Mae cymhelliant mwy cystadleuol i ddenu ac i gadw athrawon newydd wedi'i gyhoeddi heddiw fel rhan o gynllun 100 diwrnod. Cynnydd o £5,000 ar gyfer meysydd pwnc blaenoriaeth, gan gynnwys mathemateg, Cymraeg a gwyddoniaeth.
Dilynwch ni am y diweddariadau, cyhoeddiadau a'r newyddion diweddaraf.
Newyddion Addysg Llywodraeth Cymru
Asesiadau Personol: nodyn atgoffa i ysgolion am eu MIS
Cofiwch y bydd data Asesiadau Personol dysgwyr yn trosglwyddo gyda nhw pan fyddant yn trosglwyddo i ysgol arall yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr sy’n symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd. Cofiwch lawrlwytho a chadw’r wybodaeth sydd ei hangen cyn diwedd y tymor, gan y byddwch yn colli mynediad iddo ar y system ar ôl y trosglwyddiad ar 24 Gorffennaf
Rydym yn cynnig hyd at 15 o leoedd wedi’u hariannu ar y cymhwyster Lefel 6 mewn Arweinyddiaeth Gyrfaoedd i’r rhai sydd â chyfrifoldeb am gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith mewn ysgolion a lleoliadau ariennir gan yr ALl ledled Cymru. Bydd y broses ymgeisio yn agor o ddydd Gwener, 12 Mehefin.
Recriwtio Dysgu: rôl Cyfarwyddwr
Mae Dysgu yn recriwtio Cyfarwyddwr Rhagoriaeth Dysgu a Blaenoriaethau Cenedlaethol (llawn-amser, parhaol). Ymunwch â'n Tîm Arweinyddiaeth Uwch i lunio dysgu proffesiynol i addysgwyr ledled Cymru. Am fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at sara.jermin@dysgu.llyw.cymru neu gwenllian.lansdowndavies@dysgu.llyw.cymru
ADNODDAU A DIGWYDDIADAU
Hwb
Cwrdd Hwb Casnewydd, 24 Mehefin: digwyddiad wyneb yn wyneb sy'n canolbwyntio ar sut y gall ymarferwyr ddefnyddio'r offer digidol sydd ar gael drwy Hwb.
Gŵyl Digi Hwb 2026, 1 Medi: cofrestrwch nawr ar gyfer sesiynau ar-lein Gŵyl Digi Hwb a gynhelir drwy gydol y dydd ar 1 Medi 2026
Digwyddiadau gyrfaoedd ar-lein am ddim i ysgolion yng Nghymru a gynigir gan Rwydwaith Ieithoedd y Gwasanaeth Sifil, gyda'r British Council a Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU (GCHQ).
Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg yng Nghymru (SSCE Cymru)
Gweler gwefan SSCE Cymru am enghreifftiau o sut y cymerodd ysgolion ac awdurdodau lleol ledled Cymru ran ym mis y Plentyn Milwrol Ebrill 2026
Calendr defnyddiol i ysgolion sy'n nodi dyddiadau allweddol drwy gydol y flwyddyn ac adnoddau i gefnogi gweithgaredd. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn drwy'r arolwg byr hwn.
Gwahoddir ymarferwyr i rannu eu profiadau o gefnogi dysgwyr amlieithog sydd â Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol ar gyfer ymchwil Llywodraeth Cymru trwy arolwg byr.
Mae’r arolwg yn darparu mewnwelediad gwerthfawr i addysgu ieithoedd ledled Cymru ac mae’n cymryd llai na 10 munud i’w gwblhau. Y dyddiad cau yw 26 Mehefin 2026
YNGHYLCH DYSG
Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru. Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.