|
Croeso i'n newyddlen Diogelwch Adeiladau - a gynlluniwyd i'ch hysbysu yn rheolaidd am gynnydd y Rhaglen Diogelwch Adeiladau a materion diogelwch tân sy'n effeithio ar bobl Cymru.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar X / Twitter gan ddefnyddio @LlC_Cymunedau
 Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Welsh Cladiators yr oeddwn yn falch o gynnal cyfarfod gyda hwy ym mis Gorffennaf. Fe wnaethant ofyn rhai cwestiynau anodd i mi a gwneud hi'n glir y byddant yn parhau i fynnu gweithredu ar fyrder gyda'r broses adfer yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar am yr angerdd a'r ymrwymiad hwnnw, a byddaf yn parhau i weithio'n ddiflino i ddod o hyd i'r atebion a sbarduno datblygiadau o fewn y rhaglen.
Dros y misoedd diwethaf bu fy swyddogion yn cynnal sesiynau galw heibio gyda thrigolion a lesddeiliaid yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd, gan roi cyfle i godi a thrafod unrhyw broblemau penodol ynghylch yr adeilad. Roeddwn yn falch iawn o weld bod y sesiynau hyn wedi cael derbyniad da. Isod gwelwch fanylion dwy sesiwn yng Ngogledd Cymru – hoffwn annog pawb sydd â ddiddordeb mewn diogelwch adeiladau i ddod a chael sgwrs â’r tîm yn y digwyddiadau hynny. Os hoffech ofyn am sesiwn yn eich ardal chi, cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio BuildingSafety@llyw.cymru
Rwyf hefyd yn falch o weld cyflwyno dangosfwrdd rhyngweithiol ar gyfer y rhaglen adfer. Mae'r dangosfwrdd yn darparu diweddariadau misol, gan ganiatáu i ddefnyddwyr archwilio data yn seiliedig ar eu diddordeb.
Rwy'n gobeithio y bydd y system adrodd data well hon yn ein galluogi i dargedu'r meysydd lle mae'r cynnydd wedi bod yn arafach ac i sicrhau fod y broses adfer o fewn y rhaglen yn cyflymu yn gyffredinol. Ceir rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar y wefan isod.
Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru)
Cafodd y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) ei gyflwyno ar 7 Gorffennaf, a daw a chyfundrefn diogelwch adeiladau newydd i Gymru, sy'n canolbwyntio ar feddiannu adeiladau preswyl amlfeddiannaeth (“y cam meddiannu”) a'u rheoli'n barhaus.
Mae’r Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar wefan y Senedd. Rydym hefyd wedi cyhoeddi tudalen we newydd sy'n darparu trosolwg o'r Rhaglen Diogelwch Adeiladu a dolenni defnyddiol i bynciau cysylltiedig.
Mae'r Senedd wedi dechrau craffu ar y Bil, a bydd yn gwrando ar farn rhanddeiliaid fel rhan o'r broses honno.
Ar 17 Gorffennaf 2025, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dystiolaeth i'r Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol. Gallwch weld y sesiwn neu ddarllen trawsgrifiad yma.
Mae dros 400 o bobl wedi ymuno â'n gweminarau ers cyflwyno'r Bil i'r Senedd. Mae'r gweminarau wedi darparu trosolwg o'r Bil a'r hyn y mae'n ei olygu i'r rhai a fydd yn cael eu heffeithio ganddo.
Tîm Arolygu ar y Cyd (JIT)
Mae'r Tim Arolygu ar y Cyd (JIT) yn parhau i arolygu adeiladau ledled Cymru, gyda rhaglen o arolygiadau wedi'u cytuno ar gyfer gweddill y flwyddyn.
Mae rhagor o wybodaeth am y Tîm Archwilio ar y Cyd ar gael yn www.jit.wales neu drwy gysylltu â info@jit.wales
Data Rhaglen Gyweirio
Ar hyn o bryd mae gennym 459 o adeiladau yn Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru. O'r adeiladau, mae 274 yn adeiladau deiliadaeth breifat a 185 o adeiladau cymdeithasol.
Mae nifer cyffredinol yr adeiladau wedi gostwng ychydig o 461 y chwarter diwethaf i 459 y chwarter hwn wrth i ni barhau i wirio cywirdeb y data a'r ffordd y mae adeiladau wedi'u categoreiddio.
O'r 459 o adailadau, mae 44% naill ai'n gyflawn neu mae gwaith yn mynd rhagddo, mae 47% yn y camau cynllunio, gyda'r 9% sy'n weddill naill ai ddim angen gwaith, neu nid yw'r anghenion cyweirio wedi'u nodi eto.
Mae'r ffigurau hyn yn agored i newid wrth i adeiladau pellach gael eu nodi, ac i ragor o wybodaeth gael ei chasglu.
Diagram 1 - Perfformiad ar lefel rhaglen
 Perfformiad Datblygwyr
Mae'r diagram isod yn darparu cyfanswm nifer a statws yr adeiladau ar gyfer pob un o'r datblygwyr mwy sydd wedi llofnodi contract Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ymgymryd â'r gwaith diogelwch tân y maent yn gyfrifol amdano.
Mae Barratt Redrow wedi nodi dau adeilad ychwanegol, gan ddod â'i gyfanswm newydd i 39.
Sylwer: Nid yw Westmark wedi llofnodi contract y datblygwr, fodd bynnag, mae'n adrodd i Lywodraeth Cymru ar gynnydd yn unol â gofynion y contract.
Diagram 2 – Perfformiad Datblygwyr Mawr
  Dangosfwrdd y Rhaglen Adfer
Er mwyn cynyddu tryloywder a pha mor aml i adrodd ar gynnydd y Rhaglen Adfer, rydym yn cyflwyno dangosfwrdd rhyngweithiol. Bydd y dangosfwrdd yn darparu diweddariadau misol sy'n caniatáu i ddefnyddwyr holi'r data yn ôl eu diddordeb, er enghraifft cynnydd ar sail lleoliad daearyddol, uchder adeiladau, categori cyllid ac ati.
Y bwriad yw ychwanegu ymarferoldeb ychwanegol i'r dangosfwrdd dros amser.
Os cewch unrhyw broblemau wrth gael mynediad i'r wybodaeth hon neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y dangosfwrdd rhyngweithiol, anfonwch e-bost at BuildingSafety@llyw.cymru.
Cyhoeddi dogfennau Canllawiau Adfer
Mae dwy ddogfen ganllaw newydd wedi'u cyhoeddi i gefnogi datblygwyr, personau cyfrifol, lesddeiliaid a thrigolion tra bod gwaith adfer diogelwch tân ar y gweill.
Mae’r canllawiau hyn ar gael yma:
Cyweirio diogelwch tân adeiladau preswyl yng Nghymru: canllawiau | LLYW.CYMRU
Canllawiau Contract Cyweirio Llywodraeth Cymru i Ddatblygwyr: datrys anghydfodau | LLYW.CYMRU
Bydd grŵp lesddeiliaid a phreswylwyr nesaf Cymru Gyfan yn cael ei gynnal ar 16 Hydref am 5:30pm – 7pm. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein yn unig.
Os hoffech fynychu’r sesiwn, cofrestrwch gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Grŵp Lesddeiliaid a Phreswylwyr ~ Leaseholder & Resident Group
 Sesiynau Galw Heibio
Cynhaliodd tîm diogelwch adeiladu Llywodraeth Cymru nifer o sesiynau galw heibio ym mis Awst a mis Medi, lle cafodd lesddeiliaid a thrigolion gyfle i drafod pryderon sy'n gysylltiedig â diogelwch tân. Mae'r Tîm yn ddiolchgar i'r rhai a ddaeth i rannu eu profiadau.
Bydd ein sesiynau galw heibio nesaf yn cael eu cynnal yng Ngogledd Cymru. Mae’r manylion isod:
- 20 Hydref: Sesiwn galw heibio i Lesddeiliaid / Preswylwyr, 5pm – 7pm. Clwb Hwylio Caernarfon, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1SR
- 21 Hydref: Sesiwn galw heibio i Lesddeiliaid / Preswylwyr, 10am – 12pm. Venue Cymru, Ystafell Rhuddlan, y Promenâd, Llandudno, LL30 1BB
Rydym yn bwriadu trefnu rhagor o sesiynau galw heibio yn y dyfodol. Os hoffech ofyn am sesiwn yn eich ardal chi, cysylltwch â ni yn DiogelwchAdeiladau@llyw.cymru
Daeth yr ymgynghoriad 'Cryfhau amddiffyniadau lesddeiliaid dros ffioedd, taliadau a gwasanaethau' i ben ar 26 Medi. Rydym nawr yn gweithio i ddadansoddi'r adborth a gawsom a byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r rhain ynghyd ag ymateb y llywodraeth maes o law.
Diolch yn fawr i bawb a gymerodd yr amser i gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori.
Mae disgwyl i Fil Diwygio Lesddaliad a Chyfunddaliad drafft gael ei gyhoeddi cyn diwedd eleni, ac mae'r gwaith tuag at weithredu'r holl fesurau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn parhau. Byddwn yn eich diweddaru â datblygiadau pellach ar y materion hyn wrth iddynt ddigwydd.
Diolch unwaith eto i bawb a roddodd ymateb i'n hymgynghoriad diweddar ar y drefn rheoli adeiladu newydd ar gyfer adeiladau risg uwch a newidiadau ehangach i'r rheoliadau adeiladu yng Nghymru. Mae eich barn wedi bod yn amhrisiadwy wrth i ni barhau i weithredu Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 yng Nghymru. Bydd ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi'n fuan.
Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi ymgynghoriad newydd ar ddiwygiadau i Ran L (Cadwraeth Tanwydd a Phŵer), Rhan F (Awyru) a Rhan O (Gorboethi) o'r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer anheddau newydd.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi ein cynlluniau i wella'r gofynion effeithlonrwydd ynni ar gyfer anheddau ac adeiladau annomestig newydd a phresennol. Mae hefyd yn cwmpasu'r effeithiau ehangach sy'n gysylltiedig â Rhan L, gan gynnwys newidiadau i Ran F (Awyru) a Rhan O (Gorboethi) y Rheoliadau Adeiladu a chanllawiau cysylltiedig o'r Ddogfen Gymeradwy.
Cewch ragor o fanylion yn y ddolen ganlynol:
Adolygiad 2025 o Ran L o'r Rheoliadau Adeiladu | LLYW.CYMRU
Mae amrywiaeth o ffyrdd y gall lesddeiliaid a phreswylwyr gael gafael ar gyngor a chymorth.
Gall lesddeiliaid a phreswylwyr gael mynediad at gymorth gan dîm diogelwch adeiladu Llywodraeth Cymru drwy e-bostio BuildingSafety@llyw.cymru. Os na all y tîm ateb eich cwestiwn yn uniongyrchol, byddant yn gallu eich cyfeirio at rywun a all helpu.
Rydym yn gwybod y gall llywio materion diogelwch adeiladu fod yn llawn straen i lesddeiliaid a phreswylwyr. Mae'r llinell gymorth CALL yn darparu cymorth emosiynol cyfrinachol ac ar agor 24/7. Ffoniwch am ddim: 0800 132 737. Mae gan wefan CALL hefyd wybodaeth ac adnoddau ar les meddyliol: https://www.callhelpline.org.uk/
|