Neges oddi wrth Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
 |
|
Wrth i ni agosáu at ddiwedd 2025, rwyf am gymryd eiliad i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn eithriadol i sector bwyd a diod Cymru ac i ddiolch i bob un ohonoch am eich ymroddiad, eich creadigrwydd a'ch angerdd parhaus. |
Mae eleni wedi arddangos y gorau o gynnyrch Cymru ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. Ym mis Hydref, cefais y fraint o ymweld ag Anuga yn yr Almaen – sioe fasnach bwyd a diod fwyaf y byd – lle dangosodd busnesau Cymru eu huchelgais a'u hansawdd ochr yn ochr â dros 7,900 o arddangoswyr o bob cwr o'r byd. Roedd yn ysbrydoledig cwrdd â chynhyrchwyr o Gymru ym mhafiliwn Cymru Wales, o frandiau arloesol fel Bloomin' Foods i enwau sefydledig fel Hufenfa De Arfon a What's Cooking?, i gyd yn gweithio i agor marchnadoedd allforio newydd a meithrin partneriaethau rhyngwladol.
Parhaodd y momentwm rhyngwladol hwn yn Blas Cymru / Taste Wales 2025, a ddaeth â dros 150 o gynhyrchwyr o Gymru a 300 o brynwyr o bob cwr o'r byd ynghyd yn ICC Cymru. Mae'r canlyniadau wedi bod yn wirioneddol ryfeddol – cafodd gwerth dros £45 miliwn o werthiant a chyfleoedd busnes eu cadarnhau, a gynhyrchwyd drwy 2,700 o gyfarfodydd masnach deinamig. Mae dros 200 o ystodau cynnyrch newydd sy'n cynnwys 3,000 o gynhyrchion arloesol yn dangos yr uchelgais a'r creadigrwydd sy'n diffinio ein sector. Roedd Gwobr Cynnyrch Newydd y digwyddiad, a enillwyd gan Flavour Moments gyda'u Perlau Caws Gafr arloesol, yn enghraifft o'r ysbryd entrepreneuraidd sy'n ffynnu yng Nghymru.
 Mae ein cynhyrchwyr wedi ennyn cydnabyddiaeth eithriadol trwy gydol 2025. Enillodd Sorbed Cyrens Duon a Chasis cwmni hufen ia llaeth moethus Mario's y wobr Fforc Aur fawreddog o Gymru yng Ngwobrau Great Taste, tra bod cynhyrchwyr o Gymru wedi ennill cyfanswm trawiadol o 146 o wobrau – sef y nifer uchaf erioed, gan atgyfnerthu enw da Cymru am ragoriaeth a chrefftwaith.
Mae rhoi statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig i Jin Botanegol Brodorol Dyfi, Wystrys Brodorol Sir Benfro ac Wystrys Creigiau Sir Benfro, a Mêl Grug Cymru yn nodi carreg filltir arwyddocaol arall, gan ymuno â'n teulu cynyddol o gynhyrchion gwarchodedig o Gymru ac yn dathlu'r rhinweddau unigryw sydd wedi'u gwreiddio yn ein tirwedd a'n treftadaeth.
 Mae ein hymrwymiad i gryfhau rhwydweithiau bwyd lleol hefyd wedi cynyddu'n sylweddol. Gyda £2 filiwn wedi'i fuddsoddi mewn Partneriaethau Bwyd Lleol eleni, mae gan bob awdurdod lleol bartneriaeth weithredol bellach, gan adeiladu systemau bwyd gwydn a chefnogi cymunedau ledled Cymru.
Y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd (FBAS) yw ein cynllun grant cyfalaf sydd wedi bod yn cefnogi ein diwydiant Bwyd a Diod ers 2022. Mae'r FBAS yn talu am fuddsoddiadau cyfalaf mewn seilwaith a chyfarpar prosesu, sy'n canolbwyntio ar gynhyrchiant a chynaliadwyedd, ac yn cefnogi prosiectau sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Rydym wedi buddsoddi dros £7m mewn 28 o fusnesau hyd yn hyn ac mae'r cynllun diweddaraf yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Wrth edrych ymlaen at 2026, byddwn yn parhau i hyrwyddo eich llwyddiant drwy ein Rhaglen Datblygu Masnach, cynrychiolaeth yn Gulfood Dubai ym mis Chwefror a Chyngres Cogyddion y Byd ym mis Mai, lle bydd Cymru'n cael ei chynrychioli ar y llwyfan coginio byd-eang, a'n Cynhadledd Blas Cymru / Taste Wales bob dwy flynedd yn yr Hydref.
Diolch am eich cyfraniad eithriadol i ddiwydiant bwyd a diod ffyniannus Cymru. Rwy'n dymuno tymor yr ŵyl heddychlon a llwyddiant parhaus i chi i gyd yn y flwyddyn i ddod.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Nôl I'r cynnwys
A hithau nawr yn fis Rhagfyr, mae'n rhyfeddol myfyrio ar ba mor bell rydyn ni wedi dod ers mis Ionawr. Nawr, dyma ni yn paratoi ar gyfer y Nadolig ac yn ffarwelio â 2025. Gan symud gam wrth gam o un digwyddiad i'r llall, mae blwyddyn arall yn dod i ben. Mae pob un ohonom ar daith - boed hynny'n cynnwys dechrau neu dyfu busnes, trawsnewid syniadau'n realiti, neu gynnal ein mentrau i gefnogi ein cymunedau.
 |
|
Dechreuodd fy nhaith fy hun fel foodie cyn i mi droi'n 10 oed, wedi fy ysbrydoli gan puff-puffs blasus fy Nana a werthais yn ystod gwyliau ysgol (rhywbeth nad yw'n hollol gyfreithlon, fel y dysgais flynyddoedd wedyn!). Mae'r llwybr hwn wedi mynd â mi o arlwyo ar gyfer Ystâd y Goron i addysgu am |
fwydydd amrywiol, gan gynnwys bwyd Indiaidd ac Affricanaidd, lansio fy mrand bwyd fy hun Maggie's African Twist yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon i ysgrifennu tri llyfr coginio ac ym mis Tachwedd 2020, fe ddes i'n aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.
Mae wedi bod yn daith o ddarganfod, wedi'i llenwi â deinameg adeiladu a chwalu rhwydweithiau. Eleni gyrrais dros bedair awr i fynychu Blas Cymru am y tro cyntaf—y daith hiraf rydw i wedi'i gwneud mewn dau ddegawd. Trwy gydol y broses hon, rwyf wedi dod ar draws cynhyrchwyr a chyflenwyr gwych, ac er bod 2025 wedi bod yn daith wyllt, mae wedi bod yn allweddol i mi gofio: nid pen y daith yw'r unig peth pwysig, mae'n bwysig mwynhau'r daith hefyd.
Wrth inni agosáu at ddiwedd 2025, rwy'n eich annog i dreulio ychydig eiliadau i werthfawrogi eich taith eich hun, p'un a ydych chi'n dechrau, tyfu, neu ddirwyn eich busnes i ben. Cymerwch anadl, edrychwch i fyny, ac aroglwch y glaswellt gwlyb (os ydych chi yng Nghymru! 😁). Bydd y cylch yn dechrau o'r newydd, ac os ydych chi wedi dod o hyd i lawenydd ym mhrofiad eleni, bydd yn tanio eich gobaith a'ch ysbrydoliaeth ar gyfer 2026.
Gadewch i ni barhau â'n taith ar y cyd i gynhyrchu ac arddangos y gorau o fwyd a diod Cymru. Dymunwn Nadolig gwych i chi!
Mwynhewch y daith
Maggie O
Nôl I'r cynnwys
Yng Nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru (WRFFC) eleni, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, fod Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i sicrhau £2 miliwn o gyllid ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol yn 2025–26. Mae hyn yn cyflawni ymrwymiad o fewn y Strategaeth Bwyd Cymunedol, sy'n ceisio atgyfnerthu rhwydweithiau bwyd lleol a mynd i'r afael â thlodi bwyd.
 |
|
Mae gan bob awdurdod lleol Bartneriaeth Bwyd Lleol weithredol, sy'n dod â ffermwyr, sefydliadau cymunedol, busnesau a chyrff cyhoeddus ynghyd i adeiladu systemau bwyd gwydn. Mae'r partneriaethau hyn eisoes yn gwneud gwahaniaeth: |
Mae 22 o brosiectau ar raddfa fach wedi derbyn grantiau o hyd at £22,500, gan gefnogi syniadau arloesol megis treialu cynllun i ddarparu bocsys o lysiau rhatach a mapio'r ddarpariaeth garddwriaeth fwytadwy bresennol a phosibl.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
"Mae cyfleoedd ar gael i annog cyflenwi bwyd yn lleol drwy greu cysylltiadau rhwng cynhyrchwyr lleol, busnesau bwyd a diod a'r rhwydwaith o fentrau bwyd cymunedol.
