Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Chwefror 2026

Chwefror 2026 • Rhifyn 043

 
 

Uchafbwyntiau Gulfood 2026

Cymru Wales International Hall Pavilion Gulfood 2026

Profodd Gulfood 2026 unwaith eto pam ei fod yn un o ddigwyddiadau masnach bwyd a diod mwyaf dylanwadol y byd, gan ddod â phrynwyr byd-eang, cyflenwyr, arloeswyr ac arweinwyr diwydiant at ei gilydd. Cynigiodd Gulfood welededd a chyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr i fusnesau Cymru, gan atgyfnerthu enw da cynyddol Cymru mewn marchnadoedd allforio bwyd a diod byd-eang.

Cynhaliwyd y sioe eleni rhwng 26 a 30 Ionawr 2026 ar draws dau brif leoliad yn Dubai am y tro cyntaf: Canolfan Masnach y Byd Dubai (DWTC) a Chanolfan Arddangos Dubai yn Expo City Dubai. Cynrychiolwyd Cymru gyda balchder gan 18 o fusnesau bwyd a diod, gan arddangos ar draws y Neuadd Ryngwladol a'r Neuadd Laeth, yn ogystal â mynychu fel Ymwelwyr Allforio. Gyda'i gilydd, fe wnaethant ddangos ehangder, dyfnder ac ansawdd digyfaddawd o uchel diwydiant bwyd a diod Cymru, gan gynnig llwyfan i gwmnïau sydd wedi allforio o'r blaen ac i rai sy'n newydd i'r farchnad.

Welsh produce at Gulfood 2026

Gwyliwch uchafbwyntiau o'r Neuadd Ryngwladol:

Instagram  Facebook

Gwyliwch uchafbwyntiau o'r Neuadd Laeth:

Instagram  Facebook

 

Brecwast 'Bwyd hyfryd fwyd': Cymerodd cwmnïau o Gymru ran ym Mrecwast Rhwydweithio'r Pedair Gwlad 'Bwyd hyfryd fwyd', gan ymuno â swyddogion cyfatebol o bob cwr o'r DU. Galluogodd y digwyddiad pwysig hwn rwydweithio o ansawdd uchel gyda phrynwyr a phartneriaid dylanwadol. Roedd hyn hefyd yn gyfle i hyrwyddo ar y cyd rhagoriaeth y DU mewn marchnadoedd byd-eang a chryfhau perthnasoedd rhwng cenhedloedd yn y sector bwyd a diod. Diolch yn fawr iawn i Rachel's, Village Bakery, Golden Hooves, First Milk, Burts Gwalia Bakery, Moose Maple a Hufenfa De Arfon am roi eu cynnyrch blasus i'r fwydlen frecwast.

Arddangosfa goginio fyw: Arddangosodd y cogydd HCC talentog Elwen Roberts brydau gan ddefnyddio cynnyrch gan arddangoswyr o Gymru. Denodd yr arddangosfa sylw gan brynwyr ledled y byd. Roedd prydau'n cynnwys cig oen Cymreig wedi'i farinadu ym mhâst Ezme gan Kursat a sgons caws a oedd yn cynnwys iogwrt Groegaidd Rachel's a cheddar aeddfed Golden Hooves.

Gwyliwch uchafbwyntiau:

Instagram  Facebook

HCC Cooking demo Gulfood 2026

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am allforio neu os hoffech fod yn rhan o'r digwyddiad rhyngwladol nesaf, cysylltwch â ni – shona.hutchinson@llyw.cymru

Nôl I'r cynnwys

Recriwtio FHA Singapore ar agor nawr

FHA Singapore - Ebrill 2026

Mae'n bleser gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd yn arddangos yn FHA, Bwyd a Diod Singapore 2026. Bydd y sioe yn cael ei chynnal rhwng 21-24 Ebrill 2026 yn Singapore Expo.

Sylwer, mae chweched arddangosfa ProWein Singapore, sy'n rhan o Gyfres ProWein y Byd o ffeiriau masnach gwinoedd a gwirodydd blaenllaw, hefyd yn cael ei chynnal yn yr un lleoliad ar yr un pryd.

Mae ceisiadau nawr ar agor os hoffech le ym mhafiliwn Cymru Wales. Mae'r cyfle hwn yn agored i unrhyw fusnesau bwyd a diod o Gymru sy'n allforio ar hyn o bryd, neu sydd â diddordeb mewn allforio i Singapore, De-ddwyrain Asia neu Asia a'r Môr Tawel. Mae rhagor o fanylion am y pecynnau cymorth sydd ar gael i'w gweld yn y taflenni a atodwyd.

Os hoffech drafod y cyfle hwn ymhellach, e-bostiwch shona.hutchinson@llyw.cymru

Os hoffech gael eich ystyried, anfonwch e-bost  at shirley.mcgilvray@llyw.cymru neu kelly.divry@llyw.cymru i gael ffurflen gais.

Nôl I'r cynnwys

Arddangosfa Bwyd a Diod Cymru yn Teithio i Lundain ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi

Bydd Bwyd a Diod Cymru yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi mewn steil gydag arddangosfa arbennig o gynhyrchwyr Cymreig ym Marchnad hanesyddol Spitalfields yn Llundain rhwng 28 Chwefror ac 1 Mawrth. Bydd y digwyddiad yn hyrwyddo ansawdd, tarddiad a chryfder masnachol cynyddol sector bwyd a diod Cymru.

Dydd Gwel Dewi, Spitalfields London 2024

Dydd Gŵyl Dewi, Spitalfields, London 2024

Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i gwrdd â chynhyrchwyr, blasu amrywiaeth eang o gynnyrch a dysgu mwy am y straeon, y ffynonellau lleol a'r crefftwaith y tu ôl iddynt. Mae'r arddangosfa'n amlygu sut mae busnesau Cymreig yn cyfuno treftadaeth, statws gwarchodedig a chynaliadwyedd ag arloesedd modern a hunaniaeth brand gref.

Mae'r cynhyrchwyr sy'n cael eu harddangos yn y digwyddiad yn cynnwys:

Maggie's African Twist, Mydflower (gwin), Radnor Preserves, Flavour Moments, Gower Gin, Rogue Welsh Cakes, The Patty Man, Still Wild (fermwth), Sobremesa Drinks (seidr/cwrw), Penybryn Honey a Distyllfa Aber Falls

Mae'r digwyddiad proffil uchel hwn yn cynnig llwyfan gwych i dynnu sylw at ragoriaeth Cymru ac atgyfnerthu enw da cynyddol Cymru fel cenedl fwyd fodern a bywiog.

Nôl I'r cynnwys

Paratoi ar gyfer Mis B Corp 2026

Wrth i fis B Corp nesáu ym mis Mawrth, mae’n gyfle gwych i dynnu sylw at y gymuned gynyddol o gwmnïau B Corp yng Nghymru, sy’n bodloni safonau uchel ac wedi’u dilysu o ran perfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol, tryloywder ac atebolrwydd, gan ddangos sut gall arferion cyfrifol sbarduno llwyddiant masnachol.

Welsh food and drink B Corp businesses

Erbyn hyn, mae Cymru yn gartref i 49 o gwmnïau B Corp ardystiedig, gan gynnwys 12 cynhyrchydd bwyd a diod, o gynhyrchwyr rhostio coffi i wneuthurwyr halen môr — ac mae pob un yn profi y gall cynaliadwyedd gryfhau ymddiriedaeth brand, cystadleurwydd a chadernid hirdymor.

Cyflwyno Pecyn Cymorth Mis B Corp

Er mwyn helpu i wneud y mwyaf o amlygrwydd yn ystod Mis B Corp, mae'r Clwstwr Cynaliadwyedd wedi lansio Pecyn Cymorth Mis B Corp ar gyfer cwmnïau B Corp ardystiedig, manwerthwyr a phartneriaid masnach, gan gynnwys y canlynol:

  • Asedau cyfryngau cymdeithasol addasadwy ac sy’n barod i’w defnyddio
  • Baneri e-bost
  • Deunyddiau arddangos ffisegol

Dim ond yn ystod mis Mawrth y dylid defnyddio asedau, ond mae mynediad cynnar yn cefnogi’r broses o gynllunio. I gael gafael ar y pecyn cymorth, anfonwch e-bost at Louise.Cowdy@levercliff.co.uk

Cymorth i Gynhyrchwyr yng Nghymru

Ydych chi'n ystyried dechrau ar eich taith B Corp? Mae'r Clwstwr Cynaliadwyedd yn darparu cymorth un-i-un wedi'i ariannu, gan gynnig:

  • Canllawiau wedi'u teilwra drwy Asesiad Effaith B
  • Llwybr strwythuredig at ardystio
  • Gwell parodrwydd a dealltwriaeth o fanteision busnes cael ardystiad B Corp

Gydag 1 defnyddiwr o bob 4 yn adnabod logo B Corp - ac 85% yn dweud ei fod yn siapio'r hyn maen nhw'n ei brynu - mae ardystiad B Corp yn ffordd o ddenu cwsmeriaid sy'n meddwl am gynaliadwyedd ac o feithrin hygrededd ac ymddiriedaeth brand sefydlog.

Cysylltwch â Lauren.Smith@levercliff.co.uk i ddechrau arni.

Yn dod yn fuan: Modiwlau Hyfforddiant Cynaliadwyedd

I fusnesau ar ddechrau eu taith cynaliadwyedd, bydd ein modiwlau Hyfforddiant Cynaliadwyedd sydd ar y gweill yn cynnig cyflwyniad hygyrch i bynciau allweddol — a gallant fod y cam cyntaf tuag at baratoi ar gyfer ardystiad B Corp.

Cael eich ysbrydoli gan gwmnïau B Corp yng Nghymru

Edrychwch ar ein llyfryn ar gyfer Cynhyrchwyr Bwyd a Diod B Corp yng Nghymru i ddysgu gan fusnesau sydd eisoes yn arwain y ffordd.

Nôl I'r cynnwys

Ffermio yng Nghymru yn cyrraedd trobwynt

gan Don Thomas, Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Don Thomas

Helo, Don Thomas ydw i, ac rwy'n falch o wasanaethu ar Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru. Bob dydd, mae fy ngwaith yn cefnogi amaethyddiaeth Cymru—yn enwedig y cynhyrchion rydyn ni'n fyd-enwog amdanynt: Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru – ein cynhyrchion Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) cyntaf yng Nghymru. Nid bwydydd o ansawdd uchel yn unig yw'r rhain; maent yn rhan o'n treftadaeth, yn dyst i sgiliau ac ymroddiad ein ffermwyr, ac yn destun balchder i'r genedl.

Disgwylir i 2026 fod yn flwyddyn nodedig i ffermio yng Nghymru. Ar 1 Ionawr, lansiwyd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS)—ffordd o weithio beiddgar ar gyfer Cymru gyfan a gynlluniwyd i helpu ein ffermydd i ffynnu mewn modd cynaliadwy. Mae'n ymwneud â sicrhau bod ffermydd yn fwy effeithlon, gwydn, ac mewn sefyllfa well i ddiwallu gofynion cynyddol defnyddwyr am fwyd sy'n cael ei gynhyrchu'n gyfrifol, y gellir ei olrhain, ac sydd o ansawdd rhagorol.

Rwy'n cyfaddef na wnes i dyfu i fyny ar fferm. Mae fy nghefndir ym maes cyllid a rheoli busnes strategol. Ond dros y degawdau wrth gefnogi amaethyddiaeth Cymru, rydw i wedi gweld faint y gall y sgiliau hyn helpu—o gynllunio a buddsoddi i arwain busnesau drwy newid. Yn y gwahanol rolau rydw i wedi'u cael ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat, rwy'n anelu at fod yn ffrind beirniadol, gan gynnig cymorth, her, a chyngor lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Mae'r byd ffermio yng Nghymru yn dechrau pennod newydd gyffrous. Mae'r SFS yn fwy na chynllun—mae'n gyfle i ffermwyr arloesi, arddangos ansawdd a tharddiad eu cynhyrchion, ac ymateb i farchnad fyd-eang sy'n gwerthfawrogi cynaliadwyedd a moeseg yn fwyfwy.

Fy ymrwymiad, ochr yn ochr â'm cydweithwyr ar Fwrdd Bwyd a Diod Cymru, yw parhau i hyrwyddo ein ffermwyr, ein proseswyr a'n busnesau yn y gadwyn fwyd. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru, a'n holl gynhyrchion cartref yn parhau i fod yn symbolau o ragoriaeth, cynaliadwyedd a balchder—yma yng Nghymru a ledled y byd.

Oherwydd wrth ei wraidd, nid ffermio yn unig yw amaethyddiaeth Cymru. Mae'n ymwneud â phobl, traddodiad, arloesedd, a'r bwyd rydyn ni'n falch o'i roi ar bob bwrdd.

Nôl I'r cynnwys

Diweddariad Arloesi Technoleg Bwyd-Amaeth

Yn ein rhifyn Awst 2025, fe wnaethom gynnwys erthygl ar Her Arddangos Cam 2 Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) Technoleg Bwyd-Amaeth. Mae'r fenter feiddgar hon yn cefnogi atebion arloesol sy'n anelu at gryfhau'r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, gwella cynaliadwyedd, a sbarduno twf economaidd yn sector Amaethyddiaeth a Bwyd Cymru.

Y mis hwn mae gennym ddiweddariadau ar dri o'r prosiectau hyn.

LanoTech: Trawsnewid Gwlân Cymru yn Borthiant Anifeiliaid Cynaliadwy

Mae Cwmni Technoleg Amaeth newydd o Gymru – LanoTech yn trawsnewid lanolin, y saim naturiol yng ngwlân defaid, o fod yn sgil-gynnyrch tanbrisiedig i fod yn gynhwysyn gwerthfawr mewn porthiant anifeiliaid.

Sheep in a field

Mae LanoTech yn defnyddio lanolin Cymru i gymryd lle olewau sy’n niweidiol i’r amgylchedd fel soia a phalmwydd, mewn porthiant dofednod, gan chwyldroi’r sectorau gwlân a dofednod yng Nghymru.

 "Rydym yn creu economi gylchol Cymru sy’n cysylltu ffermwyr defaid, gwneuthurwyr porthiant, a chynhyrchwyr dofednod," eglura Clodagh Weingart, sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr LanoTech.

Dechreuodd LanoTech yn dilyn sgwrs gyda ffermwr perdys Mecsicanaidd, lle dysgodd Clodagh bod colestrol sy’n deillio o lanolin yn cael ei fwydo i berdys Mecsicanaidd. Gwnaeth Clodagh gais i Gontractau ar gyfer Arloesi Cymru (adnabuwyd yn flaenorol fel SBRI COE), am astudiaeth dichonoldeb i archwilio bwydo lanolin Prydeinig i ddofednod.

Mae treialon porthiant cyntaf y byd yn yr arfaeth ar hyn o bryd, wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru a’u cynorthwyo gan Gontractau ar gyfer Arloesi Cymru, a gynhaliwyd mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth, ArloesiAber, a Choleg Prifysgol Gwledig yr Alban (SRUC).

"Mae Contractau ar gyfer Arloesi Cymru a Llywodraeth Cymru wedi bod o gymorth amhrisiadwy o’r dechrau, gan ariannu labordy cynnar LanoTech a nawr ein treialon porthiant byw cyntaf” dywed Clodagh.

Mae canlyniadau o’u treial sy’n cynnwys 240 o adar yn addawol, gyda data’n cael ei gasglu ar berfformiad, treuliadwyedd ac ansawdd y cig ar draws gwahanol grynoadau lanolin.

Mae arloesedd LanoTech yn mynd i’r afael â nifer o heriau ar yr un pryd. Ar hyn o bryd mae ffermwyr defaid Cymru yn derbyn yr enillion lleiaf am eu gwlân, tra mae’r diwydiant porthiant anifeiliaid yn wynebu pwysau i ddod o hyd i ddewisiadau amgen cynaliadwy i gynhwysion wedi’u mewnforio. Mae ateb LanoTech yn creu model economi gylchol sy’n fuddiol i’r ddwy sector, o bosib yn gwella incwm ffermwyr tra’n lleihau ôl-troed amgylcheddol cynnyrch bwyd.

Daeth cydnabyddiaeth yn gyflym – enwyd LanoTech fel Busnes Newydd Gwledig y Flwyddyn ledled y DU yn 2025.

Fel y mae LanoTech yn datblygu â’r arloesedd hwn, maent yn chwilio am fewnbwn rhanddeiliaid i lywio’r cynllun masnacheiddio sy’n sicrhau mabwysiadu llwyddiannus ar y farchnad. I fynegi diddordeb ar gyfer dysgu rhagor, cysylltwch â Clodagh.Weingart@lanotech.org

Adfer Maetholion ar gyfer Amaethyddiaeth

Mae dŵr gwastraff a gynhyrchwyd gan ffatrïoedd cynhyrchu bwyd yn ffynhonnell gyfoethog o faetholion.

Mae prosesau trin dŵr gwastraff ar y safle yn defnyddio cemegau synthetig i gynorthwyo gwahanu ‘gwastraff’ soled. Dilynir hyn fel arfer gan broses fiolegol i fwyta’r ‘gwastraff’ wedi’i doddi, fel bod dŵr sy’n gadael y safle o fewn cyfyngiadau caniatâd rhyddhau, yn arbennig  ar gyfer gollyngiad ffosffad.

Wastewater before and after treatment

 

Mae Pennotec (Pennog Cyf., Y Ffôr) yn gweithio ar hyn o bryd gyda Hufenfa De Arfon (SCC) i brofi a dangos ymagwedd Economi Gylchol newydd, i drin dŵr gwastraff cynhyrchu bwyd. Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Chontractau ar gyfer Arloesi Cymru (adnabyddwyd yn flaenorol fel SBRI COE), Her Technoleg Bwyd-Amaeth, anela Pennotec at arddangos y gall maetholion defnyddiol i ffermio gael eu hadfer yn economaidd o ffatrïoedd cynhyrchu bwyd a ffermydd. 

Mae technoleg unigryw Pennotec yn cynnwys dau gynnyrch o gregyn cranc:

  1. FloXan® cymorth gwahanu soled/hylif; cynnyrch chitosan naturiol i ddisodli cemegion synthetig ar gyfer tynnu solidau o ddŵr gwastraff proses.
  2. Amsugnwr naturiol ar gyfer tynnu ffosffad hydawdd a nitrad o weddill y dŵr gwastraff.  

Gan fod technoleg Pennotec yn defnyddio cynhyrchion bioddiraddadwy a diogel i fwyd, nid yw’r solidau maeth a’r ffosffadau hydawdd wedi eu halogi gyda chemegau synthetig ac o bosib gellir eu hailgylchu yn wrtaith amaethyddol. Mae defnydd o chitosan naturiol i gynorthwyo gwahanu solidau/hylifau hefyd yn cynnig y posibilrwydd y gall protein a brasterau wedi’u hadfer o ddŵr gwastraff ffatrïoedd bwyd gael eu hail bwrpasu yn fwyd amaethyddol.

Mae’r camau nesaf yn cynnwys archwilio’r farchnad Gymreig ar gyfer datrysiadau arloesol dad-ddyfrio llaeth a slyri. Trwy ddigwyddiadau cyfnewid gwybodaeth ymarferol gyda ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, bydd Pennog Cyf yn llunio cynllun masnacheiddio cryf i droi’r ymchwil  blaengar hwn yn fenter sy’n cael effaith yn y byd go iawn.  

Wrth i Pennotec hyrwyddo’r arloesedd hwn, maent yn ceisio mewnbwn gan gynhyrchwyr bwyd gyda diddordeb posibl mewn gwerthuso’r dechnoleg adfer maetholion arloesol i sicrhau mabwysiadu llwyddiannus yn y farchnad. I fynegi diddordeb mewn dysgu rhagor, cysylltwch â ni ar jonathan.hughes@pennotec.com

Troi Gwastraff yn Lliw: Bio-arloesiCylchol Madarch Cymru

Mae Yr Ardd Fadarch Eryr Cyf sy’n masnachu fel Madarch Cymru, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Sialens Technoleg Bwyd-Amaeth Contractau ar gyfer Arloesi Cymru (a elwid gynt yn SBRI COE), wedi datblygu proses arloesol sy’n trawsnewid sgil-gynhyrchion ffermio madarch yn bigmentau naturiol a chynhyrchion bio-actif.

Varieties of mushroom

Mae’r prosiect GWASTRAFF-I-LIW yn dangos sut gall swbstrad madarch (SMS), sgil- gynnyrch sy’n aml yn cael ei daflu ar ôl ei drin, ddod yn ddeunydd crai gwerthfawr ar gyfer cynhyrchu lliwiau cynaliadwy, carbon isel. Gan ddefnyddio system syml eplesu cyflwr solid mewn hambwrdd, mae’r tîm wedi llwyddo i dyfu ffwng sy’n cynhyrchu pigment er mwyn cynhyrchu llifynnau naturiol coch-oren llachar, sydd â photensial i’w 

ddefnyddio mewn colur, tecstilau a fformwleiddiadau cynhyrchion naturiol.

Yn ystod Cam 2 y prosiect, cynhyrchwyd ar raddfa fwy, o lefel labordy i lefel cynllun peilot. Troswyd dros 20 kg o SMS i gynhyrchion pigment ac ensymau o werth uchel, sy’n dilysu’r broses fel un hyfyw yn dechnolegol ac yn amgylcheddol. Mae’r ymagwedd egni-isel, toddydd -isel yn cynorthwyo economi gylchol Llywodraeth Cymru a nodau Sero-Net trwy leihau gwastraff a chreu cyfleoedd ar gyfer bio-weithgynhyrchu cymunedol.

Bydd y camau nesaf yn cynnwys ehangu’r amrywiaeth o liw, archwilio pigmentau gwyrdd a glas o feicrobau eraill a datblygu safleoedd “hwb-micro” datganoledig ger ffermydd madarch. Mae Madarch Cymru yn anelu at adeiladu diwydiant bio-ddeunyddiau newydd yng Nghymru lle mae cynaliadwyedd a chreadigrwydd yn tyfu ochr yn ochr, gan gefnogi cyflogaeth leol ac arloesedd gwledig. Wrth i Madarch hyrwyddo’r arloesedd hwn, mae’n ceisio mewnbwn gan randdeiliaid er mwyn llywio cynllun masnacheiddio a fydd yn sicrhau y caiff ei fabwysiadu’n llwyddiannus gan y farchnad. I fynegi diddordeb ac i ddysgu mwy, cysylltwch â Cynan@yrarddfadarch.cymru

Daw’r prosiect arloesol hwn â phartneriaid o’r sectorau preifat, academaidd ac amaethyddol yng Nghymru at ei gilydd, i weithio tuag at gyflawni Ffyrdd o Weithio Lles Cenedlaethau’r Dyfodol.

Nôl I'r cynnwys

Digwyddiadau, Gweminarau a Gweithdai - archebwch nawr!

Archwilio Allforio Cymru 2026

Dydd Iau 12 Mawrth – Stadiwm Dinas Caerdydd

Dydd Mercher 18 Mawrth – Venue Cymru, Llandudno

Os yw eich busnes yn allforio neu os oes gennych ddiddordeb mewn masnachu dramor, ac yn dymuno cael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael, cofrestrwch ar gyfer ein cynhadledd!

Lle bynnag rydych chi ar eich taith allforio, mae Archwilio Allforio Cymru yn gyfle gwych i fusnesau rwydweithio â’i gilydd; cewch y newyddion a chyngor diweddaraf ynghylch allforio; siarad â sefydliadau cefnogi; cael golwg ar gyfleoedd tramor; a darganfod offer i wneud eich busnes allforio yn fwy effeithiol.

Prif elfennau’r diwrnod:

  • Prif sesiwn – clywch gan allforwyr llwyddiannus Cymru yn rhannu eu profiad a chynghorion defnyddiol
  • Un-i-un gyda chynrychiolwyr marchnad tramor – gall mynychwyr gael sesiwn gyda chynrychiolwyr o farchnadoedd tramor i gael cipolwg ar gyfleoedd allforio
  • Arddangosfa – bydd sefydliadau cefnogi o ar draws ecosystem allforio Cymru, gan gynnwys cyllid, cyfreithiol, logisteg ar gael i gynorthwyo eich busnes
  • Parth Allforio Llywodraeth Cymru – cewch gyfarfod ein Hymgynghorwyr Masnach Ryngwladol a chael golwg ar ein hoffer cefnogi digidol
  • Gweithdai allforio – cyfres o sgyrsiau sy’n benodol ar gyfer darparu’r wybodaeth allweddol ddiweddaraf a chyngor ar fasnach ryngwladol

Dysgu mwy a Chofrestru

Iechyd fel eich Mantais Gystadleuol

📍 Ar lein (Microsoft Teams)

📆 Dydd Iau 26 Chwefror

🕤 9:30 am

A yw eich busnes yn barod i gadw i fyny â marchnad sy’n symud yn gyflym?

Mae tueddiadau defnyddwyr a pholisïau’r llywodraeth yn symud yn gyflym tuag at ddewisiadau bwyd a diod iachach. Mae manwerthwyr a gwasanaethau bwyd hefyd yn codi’r safon, gan fod disgwyl iddynt wneud mwy i helpu i wella dietau.

Yn y sesiwn hon, byddwn yn dangos i chi pam nad yw pwyso ar iechyd yn ymwneud â thicio blwch cydymffurfio yn unig – gall roi mantais gystadleuol wirioneddol i’ch busnes, ni waeth beth rydych chi’n ei wneud. Ac nid dim ond i frandiau sydd â chynhyrchion “iach” amlwg y mae hyn chwaith. Gall hyd yn oed camau bach, fel cyflwyno fersiwn siwgr is i ystod o frownis siocled, wneud gwahaniaeth mawr.

Archebwch eich lle yma

Cymorthfeydd Cychwyn Busnes

Ymunwch a Chymorthfeydd Cychwyn Busnes Canolfan Bwyd Cymru i archwilio'r

cyfleusterau, yr arbenigedd a'r cymorth sydd ar gael*.

Beth sydd wedi'i gynnwys:

  • Cyflwyniad byr a thaith dywys
  • 1-2-1 gyda Thechnolegydd Bwyd
  • Cyngor gan Cywain a Busnes Cymru
  • Lluniaeth a chinio ysgafn

📆 18 Mawrth 2026

Archebwch eich lle:

📧 gen@foodcentrewales.org.uk

☎️ 01559 362230

*Ar gyfer busnesau bwyd a diod cymwys yng Nghymru yn unig.

Nôl I'r cynnwys

Ein newyddlen nesaf

Bydd y newyddlen hwn yn ein rhifyn olaf tan ar ôl yr etholiad. Bydd ein rhifyn nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin.

Efallai y bydd ein cyfryngau cymdeithasol ychydig yn dawelach hefyd drwy gydol mis Ebrill a mis Mai.

Nôl I'r cynnwys

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Cylchlythyr ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru gyda newyddion, digwyddiadau a materion yn ymwneud â'r diwydiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru

 

Dilynwch ni ar Facebook:

@bwydadiodcymru

 

Dilynwch ni ar LinkedIn

Bwyd a Diod Cymru | Food and Drink Wales