Bwletin Newyddion: Gweminar, 21 Mai 2025: Sut i ddatgloi cyfleoedd twristiaeth gwariant uchel. COFRESTRU AR AGOR

Croeso Cymru

Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

13 Mai 2025


Tourism Summit 2025

Gweminar, 21 Mai 2025:  Sut i ddatgloi cyfleoedd twristiaeth gwariant uchel. COFRESTRU AR AGOR

Cofrestrwch ar gyfer y weminar am ddim hwn nawr.

Yn dilyn trafodaeth banel dreiddgar gydag arweinwyr y diwydiant yn Uwchgynhadledd Twristiaeth Cymru yn ddiweddar, rydym yn eich gwahodd i ymuno â'r weminar amhrisiadwy hon gyda Croeso Cymru a gynhelir ar:

Dydd Mercher 21 Mai, 2:30 yp tan 3:30yp.

Manteisiwch ar y cyfle hwn i ddysgu sut y gall Cymru ddenu ymwelwyr sy'n gwario llawer drwy gydol y flwyddyn a thrafod yn uniongyrchol â'n panelwyr arbenigol i gael ateb i'ch cwestiynau.

Ein panelwyr yw:

  • Joss Croft OBE – Prif Weithredwr, UKinbound
  • Karin Gidlund - Karin Tourism Solutions
  • Phil Scott - Partner Sefydlu a Pherchennog Gyfarwyddwr RibRide
  • Jane Rees-Baynes - Tŷ Gwledig Elm Grove

Archebwch eich lle am ddim erbyn 4:00pm ar 19 Mai: Gweminar: Sut i ddatgloi cyfleoedd twristiaeth gwariant uchel.

Byddwch yn derbyn dolen i’r cyfarfod trwy e-bost cyn y digwyddiad.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


HomepageFacebookTwitter - XYoutubeInstagram