Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru

Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

23 Gorffennaf 2025


Royal Porthcawl Golf Club.

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


Pencampwriaeth Agored yr AIG i Fenywod, 30 Gorffennaf - 3 Awst 2025 – sut i gymryd rhan

Gyda’r paratoadau terfynol ar y gweill, rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd i Gymru wrth i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl gynnal un o’r digwyddiadau mwyaf mawreddog ym myd golff, sef Pencampwriaeth Agored yr AIG i Fenywod.

Dyma’r tro cyntaf i’r Bencampwriaeth gael ei chynnal yng Nghymru ac fel y digwyddiad chwaraeon menywod mwyaf i’w gynnal yn y wlad, bydd yn denu’r golffwyr gorau yn y byd a miloedd o ymwelwyr i’n harfordir godidog yn ystod ein Blwyddyn Croeso.

Sicrhewch eich tocynnau nawr ac nid yw'n rhy hwyr i ddarganfod sut y gall eich busnes gymryd rhan ac elwa o Gymru yn cynnal y digwyddiad.


Y Senedd yn pasio deddfwriaeth i gefnogi dyfodol twristiaeth yng Nghymru

Bellach, bydd gan gynghorau'r opsiwn i gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos, a fydd yn codi arian y gellir ei ail-fuddsoddi mewn treuliau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth – fel gwella toiledau, llwybrau troed, traethau, canolfannau ymwelwyr a gweithgareddau.

Mae'r Bil yn cyflwyno cofrestr statudol genedlaethol ar gyfer pob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru. Bydd hi am ddim i ymuno a bydd yn darparu data gwerthfawr ar y sector. Bydd cofrestru yn ofyniad cyfreithiol i bob darparwr, boed i awdurdod lleol penderfynu gwneud cais am ardoll ymwelwyr ai peidio.

Darllenwch fwy yma


Twristiaeth gyfrifol yng Nghymru

Rydym yn cynnal ymgyrch Addo dros yr haf, gyda phwyslais ar ddiogelwch yn yr awyr agored. Gan ei fod nawr yn wyliau haf ac ysgolion bellach ar gau, mae’n amser allweddol i atgoffa ymwelwyr sut i fwynhau Cymru’n gyfrifol.

Rydym yn annog busnesau twristiaeth i rannu negeseuon diogelwch gyda’u hymwelwyr - gan helpu i ddiogelu ein tirweddau, ein cymunedau, a’n gilydd. Gallwch hefyd helpu drwy hyrwyddo sianeli cyfryngau cymdeithasol newydd Adventure Smart ar Facebook ac Instagram, sy’n cynnig cyngor ymarferol ar sut i gadw’n ddiogel wrth fwynhau'r awyr agored.

Dysgwch fwy a chymerwch ran


Cyfle i ymuno a Bwrdd Cynghorol Cymru ar Datblygu Diwydiannol (WIDAB)

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn awyddus i benodi 5 Aelod newydd ar gyfer Bwrdd Cynghorol Cymru ar Datblygu Diwydiannol (WIDAB). Dyddiad cau - 1 Awst 2025.

Dysgwch fwy yma


Cyfarthfa yn dathlu 200 mlynedd gyda hwb o £4.5 miliwn

Bydd Ardal Dreftadaeth eiconig Cyfarthfa yn cael £4.5 miliwn i ymgymryd â gwaith cadwraeth brys i helpu i sicrhau ei dyfodol am flynyddoedd lawer mwy i ddod.

Darllennwch yr datganiad I’r wasg llawn


Cyfres o weminarau hydref Croeso Cymru – yn dod yn fuan

Yr hydref hwn, bydd Croeso Cymru yn cynnal cyfres o weminarau diwydiant sydd wedi'u cynllunio i gefnogi a llywio busnesau twristiaeth ledled Cymru. Gan gwmpasu amrywiaeth o bynciau defnyddiol, bydd y sesiynau ar-lein hyn yn cynnig mewnwelediadau ymarferol ac arweiniad i'ch helpu i gynllunio ar gyfer y misoedd i ddod.

Ymunwch â’n sesiynau Microsoft Teams sydd yn dod yn fuan i gael mewnwelediadau arbenigol, arweiniad, a chyfleoedd i ofyn cwestiynau i’ch helpu i gynllunio ymlaen llaw.

Manylion llawn ar ddod yn fuan – cadwch lygad ar ein gwefan ddiwydiant i gael y wybodaeth ddiweddaraf.


Dewch yn ywysydd twristiaid i De-orllewin Cymru

Mae Cymdeithas Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru (WOTGA) yn eich gwahodd, yn amodol ar y meini prawf, i ymuno â'r cwrs Bathodyn Gwyrdd mewn Tywys Twristiaid, sy'n cwmpasu De Orllewin Cymru.

Mae'r bathodyn yn cael ei ddyfarnu gan WOTGA ac mae'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Wales Best Guides Enterprises Ltd. Mae'r bathodynnau sy'n cael eu dyfarnu dan Fframwaith Hyfforddi Tywyswyr Twristiaeth Cymru yn cael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru ac mae ein bathodynnau'n arddangos symbol swyddogol Draig Llywodraeth Cymru.

Dewch yn dywysydd twristiaid i De-orllewin Cymru


Digwyddiadau Masnach Teithio

Marchnad Prydain ac Iwerddon (BIM (Britain & Ireland Marketplace): 13 Ionawr 2026

Bydd BIM (Britain & Ireland Marketplace yn dychwelyd i Lundain ddydd Gwener 30 Ionawr 2026. Mae'r digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd rwydweithiau ETOAUKinbound a VisitBritain, yn ogystal â chyrchfannau cenedlaethol a rhanbarthol ledled y DU ac Iwerddon.

Cysylltwch â dros 200 o brynwyr rhyngwladol mewn apwyntiadau un-i-un. Gall cyflenwyr Cymru gael mynediad at gyfradd ostyngedig o £959 + TAW (mae'r dyddiad cofrestru cynnar yn dod i ben 21 Tachwedd).

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, anfonwch e-bost at traveltradewales@llyw.cymru i gael mynediad at y cod disgownt cyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad.

British Tourism & Travel Show (BTTS): 19 Mawrth 2026 - NEC, Birmingham

Cysylltwch â gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y grŵp Masnach Deithio, mae Croeso Cymru yn eich gwahodd i fod yn rhan o bafiliwn Croeso Cymru yn British Tourism & Travel Show (BTTS)

Mae Croeso Cymru wedi sicrhau lle i hyd at 9 stondin ac wedi negodi cyfradd is gyda'r trefnwyr fel a ganlyn:

  • • £1,800 + TAW, cyfanswm cost ar gyfer pod partner
  • • £900 + TAW (yr un), opsiwn i hyd at 2 bartner yn unig rannu a rhannu costau

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, anfonwch e-bost anfonwch e-bost at Lloyd Jones neu ffoniwch 01733 889684.

Dysgwch mwy


Digwyddiadau sydd ar ddod:

  • 21–27 Gorffennaf – Para Badminton Rhyngwladol – Caerdydd
  • 25–27 Gorffennaf – Gŵyl Steelhouse – Blaenau Gwent
  • 25–27 Gorffennaf – Camp VC – Gogledd Cymru
  • 28 Gorffennaf–3 Awst – AIG Women’s Open – Pen-y-bont ar Ogwr
  • 8–10 Awst – Gŵyl Jazz Aberhonddu – Powys
  • 21–24 Awst – Between the Trees – Pen-y-bont ar Ogwr

Diwydiant Croeso Cymru ar Facebook a LinkedIn

Dilynwch ni a hoffwch ni i weld y newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd diweddaraf yn y diwydiant. Mae’n ffordd wych o sicrhau bod ein diweddariadau’n parhau i ymddangos yn eich ffrwd ac i aros mewn cyswllt â’r hyn sy’n digwydd ar draws y sector.

🔗 Dilynwch ni:

Facebook: @Croeso Cymru Diwydiant 

LinkedIn: @Visit Wales Industry 


Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru

Gellir dod o hyd i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar Ymgynghoriadau | LLYW.CYMRU.


Newyddion diweddaraf Busnes Cymru

Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf oddi wrth Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Dyma rai o’r erthyglau diweddaraf:

Tanysgrifiwch i gael newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru (govdelivery.com) – ar ôl ichi gofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru mewn un man.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


HomepageFacebookTwitter - XYoutubeInstagram