Asesiadau Personol: ydych chi wedi amserlennu amser ar gyfer eich asesiadau?
Dyma nodyn atgoffa bod yr asesiadau personol yn fandadol yn y flwyddyn ysgol 2025 i 2026. Os nad ydych chi wedi’u gwneud gyda’ch dysgwyr eto, gofynnwn ichi drefnu amser ar eu cyfer. Gweler y Llawlyfr Gweinyddu am y gofynion neu ein herthygl Hwb i’ch atgoffa’n gyflym.
Mae CBAC wedi cadarnhau pecyn cynhwysfawr o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol RHAD AC AM DDIM i gefnogi cyflwyno eu cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 newydd, gan gynnwys cymwysterau TAAU, Sylfaen, y Gyfres Sgiliau a'r Project Personol.
Mae CBAC wedi gyhoeddi'r ail set o fanylebau drafft ar gyfer y cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3, sy'n nodi carreg filltir bwysig arall yn dilyn cyfnod dwys o ddatblygu'r cymwysterau.
Ymgynghoriad ar newidiadau i gymwysterau TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg
Gofynnir i chi adolygu deunyddiau'r ymgynghoriad a chwblhau'r arolwg erbyn 19 Mehefin 2026:
Mae'n bleser gennym gyhoeddi ail flwyddyn y rhaglen Arbrofi, cyfle syml wedi’i ariannu sydd wedi’i gynllunio ar gyfer ysgolion prysur ledled Cymru i archwilio syniadau newydd mewn ffordd ymarferol a risg isel. Mae’r ffenestr ymgeisio nawr ar agor a bydd yn cau 5yh ddydd Mercher 10 Mehefin 2026
Mae'r Her Chwarae 31 yn alwad ar bob ysgol ledled y DU ac Iwerddon i roi 31 munud mwy o chwarae i blant ar 11 Mehefin. . Thema yr ymgyrch yw Amddiffyn chwarae, amddiffyn plentyndod. Trwy ymestyn amseroedd chwarae a chefnogi dysgu chwareus yn yr awyr agored, gall ysgolion ddangos eu cefnogaeth i bŵer chwarae. Mae casgliad o ganllawiau, sesiynau briffio a phecynnau cymorth Chwarae Cymru hefyd ar gael ar Hwb.
Dydd Mawrth 30 Mehefin: 9:30am i 2:15pm, ym Mangor ac Abertawe
Bydd y gynhadledd ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 9 i 13, yn cael ei hysbrydoli gan bobl ifanc o bob cwr o Gymru sy’n frwd dros newid, er mwyn ysbrydoli a grymuso cyfranogwyr i greu newid cynaliadwy yn eu hysgol. Anogir ysgolion i ddod â hyd at 10 o ddysgwyr i'r digwyddiad.
Prosiectau E-sgol
British Council
|