"Gellir defnyddio cysylltiadau bwyd gwell o fewn cymunedau i annog dewisiadau bwyd iachach, i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac i gefnogi cynhwysiant cymdeithasol. Yn bwysig, gall annog dulliau cynhyrchu amgylcheddol gyfrifol, drwy dyfu cymunedol a garddwriaeth, gynnig buddion i'n hamgylchedd naturiol.
"Mae hyn i gyd yn cyd-fynd â'n huchelgais i gysylltu cymunedau, ysgogi cynnydd ar gyfer Cymru iachach, creu swyddi a thwf gwyrdd, a chynnig cyfle i bob teulu."
Nôl I'r cynnwys
Ydych chi'n gynhyrchydd bwyd a diod yng Nghymru gydag uchelgais i dyfu?
Bydd rownd nesaf y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd yn ailagor ar 10 Tachwedd 2025, gan gynnig cymorth grant i helpu eich busnes i ehangu a ffynnu.
Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i:
- gwella perfformiad, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ei fusnesau a’u gwneud yn fwy cystadleuol
- helpu i ymateb i'r galw ymhlith defnyddwyr
- annog i arallgyfeirio
- adnabod a gwasanaethu marchnadoedd newydd a marchnadoedd cyfredol a manteisio arnynt.
Mae hon yn broses ymgeisio dau gam, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y nodiadau cyfarwyddyd llawn cyn cwblhau'r cam cyntaf - Datganiad o Ddiddordeb (DoD), i sicrhau bod eich prosiect yn gymwys o fewn canllawiau ac amserlen y cynllun.
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn, dechreuwch baratoi eich cais heddiw.
Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd
Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau at: fbas@llyw.cymru
Nôl I'r cynnwys
 Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos yn Foodex, Japan – 10-13 Mawrth 2026.
Foodex, Japan yw’r platfform eithaf ar gyfer busnes, masnach, rhwydweithio ac arloesi, gan ddenu arweinwyr diwydiant a gweithwyr proffesiynol o bob cwr o’r byd. Denodd digwyddiad y llynedd fwy na 72,000 o brynwyr. Gyda dros 3,000 o frandiau byd-eang mawr o 80 o wledydd a rhanbarthau ledled y byd, mae Foodex 2026 yn arddangosfa na ddylid ei cholli.
Foodex, Japan PDF
E-bostiwch am ffurlen gais neu ragor o wybodaeth:
shirley.mcgilvray@llyw.cymru
Nôl I'r cynnwys
 Rydym yn falch o gyhoeddi bod ceisiadau mynegi diddordeb ar agor i fusnesau Bwyd a Diod i arddangos ar stondin Cymru Wales. Mae’r digwyddiad hwn, a gynhelir yn NEC Birmingham ar 13–15 Ebrill, yn gyfle gwych i arddangos y gorau sydd gan Bwyd a Diod Cymru i’w gynnig i gynulleidfa genedlaethol o brynwyr, manwerthwyr a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Mae’r Sioe Siop Fferm a Deli yn enwog am ddenu penderfynwyr o sectorau manwerthu annibynnol, lletygarwch a gwasanaeth bwyd ledled y DU. Drwy arddangos ar stondin Cymru Wales, byddwch yn elwa ar bresenoldeb cryf ar y cyd, brandio pwrpasol, a chymorth i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch effaith yn y sioe.
Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly peidiwch â cholli’r cyfle i hyrwyddo eich busnes.
Cyflwynwch eich Mynegiant o Ddiddordeb i ian.edwards@gov.wales erbyn 6 Ionawr 2026. Bydd manylion llawn, gan gynnwys meini prawf cymhwyster a chostau, ar gael yn gynnar yn 2026.
Ymunwch â ni i ddathlu rhagoriaeth Gymreig yn un o brif ddigwyddiadau Bwyd a Diod y DU!
Nôl I'r cynnwys
Mae busnesau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant lletygarwch yn cael eu hannog i gefnogi digwyddiad coginio byd-eang sy'n cael ei gynnal yng Nghymru y gwanwyn nesaf sydd wedi cael ei ddisgrifio fel "cyfle unwaith mewn cenhedlaeth".
 |
|
Mae 41ain Cyngres ac Expo Cogyddion y Byd 2026, ar y thema 'Porfa, Angerdd, Plât', yn cael ei chynnal gan Gymdeithas Goginio Cymru yn ICC Cymru, Casnewydd rhwng Mai 16-19, 2026. |
Dywed llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, Arwyn Watkins, OBE, (yn y llun uchod) fod y digwyddiad byd-eang yn rhoi cyfle i fusnesau roi eu cynnyrch o flaen y byd coginio. Bydd cyfleoedd i ymgysylltu wyneb yn wyneb â rhai o'r cogyddion mwyaf dylanwadol o bob rhan o'r byd.
“Os oes gan fusnes ddiddordeb mewn allforio a dod o hyd i farchnadoedd newydd ym Mhrydain Fawr yn y sector gwasanaeth bwyd, yna dyma'r digwyddiad i'w fynychu yn 2026," pwysleisiodd.
“Mae'n gyfle i Gymru fod yn ganolog ar draws 110 o aelod-wledydd Cogyddion y Byd. Bydd mwy na 800 o gynrychiolwyr o bob rhan o'r byd yn bresennol gyda 60% o'r cynrychiolwyr wedi'u nodi fel prynwyr a dylanwadwyr yn eu gwlad eu hunain."
Parhewch i ddarllen y datganiad i'r wasg a dod o hyd i ragor o fanylion am arddangos yn y Gyngres – gwefan allanol Cymdeithas Goginio Cymru. (Saesneg unig)
Nôl I'r cynnwys
 Bydd 30ain rhifyn o’r Gwobrau Caws Prydain ac Iwerddon yn agor ar gyfer ceisiadau ddydd Llun 12 Ionawr, gyda'r trefnwyr, Cymdeithas Frenhinol Caerfaddon a'r Gorllewin, yn gwahodd gwneuthurwyr caws i gyflwyno eu cynnyrch i gynllun gwobrau caws mwyaf y DU ac Iwerddon.
Bydd pob cais yn cael ei feirniadu ar Faes Sioe Caerfaddon a'r Gorllewin ger Shepton Mallet, Somerset, ar ddydd Gwener 20 Mawrth. Bydd gwerthwyr caws, gwneuthurwyr caws, purwyr, ffermwyr, manwerthwyr a sylwebwyr yn dod at ei gilydd i ddod o hyd i gawsiau gorau 2026, cyn Cinio Gwobrwyo Pen-blwydd 30 oed y noson honno, lle bydd enillwyr y tlws eleni yn cael eu cyhoeddi.
Cofrestrwch eich caws erbyn dydd Mawrth 17 Chwefror.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am fynediad a thocynnau ar gyfer y Cinio Gwobrwyo yn britishcheeseawards.com (saesneg unig)
Nôl I'r cynnwys
Cymorthfeydd Cychwyn Busnes, Canolfan Bwyd Cymru – 29 Ionawr a 18 Mawrth 2026
Ymunwch a Chymorthfeydd Cychwyn Busnes Canolfan Bwyd Cymru i archwilio'r
cyfleusterau, yr arbenigedd a'r cymorth sydd ar gael*.
Beth sydd wedi'i gynnwys:
- Cyflwyniad byr a thaith dywys
- 1-2-1 gyda Thechnolegydd Bwyd
- Cyngor gan Cywain a Busnes Cymru
- Lluniaeth a chinio ysgafn
Archebwch eich lle:
E-bost: gen@foodcentrewales.org.uk
Ffôn: 01559 362230
*Ar gyfer busnesau bwyd a diod cymwys yng Nghymru yn unig.
Nôl I'r cynnwys
Rydym wedi clywed adroddiadau pryderus o rai busnesau Bwyd a Diod yng Nghymru wedi bod yn destun sgamiau a physgota cath yn ddiweddar. Gall sgamwyr soffistigedig greu hunaniaethau ffug a gall yr hyn sy'n ymddangos fel gorchymyn dilys, mewn gwirionedd fod yn dwyllodrus.
Os ydych chi'n cysylltu â phrynwr neu gyflenwr newydd, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ymgymryd â'ch diwydrwydd dyladwy. Os ydych chi'n amau eich bod wedi dioddef gweithgaredd twyllodrus, cysylltwch â'r heddlu ar unwaith, mae cymorth hefyd ar gael gan Twyll Gweithredu. (Saesneg Unig)
Nôl I'r cynnwys
|