|
Croeso i'n cylchlythyr Diogelwch Adeiladau - sydd wedi'i gynllunio i roi gwybod i chi am gynnydd y Rhaglen Diogelwch Adeiladau.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar X / Twitter gan ddefnyddio @LlC_Cymunedau
 Ar 26 Chwefror cyhoeddais ymateb ysgrifenedig i adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Grenfell. Er bod argymhellion yr ymchwiliad yn cael eu cyfeirio'n ffurfiol at Lywodraeth y DU ac at gyrff Lloegr fel Brigâd Dân Llundain, mae llawer o’i brif argymhellion yr un mor berthnasol inni yma yng Nghymru. Rydyn ni'n derbyn canfyddiadau’r Ymchwiliad ac yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DU, a Llywodraethau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, i fwrw ymlaen â'r diwygiadau a argymhellwyd.
I gael mynediad at fy natganiad ysgrifenedig yn llawn, gweler y ddolen isod:
Datganiad Ysgrifenedig: Ymateb i'r Adroddiad ar Ymchwiliad Tŵr Grenfell Cam 2 (26 Chwefror 2025) | LLYW.CYMRU
Roeddwn yn falch o fynychu cyfarfod arall o'r Grŵp Rhanddeiliaid Strategol Diogelwch Adeiladau ym mis Chwefror. Byddaf yn parhau i fynychu cyfarfodydd yn rheolaidd i drafod blaenoriaethau ac i glywed barn aelodau.
Mae Diogelwch Adeiladau yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, a byddwn yn parhau i yrru ein rhaglenni cyweirio a diwygio yn eu blaen yn gyflym.
Gan weithio gyda'r Cladiators Cymreig, rydym yn falch o gyhoeddi sefydlu'r Grŵp Lesddeiliaid a Phreswylwyr.
Bydd y Grŵp hwn yn rhoi cyfle i lesddeiliaid a thrigolion rannu eu profiadau, ceisio cymorth a llywio polisi cenedlaethol ynghylch diogelwch adeiladau yng Nghymru.
Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 29 Ebrill 2025.
Bydd Production 78 yn hwyluso'r grŵp ar ran Llywodraeth Cymru. Maent yn dod â chyfoeth o brofiad ar redeg a rheoli digwyddiadau.
Os hoffech gymryd rhan a mynychu cyfarfod cyntaf y Grŵp Lesddeiliaid a Phreswylwyr, archebwch drwy ddefnyddio'r ddolen isod:
https://forms.office.com/e/5cNyy330Ka
Fel arall, gallwch sganio’r cod QR yma:
Y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid
Yn olaf, mewn ymateb i rai o'r anawsterau y mae lesddeiliaid wedi'u hwynebu, datblygodd Llywodraeth Cymru y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid. Nod y cynllun yw helpu pobl sydd mewn caledi ariannol sylweddol neu sy'n wynebu'r fath galedi o ganlyniad uniongyrchol i faterion diogelwch tân sy'n effeithio ar eu heiddo. Ers i'r cynllun agor ym mis Mehefin 2022, mae wedi cefnogi 12 o lesddeiliaid. Mae'r defnydd is na'r disgwyl hwn i'w groesawu. Cafodd hyn ei hwyluso mae’n debyg drwy gyflwyno'r canllawiau prisio gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, ac mae gan bob adeilad yng Nghymru dros 11 metr lwybr i gyweirio erbyn hyn. Oherwydd hyn, ac fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, ni fydd y gwasanaeth yn ymestyn y tu hwnt i Fehefin 2025. Felly, rhaid cyflwyno pob cais newydd am gymorth cyn y dyddiad cau hwn. Byddem yn annog lesddeiliaid i wirio a ydynt yn gymwys i gael cymorth ar:
Y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid | LLYW.CYMRU
Diweddariad Tri Fire
Yn ddiweddar, cafwyd sylw yn y cyfryngau a honiadau yn erbyn Tri Fire ac Adam Kiziak, yn dilyn ei atal gan y Sefydliad Peirianwyr Tân (IFE). Gallaf gadarnhau nad yw Tri Fire wedi cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ac nad yw erioed wedi bod ar restr gymeradwy yng Nghymru i gynnal arolygon.
Os nodir unrhyw adeilad yn y rhaglen lle y mae ymchwiliadau neu arolygon wedi'u cynnal gan Tri Fire, bydd y rhain yn destun adolygiad gan gymheiriaid gan gontractwr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'n proses safonol.
Nid oes unrhyw adeiladau yn ein rhaglen wedi cael eu cymeradwyo neu ni fyddant yn cael eu cymeradwyo fel rhai sydd wedi'u cwblhau gan ddefnyddio asesiadau Tri Fire.
Data Rhaglen Gyweirio
Ar hyn o bryd mae gennym 448 o adeiladau yn Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru. O'r rhain, mae 269 yn adeiladau deiliadaeth breifat a 179 yn adeiladau cymdeithasol. Mae nifer cyffredinol yr adeiladau cymdeithasol wedi gostwng ychydig y chwarter hwn wrth i ni wirio cymhwysedd ar gyfer y rhaglen. Mae'r dilysiad hwn wedi arwain at ostyngiad yng nghyfanswm yr adeiladau a gwblhawyd. Nid yw hyn yn golygu bod llai o adeiladau wedi'u cwblhau; fodd bynnag, mae dyblygiadau wedi'u tynnu allan.
O'r 448 o adeiladau, mae 42% naill ai'n gyflawn neu mae gwaith yn mynd rhagddo, mae 50% o’r adeiladau yn y camau cynllunio, gyda'r 8% sy'n weddill naill ai ddim angen gwaith, neu nid yw'r anghenion cyweirio wedi'u nodi eto.
Mae'n bosibl y bydd y ffigurau hyn yn newid wrth i ragor o adeiladau gael eu nodi, ac i ragor o wybodaeth gael ei chasglu.
 Perfformiad Datblygwyr
Rydym yn falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud gan y datblygwyr mwy sydd wedi llofnodi'r contract gyda Llywodraeth Cymru ac sydd wedi ymrwymo i ymgymryd â'r gwaith diogelwch tân y maent yn gyfrifol amdano.
O ganlyniad i'r uno rhwng Barratt a Redrow, mae adroddiadau am berfformiad wedi'u cyfuno, ac yn y dyfodol bydd y datblygwr yn cael ei adnabod a'i nodi fel BarrattRedrow.
Mae'r tabl isod yn rhoi cyfanswm yr adeiladau ar gyfer pob datblygwr. Noder: Nid yw Westmark wedi llofnodi contract y datblygwr, fodd bynnag, mae'n adrodd i Lywodraeth Cymru ar gynnydd yn unol â gofynion y contract.
| Datblygwr |
Cyfanswm nifer yr adeiladau |
| BarrattRedrow |
32 |
| Bellway |
22 |
| Crest Nicholson |
3 |
| Lovell |
5 |
| McCarthy Stone |
2 |
| Persimmon |
38 |
| Taylor Wimpey |
27 |
| Vistry and Countryside |
6 |
| Watkin Jones |
6 |
| Lendlease |
13 |
| WestMark |
2 |
Mae'r graff isod yn dangos nifer yr adeiladau ym mhob un o'r camau cynnydd amrywiol ar gyfer pob datblygwr. Er mwyn sicrhau cysondeb o ran adrodd ar gyfer pob adeilad yn y rhaglen, defnyddir y disgrifyddion canlynol wrth benderfynu ar gam y cynnydd:
- Cwblhawyd y gwaith: Mae'r holl waith diogelwch tân angenrheidiol wedi'i gwblhau
- Cynlluniau yn eu lle – Gwaith wedi dechrau: Mae gwaith diogelwch tân wedi dechrau ac mae contractwyr ar y safle
- Cynlluniau yn eu lle – Gwaith heb ddechrau: Mae'r holl arolygon gofynnol yn gyflawn. Gweithgareddau cyn adeiladu ar y gweill megis dylunio manwl, trafod trwyddedau mynediad, tendro/negodi contractau a chaniatâd cynllunio
- Cynlluniau yn eu lle – aros am arolygon: Mae'r arolygon gofynnol wedi'u comisiynu a/neu eu trefnu, neu maent wedi'u cwblhau a rhaid aros am adroddiadau terfynol.
- Dim cynlluniau ar waith/gwaith heb ei ddechrau: Mae'r gwaith adeiladu wedi ei gydnabod fel bod yng nghwmpas y rhaglen, ond does dim arolygon nac ymchwiliadau wedi'u cynnal hyd yma - gallai hyn fod oherwydd diffyg ymgysylltu, er enghraifft
  |
Mae disgwyl i'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) gael ei gyflwyno yn Haf 2025. Bydd y Bil yn sefydlu system reoleiddio gadarn a chydlynol, a fydd yn dwyn y rhai sy'n gyfrifol i gyfrif ac yn sicrhau y caiff gwybodaeth gywir a chyfredol ei chadw am bob adeilad preswyl amlfeddiannaeth o fewn y cwmpas.
Ym mis Tachwedd 2024, cynhaliwyd gweithdai gydag awdurdodau lleol i gefnogi gweithredu'r Bil. Gan adeiladu ar y gweithdai hyn, rydym yn datblygu cynllun cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o'r Bil a chefnogi'r holl randdeiliaid, gan gynnwys trigolion, i gymryd camau i baratoi ar gyfer y drefn newydd.
Tîm Arolygu ar y Cyd
Mae'r Cyd-Dîm Arolygu (JIT) yn parhau i arolygu adeiladau ledled Cymru, gyda rhaglen o arolygiadau wedi'u cytuno ar gyfer gweddill y flwyddyn. Rydym wedi comisiynu Miller Research i gynnal gwerthusiad o'r JIT. Bydd y gwerthusiad hwn yn cefnogi gwneud penderfyniadau ynghylch rôl y JIT yn y dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth am y Tîm i'w gweld ar ei wefan:
www.jit.cymru; neu www.jit.wales, e-bost: info@jit.wales
Mae sawl darpariaeth o Ddeddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 bellach wedi dod i rym. Mae hyn yn cynnwys dileu'r 'rheol 2 flynedd', a oedd yn cyfyngu ar fynediad i hawliau rhyddfreinio lesddeiliaid, yn ogystal ag ehangu meini prawf cymhwyso fel y gall mwy o adeiladau defnydd cymysg arfer yr Hawl i Reoli.
Ar 7 Mawrth, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddiweddariad i'r Senedd ar weithredu'r Ddeddf a diwygiadau yn y dyfodol. I gael mynediad i'r datganiad yn llawn, gweler y ddolen isod:
Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Ddiwygio'r Senedd (07 Mawrth 2025) | LLYW.CYMRU
Mae ymgynghoriad wedi'i gyhoeddi sy'n cwmpasu ystod o gynigion ar gyfer ein cam nesaf o weithredu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022. Mae'r cynigion yn cwmpasu pynciau fel:
- Cyfrifoldebau deiliad dyletswydd ar gyfer yr holl waith adeiladu,
- Edefyn Aur o wybodaeth adeiladu risg uwch,
- Pyrth Prosesau ar gyfer cyfundrefn rheolaeth adeiladu llymach ar gyfer gwaith adeiladu risg uwch,
- Hysbysiadau Cydymffurfio ac Atal sy'n darparu pwerau gorfodi newydd i Awdurdodau Lleol,
- Newidiadau ehangach i reoliadau adeiladu, gan gynnwys
Rydym yn argymell yn gryf i bob parti â diddordeb ddarllen yr ymgynghoriad a darparu ymateb, a fydd yn helpu i lywio'r cam pwysig nesaf o ddiwygio sut mae gwaith adeiladu yn cael ei reoli yng Nghymru.
Mae'r ffurflen ymgynghori ac ymateb i'w gweld yma:
Trefn rheoli adeiladu newydd ar gyfer adeiladau risg uwch a newidiadau ehangach i'r rheoliadau adeiladu yng Nghymru | LLYW.CYMRU
|