eCylchlythyr Dysg: 14 Mai 2026 • Rhifyn 813

14 Mai 2026 • Rhifyn 813

Newyddion Addysg Llywodraeth Cymru

Llenyddiaeth yn Tanio'r Dychymyg: Cyfle dysgu proffesiynol i athrawon iaith mewn ysgolion cynradd ac uwchradd!

Taniwch dychymyg eich dysgwyr a gwella eu llythrennedd ym mis Mehefin/Gorffennaf yma, gyda’n cyrsiau dysgu proffesiynol mewn Cyfieithu Creadigol i athrawon cynradd ac uwchradd. Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle am ddim.

Canllawiau newydd ar ddiogelu delweddau plant rhag iddynt gael eu camddefnyddio gan AI (Deallusrwydd Artiffisial)

Mae canllawiau newydd ar gyfer y DU gyfan yn helpu lleoliadau addysg i ddiogelu delweddau plant rhag cael eu camddefnyddio a’u haddasu gan AI wedi’i alluogi.

Lansio 'Ystafell Athrawon' ar faes Eisteddfod yr Urdd

Yn newydd eleni, sefydlwyd yr Ystafell Athrawon gan CYDAGGwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a e-sgol, gyda chefnogaeth Urdd Gobaith Cymru a Llywodraeth Cymru fel amgylchedd croesawgar lle gall athrawon a staff addysg ddod at ei gilydd i gael lluniaeth, gwefru dyfeisiadau, derbyn cymorth a gwybodaeth. 

MWY O NEWYDDION ADDYSG

Iechyd Cyhoeddus Cymru: diogelu Iechyd mewn lleoliadau plant a phobl ifanc

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion sydd wedi'u cadarnhau o glefydau heintus sy'n gysylltiedig ag ymweliadau â ffermydd, atyniadau anifeiliaid ar gyfer ymwelwyr, a chysylltiad ag anifeiliaid mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant. Er mwyn helpu i leihau'r risg o haint, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell dilyn y canllawiau. Darllenwch y llythyr gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am ragor o wybodaeth.

Cymwysterau Cymru: dweud eich dweud ar arholiadau haf 2026

Gydag arholiadau ar y gweill, mae arolwg Cymwysterau Cymru yn agored i gasglu barn dysgwyr, ymarferwyr ac eraill ar arholiadau yr haf ymahwn. Rhannwch eich adborth ar arholiadau trwy gwblhau'r arolwg ar-lein byr.

ADNODDAU

Adnoddau diweddaraf Hwb

Rhestrau chwarae Mathemateg a Rhifedd ar Hwb

Archwiliwch y rhestrau chwarae ar gyfer pob cam cynnydd:

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl

Addysg Cymru: Blog

Hwb

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbAddysg_Cymru

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru