Croeso i rifyn Mawrth o gylchlythyr ACC
Byddwn yn dod â'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am drethi datganoledig Cymru, cofrestru llety ymwelwyr a'r Ardoll Ymwelwyr, yn ogystal â dyddiadau cau allweddol, ac adnoddau defnyddiol.
Os ydych chi'n adnabod unrhyw un a fyddai'n cael budd o glywed am y diweddariadau hyn, anogwch nhw i gofrestru i gael rhifynnau’r dyfodol.
Oherwydd y cyfnod cyn-etholiad, ni fyddwn yn cyhoeddi cylchlythyr ym mis Ebrill.

Cyngor Caerdydd i gyflwyno Ardoll Ymwelwyr o 1 Ebrill 2027
-
archebion newydd ar gyfer arosiadau yng Nghaerdydd o 1 Ebrill 2027
-
ychwanegu mwy o nosweithiau neu ymwelwyr at archebion sy’n bodoli eisoes ar gyfer arosiadau yng Nghaerdydd o 1 Ebrill 2027
Bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn casglu ac yn rheoli’r Ardoll Ymwelwyr ar ran Cyngor Caerdydd. Rydym wedi cyhoeddi canllaw cyflym i ddarparwyr llety, er mwyn eich helpu i baratoi.
Bydd canllawiau manylach yn dilyn ym mis Ebrill.
Cofrestrwch ar gyfer gweminar ar gofrestru llety ymwelwyr
O hydref 2026 ymlaen, bydd rhaid i bawb sy’n cymryd archebion am lety dros nos yng Nghymru gofrestru gyda ACC. Mae hyn yn berthnasol p'un ai yw eich cyngor lleol yn cyflwyno Ardoll Ymwelwyr neu beidio.
I'ch helpu i baratoi, rydym yn cynnal cyfres o weithdai ar-lein am ddim trwy Microsoft Teams. Byddwn yn eich tywys trwy'r broses gofrestru gam wrth gam, gyda'n tîm wrth law i ateb eich cwestiynau.
Ymgynghoriad ar y Papur Gwyn: cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Y llynedd, fe wnaethom ofyn am eich barn ar ein Papur Gwyn cyntaf, a gynhyrchwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a oedd yn cynnig newidiadau er mwyn gwneud deddfwriaeth dreth Cymru yn gliriach ac yn fwy effeithiol.
Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ymateb. Rydym bellach wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd ar ein gwefan.
Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn ystyried a ddylid bwrw ymlaen â'r cynigion hyn a chyflwyno Bil i Senedd Cymru.

Treth Trafodiadau Tir
Ar 18 Mawrth, cynhaliwyd fforwm Treth Trafodiadau Tir (TTT) rhad ac am ddim yn Wrecsam. Ymunodd tua 50 o gyfreithwyr a thrawsgludwyr â ni am fore o drafod, cwestiynau ac arweiniad arbenigol ar y meysydd TTT lle mae ymarferwyr wedi gofyn am fwy o gymorth. Roedd yn sesiwn gadarnhaol iawn, a bydd y sgyrsiau’n helpu i siapio sut rydym yn parhau i ddatblygu ein darpariaeth hyfforddiant.
Byddwn yn rhannu manylion digwyddiadau sydd i ddod yn y cylchlythyr hwn.
Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir Chwefror 2026
Cyhoeddwyd ein hystadegau Treth Trafodiadau Tir diweddaraf, sy'n cwmpasu Chwefror 2026, ar 20 Mawrth.
Mae'r datganiad yn cynnwys data misol ar nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth sy'n ddyledus, a gwerth yr eiddo a drethwyd, wedi'i ddadansoddi yn ôl math o drafodiad a band treth.
Oeddech chi'n gwybod bod gennym ni flog?
Mae postiadau diweddar yn trafod datblygu'r gwasanaeth cofrestru llety ymwelwyr newydd, cyn ei lansio yn hydref 2026, gan gynnwys:

Swyddi gwag
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio am Arweinydd Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru i ymuno â'r tîm yn Awdurdod Cyllid Cymru. Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno ein rhaglen i gofrestru llety ymwelwyr.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth 7 Ebrill. Am fanylion llawn ac i wneud cais, ewch i'n gwefan.
Rydym ar Facebook ac Instagram
Dilynwch ni am gefnogaeth, arweiniad ac i glywed y diweddaraf am ein gwasanaethau.
 |
|
Polisi Preifatrwydd Awdurdod Cyllid Cymru
Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd i gael gwybod sut rydym yn prosesu eich data.
|
|