Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Blwyddyn Croeso: y newyddion diweddaraf
Wrth inni agosáu at dymor yr haf, rydym yn hyrwyddo Cymru gyda chyfres o ymgyrchoedd cyffrous i ysgogi archebion munud olaf ac ennyn diddordeb hirdymor yng Nghymru fel cyrchfan y mae'n rhaid ymweld â hi.
Darganfyddwch y diweddariadau diweddaraf o ymgyrch Blwyddyn y Croeso.
Er mwyn gwneud ein ymgyrchoedd sydd ar ddod yn llwyddiant, mae angen eich help arnom. Rydym yn chwilio am straeon cymhellol, datblygiadau newydd, a phrofiadau unigryw a fydd yn denu sylw'r cyfryngau ac yn arddangos y gorau o Gymru.
Darganfyddwch sut allwch chi gymryd rhan - rhannwch eich straeon, diweddariadau, a phrofiadau nodedig
Cronfa £5 miliwn y Pethau Pwysig yn helpu i dalu am brosiectau sy'n gwneud cyrchfannau twristiaeth
Mae cronfa'r Pethau Pwysig yn werth £5 miliwn ac yn helpu gyda chynlluniau i wella seilwaith sy'n hanfodol ar gyfer ymwelwyr mewn cyrchfannau twristiaeth ar hyd a lled y wlad.
|
Gweminar: Sut i ddatgloi cyfleoedd twristiaeth gwariant uchel
Yn dilyn trafodaeth banel dreiddgar gydag arweinwyr y diwydiant yn Uwchgynhadledd Twristiaeth Cymru yn ddiweddar, cynhaliodd Croeso Cymru weminar ddilynol ar 21 Mai 2025.
Pleser i Croeso Cymru oedd cael rhannu’r profiad a chynghorion da ein panel o arbenigwyr wrth iddynt drafod y tueddiadau a’r disgwyliadau diweddaraf ar gyfer denu ymwelwyr uchel eu gwariant i Gymru.
Dyma sesiwn hanfodol i bob busnes sydd am wneud y gorau o’r pethau unigryw y mae gan Gymru i’w gynnig.
|
Gwario arian ar waith uwchraddio toiledau ar draws y Canolbarth
Bydd cyfleusterau cyhoeddus ar lwybrau teithio allweddol ledled Powys yn elwa ar waith uwchraddio sylweddol diolch i bron i £500,000 o gyllid.
Ystadegau Twristiaeth Ddomestig Prydain Fawr
Mae ystadegau newydd ar gyfer teithiau dros nos yng Nghymru yn 2024 ar gael. Mae'r adroddiad yn dangos faint o deithiau a gymerwyd, hyd cyfartalog y teithiau, a'r math o lety a ddefnyddir.
Digwyddiadau sydd ar ddod:
Digwyddiadau ychwanegol:
- Dewch yn Dywysydd Twristiaid, mae Tywyswyr Gorau Cymru / WOTGA yn recriwtio ar gyfer cwrs Bathodyn Gwyrdd De-orllewin Cymru - Gwnewch gais nawr. (Saesneg yn unig)
Diwydiant Croeso Cymru ar Facebook a LinkedIn
Mae Diwydiant Croeso Cymru bellach ar LinkedIn! Cysylltwch â ni i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd diweddaraf y diwydiant.
Dilynwch ni ar
|
Ydych chi'n defnyddio cynhyrchion amddiffyn planhigion proffesiynol (PPPs)?
Defnyddwyr PPP: Cofrestrwch Nawr: Os ydych chi'n defnyddio cynhyrchion amddiffyn planhigion proffesiynol (PPPs), rhaid i chi gofrestru gyda'r awdurdod cymwys perthnasol.
Mae’r manylion ar gael yma: Plant protection products (PPPs): register as a professional user - GOV.UK (www.gov.uk) - Saesneg yn unig.
Cafodd Cynllun Gweithredu'r DU ar Blaladdwyr newydd ei ddatblygu ar y cyd gan bedair Llywodraeth y DU a’i gyhoeddi ar 21 Mawrth 2025.
Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru
Gellir dod o hyd i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar Ymgynghoriadau | LLYW.CYMRU.
Newyddion diweddaraf Busnes Cymru
Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf oddi wrth Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Dyma rai o’r erthyglau diweddaraf:
Tanysgrifiwch i gael newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru (govdelivery.com) – ar ôl ichi gofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru mewn un man.
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|