|
Yn y rhifyn hwn
 Mae Dovey Native Botanical Gin, Pembrokeshire Native Oysters, Pembrokeshire Rock Oysters a Mêl Grug Cymreig o Gymru yn ymuno â'r rhestr o gynhyrchion bwyd a diod sydd wedi cael statws dynodiad daearyddol gwarchodedig (PGI) o dan gynlluniau Dynodiadau Daearyddol (GI) y DU.
Mae'r pedwar cynnyrch wedi cael eu cydnabod yn ffurfiol am eu rhinweddau unigryw a'u treftadaeth ranbarthol, gan sicrhau mai dim ond eitemau dilys sy'n bodloni safonau cynhyrchu a gofynion daearyddol llym y ceir eu marchnata o dan yr enwau gwarchodedig hyn, gan ddod â chyfanswm nifer y cynhyrchion GI yng Nghymru i 24.
Mae traddodiad coginio Cymru yn dyddio'n ôl ganrifoedd, ac mae ei bwyd a'i diod wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn nhirwedd, diwylliant a hanes y genedl. O ddyfroedd llawn maetholion sy'n cynhyrchu bwyd môr eithriadol i rostir grug lliwgar sy'n ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu mêl, mae cynhyrchwyr Cymru wedi creu cynhyrchion unigryw sydd wedi'u siapio gan yr amgylchedd lleol a chan arbenigedd sydd wedi'i drosglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r llall.
Mae'r gydnabyddiaeth hon yn rhoi mantais werthfawr i gynhyrchwyr yn y farchnad ac mae hefyd yn cynnal dulliau cynhyrchu traddodiadol, yn diogelu ac yn hyrwyddo cynhyrchion lleol ac yn creu cyfleoedd economaidd.
Mae'r cynhyrchion ychwanegol hyn yn ymuno â chynhyrchion poblogaidd eraill o Gymru sydd wedi cael eu cydnabod eisoes o dan y cynllun Dynodiadau Daearyddol. Yn eu plith y mae Halen Môr Ynys Môn, Cennin Cymreig, Seidr Traddodiadol Cymreig a Wisgi Cymreig Brag Sengl, sy’n tystio i dreftadaeth goginio gyfoethog Cymru.
"Mae'r gydnabyddiaeth hon yn cryfhau ac yn ychwanegu at y teulu o fwydydd Cymreig gwarchodedig, yn dangos ansawdd anhygoel ein cynnyrch, ac yn adlewyrchu’n hymrwymiad i gynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel.
O'r mynyddoedd i'r arfordir, mae Cymru yn cynhyrchu rhai o fwydydd mwyaf eiconig y DU sy’n cael eu tyfu â gofal ac yn unol â thraddodiad. Mae pob un o’r cynhyrchion sydd wedi cael Dynodiad Daearyddol yn adrodd stori’n tirwedd, yn tystio i arbenigedd ein cynhyrchwyr ac i'r dreftadaeth goginio rydyn ni mor falch ohoni."
Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies, sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
 |
|
“Mae cael Statws Dynodiad Daearyddol yn beth da ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod modd olrhain tarddiad jin botanegol a’i fod yn cael ei gynhyrchu yn unol â safonau uchel a llym."
Danny Cameron o Dovey Native Botanical Gin
|
|
“Rwy'n falch iawn bod union darddiad a nodweddion Mêl Grug Cymreig wedi cael eu cydnabod. Mae’r broses ymgeisio am Ddynodiad Daearyddol y DU yn un hir, ac mae'n wych bod mêl o Gymru wedi cael statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig, gan olygu mai Cymru yw’r genedl gyntaf yn y DU lle mae mêl wedi cael statws o’r fath."
Gruffydd Rees o Gwenyn Gruffydd Cyf. o Sir Gaerfyrddin
|
|
 |
 |
|
"Bydd cael Statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig yn denu cynulleidfa a marchnad ehangach sy'n fwy ymwybodol o gynhyrchion Dynodiadau Daearyddol, a bydd yn ein galluogi i ymuno â'r teulu Dynodiadau Daearyddol sydd â nifer o gynhyrchion rhagorol."
Jake Davies, Atlantic Edge Oysters
Nôl i'r cynnwys
|
 Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad nodedig hwn, a lansiwyd gyntaf yn 2017 ac a gynhelir bob dwy flynedd, sy’n dod â chynhyrchwyr, cyflenwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd o bob rhan o’r byd ynghyd.
Os ydych yn fusnes bwyd a diod, peidiwch â cholli’r digwyddiad yma. Dewch i arddangos eich cynhyrchion i brynwyr blaenllaw manwerthu a’r diwydiant, rhwydweithio â phobl allweddol yn y diwydiant bwyd a diod, yn ogystal â darganfod cynhyrchion a thueddiadau arloesol.
Ymhlith uchafbwyntiau allweddol y digwyddiad mae:
- Canolbwyntio ar arloesi gyda 200 o gynhyrchion newydd yn cael eu cynnwys
- Cyfraniadau gan gwmnïau achrededig SALSA a BRCGS
- Straeon llwyddiant yn cynnwys Fungi Foods, enillydd cystadleuaeth Pantri’r Ddraig Cynhadledd Blas Cymru 2024
Dewch gyda chwestiynau, gadewch gydag atebion!
I gael rhagor o wybodaeth a sut i gofrestru, ewch i dudalen Blas Cymru / Taste Wales.
Nôl i'r cynnwys
 |
|
Mae dau gynhyrchydd o Gymru wedi’u henwi ymhlith y gorau ym Mhrydain, ar ôl ennill Gwobrau Aur yng Ngwobrau Cynhyrchion Siopau Fferm a Delis 2025.
Er gwaethaf cystadleuaeth frwd gan gynhyrchwyr ar hyd a lled y wlad, y cwmnïau Cymreig sy’n dathlu yw Radnor Hills am eu dŵr pefriog Afal a Rhiwbob Heartsease Farm, a Golden Hooves am eu Cheddar Mwg.
|
Hefyd, enillodd Radnor Hills Wobr Arian am eu Lemonêd Mafon Pefriog Heartsease Farm, a gwobrwywyd Golden Hooves yn yr un modd am eu cawsiau Double Gloucester a Red Leicester.
Parhewch i ddarllen yr erthygl hon ar dudalen we Newyddion Bwyd a Diod Cymru
Nôl i'r cynnwys
Pleser yw cyhoeddi y gall busnesau Bwyd a Diod Cymru bellach elwa ar 12 mis o gymorth AM DDIM trwy gam diweddaraf y Cynllun Peilot Lleihau Carbon. Cynlluniwyd y fenter hon i'ch helpu i:
- Asesu eich allyriadau carbon presennol
- Datblygu Cynllun Lleihau Carbon cynhwysfawr
Drwy gymryd rhan, byddwch yn cael map trywydd strategol i leihau allyriadau, gwella effeithlonrwydd, a gyrru tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael effaith gadarnhaol ar eich busnes a'r amgylchedd!
Dywedodd Tesco, ‘Rydyn ni’n falch o weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru yn y rhaglen beilot drawsnewidiol hon’. Mae Edwards – Cigydd Cymru hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen beilot a dywedon nhw, ‘Mae arferion cynaliadwy’n hanfodol ar gyfer ennill cytundebau cyflenwi yn y dyfodol.’ Darllenwch fwy o fanylion yn ein datganiad i’r wasg.
Diddordeb? I dderbyn ein cymorth rhad ac am ddim i osod gwaelodlin ar eich allyriadau carbon a datblygu Cynllun Lleihau Carbon, cysylltwch â sustainablefd@llyw.cymru
Nôl i'r cynnwys
 |
|
Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Rhaglen Mewnwelediad 2025 ym mis Mawrth, gan ddarparu’r deallusrwydd a'r mewnwelediadau strategol diweddaraf o’r farchnad i gefnogi’r sector bwyd a diod yng Nghymru.
Y thema eleni ‘Byddwch ar y Blaen’ yn canolbwyntio ar nifer o brif feysydd: yr economi a busnes, tueddiadau defnyddwyr yn y dyfodol, datblygiadau manwerthu,
|
y sector allan o’r cartref a chyfleoedd allforio. Bydd mynychwyr yn elwa o ddadansoddi arbenigol a chanllawiau ymarferol gan arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant.
