|
Mae'r fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid wedi'i gyhoeddi. Daw'r fframwaith newydd i rym ar 1 Ebrill 2026. Bydd y fframwaith statudol yn helpu i hyrwyddo gwaith ieuenctid, gan sicrhau ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i ddeall a'i fod yn parhau i ymateb i anghenion pobl ifanc wrth iddynt esblygu’n barhaus.
Mae crynodeb o’r fframwaith ar gyfer pobl ifanc wedi ei baratoi. Rhannwch hwn gyda'r bobl ifanc yn eich lleoliadau os gwelwch yn ddal er mwyn adeiladu dealltwriaeth o sut y gallant helpu i lunio'r cynnig gwaith ieuenctid lleol yn ogystal â dal y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gyfrif.
Os bydd unrhyw gwestiynau gyda chi am y fframwaith, cysylltwch â GwaithIeuenctid@llyw.cymru os gwelwch yn dda.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) yn chwilio am aseswyr newydd i’r Nod Ansawdd i gynorthwyo sefydliadau sy’n gweithio tuag at y Nod Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Bydd y cyfle hwn yn caniatáu i ymarferwyr profiadol helpu i gryfhau’r safonau a chydnabod arferion gwaith ieuenctid o safon uchel ar draws y sector. Mae aseswyr yn chwarae rhan bwysig wrth gynorthwyo gwelliannau parhaus a dathlu effaith.
I gael rhagor o fanylion a gwneud cais: Mae rhagor o wybodaeth a’r manylion ymgeisio ar ein gwefan.
 |
|
Cynhelir WellFest 2026 dydd Sadwrn, 16 Mai rhwng 11.00am a 4.00pm yn Llwyn Isaf (Cae’r Llyfrgell) yn Wrecsam. Pobl ifanc sy’n cynhyrchu’r ŵyl llesiant yma, sy’n addas i deuluoedd ac yn rhad ac am ddim, trwy Fwrdd Ymgynghorol yr Arweinwyr Ifanc, a’i nod yw hybu iechyd meddwl cadarnhaol mewn amgylchedd croesawgar a chynhwysol. Wedi ei ysbrydoli gan y Pum Llwybr i Lesiant, bydd y diwrnod yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol, sesiynau blasu a stondinau cymunedol. Croeso i bawb.
Manylion pellach: https://www.youtube.com/watch?v=dE8IY_1dUO0
|
Mae’r Fforwm yn cryfhau cydweithio rhyngwladol wrth sicrhau bod lleisiau pobl ifanc o Gymru’n cael eu clywed ar y lefelau uchaf posibl. Rhannwyd yr argymhellion a ddatblygwyd yn ystod yr achlysur ag arweinwyr yn Uwchgynhadledd yr Arweinwyr 2026 y mis diwethaf. Mae adroddiad yn cael ei ddrafftio i gysoni blaenoriaethau’r pum gwlad, a chaiff ei rannu â’r gwledydd o dan sylw er mwyn i sefydliadau ieuenctid ei rannu â’u pobl ifanc.
Gall gweithwyr ieuenctid chwarae rôl allweddol wrth helpu pobl ifanc i ailgysylltu â’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Mae llawer o bobl wedi anghofio am y cyfrifon cynilo yma, ac nid yw llawer o bobl ifanc 18-20 oed yn ymwybodol o’u bodolaeth. Trwy godi ymwybyddiaeth, cyfeirio pobl at yr offeryn ‘Dod o hyd i’ch Cronfa Ymddiriedolaeth Plant’ swyddogol ar GOV.UK, a chynnig cymorth digidol ymarferol, gall ymarferwyr helpu pobl ifanc i gael gafael ar arian a allai eu cynorthwyo gyda’u haddysg, hyfforddiant neu i fyw’n annibynnol.
Ffeindiwch yr offeryn swyddogol:
Saesneg: https://www.gov.uk/find-child-trust-fund
Neu adnoddau pellach
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £300,000 o gyllid ychwanegol drwy'r Grant Cymorth Ieuenctid (YSG) i gryfhau'r gefnogaeth i bobl ifanc LHDTC+ mewn ysgolion a lleoliadau â dysgwyr oedran uwchradd.
Bydd y cyllid yn cefnogi awdurdodau lleol i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y sector gwirfoddol, i hybu'r ddarpariaeth gwaith ieuenctid a sicrhau bod pobl ifanc LHDTC+ yn gallu cael mynediad at gymorth diogel, cynhwysol a thargedu yn eu hardal leol.
Gallai hyn gynnwys gweithgareddau fel sefydlu grwpiau cymorth, hyrwyddo gwasanaethau ieuenctid a chyflwyno gweithgareddau sy'n helpu pobl ifanc i gysylltu.
Ry’n ni am glywed gan unigolion o'r sector gwaith ieuenctid a thu hwnt sydd â diddordeb mewn ymaelodi ag is-grwpiau i gefnogi'r Bwrdd Cyflawni Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid.
Bydd yr is-grwpiau yn casglu ystod eang o brofiad i helpu i sicrhau bod gwaith i sefydlu'r Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn cael ei lywio gan safbwyntiau amrywiol.
Fel man cychwyn, bydd dau is-grwpiau yn cael eu sefydlu i ganolbwyntio ar:
- gyllid ac adnoddau, a
- llywodraethiant ac atebolrwydd.
Rydym yn rhagweld y bydd yr ymrwymiad amser yn 3 i 4 cyfarfod ar-lein dros gyfnod o 6 i 8 wythnos y gwanwyn hwn.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech ofyn am ffurflen mynegi diddordeb, anfonwch e-bost at y Gangen Ymgysylltu Ieuenctid. Y dyddiad cau yw 5pm ar 6 Ebrill.
Mae'r Gronfa Waddol Ieuenctid wedi cyhoeddi gwaith ymchwil newydd rhannu mewnwelediadau gwerthfawr i'r hyn sy'n helpu i gadw pobl ifanc yn ddiogel rhag trais. Mae'r canfyddiadau yn tynnu sylw at ddulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, heriau allweddol, ac argymhellion ymarferol ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc.
Gellir darllen mwy yma: Youth work and violence prevention: Practice guidance for youth work commissioners on how to reduce children and young people’s involvement in violence
Noder: Mae’r canllaw hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Youth Cymru sy’n cyflawni’r Rhaglen Swyddi Haf ar draws Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe, sy’n cynorthwyo pobl ifanc 16-25 oed, ac yn arbennig y rhai a allai wynebu rhwystrau i gyflogaeth.
Cynhaliwyd rhaglen lwyddiannus yn haf 2025, gan helpu pobl ifanc i fagu hyder, gwella’u llesiant a datblygu sgiliau cyflogadwyedd. Cafodd pob person ifanc a gymerodd ran eu paru â chyflogwr lleol cefnogol, a chawsant arweiniad cofleidiol gan weithiwr ieuenctid pwrpasol.
Mae’r fenter yn cynnig profiad gwaith ystyrlon, sgiliau newydd a chysylltiadau cadarnhaol sy’n gallu llywio cyfleoedd at y dyfodol.
Cliciwch yma am fanylion
Mae Youth Cymru’n gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector i ddod o hyd i amrywiaeth eang a chynrychiadol o gynnwys. Rydyn ni’n annog sefydliadau i rannu diweddariadau, cyfleoedd a straeon newyddion da perthnasol, sy’n hybu blaenoriaethau cenedlaethol gwaith ieuenctid.
Caiff manylion yr amserlenni a’r gofynion cyflwyno eu rhannu cyn pob rhifyn.
Os hoffech chi gyfrannu at fwletin yn y dyfodol, cysylltwch trwy e-bost. Byddwn ni’n darparu canllawiau arddull a gwybodaeth am nifer y geiriau ym mhob adran.
Anfonwch y cynnwys at GICYWW@youthcymru.org.uk
Dilynwch y diweddariadau ar Facebook: https://www.facebook.com/GIC.YWW
Dyddiad cau’r bwletin nesaf: Cyflwynwch eich cynnwys erbyn 1 Mai 2026.
Cysylltwch drwy e-bost (gwaithieuenctid@llyw.cymru) os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf. Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni, gyda gwybodaeth am nifer geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.
Cofiwch ddefnyddio #GwaithIeuenctidCymru #YouthWorkinWales wrth drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Dilynwch @ieuenctidcymru ar X a Facebook i gadw i fyny gyda'r holl newyddion.
Ydych chi wedi Tanysgrifio i'r Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn sydyn yma
|