eCylchlythyr Dysg: 18 Mehefin 2026 • Rhifyn 392

18 Mehefin 2026 • Rhifyn 392

mobile phone

Gweinidog Addysg yn cyhoeddi'r bwriad i ddarparu canllawiau i gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion wrth amlinellu blaenoriaethau Addysg

LinkedIn logo

Mae Addysg Cymru bellach ar LinkedIn

Dilynwch ni am y diweddariadau, cyhoeddiadau a'r newyddion diweddaraf.

Newyddion Addysg Llywodraeth Cymru

CAL:ON Cymru: mynediad cynnar i adnoddau Llythrennedd

Byddwch ymhlith y cyntaf i ddefnyddio adnoddau llythrennedd dwyieithog CAL:ON Cymru sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Cymerwch ran yn 2026 i siapio'r offer cenedlaethol rhad ac am ddim, fydd yn lansio ym mis Medi 2027. Gwnewch gais erbyn 10 Gorffennaf am fynediad cynnar a chymorth.

Asesiadau Personol: nodyn atgoffa i ysgolion am eu MIS

Cofiwch y bydd data Asesiadau Personol dysgwyr yn trosglwyddo gyda nhw pan fyddant yn trosglwyddo i ysgol arall yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr sy’n symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.  Cofiwch lawrlwytho a chadw’r wybodaeth sydd ei hangen cyn diwedd y tymor,  gan y byddwch yn colli mynediad iddo ar y system ar ôl y trosglwyddiad ar 24 Gorffennaf

Sesiynau a digwyddiadau rhaglen gymorth genedlaethol

Dysgwch fwy am y rhaglen gymorth genedlaethol ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesu, gan gynnwys sut i gofrestru a manylion digwyddiadau haf sydd i ddod.

Diweddariad misol ar addysgeg ac arferion ym maes dysgu sylfaen: Mehefin 2026

Casgliad o adnoddau cymorth dysgu proffesiynol sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad plant, cyfnodau pontio, arweinyddiaeth a chydweithredu.

Gwerthusiad Ffurfiannol: Dysgu Sylfaen yn Cwricwlwm i Gymru

Mae astudiaeth gan gwmni ymchwil Arad a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn archwilio sut mae ysgolion yn cyflwyno dysgu sylfaen o fewn Cwricwlwm i Gymru a sut mae'n defnyddio canllawiau a dysgu proffesiynol i gefnogi ymarfer. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn amlygu'r cymorth sydd ar gael i ysgolion.

Er mwyn cefnogi ysgolion i ddarparu dysgu sylfaen o ansawdd, mae amrywiaeth o adnoddau ar gael:

Mae'r adnoddau hyn yn cynnig man cychwyn defnyddiol ar gyfer dylunio cwricwlwm i gefnogi dysgwyr rhwng 3 ac 8 oed.

Ysgolion cynradd ym Mlaenau Gwent i gael band eang cyflym iawn

Mae'r cyflymder cyflymach yn golygu y gall ysgolion ddefnyddio byrddau gwyn digidol, fideo-gynadledda, llwyfannau dysgu ar-lein a chymwysiadau sy’n ddwys o ran adnoddau i gyd ar unwaith.

MWY O NEWYDDION ADDYSG

Mae’r cyfnod cofrestru ar gyfer Arolwg y Rhwydwaith i Ysgolion Cynradd bellach ar agor

Mae ysgolion cynradd ledled Cymru nawr yn cael eu gwahodd i gofrestru’n ffurfiol ar gyfer cymryd rhan yn Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith 2026, sef cam pwysig mewn cryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer iechyd a lles plant, o oedran ifanc.

Diweddariadau gan Estyn

Gyrfa Cymru: Cymhwyster Arweinyddiaeth Gyrfaoedd Lefel 6

Rydym yn cynnig hyd at 15 o leoedd wedi’u hariannu ar y cymhwyster Lefel 6 mewn Arweinyddiaeth Gyrfaoedd i’r rhai sydd â chyfrifoldeb am gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith mewn ysgolion a lleoliadau ariennir gan yr ALl ledled Cymru. Bydd y broses ymgeisio yn agor o ddydd Gwener, 12 Mehefin.

Recriwtio Dysgu: Rôl Cyfarwyddwr

Mae Dysgu yn recriwtio Cyfarwyddwr Rhagoriaeth Dysgu a Blaenoriaethau Cenedlaethol (llawn-amser, parhaol). Ymunwch â'n Tîm Arweinyddiaeth Uwch i lunio dysgu proffesiynol i addysgwyr ledled Cymru. Am fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at sara.jermin@dysgu.llyw.cymru

neu gwenllian.lansdowndavies@dysgu.llyw.cymru

Diweddariadau Llywodraeth Cymru

Iw weithredu: rheoliadau ailgylchu yn y gweithle

Mae deddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob safle annomestig wahanu ffrydiau gwastraff penodedig ar gyfer ailgylchu. Mae camau gweithredu i wella cydymffurfiaeth yn cynnwys: archwiliadau gwastraff, biniau grwpio, defnyddio arwyddion clir, defnyddio Pecyn Adnoddau Addysg CNC a chanllawiau a geir yn WRAP Cymru.

Darganfyddwch sut mae Ysgol Gyfun Porthcawl yn gweithredu'r rheoliadau.

ADNODDAU A DIGWYDDIADAU

Hwb

Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg yng Nghymru (SSCE Cymru)

Gwobrau Cymru Daclus 2026 Ar Agor ar gyfer Enwebiadau

Ydych chi'n gwybod am ysgol, person ifanc neu hyrwyddwr cymunedol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r amgylchedd yng Nghymru? Mae'r enwebiadau'n cau am 6pm ddydd Mawrth 30 Mehefin 2026

Into Film: adnoddau am ddim

YMGYNGORIADAU ac arolygon

Calendr dyddiadau allweddol Hwb: arolwg

Calendr defnyddiol i ysgolion sy'n amlygu dyddiadau allweddol drwy gydol y flwyddyn ac adnoddau i gefnogi gweithgaredd. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn drwy'r arolwg byr hwn.

Dweud eich dweud: ymchwil yn canolbwyntio ar ddysgwyr amlieithog

Gwahoddir ymarferwyr i rannu eu profiadau o gefnogi dysgwyr amlieithog sydd â Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol ar gyfer ymchwil Llywodraeth Cymru trwy arolwg byr. 

British Council Cymru: Arolwg Tueddiadau Ieithoedd Cymru

Mae’r arolwg yn darparu mewnwelediad gwerthfawr i addysgu ieithoedd ledled Cymru ac mae’n cymryd llai na 10 munud i’w gwblhau. Y dyddiad cau yw 26 Mehefin 2026

EHRC: Ymgynghoriad ar ganllawiau

Anogir athrawon yng Nghymru, gan gynnwys penaethiaid a Chydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, i ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar ganllawiau technegol newydd ar gyfer ysgolion. Mae'r canllawiau'n amlinellu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chamau ymarferol. Bydd eich adborth yn helpu i lunio canllawiau clir ac ymarferol sy'n adlewyrchu arfer ysgolion. Bydd yr arolwg ymgynghori yn cau am 11:59pm ar 30 Medi 2026

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl

Addysg Cymru: Blog

Hwb

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbAddysg_Cymru

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru