|
Rydym wedi gweithio gyda phobl ifanc i greu’r Fframwaith NYTH.
Nerth
Ymddiried
Tyfu'n ddiogel
Hybu
Mae'n ymwneud â sicrhau bod pawb sy'n rhan o fywyd person ifanc yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi ei iechyd meddwl.
Mae gweithwyr ieuenctid yn cefnogi iechyd meddwl. Chi yn aml sy’n sylwi gyntaf pan fydd rhywbeth o'i le, ac rydych yn oedolyn y gall pobl ifanc ymddiried ynddo.
Rydym am sicrhau bod gweithwyr ieuenctid yn rhan o system gysylltiedig drwy NYTH. Byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno:
Unrhyw gwestiynau? NYTH.IechydMeddwl@llyw.cymru.
Ym mis Mehefin 2025, o dan y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid, gwnaethom gyhoeddi un Fframwaith Atal ar gyfer gweithgarwch cyfiawnder ieuenctid. Mae ystod eang o dystiolaeth ynglŷn â'r hyn sy'n gweithio i atal plant a phobl ifanc rhag dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder, ac ystod eang o weithgarwch yn cael ei ddarparu mewn meysydd fel gwaith ieuenctid, addysg, camddefnyddio sylweddau, iechyd a chymorth i deuluoedd, sy'n cael effaith ataliol.
Mae'r Fframwaith Atal yn creu un safbwynt cydgysylltiedig ar y ffordd rydym yn atal pobl ifanc rhag ymwneud ag ymddygiad troseddol a'u helpu tuag at fywydau cyflawn heb droseddu.
Mae'r Fframwaith yn adlewyrchu'r dirwedd strategol a gweithredol yng Nghymru, gan gynnwys ein Cynllun Plant a Phobl Ifanc a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'n parhau i gefnogi gwaith pellach i wella sut mae atal yn gweithio yn ymarferol.
Y FFRAMWAITH ATAL
Mae dros £1bn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru bob blwyddyn. Mae'r ymgyrch Hawlia dy Arian yn annog teuluoedd i wirio beth gallen nhw gael drwy linell gymorth am ddim Advicelink Cymru. Gallwch helpu drwy ddefnyddio deunyddiau ein hymgyrch ar sianeli eich sefydliad. Ewch i'n gwefan am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch.
Mae'r gwaith i sefydlu corff cenedlaethol newydd i wella'r cynnig gwaith ieuenctid i bobl ifanc ledled Cymru yn mynd rhagddo'n dda.
Mae Bwrdd Cyflawni pwrpasol wedi'i sefydlu i ysgogi cynnydd ac arwain ar gylch gwaith, cyllid a threfniadau llywodraethu y corff. Gallwch weld cyhoeddiadau diweddar am y corff newydd a'r Bwrdd Cyflawni ar wefan Llywodraeth Cymru.
Y newyddion diweddaraf
Cadwch lygad ar y Bwletin Gwaith Ieuenctid a thudalennau gwe y Bwrdd Cyflawni i gael y newyddion diweddaraf ar gynnydd.
 |
|
Dweud eich dweud
Bydd eich barn, eich sylwadau a'ch syniadau yn hanfodol wrth i sicrhau bod y corff cenedlaethol hwn yn cefnogi’r sector gyfan a sicrhau dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o waith ieuenctid. Bydd gwybodaeth pellach am sut y gallwch gyfrannu at ddylunio’r corff cenedlaethol a sicrhau ei fod yn gyrru’r sector yn ei flaen yn cael eu rhannu mewn rhifynnau o'r Bwletin yn y dyfodol.
|
Mae darpariaeth DARPL ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn cefnogi dysgu proffesiynol parhaus trwy ymgynghori ag arweinwyr, cydweithio â sefydliadau cymunedol a Llywodraeth Cymru, gwaith ymchwil, datblygu polisïau, cynllunio camau gweithredu, datblygu strategaeth ddiwylliannol ar y cyd, a dysgu ar bob lefel. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesa i gynnig gofod anffurfiol ac agored i drafod, a chefnogaeth i gyfrannu'n gadarnhaol at Gynllun Gweithredu Cymru yn erbyn Hiliaeth (ArWAP) Llywodraeth Cymru a dyheadau ym mywyd cymunedol ar gyfer Cymru Wrth-Hiliol erbyn 2030.
Am wybodaeth bellach ac i gadw lle dilyna’r dolenni isod.
Caerdydd – Dydd Iau 5 Chwefror 4-6pm
Abertawe – Dydd Gwener 6 Chwefror 9.30am-12.30pm
Bydd dyddiadau eraill ar gyfer gogledd a chanolbarth Cymru yn dilyn – bydd gwybodaeth pellach ar gael ar dudalen digwyddiadau DARPL.
Mae grŵp ‘Young Creators’ Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi gweithio gyda gweithwyr ieuenctid i gynhyrchu ffilm fer sy’n tynnu sylw at y gyfraith a’r ystyriaethau diogelwch sy’n ymwneud ag e-feiciau ac e-sgwteri. Datblygwyd y prosiect gyda thîm Diogelwch Cymunedol Cyngor Caerdydd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â cherbydau trydanol ac i hyrwyddo diogelwch y cyhoedd.
Mae’r ffilm yn esbonio ble y gellir defnyddio cerbydau trydanol yn gyfreithlon, y gofynion oedran, a’r risgiau sy’n gysylltiedig ag e-feiciau anghyfreithlon neu wedi’u haddasu. Mae’n annog pobl ifanc a theuluoedd i gadw defnydd o gerbydau trydanol yn hwylus, yn ddiogel, ac yn gyfreithlon. Bydd y ffilm yn cael ei rhannu drwy sianeli Cyngor Caerdydd a’r gwasanaeth ieuenctid i gefnogi sgyrsiau am reidio cyfrifol.
Gwyliwch y ffilm: https://youtu.be/LIEGTWbsa30
In October 2025, Denbighshire Youth Service brought together young people from across North Wales to record a podcast exploring the role, benefits and impact of Youth Councils. The session also provided space to consider opportunities for stronger regional collaboration.
Following the event, Youth Councils from Anglesey, Gwynedd, Conwy, Denbighshire, Flintshire and Wrexham began work towards establishing a North Wales Youth Council network, with an initial meeting planned for February 2026. The podcast is available on Denbighshire Youth Service’s YouTube channel and supports wider engagement with youth voice and participation across the region.
Watch the podcast:
Find out more: www.denbighshire.gov.uk/youth-service
 |
|
Pobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru yn cymryd rhan mewn recordiad podlediad Cynghorau Ieuenctid a gynhaliwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych, yn archwilio llais ieuenctid, cyfranogiad a chydweithio rhanbarthol. |
Ym mis Tachwedd 2025, ailsefydlodd Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf Fforwm Ieuenctid y Sir, gan ddod â 55 o bobl ifanc o 11 ysgol uwchradd a fforymau ieuenctid ynghyd. Cynhaliwyd y sesiwn yn Siambr y Cyngor, gyda ffocws ar ddemocratiaeth a bwyta’n iach mewn ysgolion, gan gyd-fynd â thrafodaethau craffu sydd ar y gweill.
Cymerodd pobl ifanc ran mewn dadleuon, cyfarfod cyngor ffug a thrafodaethau uniongyrchol gyda chynghorwyr ac uwch-swyddogion. Cryfhaodd y fforwm ddealltwriaeth pobl ifanc o’r broses gwneud penderfyniadau lleol ac mae wedi arwain at wahoddiadau pellach i gynnwys pobl ifanc mewn gwaith craffu’r cyngor, gan gefnogi cyfranogiad ystyrlon a dylanwad ar lefel leol.
Mae’r gwaith hwn yn tynnu sylw at sut y gall gweithwyr ieuenctid gefnogi cyfranogiad ystyrlon drwy greu cyfleoedd strwythuredig i bobl ifanc i ymgysylltu â gwneuthurwyr penderfyniadau go iawn ar faterion sy’n bwysig iddynt. Mae defnyddio lleoliadau dilys ac agendâu lleol byw yn helpu pobl ifanc i ddeall democratiaeth yn well ac i weld effaith eu lleisiau. Mae’r dull hwn yn dangos sut y gall fforymau ieuenctid cynaliadwy symud y tu hwnt i ymgynghori, gan gefnogi hyder, dysgu dinesig a dylanwad gwirioneddol o fewn prosesau gwneud penderfyniadau lleol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Nicola.J.Murphy@rctcbc.gov.uk.
 |
Mae EYST Cymru wedi cyhoeddi Do You See My Trauma? The Lived Realities of Minority Ethnic People, adroddiad ymchwil sy’n archwilio profiadau o hiliaeth a thrawma hiliol a wynebir gan unigolion a theuluoedd o leiafrifoedd ethnig ledled Cymru. Mae’r canfyddiadau’n amlygu effaith hiliaeth ar draws addysg, plismona, iechyd a gofal cymdeithasol, cyflogaeth a mannau cyhoeddus.
Comisiynwyd yr adroddiad gan Adverse Childhood Experiences (ACE) Cymru, a bydd yn llywio gwaith i gefnogi Cymru wrth-hiliol sy’n ystyriol o drawma. Mae’n cyfrannu at ymrwymiadau cenedlaethol o dan Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cyfiawnder Troseddol ac yn cefnogi sefydliadau i adnabod ac ymateb yn well i drawma hiliol.
 |
Mae Adran Brentisiaethau’r Urdd yn darparu prentisiaethau Gwaith Ieuenctid Lefel 2 a Lefel 3, wedi’u hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n dymuno gweithio, fel Gweithwyr Cymorth Ieuenctid. Rhaid i brentisiaid fod mewn cyflogaeth â thâl am o leiaf 16 awr yr wythnos a gallant gwblhau Lefel 2 mewn 15 mis, Lefel 3 mewn 16 mis, neu raglen gyfunol o fewn 16 mis. Nid oes terfyn oedran, ac mae’r rhaglen yn agored i staff o sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid ledled Cymru. Cefnogir prentisiaid i gael cofrestriad dros dro gyda’r EWC, gan symud ymlaen i gofrestriad llawn ar ôl cwblhau’r rhaglen, gan gryfhau ymarfer gwaith ieuenctid a chapasiti’r gweithlu.
 |
Mae’r Council for Wales of Voluntary Youth Services (CWVYS) wedi sefydlu cyfres o weminarau a digwyddiadau wyneb i wyneb i helpu sefydliadau’r sector gwirfoddol i baratoi ar gyfer y fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid, a ddaw i rym erbyn Ebrill 2026. Bydd y digwyddiadau’n rhoi cyfle i drafod a dadlau’r cyfleoedd a gyflwynir gan y fframwaith newydd, unrhyw rwystrau posibl a gallai godi, a datrysiadau a chamau ymlaen.
Gweminarau (ar gyfer sefydliadau’r sector gwirfoddol yn unig): 10 Chwefror 10.00–11.00yb. Cofrestru drwy: https://www.eventbrite.co.uk/e/statutory-framework-for-youth-work-in-wales-tickets-1980653114784?aff=oddtdtcreator
11 Chwefror 2.00–3.00yp. Cofrestru drwy: https://www.eventbrite.co.uk/e/statutory-framework-for-youth-work-in-wales-tickets-1980653114784?aff=oddtdtcreator
Wyneb i wyneb (ar gyfer pawb):
26 Chwefror – Abertawe. Tocynnau yma: Statutory Framework for Youth Work in Wales Tickets,
Thu, Feb 26, 2026 at 10:30 AM | Eventbrite 27 Chwefror – Caerdydd. Tocynnau yma: Statutory Framework for Youth Work in Wales Tickets,
Fri, Feb 27, 2026 at 10:30 AM | Eventbrite 11 Mawrth – Gorllewin Cymru (i’w gadarnhau)
12 Mawrth – Rhyl. Tocynnau yma: Statutory Framework for Youth Work in Wales Tickets, Thu, Mar 12, 2026 at 10:30 AM | Eventbrite
Agorodd y cyfle olaf i wneud cais am gyllid Taith Llwybr 1 ar 28 Ionawr, ac mae ar agor tan 16 Mawrth 2026. Mae Llwybr 1 yn cefnogi cyfnewidfeydd rhyngwladol ar gyfer dysgwyr, pobl ifanc a staff, yn y tymor byr a’r tymor hir.
Mae’r cyfleoedd hyn yn galluogi cyfranogwyr i rannu dysgu, profi diwylliannau gwahanol a datblygu sgiliau newydd. Mae canllawiau, adnoddau a gwybodaeth am weminarau i gefnogi ceisiadau ar gael drwy dudalen we Taith Llwybr 1 neu drwy gysylltu â james61@taith.wales.
Mae Youth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector i gasglu ystod eang a chynrychioliadol o gynnwys. Anogir sefydliadau i rannu diweddariadau perthnasol, cyfleoedd a straeon newyddion da sy’n cefnogi blaenoriaethau gwaith ieuenctid cenedlaethol.
Caiff manylion pellach am amserlenni cyflwyno a gofynion eu rhannu cyn pob rhifyn. Os hoffech gyfrannu at fwletin yn y dyfodol, cysylltwch drwy e-bost. Bydd canllaw arddull a gwybodaeth am gyfrif geiriau ar gyfer pob adran yn cael eu darparu.
Dylid anfon cynnwys at: GICYWW@youthcymru.org.uk
Dilynwch ddiweddariadau ar Facebook: https://www.facebook.com/GIC.YWW
Dyddiad cau ar gyfer y bwletin nesaf: Anfonwch gynnwys erbyn 17 Chwefror.
Cysylltwch drwy e-bost (gwaithieuenctid@llyw.cymru) os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf. Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni, gyda gwybodaeth am nifer geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.
Cofiwch ddefnyddio #GwaithIeuenctidCymru #YouthWorkinWales wrth drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Dilynwch @ieuenctidcymru ar X a Facebook i gadw i fyny gyda'r holl newyddion.
Ydych chi wedi Tanysgrifio i'r Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn sydyn yma
|