eCylchlythyr Dysg: 18 Mehefin 2026 • Rhifyn 817

18 Mehefin 2026 • Rhifyn 817

mobile phone

Gweinidog Addysg yn cyhoeddi'r bwriad i ddarparu canllawiau i gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion wrth amlinellu blaenoriaethau addysg

vaccine

Cyflwyno brechlyn MenB i bobl ifanc yng Nghymru cyn y flwyddyn academaidd newydd

Bydd pobl ifanc yng Nghymru yn cael cynnig brechiad Meningococol B (MenB) am y tro cyntaf yn hydref 2026, fel rhan o raglen sydd ar gael am gyfnod cyfyngedig o amser. Bydd unigolion 17 i 18 oed yn cael llythyr gwahoddiad gan eu bwrdd iechyd o 6 Gorffennaf.

Newyddion Addysg Llywodraeth Cymru

Ymgyrch Tom: byddwch yn ddoeth, byddwch yn ddiogel, arhoswch mewn grŵp

Menter ddiogelwch wedi'i hanelu at ddysgwyr rhwng 16 ac 18 oed, sy'n rhan o'r rhaglen astudiaethau bugeiliol mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru. Y nod yw cynyddu eu hymwybyddiaeth o'r angen i baratoi cyn mynd ar wyliau dramor, yn enwedig yr un cyntaf heb eu teuluoedd, a deall yn well sut i gadw'n ddiogel ac osgoi sefyllfaoedd peryglus.

Cefnogi defnydd diogel a chytbwys o apiau ar-lein

Canllawiau i rieni a gofalwyr ar yr apiau poblogaidd y gall plant a phobl ifanc fod yn eu defnyddio. Rhannwch gyda rhieni a gofalwyr cyn gwyliau’r haf.

Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2025: cyhoeddi enwau'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu ehangder prosiectau gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid eithriadol a'r rhai sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru.

MWY O NEWYDDION ADDYSG

British Council: ymunwch â gweminarau Erasmus+ ar gyfer ysgolion y DUU

Ymunwch â digwyddiad ar-lein ym mis Mehefin a mis Gorffennaf i ddysgu mwy am gyllid Erasmus+ a dod o hyd i ysgol bartner Ewropeaidd.

Agored Cymru: Y Project Personol

Mae'r cymhwyster Prosiect Personol bellach wedi'i gymeradwyo gan Gymwysterau Cymru fel rhan o'r cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd. Cysylltwch â'u tîm i gael gwybodaeth am sut y gall ffitio i'ch cynnig.

Diweddariadau Llywodraeth Cymru

Iw weithredu: rheoliadau ailgylchu yn y gweithle

Mae deddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob safle annomestig wahanu ffrydiau gwastraff penodedig ar gyfer ailgylchu. Mae camau gweithredu i wella cydymffurfiaeth yn cynnwys: archwiliadau gwastraff, biniau grwpio, defnyddio arwyddion clir, defnyddio Pecyn Adnoddau Addysg CNC a chanllawiau a geir yn WRAP Cymru. Darganfyddwch sut mae Ysgol Gyfun Porthcawl yn gweithredu'r rheoliadau.

ADNODDAU A DIGWYDDIADAU

CAL:ON Cymru: mynediad cynnar i adnoddau Llythrennedd

Byddwch ymhlith y cyntaf i ddefnyddio adnoddau llythrennedd dwyieithog CAL:ON Cymru sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Cymerwch ran yn 2026 i siapio'r offer cenedlaethol rhad ac am ddim, fydd yn lansio ym mis Medi 2027.  Gwnewch gais erbyn 26 Mehefin am fynediad cynnar a chymorth.

Sesiynau a digwyddiadau rhaglen gymorth genedlaethol

Dysgwch fwy am y rhaglen gymorth genedlaethol ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesu, gan gynnwys sut i gofrestru a manylion digwyddiadau haf sydd i ddod.

Gwobrau Cymru Daclus 2026 Ar Agor ar gyfer Enwebiadau

Ydych chi'n gwybod am ysgol, person ifanc neu hyrwyddwr cymunedol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r amgylchedd yng Nghymru? Mae'r enwebiadau'n cau am 6pm ddydd Mawrth 30 Mehefin 2026

YMGYNGORIADAU ac arolygon

EHRC: Ymgynghoriad ar ganllawiau

Anogir athrawon yng Nghymru, gan gynnwys penaethiaid a Chydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, i ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar ganllawiau technegol newydd ar gyfer ysgolion. Mae'r canllawiau'n amlinellu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chamau ymarferol. Bydd eich adborth yn helpu i lunio canllawiau clir ac ymarferol sy'n adlewyrchu arfer ysgolion. Bydd yr arolwg ymgynghori yn cau am 11:59pm ar 30 Medi 2026

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl

Addysg Cymru: Blog

Hwb

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbAddysg_Cymru

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru