Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru

Mawrth 2026

 
 

Croeso i'n newyddlen Diogelwch Adeiladau - a gynlluniwyd i'ch hysbysu yn rheolaidd am gynnydd y Rhaglen Diogelwch Adeiladau a materion diogelwch tân sy'n effeithio ar bobl Cymru.

Gallwch hefyd ein dilyn ni ar X / Twitter gan ddefnyddio @LlC_Cymunedau

Neges gan Ysgrifennydd y Cabinet

Jane Bryant AS

Rwy'n falch iawn bod y Senedd wedi pleidleisio i basio'r Bil Diogelwch Adeiladu (Cymru) ddydd Mawrth 10 Mawrth. Mae hon yn garreg filltir bwysig ar gyfer diogelwch adeiladau yng Nghymru. Mae wedi cymryd peth amser i gyflwyno'r ddeddfwriaeth bwysig hon, ond fel un o'r Biliau mwyaf a ystyriwyd erioed gan y Senedd, mae wedi bod yn hanfodol ymgymryd â gwaith trylwyr i sicrhau bod y drefn newydd yn wirioneddol addas ar gyfer y dyfodol. Hoffwn ddiolch i'n partneriaid niferus am yr ymrwymiad a'r egni rydych chi wedi'u dangos wrth helpu i gyrraedd y pwynt hwn. Ond nid yw'r daith yn gorffen yno. Wrth i ni symud i'r cam gweithredu, byddwn yn parhau i weithio ar y cyd i gyflawni'r nod o greu cyfundrefn diogelwch adeiladau i sicrhau bod preswylwyr yn ddiogel yn eu cartrefi. Gan y bydd rhai agweddau ar y Bil yn cael eu cyflwyno drwy is-ddeddfwriaeth, bydd ymgynghoriad cyhoeddus pellach. Byddwn yn annog y rhai sydd â diddordeb i ymgysylltu â'r broses honno. Ni ddylem fyth anghofio'r rhai a gollodd eu bywydau yn nhân tŵr Grenfell ac mae'n rhaid i'r atgofion hynny barhau i yrru ein hymrwymiad i sicrhau nad yw trasiedi o'r fath byth yn digwydd yng Nghymru. 

Diweddariad Grenfell

Ym mis Gorffennaf 2025 cyhoeddwyd ein hymateb i argymhellion Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell. 

Rydym yn ymrwymo i gyhoeddi adroddiad cynnydd ar y broses o roi argymhellion yr Ymchwiliad ar waith cyn diwedd tymor y Senedd hon, gan sicrhau atebolrwydd llawn i bobl Cymru.

Cyhoeddwyd yr Adroddiad Cynnydd ar 10 Mawrth 2026.

Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i weithredu argymhellion adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell a byddwn yn parhau i fonitro'r gwaith yn barhaus.

Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Gyweirio

Data Rhaglen Gyweirio

Mae'r dangosfwrdd adfer diogelwch adeiladau yn parhau i gael ei ddiweddaru ar ddechrau pob mis.

Gallwch weld y dangosfwrdd trwy glicio ar y ddolen isod:

Ystadegau ar Waith Cyweirio Adeiladau | LLYW. CYMRU

Mae ymarferoldeb ychwanegol yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Ym mis Chwefror, cyflwynwyd hidlwyr newydd i gefnogi cyflwyniad cliriach o'r data ar gynnydd o ran cyweirio yn seiliedig ar uchder adeiladau yn y rhaglen.

Mae'r tîm yn croesawu adborth ar y Dangosfwrdd. Gellir anfon sylwadau ac awgrymiadau drwy e-bost at: DiogelwchAdeiladau@llyw.cymru

Contractau Gwaith Cyweirio

Mae contract datblygwr diogelwch adeiladau Llywodraeth Cymru yn gosod rhwymedigaeth ar ddatblygwyr i ymrwymo i gontract gwaith cyweirio gydag endidau cyfrifol. 

Mae'r tîm diogelwch adeiladau yn gweithio gyda chydweithwyr Llywodraeth y DU ar gontract gwaith templed. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth gyfarfod diweddar o'r Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ei bod hefyd wedi comisiynu darn pwrpasol o waith i gefnogi endidau cyfrifol yng Nghymru i drafod contractau gwaith cyweirio. Bydd y tîm diogelwch adeiladau yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gontract gwaith templed dros y misoedd nesaf.

Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddiwygio

Pleidleisiodd y Senedd o blaid pasio'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) ddydd Mawrth 10 Mawrth. Gellir gweld cofnod y trafodion yma. Bydd y gwaith ar weithredu'r drefn diogelwch adeiladau newydd yn dechrau ar unwaith.

Cytunwyd ar nifer o welliannau pwysig i'r Bil yn flaenorol, gan gynnwys:

  • Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud Rheoliadau sy'n nodi awdurdod lleol fel yr Awdurdod Diogelwch Adeiladau ar gyfer pob ardal yr Awdurdod Tân ac Achub,
  • Pŵer i Awdurdodau Diogelwch Adeiladau gyhoeddi Hysbysiadau Cosb Penodedig mewn perthynas â rhai troseddau.
  • Dyletswydd ar Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i ddarparu y gall y tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchmynion cyweirio a gorchmynion cyfraniadau cyweirio at ddibenion talu costau a ysgwyddir wrth gyweirio, neu fel arall mewn cysylltiad â diffygion perthnasol sy'n ymwneud ag adeilad perthnasol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ymgynghoriad yma

Diwygio Lesddaliad

Mae Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi'r Bil Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad drafft at ddibenion craffu gan Senedd y DU cyn deddfu. Mae hefyd wedi lansio ymgynghoriad ar weithredu gwaharddiad yn y dyfodol ar ddefnyddio lesddaliad ar gyfer fflatiau newydd. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i gapio rhent tir mewn prydlesi presennol i £250 y flwyddyn, ac i ddileu fforffedu lesddaliad.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am newidiadau arfaethedig, yn ogystal â dolenni i'r Bil drafft a'r ymgynghoriad yn Natganiad Ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet.

Dylunio ac Adeiladu

Mae'n bleser gennym gyhoeddi cyflwyno rheoliadau newydd sy'n cryfhau'r system rheoli adeiladau ar gyfer adeiladau risg uwch yng Nghymru, ochr yn ochr â diweddariadau ehangach i reoliadau adeiladau presennol. Mae'r newidiadau hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i wella diogelwch adeiladau i bawb ledled Cymru.

Mae'r rheoliadau newydd, sy'n dod i rym o’r 1 Gorffennaf 2026, yn cynnwys y diweddariadau allweddol canlynol:

  • Cyfrifoldebau clir a safonau cymhwysedd i'r rhai sy'n ymwneud â gwaith adeiladu (deiliaid dyletswydd).
  • Llinyn Aur o wybodaeth adeiladu ar gyfer adeiladau risg uwch, gan sicrhau fod gwybodaeth diogelwch hanfodol o'r cam dylunio ac adeiladu yn cael ei chynnal ac yn hawdd ei chyrraedd.
  • Cyflwyno prosesau porth ar gyfer prosiectau adeiladu risg uwch.
  • Adrodd gorfodol am unrhyw ddigwyddiadau diogelwch sylweddol yn ystod gwaith ar adeiladau risg uwch.
  • Hysbysiadau Cydymffurfio ac Atal sy'n darparu pwerau gorfodi newydd i Awdurdodau Lleol,
  • Diwygio ceisiadau am waith adeiladu nad yw'n risg uwch.
  • Bydd cymeradwyaeth rheoli adeiladu nawr yn dod i ben yn awtomatig os nad yw'r gwaith yn dechrau o fewn tair blynedd.

Byddwn yn cynnal dwy weminar ym mis Ebrill i drafod y newidiadau sydd ar ddod i Reoliadau Adeiladu 2010 a Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladu Risg Uwch) (Cymru) 2025. Bydd y weminar ar 21 Ebrill yn ymdrin â newidiadau i Reoliadau Adeiladu 2010 a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig, tra bydd y weminar ar 28 Ebrill yn canolbwyntio ar Reoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025.

Bydd cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod pob gweminar, a gallwch gyflwyno cwestiynau ymlaen llaw trwy gysylltu â ni cyn 10 Ebrill 2026.

Os hoffech fynychu, cysylltwch â'r tîm ar enquiries.brconstruction@gov.wales gan nodi eich dewis iaith (Saesneg neu Gymraeg).

Mae'r rheoliadau hyn yn cefnogi'r gwaith o gyflawni Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 yng Nghymru yn barhaus. Er gwybodaeth, maent ar wahân i'r Bil Diogelwch Adeiladu (Cymru), sy'n canolbwyntio ar reoleiddio adeiladau wedi'u meddiannu yn hytrach na gofynion ar gyfer sut mae gwaith adeiladu yn cael ei wneud a'i reoli.

Am ragor o fanylion, ewch i'n cylchlythyrau rheoliadau adeiladu ar-lein: Cylchlythyrau rheoliadau adeiladu | LLYW. CYMRU

Safbwyntiau Rhanddeiliaid

Profiad Centrick gyda Chronfa Diogelwch Adeiladu Cymru: Golate Court

Mae Golate Court yn adeilad preswyl defnydd cymysg yng nghanol dinas Caerdydd, sy'n cynnwys 82 o fflatiau lesddaliad. Fel llawer o adeiladau uchel ledled y DU, nodwyd bod angen cyweirio Golate Court oherwydd diffygion diogelwch tân sy'n hanfodol i fywyd.

Daeth Centrick yn ymwybodol o Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru am y tro cyntaf drwy ddigwyddiadau cyfathrebu ac ymgysylltu gan Lywodraeth Cymru. Er y bydd y prosiect ei hun yn costio sawl miliwn o bunnoedd, roedd y broses ymgeisio wedi'i rheoli'n dda, gyda chefnogaeth canllawiau clir a chyfathrebu ymatebol gan Lywodraeth Cymru a'u partneriaid cyflawni.

Roedd y broses yn gydweithredol, ein hymholiadau yn cael eu trin yn brydlon, ac roedd yn galonogol cael mynediad cyson at weithwyr proffesiynol a oedd yn deall brys a chymhlethdod yr hyn yr oeddem yn delio ag ef.

"Mae Golate Court yn un o'r cynlluniau mwy cymhleth rydyn ni wedi gweithio arno, ond hefyd yn un o'r rhai mwyaf cydweithredol," meddai Connor Scherer, Cyfarwyddwr Diogelwch Adeiladu Centrick. "Mae'r gefnogaeth a'r ymgysylltiad gan Lywodraeth Cymru a'u tîm cyflawni wedi bod yn allweddol wrth symud hyn ymlaen. Yn seiliedig ar ein profiad, byddem yn annog asiantau rheoli nad ydynt eto yn ymwneud â Chronfa Diogelwch Adeiladau Cymru i gofrestru eu diddordeb a gwneud cais am gymorth. Mae'r gwaith bellach wedi dechrau ar y safle ym mis Rhagfyr 2025, gyda'r prif gontractwr wedi sefydlu safle a bydd cam cyntaf y sgaffaldiau yn mynd i fyny yn fuan, bydd gwaith yn digwydd dros y 24 mis nesaf gan ddarparu dyfodol mwy diogel i'r holl breswylwyr yn Golate Court."

Centrick, Asiant Rheoli Golate Court.

 
 
 

AMDANOM NI

Mynd i’r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau canolig ac uchel a diwygio’r system diogelwch adeiladu gyfredol, fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/tai

 

Cysylltu:

BuildingSafety@llyw.cymru

Dilynwch ni ar X:

@LlC_Cymunedau