eCylchlythyr Dysg: 04 Mehefin 2026 • Rhifyn 391

04 Mehefin 2026 • Rhifyn 391

Newyddion Addysg Llywodraeth Cymru

Asesiadau Personol: ydych chi wedi amserlennu amser ar gyfer eich asesiadau?

Dyma nodyn atgoffa bod yr asesiadau personol yn fandadol yn y flwyddyn ysgol 2025 i 2026.  Os nad ydych chi wedi’u gwneud gyda’ch dysgwyr eto, gofynnwn ichi drefnu amser ar eu cyfer.  Gweler y Llawlyfr Gweinyddu am y gofynion neu ein herthygl Hwb i’ch atgoffa’n gyflym.

Canllawiau ar Reoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026

ADNODDAU A DIGWYDDIADAU

Dysgu Creadigol Cymru: cyfle wedi’i ariannu i ysgolion roi cynnig ar rhywbeth newydd

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ail flwyddyn y rhaglen Arbrofi, cyfle syml wedi’i ariannu sydd wedi’i gynllunio ar gyfer ysgolion prysur ledled Cymru i archwilio syniadau newydd mewn ffordd ymarferol a risg isel. Mae’r ffenestr ymgeisio nawr ar agor a bydd yn cau 5yh ddydd Mercher 10 Mehefin 2026

Her Chwarae 31 ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

Mae'r Her Chwarae 31 yn alwad ar bob ysgol ledled y DU ac Iwerddon i roi 31 munud mwy o chwarae i blant ar 11 Mehefin. Thema yr ymgyrch yw Amddiffyn chwarae, amddiffyn plentyndod. Trwy ymestyn amseroedd chwarae a chefnogi dysgu chwareus yn yr awyr agored, gall ysgolion ddangos eu cefnogaeth i bŵer chwarae. Mae casgliad o ganllawiau, sesiynau briffio a phecynnau cymorth Chwarae Cymru hefyd ar gael ar Hwb.

Prosiect Ieithoedd Rhyngwladol i athrawon (ysgolion cynradd gogledd Cymru)  

Dydd Iau 25 Mehefin 2026, 9:30am i 2:35pm, Prifysgol Bangor

Ydych chi'n athro/athrawes sy'n ymwneud â chyflwyno'r ddarpariaeth ieithoedd rhyngwladol yn eich ysgol? Hoffem eich gwahodd i ddiwrnod dysgu proffesiynol ac arweiniad ymarferol am ddim i helpu i sicrhau gweithrediad llwyddiannus o fewn cwricwlwm eich ysgol. Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 12 Mehefin 2026

Prosiectau E-sgol

British Council

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl

Addysg Cymru: Blog

Hwb

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbAddysg_Cymru

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru