Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru

Ionawr 2026

 
 

Cylchlythyr Diogelwch Adeiladau – Rhifyn Lesddeiliaid

Grŵp Lesddeiliaid a Phreswylwyr

Cynhaliwyd trydydd cyfarfod y Fforwm Lesddeiliaid a Phreswylwyr ddydd Mawrth 9 Rhagfyr. Roedd llawer yn bresennol yn y fforwm oedd yn rhoi cyfle i lesddeiliaid ymgysylltu a rhannu eu barn.

Camau gweithredu:

  • Un o'r camau oedd rhannu adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai o gam cyntaf craffu ar y Bil Diogelwch Adeiladu (Cymru). Gallwch ddarllen yr adroddiad yma. Gellir dod o hyd i ddiweddariadau yn y dyfodol, gan gynnwys ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r adroddiad, yma.

  • Derbyniodd y cyfarfod ddiweddariad hefyd ar y cydweithio â Llywodraeth y DU i greu templed trwydded waith. Mae gweithgor gyda chynrychiolwyr datblygwyr, asiant rheoli a rhydd-ddeiliad wedi'i sefydlu. Darperir diweddariadau wrth i'r gwaith fynd rhagddo, fodd bynnag, mae'n bwysig nodi mai bwriad y templed sy'n cael ei ddatblygu yw gweithredu fel man cychwyn rhesymol ar gyfer trafodaethau i helpu partïon i gytuno ar delerau i ddatblygwr sy'n ofynnol gan y contract datblygwr. Ni fydd yn orfodol a lle mae trafodaethau eisoes y tu hwnt i'r camau cychwynnol, ni ddylid oedi trafodaethau er mwyn defnyddio'r templed.

Y cyfarfod nesaf

Cynhelir y Fforwm Lesddeiliaid a Phreswylwyr nesaf ar 10 Mawrth 2026. I gofrestru eich diddordeb cliciwch yma.

Fel arall, gallwch sganio'r cod QR isod:

QR code

Canllawiau

Mae cyfres o ganllawiau ar gael ar ein tudalen we sy'n ymwneud ag adeiladau a gwmpesir gan Gontract Cyweirio Datblygwyr Llywodraeth Cymru. Mae'r canllawiau yn ymdrin ag anghydfodau rhwng datblygwyr a thrydydd partïon, anghenion preswylwyr yn ystod gwaith adfer a chefnogaeth i Endidau Cyfrifol wrth gyweiro diffygion diogelwch tân hanfodol i fywyd.

Cysylltu â ni

Gellir cysylltu â'r tîm Diogelwch Adeiladu yn BuildingSafety@llyw.cymru

 
 
 

AMDANOM NI

Mynd i’r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau canolig ac uchel a diwygio’r system diogelwch adeiladu gyfredol, fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/tai

 

Cysylltu:

BuildingSafety@llyw.cymru

Dilynwch ni ar X:

@LlC_Cymunedau