Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Mehefin 2025

Mehefin 2025 • Rhifyn 039

 
 

Nod y strategaeth newydd yw adeiladu system fwyd iachach a mwy gwydn ledled Cymru

Dyn a menyw yn cloddio gardd lysiau

Nod Strategaeth Bwyd Gymunedol newydd yw cryfhau systemau bwyd lleol, sicrhau bod mwy o bobl yn bwyta'n iach, a chreu cymunedau mwy cynaliadwy ledled Cymru.

Mae'r strategaeth, sy'n ymrwymiad allweddol yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar gysylltu cynhyrchwyr o Gymru â defnyddwyr, cefnogi prosiectau bwyd a arweinir gan y gymuned, a sicrhau bod bwyd iachach yn hygyrch i bawb.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies:

“Mae bwyd wrth wraidd ein bywydau i gyd. Mae'r tir yng Nghymru, gyda'i harddwch a'i godidogrwydd, yn dod â llawer o gyfleoedd a dyna pam mae ein cynnyrch ymhlith y gorau yn y byd.

Mae'r hyn rydyn ni'n ei fwyta yn effeithio nid yn unig ar ein hiechyd corfforol a meddyliol, ond hefyd ar ein hamgylchedd a'n diwylliant, ac mae o fudd i'n cymunedau. Mae'r strategaeth hon yn cael ei llywio gan y lleisiau a'r cymunedau lleol ar draws ein tir a'n moroedd.”

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo dros £2 filiwn yn 2025-26, gyda chyllid wedi'i sicrhau hyd at fis Mawrth 2028, i gefnogi mentrau bwyd lleol.

Parhau i ddarllen y datganiad i'r wasg hwn - Nod y strategaeth newydd yw adeiladu system fwyd iachach a mwy gwydn ledled Cymru | LLYW.CYMRU

I ddarllen y SBC - Strategaeth Bwyd Cymunedol | LLYW.CYMRU

Nôl I'r cynnwys

Torri allyriadau… rhoi hwb i effaith

Grug gwyllt ym Mynyddoedd Cymru

Eisiau arbed arian, denu mwy o gwsmeriaid, ac aros ar flaen y gad o ran rheoliadau? Gall torri eich allyriadau carbon eich helpu i wneud hynny i gyd - a mwy.

Gall busnesau bwyd a diod Cymru nawr gael mynediad at gymorth arbenigol am ddim i fesur eu hôl troed carbon a datblygu cynllun lleihau carbon wedi’i deilwra. Mae’n ffordd glyfar o leihau gwastraff, gostwng costau ynni, a dangos i gwsmeriaid a phrynwyr fod cynaliadwyedd yn bwysig i chi.  

Mae dros 60 o gwmnïau bwyd a diod Cymru eisoes wedi cwblhau’r Cynllun Peilot Lleihau Carbon yn y flwyddyn gyntaf. P’un a ydych chi’n gynhyrchydd bach neu’n frand mawr, gall y gefnogaeth hon eich helpu i gael gwir effaith.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag un o’r tîm yn SustainableFD@llyw.cymru

Dysgwch fwy am sut mae'r rhaglen beilot eisoes wedi bod yn helpu busnesau bwyd a diod o bob cwr o Gymru:

Helpu eich busnes bwyd a diod i ddatblygu cynllun lleihau carbon – Bwyd a Diod Cymru

Edwards - Y Cigydd Cymreig

Astudiaeth achos - Edwards Y Cigydd Cymreig

"Mae’r cynllun peilot newydd hwn wedi
rhoi’r gefnogaeth angenrheidiol inni
i’n helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth
a chael mewnwelediadau amhrisiadwy
i ôl troed amgylcheddol busnes a
datgloi cyfleoedd ar gyfer newidiadau
effeithiol."

Astudiaeth achos - La Crème Patisserie

"Mae’r Cynllun Peilot Lleihau Carbon wedi bod yn hanfodol i ni oherwydd ei fod wedi rhoi ff ordd hawdd ei rheoli a gweithredadwy o fynd i’r afael â newid hinsawdd."

La Crème Patisserie Staff
Lori Ellis Eggs

Astudiaeth achos - Ellis Eggs

"Yn y pen draw, mae angen
i ni ddangos sut rydyn ni’n
ceisio lleihau ein heffaith ar

yr amgylchedd, felly roedden y profiad yn sicr yn werth chweil. Mae cymryd rhan yn y cynllun peilot nid yn unig yn helpu’r busnes ond hefyd
yn cyfrannu at ddealltwriaeth ac ymrwymiad ehangach i gynaliadwyedd amgylcheddol a lleihau ôl troed carbon."

Nôl I'r cynnwys

Hyrwyddo llwyddiant entrepreneuraidd bwyd a diod Cymru

Yr Arglwydd Newborough, Ystâd Rhug

Roedd rhagoriaeth entrepreneuraidd o dan y chwyddwydr yn ystod dathliad mawr o sector bwyd a diod ffyniannus y genedl yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru 2025, a gynhaliwyd yn Llandudno yn ddiweddar.

Enwyd yr Arglwydd Newborough, perchennog Ystâd Rhug, yn ‘Entrepreneur y Flwyddyn’, i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i’r diwydiant. Wedi’i noddi gan Fwyd a Diod Cymru, roedd y wobr yn dathlu unigolion sy’n arwain y ffordd yn sector bwyd a diod Cymru, a’r rhai sydd wedi dangos yr uchelgais i droi syniadau beiddgar yn fusnesau llwyddiannus, ac sy’n parhau i yrru arloesedd, twf a gwydnwch ar draws y diwydiant.

Yr Arglwydd Newborough yw’r grym y tu ôl i Ystâd Rhug, eiddo 12,500 erw yng ngogledd Cymru. Mae’n ffigur amlwg ym myd ffermio organig ac amaethyddiaeth gynaliadwy, yn adnabyddus am ei waith arloesol a’i ymroddiad i ansawdd. Mae Ystâd Rhug wedi dod yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei chynnyrch organig, gydag arweinyddiaeth yr Arglwydd Newborough yn chwarae rhan allweddol yn ei llwyddiant.

Parhau i ddarllen Hyrwyddo llwyddiant entrepreneuraidd bwyd a diod Cymru | Busnes Cymru - Bwyd a Diod

Nôl I'r cynnwys

Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2025

Enillwyr Gwobrau Bwyd a Diod Cymru

Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru eleni. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Venue Cymru, Llandudno ar 22 Mai.

Enillwyr

Prentis y Flwyddyn – Nicola Culkin, Coleg Cambria – Knolton Farmhouse Cheese

Busnes Crefftwr y Flwyddyn – Atlantic Edge Oysters

Gwobr Gwydnwch Busnes – Cradoc’s Savoury Biscuits

Cynhyrchydd Diodydd y Flwyddyn (Dros 5 gweithiwr) – Penderyn

Mentrwr y Flwyddyn – Lord Robert Newborough – Rhug Estates**

Allforiwr y Flwyddyn – South Caernarfon Creameries

Cynhyrchydd Fferm i Fforc y Flwyddyn – Wainwright’s Bee Farm

Gwobr Arloesi – Evan Evans Brewery

Gwobr y Gymuned Leol – The Wrexham Lager Beer Co

Seren Gynyddol y Flwyddyn – Tom Wickens, Plumstone Welshcakes

Cwmni Twf y Flwyddyn – Pembrokeshire Creamery

Cynhyrchydd Diodydd Bach y Flwyddyn (llai na 5 gweithiwr) – Llanfairpwll Distillery Ltd

Busnes cychwynnol y Flwyddyn – Porthcawl Distillery

Gwobr Gwerthoedd Cynaliadwy – Rhug Estates

Pencampwr Bwyd a Diod Cymru – Blas ar Fwyd

Gwobr Cyfraniad Eithriadol – Robin Jones, Village Bakery

Canmoliaeth uchel

Seren Gynyddol – Naomi Spaven, Iâl Bakery (Coleg Cambria)

Gwobr y Gymuned Leol – Tetrim Teas

Cynhyrchydd Bwyd – Tregoes Waffles

Pencampwr BaD – Plas Dinas Country House

Mentrwr – A-head of the Game Nutrition

Gwobr Gwydnwch Busnes – Fresh and Tasty Microgreens

Nôl I'r cynnwys

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru (BDBDC) – Graham Black

Graham Black - Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru (BDBDC)

Fy enw i yw Graham Black, ac fel aelod o'r Bwrdd, mae gen i ddiddordeb arbennig mewn bwyd môr. Rwy'n gyfarwyddwr Seafish, ac yn cadeirio Pwyllgor Cynghori Seafish Cymru, sy'n sicrhau bod materion a phryderon Cymru yn cael eu codi a'u clywed ar bob lefel.

Y gwir amdani yw bod gan Gymru arfordir gwych, gyda moroedd hynod gynhyrchiol sy'n cynhyrchu rhai o'r bwydydd môr gorau yn y byd.  Mae'r rhai sy'n ymwneud â'r diwydiant yma yn flaengar ac 

yn frwdfrydig, ac maent yn gwneud cyfraniad enfawr i gymunedau arfordirol ledled y wlad.

Parhau i ddaerllen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: nodyn gan Graham Black (Mehefin 2025) [HTML] | LLYW.CYMRU

Nôl I'r cynnwys

Cwrs Prentisiaeth Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod Newydd

Coleg Sir Benfro

Mae Coleg Sir Benfro, mewn cydweithrediad â rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, yn falch o gyhoeddi lansio cwrs Prentisiaeth Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod newydd. Mae'r fenter yn deillio o drafodaethau yng Ngrŵp Arbenigwyr rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru lle nodwyd bylchau sgiliau yn y maes hwn, a'i nod yw diwallu'r galw cynyddol am beirianwyr medrus yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod.

Parhau i ddarllen Datblygu Cwrs Prentisiaeth Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod Newydd mewn Cydweithrediad â Choleg Sir Benfro | Busnes Cymru - Bwyd a Diod

Nôl I'r cynnwys

Lansio adnodd newydd fel rhan o ymgyrch recriwtio ar gyfer y sector bwyd a diod

Osian Deiniol - Blas ar Fwyd

Mae ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd am yrfaoedd o fewn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, a herio canfyddiadau o yrfaoedd yn y maes wedi’i lansio.

Mae’r rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant bwyd a diod i ddatblygu gweithlu medrus a galluog. Mae’n cefnogi busnesau bwyd a diod gyda ffocws ar ddiwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru i sicrhau bod y sgiliau a’r hyfforddiant cywir gan weithwyr ar gyfer eu busnes.

Parhau i ddarllen Lansio adnodd newydd fel rhan o ymgyrch recriwtio ar gyfer y sector bwyd a diod | Busnes Cymru - Bwyd a Diod

Nôl I'r cynnwys

Arddangosfa gyda Llywodraeth Cymru yn Anuga, Cologne

Anuga, Cologne - Arddangosfa Masnach Bwyd a Diod y Byd

Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gyd-arddangos yn Anuga, Cologne, 4 - 8 Hydref 2025. Ddydiad cau 11 Gorffennaf.

Bydd yr ymweliad hwn y byddwch yn derbyn cymhorthdal tuag ato, yn rhoi cyfle ichi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a datblygu’ch allforion yn y rhanbarth hwn.

Drwy gymryd rhan, dyma’r manteision i’ch busnes chi:

  • Ffordd gost effeithiol o ymweld â’r farchnad
  • Cael presenoldeb o dan frand Cymru Wales ochr yn ochr â stondin y DU
  • Rhwydweithio a siarad â busnesau a phenderfynwyr blaenllaw yn y farchnad
  • Rhannu profiadau a gwybodaeth â chyfranogwyr eraill o Gymru a’r DU
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata

Taflen Anuga 2025 (Cym).pdf

Nôl I'r cynnwys

Bwyd a diod o Gymru yn creu argraff yn Asia

Mae diwydiant bwyd a diod Cymru wedi cael effaith sylweddol yn ddiweddar yn FHA, Food and Beverage, Singapôr.

Roedd prif ddigwyddiad bwyd a lletygarwch Asia yn cynnwys arddangosfa o'r cynhyrchion gorau o Gymru, ynghyd â gweithgareddau ehangach gan Gymdeithas Goginio Cymru, a arweiniodd at ddiddordeb sylweddol gan brynwyr ledled y rhanbarth.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o arddangoswyr, gan gynnwys

Cynnyrch Cymreig yn cael ei arddangos yn FHA Singapore 2025
Blasu cig Cymreig yn FHA Singapore 2025

Dairy Partners a Morning Foods, gyda'r ddau’n chwifio'r faner dros gynhyrchion Cymru sydd ar gael yn y rhanbarth. Mae FHA, Food and Beverage wedi'i leoli'n strategol yn Singapôr fel porth i Asia, gan gynnig mynediad i farchnadoedd allweddol gan gynnwys de-ddwyrain Asia, Tsieina, India, Awstralia a thu hwnt.

Parhau i ddarllen Bwyd a diod o Gymru yn creu argraff yn Asia | Busnes Cymru - Bwyd a Diod

 

Nôl I'r cynnwys

Clwstwr Cynaliadwyedd - cyfarfod wyneb yn wyneb

Y grŵp yn ymweld â Chanolfan Fwyd Cymru

Aeth y grŵp ar daith o amgylch cyfleusterau Canolfan Bwyd Cymru a chlywodd gan Bluestone Cymru am eu gwobr Brenin mewn Menter mewn Cynaliadwyedd, yn ogystal â thrafod y pecynnau cymorth sydd ar ddod ynghylch Lleihau Gwastraff, Deddfwriaeth a Phrotein Amgen. Os yw'r rhain yn 

feysydd rydych chi'n teimlo y gallech ddefnyddio cefnogaeth ynddynt, mae croeso i chi estyn allan i'r clwstwr. Cynhelir cyfarfod wyneb yn wyneb nesaf y Clwstwr Cynaliadwyedd ddydd Mercher 17 Medi.

Bydd y Clwstwr Cynaliadwyedd hefyd yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ar-lein, lle bydd aelodau'r fasnach yn siarad am sut y gall cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru helpu i gyflawni nodau cynaliadwyedd. Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar:

  • Dydd Mawrth 15 Gorffennaf 10yb
  • Dydd Mawrth 18 Tachwedd 10yb
  • Dydd Mawrth 20 Ionawr 10yb

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod o'r Clwstwr Cynaliadwyedd ac ymuno yn y cyfarfodydd hyn, anfonwch e-bost at charlotte.parry@levercliff.co.uk

Nôl I'r cynnwys

Clwstwr Garddwriaeth – Ffair Wanwyn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru

Dechreuodd tymor sioeau Cymru mewn modd heulog fis diwethaf gyda Gŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru. Croesawodd Maes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt filoedd o ymwelwyr ar gyfer dathliad o fywyd gwledig gyda gweithgareddau tyddyddiaeth yn ei galon. Roedd y digwyddiad penwythnos yn arddangosfa o amrywiaeth cefn gwlad Cymru ac yn ddiwrnod allan gwych i deuluoedd ifanc, selogion gardd ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr awyr agored.

Welsh Flower Barrow

Cymerodd Cyswllt Ffermio drosodd y Ganolfan Aelodau i arddangos ein tyfwyr a Garddwriaeth Cymru gyda'r Farchnad Tyfwyr. Ymunodd naw busnes â ni wrth fynedfa'r ŵyl, lle roedd pobl yn gallu pori ystod amrywiol o stondinau - Ash & Elm Horticulture (Welsh Flower Barrow), 

Bloomorium, Living Simply Lavender, NPTC, P&J Plants, Microacres, Farmers Welsh Lavender, The Fungi Folk a Root-Up.

I dîm Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, roedd y penwythnos yn gyfle gwych i ni gwrdd â thyfwyr a ffermwyr yng Nghymru, i ddangos sut y gallai ein gwasanaethau eu helpu i gryfhau eu busnesau ac arallgyfeirio i incwm newydd.

Fe wnaethom hefyd fwynhau gallu rhwydweithio â thyfwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i helpu i gynhyrchu cadwyni cyflenwi a marchnadoedd cryf a byr ar gyfer cynhyrchion garddwriaethol Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau y gallwn eu darparu i fentrau garddwriaeth, anfonwch e-bost at y tîm yn horticulture@lantra.co.uk.

Microerwau Cymryu

Nôl I'r cynnwys

Bwyd a Diod Cymru yn y newyddion (Saesneg yn unig)

Sut y gall allforio wella llwyddiant BBaChau, hyd yn oed mewn amseroedd heriol | The Grocer

Mae ansawdd a tharddiad yn parhau i yrru dewisiadau bwyd a diod defnyddwyr – Food Manufacture

Diwydiant bwyd a diod Cymru yn ehangu'n fyd-eang – Food Navigator

Sut mae pecyn cynhwysfawr o gymorth yn helpu i yrru twf trawiadol - Financial Times - Cynnwys mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru

Proffil byd-eang o ddiwydiant bwyd a diod yng Nghymru ar lwybr i fyny - Financial Times - Cynnwys mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru

Sut mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn cofleidio newid mesuradwy - Financial Times - Cynnwys mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru

Nôl I'r cynnwys

Blas Cymru|Taste Wales 2025 – Cwrdd â’r Cyflenwr

Blas Cymru Pennawd hyrwyddo Blas Cymru

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad nodedig hwn, a lansiwyd gyntaf yn 2017 ac a gynhelir bob dwy flynedd, sy’n dod â chynhyrchwyr, cyflenwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd o bob rhan o’r byd ynghyd. 

Cwrdd â diwydiant o dan yr un to | 3000 Arddangosfa cynnyrch | 200 o o gynhyrchion NEWYDD | Amser effeithlon - System ddyddiadur i drefnu cyfarfodydd rhagarweiniol byr | Gwybodaeth arbenigol Bwyd a Diod Cymru i helpu i adnabod cyflenwyr addas   

Canolfan Confensiwn Ryngwladol (ICC) Gwesty'r Celtic Manor Cymru, Casnewydd

22 Hydref 2025 - 23 Hydref 2025

Blas Cymru / Taste Wales 2025 - Cwrdd â’r Cyflenwr | Busnes Cymru - Bwyd a Diod

Nôl I'r cynnwys

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Cylchlythyr ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru gyda newyddion, digwyddiadau a materion yn ymwneud â'r diwydiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru

 

Dilynwch ni ar Facebook:

@bwydadiodcymru

 

Dilynwch ni ar LinkedIn

Bwyd a Diod Cymru | Food and Drink Wales