Mae deunyddiau’r gynhadledd gan gynnwys fideos a phecynnau sleidiau cyflwyniadau, bellach ar gael i'w gweld yn yr Adran Aelodau: Ardal Aelodau Bwyd a Diod Cymru
Nôl i'r cynnwys
 |
|
Gulfood
Gwnaeth busnesau bwyd a diod o Gymru argraff gref yn Gulfood 2025, sioe fasnach bwyd a diod fwyaf y byd, a gynhaliwyd yn Dubai, Emiradau Arabaidd Unedig ym mis Chwefror eleni. Dan arweiniad Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru, dangosodd dirprwyaeth o 15 cwmni y gorau o gynnyrch o Gymru, gan sicrhau cwsmeriaid rhyngwladol newydd ac ehangu eu cyrhaeddiad byd-eang.
Parhau i ddarllen
|
|
Foodex Japan
Bu dirprwyaeth o gwmnïau o Gymru yn ymweld â Japan yn ddiweddar, wrth i’r diwydiant barhau i dargedu agor marchnadoedd newydd ar gyfer ei gynnyrch bwyd a diod.
Foodex Japan yw arddangosfa fwyd a diod fwyaf Asia, gyda Llywodraeth
|
|
 |
Cymru yn cefnogi presenoldeb nifer o gynhyrchwyr o dan faner Cymru/Wales.
Parhau i ddarllen
Nôl i'r cynnwys
 |
|
Fel pob un ohonon ni ar y bwrdd, mae gen i gysylltiadau hir â bwyd a diddordeb arbennig mewn garddwriaeth ac amaeth-ecoleg. Etifeddais i'r diddordeb hwn oddi wrth fy nhad sydd wedi bod yn arddwr a thyfwr proffesiynol am y rhan fwyaf o fy mywyd i.
Roedden ni bob amser yn tyfu cymaint o'n bwyd ein hunain ag oedd modd, ac yn aml roedd gennyn ni syrcas o anifeiliaid.
Roedd fy nhad hefyd yn gyfrifol am adfer sawl gerdd furiog ar ystadau Fictoraidd mawr i'w hen ogoniant a'u gwneud yn llawn gynhyrchiol.
|
Parhewch i ddarllen diweddariad Gary ar wefan BDBDC.
Nôl i'r cynnwys
 Ar ddiwedd mis Mawrth, croesawodd Cymru ddirprwyaeth o brynwyr cig a llaeth o’r Almaen, Gwlad Pwyl, y Weriniaeth Tsiec, y Swistir a’r Iseldiroedd ar ymweliad masnach fewnol a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru.
Roedd BIC Innovation yn gyfrifol am gyflwyno’r ymweliad, gan roi cyfle i’r prynwyr gael blas uniongyrchol ar gynnyrch ac arbenigedd cynhyrchwyr a phroseswyr Cymreig. Cafodd ansawdd arbennig y cynnyrch Cymreig ei amlygu, ynghyd â’r arferion ffermio cynaliadwy sy’n cael eu dilyn yma yng Nghymru.
Cychwynnodd y daith gyda thaith o amgylch Fferm Organig Ystâd Rhug, lle rhannodd Rhys Davies, Rheolwr yr Ystâd, ac Emyr Owen, Rheolwr y Fferm, y gwaith sy’n mynd ymlaen gan ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd o safon uchel mewn ffordd gynaliadwy. Cafodd y grŵp gyfle wedyn i fwynhau cig oen Cymreig Ystad Rhug yn y bwyty gyda llety, Tyddyn Llan, lle'r oedd y pryd wedi’i baratoi’n ofalus gan y Prif Gogydd Gareth Stevenson.
Ymwelodd y grŵp llaeth â Choleg Glynllifon, lle esboniodd Rhodri Owen, Rheolwr Fferm a Choedwigaeth, rôl y coleg wrth hyfforddi ffermwyr y dyfodol – yng Nghymru ac ar draws y byd.
Y stop nesaf oedd Hufenfa De Arfon, lle cafodd y prynwyr daith o amgylch y cyfleuster gwneud caws modern o dan arweiniad Michael Mort, Rheolwr Cyfrifon Cenedlaethol.
Yn y cyfamser aeth y prynwyr cig i ymweld â neuadd dadfesu Dunbia cyn mynd ymlaen i Silian i ymweld â Thanygraig, lle mae Dai Charles a’i deulu’n ffermio ac yn cynhyrchu Cig Oen Cymru PGI ar gyfer Dunbia.
Drannoeth, teithiodd y grŵp llaeth i’r de-orllewin i ymweld â Caws Teifi a Caws Cenarth cyn gorffen eu taith ar fferm laeth organig Penyrallt Home, sy’n cyflenwi Calon Wen.
Nesa ar y daith i'r grŵp cig oedd cyfleuster prosesu cig oen Pilgrim’s UK cyn cael taith gan y ffermwr Wyn Jerman a’i ddau fab, sy’n ffermio yng Nghwm Hafren ac yng Nghymoedd y Cambrian, gan gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru (PGI).
Un o uchafbwyntiau’r daith oedd y cinio arbennig yn Y Ffarmers, Llanfihangel-y-Creuddyn, lle cafodd y gwesteion eu trin i wledd o fwyd a diod Gymreig gan Caitlin a Lewis – a hynny mewn steil.
Diolch enfawr i’n gwesteion o Ewrop ac i bob un o’n cynhyrchwyr Cymreig am gynrychioli’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig. Dyma i gryfhau ein presenoldeb byd-eang a pharhau i ddangos rhagoriaeth Gymreig ar lwyfan y byd!
Nôl i'r cynnwys
 Bydd aelodau Clwstwr Garddwriaeth Bwyd a Diod Cymru yn arddangos yng Ngŵyl Wanwyn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar 17 a 18 Mai 2025. Disgrifir digwyddiad penwythnos Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru fel:
"Dathliad o fywyd gwledig gyda gweithgareddau tyddyn wrth galon, yn arddangos gwir amrywiaeth cefn gwlad Cymru."
O amgylch stondin Arddwriaeth Cyswllt Ffermio bydd marchnad fywiog sy'n cynnwys amrywiaeth o stondinau masnach cyffrous sy'n arddangos garddwriaeth Cymru. P'un a ydych chi'n dyfwr profiadol, newydd-ddyfodiad chwilfrydig, neu'n syml yn edrych i ychwanegu cyffyrddiad o natur i'ch bywyd, ni ddylid colli'r digwyddiad hwn.
Darganfyddwch fwy am Ŵyl Wanwyn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Nôl i'r cynnwys
 Yn ddiweddar, aeth dau aelod o Dîm Bwyd a Diod Cymru i Lundain am gyfle cyffrous - beirniadu Gwobrau Great Taste mawreddog! Gyda Bwyd a Diod Cymru yn brif noddwr, ac yn falch o fod yn noddwr y categori Cymreig, roedd yn gyfle gwych i ddathlu ansawdd rhagorol cynnyrch Cymreig.
Roedd ganddyn nhw'r dasg anodd o flasu bwyd a diod anhygoel o bob rhan o'r DU a thu hwnt, helpu i ddewis y gorau o ran blas, ansawdd ac arloesedd.
Da iawn i'r holl geisiadau Cymreig - croesi bysedd am rai sêr aur haeddiannol!
Darllenwch fwy am y ‘Guild of Fine Foods’ – Gwobrau Great Taste (Saesneg yn unig)
Nôl i'r cynnwys
Nôl i'r cynnwys
 Rydym yn gyffrous i gyflwyno Pecyn Cymorth Brand Arfer Gorau Bwyd a Diod Cymru - eich canllaw ar gyfer cymhwyso ein brand yn gyson. Mae'r adnodd ymarferol hwn yn sicrhau hunaniaeth glir, broffesiynol i bawb.
Mewngofnodwch i ardal yr aelodau nawr i archwilio'r pecyn cymorth a lawrlwytho asedau brand!
Nôl i'r cynnwys
|