Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru

Tachwedd 2025

 
 

Cylchlythyr Diogelwch Adeiladau – Rhifyn Lesddeiliaid

Grŵp Lesddeiliaid a Phreswylwyr

Cynhaliwyd ail gyfarfod y Fforwm Lesddeiliaid a Phreswylwyr ddydd Iau 16 Hydref. Mae'r fforwm yn ofod i lesddeiliaid a'r rhai yr effeithir arnynt gan faterion cyweirio diogelwch tân i gysylltu â'i gilydd ac i drafod pryderon. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynychu, yn bennaf er mwyn gwrando i sicrhau bod y materion a godir yn cael eu cofnodi a lle y gellir cymryd camau posibl i fynd i'r afael â nhw. 

Dywedodd cadeirydd annibynnol y fforwm, John Howells "Mae wedi bod yn amlwg o ddau gyfarfod cyntaf y Fforwm Lesddeiliaid a Phreswylwyr bod y cyfarfodydd yn darparu lle gwerthfawr i rannu profiadau, codi pryderon a darparu cymorth gan gymheiriaid. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n teimlo y byddent yn elwa o gysylltu ag eraill mewn sefyllfa debyg i ymuno â ni ar-lein."

I gofrestru ar gyfer cyfarfod nesaf y Fforwm Lesddeiliaid a Phreswylwyr ar 9 Rhagfyr 2025 cliciwch yma

Amseriad cyfarfodydd y Fforwm Lesddeiliaid a Preswylwyr yn y dyfodol

Gan fod y Fforwm Lesddeiliaid a Phreswylwyr yn dal i fod yn gymharol newydd, rydym yn awyddus i ganfod yr amser mwyaf priodol o'r dydd ar gyfer y cyfarfodydd. Bydd cyfarfod mis Rhagfyr yn cael ei gynnal am 5.30pm – ond byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg syml hwn i gadarnhau pa amser fyddai'n ei wneud yn fwyaf hygyrch i chi.

https://forms.office.com/e/5DWTKymjdf

Sesiynau Galw Heibio

Cynhaliodd tîm Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru sesiynau galw heibio yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd, Caernarfon a Llandudno yn ystod y misoedd diwethaf. Hoffai'r tîm ddiolch i bawb a fynychodd, ac maent yn gweithio ar bwyntiau a godwyd yn y sesiynau.

Os hoffech ofyn am sesiwn yn eich ardal chi, cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio DiogelwchAdeiladau@llyw.cymru

Cael trafferth gwerthu eich eiddo? Efallai y gallai llythyr o gysur helpu....

Un pryder y mae lesddeiliaid yn aml yn ei godi gyda Llywodraeth Cymru yw eu bod yn cael anhawster wrth werthu eu heiddo. Mae Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig wedi cyhoeddi canllawiau prisio wedi'u diweddaru i gefnogi lesddeiliaid i gael mynediad at forgeisi a sicrhau gwerth marchnad teg i'w heiddo.

Os nad yw'ch eiddo wedi ei brisio ers i'r canllawiau gael eu cyhoeddi, edrychwch ar y canllawiau isod ac ystyriwch a fyddai prisiad wedi'i ddiweddaru yn ddefnyddiol. Mae’r canllawiau ar gael yma

Er mwyn helpu ymhellach gyda'r broses hon, gallwch gael llythyr cysur i roi sicrwydd i'r benthyciwr bod llwybr at waith cyweirio ar gael ar gyfer eich adeilad. Os yw'ch datblygwr yn cyweirio eich adeilad, dylai eich asiant rheoli allu cael llythyr o gysur ganddynt. Ar gyfer adeiladau amddifad neu adeiladau datblygwyr llai, gallwch siarad â'ch asiant rheoli neu e-bostio DiogelwchAdeiladau@llyw.cymru.

 
 
 

AMDANOM NI

Mynd i’r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau canolig ac uchel a diwygio’r system diogelwch adeiladu gyfredol, fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/tai

 

Cysylltu:

BuildingSafety@llyw.cymru

Dilynwch ni ar X:

@LlC_Cymunedau