 |
|
Fel un o’r egwyddorion cynnydd gorfodol, mae cynyddu dysgu effeithiol yn hanfodol i ddatgloi potensial Cwricwlwm Cymru; mae’n rhan ganolog o’r canllawiau dysgu 14 i 16. Pan fyddwn yn addysgu pobl ifanc i ddysgu’n fwy effeithiol, gallwn ryddhau eu gallu i ddysgu, gwneud cynnydd a chyflawni eu potensial.
|
 |
|
Asesiadau Personol
Mae’r system Asesiadau Personol ar-lein ar gau ar gyfer cynnal a chadw blynyddol tan 15 Medi. Gellir cael mynediad i’r adroddiadau o ddydd Llun 1 Medi a bydd y safle ar agor i amserlennu a chynnal yr asesiadau o ddydd Llun 15 Medi.
|
Gall y Grant Hanfodion Ysgol roi hyd at £200 mewn costau ysgol i rieni i helpu i dalu am bethau fel gwisg ysgol, cit chwaraeon a hanfodion ystafell ddosbarth. Gall eich ysgol gael cyllid ychwanegol hefyd. Chwiliwch 'Hawliwch Help gyda Chostau Ysgol' a gadewch i’ch plant ddysgu a mwynhau nid cyfri'r ceiniogau.
Gall pobl ifanc rhwng 16-21 oed deithio ar fysus ledled Cymru am ddim ond £1 y daith gyda fyngherdynteithio. Mae taleb dydd am ddim hefyd ar gael am £3. Mae'r cynllun hwn yn berthnasol i weithredwyr bysiau sy'n cymryd rhan ledled Cymru.
Mae ceisiadau ar gyfer y fwrsariaeth cadw athrawon Cymraeg mewn Addysg nawr ar agor. Os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gymwys, gallwch wneud cais erbyn 30 Medi 2025.
Dathlwch lythrennedd a rhannu pwysigrwydd darllen ac ysgrifennu i bawb, ym mhobman.
Mae CBAC ac Adnodd yn falch o gadarnhau bod cyfres o adnoddau digidol addasadwy RHAD AC AM DDIM ar gael trwy Hwb. Mae'r adnoddau hyn yn cynnwys Adnoddau Dysgu Cyfunol a Threfnwyr Gwybodaeth i gefnogi'r cymwysterau newydd i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi. Gellir cael mynediad at yr adnoddau hyn ar Hwb.
Yn ogystal â pharhad ein cronfeydd Rhowch Gynnig Arni ac Ewch i Weld, rydym yn falch o lansio ein rhaglenni newydd: Archwilio, Arbrofi ac Arbenigo. Cymerwch olwg ar yr hyn sydd ar gael i weld ble all y daith Dysgu Creadigol eich arwain chi eleni.
Restart a Heart Live
Digwyddiad CPR am ddim sy'n cael ei ddarlledu'n fyw ar YouTube sy'n benodol ar gyfer disgyblion uwchradd. Dim angen offer arbennig - clustog, teddy, bag neu gôt wedi'i rholio. Mae sesiynau'n para 20 munud ar bnawn dydd Mercher 1 Hydref. Cofrestrwch yma: www.restartaheart.live
Diweddaru Cod Ymddygiad CGA
Os ydych wedi cofrestru gyda CGA, mae'n hollbwysig eich bod yn ymgyfarwyddo â'r Cod wedi ei ddiweddaru. Mae'n ddogfen allweddol sy’n gosod y safonau, ymddygiadau, a'r gwerthoedd y disgwylir gennych.
I'ch helpu i d defnyddio'r Cod yn eich ymarfer, mae CGA wedi creu adnoddau cefnogol ar eu gwefan.
Yma gall penaethiaid a staff ysgolion ddod o hyd i wybodaeth am sut y gallant gefnogi timau nyrsio ysgolion.
SSCE Cymru diweddariad:
Yn cau 24 Hydref 2025
Yn cau 3 Tachwedd 2025
Gall dau fyfyriwr o'ch ysgol neu goleg ymuno â'r prosiect yn ystod hydref 2025 am gost o £59 y person. Bydd cyfranogwyr yn mynychu seminar mewn person yng Nghaerdydd, pryd bydd cyfle i gwrdd a chlywed gan goroeswyr yr Holocaust cyn mynd ar ymweliad un-dydd â Chofeb ac Amgueddfa Auschwitz-Birkenau yn Gwlad Pwyl. Mae cymorth teithio ar gael, a dyfernir lleoedd ar sail cyntaf i'r felin, gyda blaenoriaeth i ysgolion sydd ddim wedi cymryd rhan o'r blaen.
Wythnos Addysg Oedolion 15-21 Medi 2025
Rhannu a dod o hyd i gannoedd o gyfleoedd dysgu am ddim gyda dysgwyr, staff a rhanddeiliaid. Edrychwch beth sydd ar gael trwy ein hadnodd ar-lein.
Gwobrau Dewi Sant 2026
Mae Gwobr Gwasanaethu’r Cyhoedd yn dathlu gweithwyr yn y byd addysg ac ym maes iechyd. Dyma eich cyfle i enwebu pobl eithriadol yn eich ysgol chi sy'n haeddu gwobr genedlaethol Dewi Sant. Rhannwch eu stori, iddynt gael cydnabyddiaeth genedlaethol.
Bydd enwebiadau yn cau ar 26 Medi Gwobrau Dewi Sant
|