni yn fwy trawiadol byth o gofio ei bod hi ei hun mor ifanc – mae Imogen eisoes wedi cyflawni cymaint ac yn cael ei hystyried yn seren go iawn i'w gwylio i'r dyfodol.
|
|
 |
 |
|
Y rhai a ddaeth yn agos at y brig:
- Abdullah Shams Alrawas, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru
|
Yn cydnabod prosiectau neu wasanaethau sy'n arddangos arloesedd wrth ddatblygu darpariaeth gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg
 Enillydd: Grŵp Cwricwlwm Cymreig, Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili
Mae Grŵp Cwricwlwm Cymreig Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili wedi arwain at gynnydd dramatig yn y defnydd o'r Gymraeg ym mhob lleoliad. Drwy Raglen y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, mae pobl ifanc wedi bod yn ymwneud â gwahanol agweddau ar y Gymraeg a diwylliant Cymru, gan drefnu cystadlaethau cyfeillgar misol sy'n cyfrannu at Eisteddfod. Ochr yn ochr â chyrsiau Cymraeg ffurfiol i staff, mae'r Grŵp hefyd wedi creu adnoddau arloesol ar eu cyfer sydd wedi helpu i ddatgloi sgiliau Cymraeg cudd a magu hyder staff i ddefnyddio eu Cymraeg o ddydd i ddydd.
|
Y rhai a ddaeth yn agos at y brig:
- Urdd Gobaith Cymru
- RIFF, Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
|
|
 |
Cysylltwch drwy e-bost (gwaithieuenctid@llyw.cymru) os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf. Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni, gyda gwybodaeth am nifer geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.
Cofiwch ddefnyddio #GwaithIeuenctidCymru #YouthWorkinWales wrth drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Dilynwch @ieuenctidcymru ar X a Facebook i gadw i fyny gyda'r holl newyddion.
Ydych chi wedi Tanysgrifio i'r Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn sydyn yma
|