|
Croeso i'n cylchlythyr Diogelwch Adeiladau - sydd wedi'i gynllunio i roi gwybod i chi am gynnydd y Rhaglen Diogelwch Adeiladau.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar X / Twitter gan ddefnyddio @LlC_Cymunedau
 Wythnos diwethaf roeddwn yn falch o gyflwyno ein Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) gerbron y Senedd. Ar yr un diwrnod roeddem hefyd yn cyhoeddi ein hymateb llawn i argymhellion adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell. Mae hi'n hanfodol bod y gwersi sydd wedi cael eu dysgu o drychineb Grenfell yn parhau i siapio ein dull o ymdrin â diogelwch adeiladau yng Nghymru ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau eu bod yn gwneud hynny. Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r ymateb i argymhellion Ymchwiliad Grenfell ar gael yn y cylchlythyr.
Cefais gwrdd unwaith eto â datblygwyr rai wythnosau'n ôl i drafod cynnydd, a’u perfformiad yn cyrraedd y targed mis Mai 2025 a osodais i sicrhau bod pob adeilad wedi cael ei asesu. Roeddwn hefyd wedi manteisio ar y cyfle i drafod targed i’r dyfodol i ddechrau gwaith ar bob datblygiad yng Nghymru. Mae'r sgyrsiau hyn yn parhau, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn y cylchlythyr nesaf.
Yn olaf, roeddwn yn falch iawn o glywed am lwyddiant cyfarfod cyntaf y Grŵp Lesddeiliaid a Phreswylwyr ddiwedd mis Ebrill. Mae'r grŵp hwn yn gyfle i lesddeiliaid rannu eu profiadau, gofyn am gymorth a llywio polisi cenedlaethol ar ddiogelwch adeiladau yng Nghymru. Mae hi’n eithriadol o bwysig gwrando ar brofiadau bywyd lesddeiliaid a phreswylwyr er mwyn ein helpu i ddeall yr heriau a'r anawsterau maen nhw'n eu hwynebu. Os hoffech chi ddod i gyfarfod yn y dyfodol, mae manylion sut i gofrestru eich diddordeb ar gael yn y cylchlythyr.
Cafodd ein Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) ei gyflwyno gerbron y Senedd ar 7 Gorffennaf ac mae'n garreg filltir bwysig o ran cyflawni ein Rhaglen Diogelwch Adeiladau.
Bydd y Bil yn cyflwyno trefn diogelwch adeiladau newydd yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar feddiannu a rheolaeth barhaus ('y cam meddiannu') adeiladau preswyl aml-feddiannaeth.
Mae’r Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar wefan y Senedd. Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein hasesiad effaith ar gyfer y Bil ar ein gwefan.
Bydd y Senedd nawr yn craffu ar y ddeddfwriaeth, gan gynnwys gwrando ar farn rhanddeiliaid.
Rydym wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i ddatblygu'r Bil ac yn ddiweddar rydym wedi cynnal gweithdy gydag awdurdodau lleol ac Awdurdodau Tân ac Achub i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y cynigion.
Dros yr haf byddwn yn cynnal gweminarau i roi trosolwg o'r hyn mae'r Bil yn ei olygu a beth mae hyn yn ei olygu i'r rhai y mae'n effeithio arnyn nhw. Dyma amseroedd a dyddiadau'r gweminarau:
5 Awst am 12:00
7 Awst am 15:00
11 Awst am 10:00.
I gofrestru, cysylltwch â blwch post BuildingSafety@gov.wales gan nodi pa sesiwn yr hoffech fynd iddi.
Tîm Archwilio ar y Cyd (JIT)
Mae'r Tîm Archwilio ar y Cyd (JIT) yn dal i archwilio adeiladau ar hyd a lled Cymru. Mae wedi cytuno ar raglen o archwiliadau ar gyfer gweddill y flwyddyn.
Cynhaliodd y Tîm Archwilio ar y Cyd ddigwyddiad hyfforddi yn ddiweddar i gydweithwyr o awdurdodau lleol ac Awdurdodau Tân ac Achub.
Mae rhagor o wybodaeth am y Tîm Archwilio ar y Cyd ar gael yn www.jit.cymru neu drwy gysylltu â info@jit.wales
Ochr yn ochr â chyflwyno Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) ar 7 Gorffennaf, roeddem yn falch o gyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Cam 2 Tŵr Grenfell
Mae hon yn garreg filltir bwysig ar ein taith i sicrhau'r safonau uchaf o ran diogelwch adeiladau i drigolion Cymru. Fel y gwelir o'r ymateb, mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â llawer o'r argymhellion a byddwn yn parhau i weithio'n gyflym i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu'n llawn
Data Rhaglen Adfer
Ar hyn o bryd mae 461 o adeiladau yn Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru. O'r adeiladau hyn, mae 275 ohonynt yn adeiladau deiliadaeth breifat a 186 yn adeiladau cymdeithasol.
O'r 461 o adeiladau, mae 43% naill ai wedi'u cwblhau neu mae gwaith yn mynd rhagddo, mae 47% o’r adeiladau yn y camau cynllunio, gyda'r 10% sy'n weddill naill ai ddim angen gwaith, neu nid oes anghenion adfer wedi'u canfod eto.
Mae’r ffigurau hyn yn gallu newid wrth ganfod rhagor o adeiladau, ac wrth gasglu rhagor o wybodaeth.
Diagram 1 - Perfformiad ar lefel rhaglen
 Perfformiad Datblygwyr
Rydym yn falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud gan ddatblygwyr mwy sydd wedi llofnodi'r contract gyda Llywodraeth Cymru ac wedi ymrwymo i wneud y gwaith diogelwch tân maent yn gyfrifol amdano.
Mae'r diagram isod yn rhoi cyfanswm nifer yr adeiladau ar gyfer pob datblygwr. Mae ein hymarfer dilysu data diweddaraf wedi arwain at Barratt Redrow bellach yn adrodd ar chwe adeilad mewn datblygiad yr adroddwyd yn flaenorol ei fod yn un.
Sylwer: Nid yw Westmark wedi llofnodi'r contract datblygwr, ond mae'n adrodd i Lywodraeth Cymru ar gynnydd yn unol â gofynion y contract.
Diagram 2 - Cyfanswm nifer yr adeiladau ar gyfer pob datblygwr
 Mae'r diagram isod yn dangos nifer yr adeiladau ym mhob un o'r gwahanol gamau cynnydd ar gyfer pob datblygwr. Er mwyn bod yn gyson wrth adrodd ar bob adeilad yn y rhaglen, mae’r disgrifyddion canlynol yn cael eu defnyddio wrth bennu'r cam cynnydd:
- Gwaith wedi’i gwblhau: Wedi cwblhau’r holl waith diogelwch tân angenrheidiol
- Cynlluniau ar Waith – Gwaith wedi Dechrau: Wedi dechrau’r gwaith diogelwch tân ac mae contractwyr ar y safle
- Cynlluniau ar waith – Gwaith heb ei Ddechrau: Wedi cwblhau'r holl arolygon angenrheidiol. Mae gweithgareddau cyn adeiladu yn mynd rhagddynt fel dyluniadau manwl, negodi trwyddedau mynediad, tendro / negodi contractau a chaniatâd cynllunio
- Cynlluniau ar waith – Yn disgwyl am arolygon: Wedi comisiynu a/neu drefnu’r arolygon angenrheidiol, neu maen nhw wedi cael eu cwblhau ac yn disgwyl yr adroddiadau terfynol
- Dim cynlluniau ar waith / Gwaith heb ei ddechrau: Canfuwyd bod yr adeilad yng nghwmpas y rhaglen, fodd bynnag ni chynhaliwyd unrhyw arolygon nac ymchwiliadau hyd yma – gallai hyn fod oherwydd diffyg ymgysylltu er enghraifft
Diagram 3 - Perfformiad ar lefel datblygwr
 Dogfennau canllawiau adfer
Rydym yn falch o gyhoeddi dwy ddogfen ganllaw newydd i gefnogi datblygwyr, unigolion cyfrifol, lesddeiliaid a phreswylwyr tra bo gwaith adfer diogelwch tân yn cael ei wneud ar eu hadeilad. Mae fersiynau terfynol y canllawiau isod wrthi’n cael eu cwblhau ar hyn o bryd a byddant ar gael ar ein gwefan dros yr wythnosau nesaf.
- Canllawiau ar Adfer Diogelwch Tân mewn Adeiladau Preswyl – sy'n amlinellu'r hyn y gall lesddeiliaid a phreswylwyr ei ddisgwyl gan y rheini sy'n gyfrifol am wneud y gwaith adfer.
- Canllawiau Contract Adfer Datblygwyr Llywodraeth Cymru: Datrys Anghydfodau - sydd wedi cael eu datblygu i egluro’r hyn a ddisgwylir gan ddatblygwyr ac unigolion cyfrifol (fel Asiantau Rheoli a chwmnïau Hawl i Reoli) pan fydd anghydfod yn codi.
Ym mis Ebrill, fe wnaethom gynnal y Grŵp Lesddeiliaid a Phreswylwyr cyntaf ar gyfer Cymru gyfan. Fe wnaethom ymrwymo i ddatblygu blaengynllun o weithgareddau ymgysylltu, y byddai modd ei rannu ym mhob cylchlythyr. Rydym wedi gwrando ar adborth gan y rhai a oedd yn bresennol, ac rydym yn falch o ddarparu ein cynlluniau ymgysylltu ar gyfer y tri mis nesaf.
Bwriad y sesiynau galw heibio yw bod yn lleoliad anffurfiol i lesddeiliaid a phreswylwyr ddod i drafod pryderon a materion sy'n ymwneud â diogelwch tân yn eu hadeilad â swyddogion Llywodraeth Cymru.
Awst
-
6 Awst: Sesiwn galw heibio i lesddeiliaid / preswylwyr, 11am-2pm. Ystafell gymunedol, Asda, Bae Caerdydd, Ferry Road, Caerdydd, CF11 0JR.
-
20 Awst: Sesiwn galw heibio i lesddeiliaid / preswylwyr, 11am-2pm. Tramshed Tech, Empire Room, Adeilad Theatr y Palas, 156 Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1NE.
Medi
-
17 Medi: Sesiwn galw heibio i lesddeiliaid / preswylwyr 11am-2pm, Tramshed Tech, Stryd Griffin, Stryd Fawr, Casnewydd, NP20 1FX.
Hydref
-
Hydref: Cyhoeddi Cylchlythyr Diogelwch Adeiladau
Bydd dyddiad cyfarfod nesaf Grŵp Lesddeiliaid a Phreswylwyr Cymru Gyfan yn cael ei gadarnhau cyn bo hir. I fynegi diddordeb mewn bod yn bresennol cliciwch yma.
I gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau galw heibio neu i gael eich ychwanegu at ein rhestr cysylltiadau ar gyfer Grwpiau Lesddeiliaid a Phreswylwyr yn y dyfodol, gallwch gysylltu â'r tîm diogelwch adeiladau: BuildingSafety@gov.wales
Lansio'r ymgynghoriad: Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid o ran ffioedd, taliadau a gwasanaethau
Hoffem glywed eich barn am gynigion i weithredu agweddau ar Ran 4 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 a diwygio taliadau a gwasanaethau lesddaliadau yn y dyfodol.
Daw'r ymgynghoriad hwn i ben ar 26 Medi 2025.
Roedd Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn cyflwyno amrywiaeth o fesurau i wella perchnogaeth tai i filiynau o lesddeiliaid yng Nghymru a Lloegr. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys cynyddu tryloywder taliadau gwasanaeth a pholisïau yswiriant adeiladau, yn ogystal â mynd i'r afael â chostau ymgyfreitha heb gyfiawnhad.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar sut i weithredu'r gofynion newydd hyn drwy is-ddeddfwriaeth, a fydd yn helpu lesddeiliaid i graffu a herio ffioedd a thaliadau annheg yn well, yn ogystal â pha mor rhesymol yw’r gwasanaethau maen nhw’n talu amdanyn nhw.
Mae'r ymgynghoriad hwn hefyd yn gofyn am farn ar gynigion ar ddiwygio pellach sy'n ymwneud â'r taliadau mae lesddeiliaid yn eu talu a'r gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy glicio ar y ddolen ganlynol - Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros daliadau a gwasanaethau | LLYW.CYMRU
Mae ein hymgynghoriad ar y drefn rheolaeth adeiladu newydd i adeiladau risg uwch a newidiadau ehangach i'r rheoliadau adeiladu yng Nghymru wedi dod i ben yn ddiweddar. Diolch i bawb a gyflwynodd ymateb, rydym wir yn gwerthfawrogi eich bod wedi rhoi o’ch amser i gyflwyno adborth ar y cynigion.
Rydym nawr yn gweithio drwy'r holl ymatebion a sylwadau a roddwyd a byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r rhain ac ymateb Llywodraeth Cymru maes o law.
Cefnogi'r proffesiwn Rheolaeth Adeiladu
Rydym yn falch o gadarnhau ymestyn y cyllid presennol i Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol i ddarparu rhagor o Arolygwyr Rheolaeth Adeiladu dan hyfforddiant. Bydd hyn yn arwain at ychwanegu at nifer y rolau hyfforddeion yng Nghymru, gan gefnogi capasiti a gallu i gyflawni'r drefn bresennol a'n diwygiadau arfaethedig.
Gwasanaethau Tân ac Achub
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru drwy Raglen Diogelwch Adeiladau Cymru i gefnogi'r gwaith o adfer adeiladau preswyl dros 11 metr o uchder. Mae'r bartneriaeth hon yn gwella ein proses archwilio diogelwch tân drwy:
- Ymgorffori canfyddiadau o adroddiadau peiriannydd tân a benodwyd gan Lywodraeth Cymru, sy'n tynnu sylw at faterion diogelwch tân critigol.
- Cymryd rhan mewn trafodaethau amlasiantaethol a chydlynol i gytuno ar fesurau adfer cymesur.
- Sicrhau’r arferion gorau a'u bod yn cyd-fynd â deddfwriaeth, canllawiau sy'n dod i'r amlwg, a gwersi a ddysgwyd o achosion tebyg.
Mae'r adroddiadau hyn sy’n cael eu cynhyrchu gan beirianwyr tân a benodwyd gan Lywodraeth Cymru yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar ddiffygion diogelwch tân, gan lywio unrhyw benderfyniad i ddefnyddio Cynlluniau Gweithredu yn hytrach na Hysbysiadau Gorfodi ffurfiol, sy'n gallu arafu'r broses adfer.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn defnyddio Cynlluniau Gweithredu sy'n cynnwys rhestr waith fanwl i fynd i'r afael â phryderon diogelwch tân a nodir yn yr adroddiadau, gan gydweithio â pherchnogion adeiladau ac asiantau rheoli.
Yng nghyswllt adeiladau nad ydynt yn dod o dan Gontract Adfer Datblygwyr Llywodraeth Cymru, rydym yn rhannu gwybodaeth am lwybrau cyllido amgen sydd ar gael i bob adeilad preswyl 11m a throsodd drwy Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys adeiladau cymdeithasol, y rhai a adeiladwyd gan ddatblygwr llai ac adeiladau amddifad, sef y rhai heb ddatblygwr i gymryd cyfrifoldeb.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r Tîm Archwilio ar y Cyd (JIT), sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy archwiliadau a rhannu gwybodaeth mewn ffordd strwythuredig. Mae'r cydweithio hwn, sy'n seiliedig ar archwiliadau’r Tîm Archwilio ar y Cyd ac archwiliadau diogelwch tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn rhoi dealltwriaeth gliriach o risgiau diogelwch tân penodol, gan alluogi camau effeithiol ac wedi'u targedu i wella diogelwch preswylwyr.
Asiant Rheoli - Adeilad Amddifad - Ocean View
Mae Ocean View yn Llandrillo-yn-Rhos yng Ngogledd Cymru ac mae'n cynnwys cymysgedd o ddeugain o fflatiau preswyl, sy'n cynnwys 1-3 ystafell wely. Cafodd yr adeilad newydd ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2017 ac nid oedd y perchnogion yn disgwyl unrhyw broblemau gyda'r adeilad yn ystod y blynyddoedd cynnar.
Fodd bynnag, cynhaliwyd arolwg ymwthiol y tu mewn a'r tu allan i’r adeilad yn dilyn trychineb Grenfell a daeth yr arolwg o hyd i nifer o faterion diogelwch adeiladau a oedd yn ymwneud â thân. Roedd yr amcangyfrif o gost gwneud y gwaith adfer yn sylweddol a daeth yn bryder ariannol mawr i'r perchnogion. Er ein bod yn teimlo y byddai wedi bod yn rhesymol i'r datblygwyr dalu'r costau, fe wnaethant ymateb drwy ddweud nad oeddent yn masnachu mwyach.
Roedd hyn wedi achosi poen meddwl i lawer o'r perchnogion, ac nid oeddem yn siŵr ble i droi am gymorth. Dyma pryd y cawsom wybod am Raglen Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru. Oherwydd bod Ocean View dros 11 metr gellid ei fabwysiadu fel adeilad amddifad fel rhan o’r rhaglen. Roedd y gefnogaeth a'r arweiniad a gafwyd gan Dîm Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru yn amhrisiadwy.
Fe wnaethom gyflwyno ein Datganiad o Ddiddordeb ym mis Ebrill 2024 a chawsom gadarnhad dri mis wedyn y byddai'r Gronfa Diogelwch Adeiladau yn talu costau'r holl waith adfer sy'n gysylltiedig â thân ar gyfer ein hadeilad. Roedd hyn yn rhyddhad enfawr i holl berchnogion y fflatiau.
Roedd ymgynghorwyr tân Llywodraeth Cymru wedi cynnal rhagor o arolygon goddefol ac ymwthiol i sicrhau bod yr holl faterion yn ymwneud â thân wedi cael eu canfod. Cafodd y canfyddiadau eu casglu ynghyd mewn Rhestr Waith a oedd yn sail i dendr i gwblhau'r gwaith.
Mae'r Tîm Diogelwch Adeiladau wedi gweithio mewn partneriaeth agos â ni gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar bob cam drwy e-bost a thrwy gyfarfodydd rheolaidd. Mae'r broses bellach wedi dod yn ei blaen yn dda, ac rydym yn gobeithio y bydd y gwaith adfer yn cael ei wneud dros yr haf gan sicrhau y bydd Ocean View yn cael ei ardystio fel adeilad diogel nes ymlaen eleni.
Byddem yn annog unrhyw un sy'n wynebu problemau tebyg gyda'u hadeilad i gysylltu â Thîm Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru sydd bob amser wrth law i gynnig cymorth.
David Podmore, Preswylydd/Cyfarwyddwr, Ocean View (Llandrillo-yn-Rhos) Management Company Ltd
|