eCylchlythyr Dysg: 21 Mai 2026 • Rhifyn 390

21 Mai 2026 • Rhifyn 390

Urdd

Ystafell Athrawon yn Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn 23 i 29 Mai 2026

Bydd gofod arbennig yn cael ei lansio eleni, gan gynnig man pwrpasol i staff ysgolion o bob cwr o Gymru i ymlacio, rhwydweithio a chymryd seibiant o brysurdeb yr wythnos gystadlu. Dewch draw i ddweud helo!

Newyddion Addysg Llywodraeth Cymru

Datganiad Llafar: Blaenoriaethau'r Prif Weinidog

'Mae gennym nifer o genhadaethau craidd: torri rhestrau aros, codi safonau yn ein hysgolion, creu swyddi, cefnogi busnesau, mynd i'r afael â thlodi plant, helpu teuluoedd gyda'r argyfwng costau byw a sefyll dros Gymru…'

Rhannwch eich barn ar Addysg Gychwynnol  Athrawon (AGA) – ar gyfer ysgolion nad ydynt yn ymwneud ag AGA

Os nad yw'ch ysgol chi yn gweithio gydag athrawon dan hyfforddiant, mae hwn yn gyfle i rannu eich profiadau, eich safbwyntiau a'r rhesymau pam nad ydych yn gwneud hynny.

Diweddariad misol ar addysgeg ac arferion ym maes dysgu sylfaen: Mai 2026 

Cymorth dysgu proffesiynol ac adnoddau sy'n canolbwyntio ar thema'r mis hwn, sef Tegwch a Chynhwysiant.

Asesiadau Personol: ydych chi’n athro neu athrawes sydd â phrofiad o

Mae hi dal yn bosib ymuno â phanel adolygu cynnwys Asesiadau Personol ym maes Darllen (Cymraeg) i’n helpu i ddatblygu adroddiad newydd. Darllenwch y fanyleb sydd wedi ei hatodi am ragor o wybodaeth. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiadau o ddiddordeb yw 4pm ar 5 Mehefin 2026

ADNODDAU A DIGWYDDIADAU

Adnoddau

Dysgu: Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf

Bydd Dysgu yn Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn 2026. Dewch i'n gweld ni ar stondin 61-62! Yn ystod yr wythnos, byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad allweddol:

  • Dydd Mawrth 26 Mai 11am (Lleoliad: Stondin Dysgu) -Digwyddiad panel mewn partneriaeth ag Estyn, yn archwilio pwysigrwydd darllen a datblygu darllenwyr medrus ledled Cymru.
  • Dydd Iau 28 Mai 10:30am (Lleoliad: Ystafell Athrawon) - Sesiwn sgwrsio gydag arweinwyr Dysgu, gan roi cyfle i drafod blaenoriaethau dysgu proffesiynol.

Urdd Gobaith Cymru: Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2026 #Heddwch2026

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl

Addysg Cymru: Blog

Hwb

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbAddysg_Cymru

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru