‘Wrth i ni nesáu at hanner tymor, hoffem gymryd y cyfle i gyflwyno ein hunain a diolch i chi, o galon, am eich gwaith di-flino dros ein dysgwyr, ein cymunedau a’n gwlad…’
Bydd gofod arbennig yn cael ei lansio eleni, gan gynnig man pwrpasol i staff ysgolion o bob cwr o Gymru i ymlacio, rhwydweithio a chymryd seibiant o brysurdeb yr wythnos gystadlu. Dewch draw i ddweud helo!
'Mae gennym nifer o genhadaethau craidd: torri rhestrau aros, codi safonau yn ein hysgolion, creu swyddi, cefnogi busnesau, mynd i'r afael â thlodi plant, helpu teuluoedd gyda'r argyfwng costau byw a sefyll dros Gymru…'
Os nad yw'ch ysgol chi yn gweithio gydag athrawon dan hyfforddiant, mae hwn yn gyfle i rannu eich profiadau, eich safbwyntiau a'r rhesymau pam nad ydych yn gwneud hynny.
Mae hi dal yn bosib ymuno â phanel adolygu cynnwys Asesiadau Personol ym maes Darllen (Cymraeg) i’n helpu i ddatblygu adroddiad newydd. Darllenwch y fanyleb sydd wedi ei hatodi am ragor o wybodaeth. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiadau o ddiddordeb yw 4pm ar 5 Mehefin 2026
Bydd Dysgu yn Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn 2026. Dewch i'n gweld ni ar stondin 61-62! Yn ystod yr wythnos, byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad allweddol:
Dydd Mawrth 26 Mai 11am (Lleoliad: Stondin Dysgu) -Digwyddiad panel mewn partneriaeth ag Estyn, yn archwilio pwysigrwydd darllen a datblygu darllenwyr medrus ledled Cymru.
Dydd Iau 28 Mai 10:30am (Lleoliad: Ystafell Athrawon) - Sesiwn sgwrsio gydag arweinwyr Dysgu, gan roi cyfle i drafod blaenoriaethau dysgu proffesiynol.
Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru. Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.