Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Pob lwc i bawb sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru
Mae pawb yn aros yn eiddgar am seremoni Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru (NTAW) a fydd yn cael ei chynnal ddydd Iau, 27 Mawrth yn Venue Cymru, Llandudno. Dyma'r tro cyntaf i'r gwobrau gael eu cynnal ers 2018, gan gynnig llwyfan i gydnabod a dathlu rhagoriaeth mewn twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau yng Nghymru.
Y Rownd Derfynol a’r Noddwyr:
Diolch i’r noddwyr sy’n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru. Mae’r rhestr o noddwyr ar wefan y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru.
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol! Pob hwyl ar y noson.
Edrychwch ar ein rhestr fer ar wefan y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru.
Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddathlu gyda chi ar y noson! Peidiwch ag anghofio ein tagio ar Facebook, LinkedIn a X gan ddefnyddio #NTAWales25 a #GTCCymru25.
Helpwch i Lunio Gwasanaethau Llety Ymwelwyr Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) etc. (Cymru). Mae Awdurdod Refeniw Cymru (WRA), adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru, bellach yn cynnal ymchwil i ddefnyddwyr ar ddylunio'r gwasanaethau i weithredu'r Bil.
Mae llawer o ddarparwyr llety eisoes wedi rhannu eu barn. Nawr mae angen i'r WRA glywed gan weithredwyr mwy, gan gynnwys grwpiau gwestai sydd â sawl safle yng Nghymru.
Helpwch i lunio gwasanaethau sy'n gweithio i fusnesau fel eich un chi. I ymuno â rhaglen ymchwil defnyddwyr WRA, anfonwch e-bost at: visitorlevy@wra.llyw.cymru.
Ymgynghoriad agored: Gwella perfformiad ynni cartrefi wedi’u rhentu’n breifat: diweddariad 2025
Mae'r Llywodraeth yn cynnig codi'r safon effeithlonrwydd ynni gofynnol ar gyfer cartrefi wedi’u rhentu’n breifat yng Nghymru a Lloegr i'r hyn sy'n cyfateb i Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) C erbyn 2030. Nod y polisi hwn yw sicrhau arbedion sylweddol ar filiau ynni a lleihau allyriadau carbon, gan gyfrannu at darged tlodi tanwydd statudol 2030 a chyllidebau carbon y Llywodraeth.
Rydym yn eich gwahodd i rannu eich barn ar gynigion y Llywodraeth i wella safonau effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi wedi’u rhentu’n breifat yng Nghymru a Lloegr erbyn 2030.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Gov.uk.
Mae'r ymgynghoriad hwn hefyd yn ceisio barn ar a ddylid cynyddu cwmpas rheoliadau'r sector rhentu preifat i gynnwys lletyau gosod tymor byr i sicrhau safon gyson rhwng cartrefi wedi’u rhentu’n breifat a lletyau gosod tymor byr. Mae rhagor o wybodaeth mewn perthynas â lletyau gosod tymor byr ar gael ar dudalen 34 o'r ddogfen hon.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 23:59pm ar 2 Mai 2025.
Calendr Cruise Wales a galw am siaradwyr Almaeneg fel Llysgenhadon
Mae'r calendr diweddaraf o longau mordeithio sy'n galw yng Nghymru bellach ar gael ar galendr Cruise Wales | Masnach Deithio Cymru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod i roi croeso cynnes Cymreig i’r ymwelwyr!
Ar hyn o bryd mae Cruise Wales yn chwilio am siaradwyr Almaeneg sy'n barod i groesawu ein teithwyr Almaeneg sy'n ymweld pan fydd llongau yn galw ym Mhorthladd Abergwaun a Chaergybi.
Mae siaradwyr Almaeneg yn cael eu hannog i ymuno â'r timau croeso yn y ddau borthladd er mwyn gwella profiad teithwyr ac arddangos Cymru fel prif gyrchfan mordeithio. Mae hon yn ffordd wych o roi croeso cynnes i deithwyr o'r Almaen i Gymru - gan ymgysylltu drwy eu hiaith eu hunain tra'n eu tywys i'w bysiau ar gyfer gwibdeithiau, darparu gwybodaeth i dwristiaid a nodi lleoedd diddorol i ymweld â nhw.
Darperir hyfforddiant ac os hoffech ddarganfod mwy, anfonwch e-bost at Elaine Thomas ar elaine.thomas4@llyw.cymru
Gwella eich marchnata ar croesocymru.com
Mae'r gwanwyn yn dod, mae'n amser da i wirio eich tudalen wefan ar croesocymru.com.
Mae defnyddwyr y wefan yn aml yn dibynnu ar luniau wrth ddewis lle i aros neu ymweld ag ef. I roi'r argraff orau, gwiriwch fod eich rhestr yn gwneud y defnydd gorau o'ch ffotograffiaeth i arddangos eich cynnig. Mae ychwanegu delweddau yn syml, dim ond mewngofnodi i'r offeryn rhestru cynnyrch, ewch i'r adran 'Delweddau a Fideos', cliciwch ar + Delweddau a llwytho eich lluniau.
Gallwch hefyd wella'r canlyniadau chwilio rydych chi'n ymddangos ynddynt trwy ddefnyddio'r opsiynau hidlo. Os ydych chi'n cynnig pethau fel Llogi E-Feiciau, E-wefru neu Derbyn Anifeiliaid Anwes, ticiwch yr opsiynau perthnasol yn yr adran 'Cyfleusterau' yn yr offeryn rhestru cynnyrch.
Os oes angen unrhyw help arnoch, mae ein Stiwardiaid Data wrth law, e-bostiwch Stiward Data Croeso Cymru croesocymruhelp@nvg.net neu ffoniwch 0330 808 9410 a byddant yn hapus i helpu.
Cynllun Llysgenhadon Cymru
Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru’n gyfres o gyrsiau ar-lein am ddim a fydd yn eich cyflwyno i wahanol ardaloedd ac atyniadau yng Nghymru. Gallwch gynyddu eich gwybodaeth am Gymru a helpu eraill i fanteisio i’r eithaf ar eu hymweliad.
Os ydych chi'n berchennog busnes, mae'n ffordd wych o rannu'r wybodaeth rydych chi wedi'i dysgu gyda'ch cwsmeriaid. Mae hefyd yn ffordd rad a hawdd o gynnwys eich tîm i helpu ymwelwyr i deimlo bod croeso iddynt a’u galluogi i fanteisio i'r eithaf ar eu hymweliad yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Llysgennad Cymru – Cynllun Llysgenhadon Cymru
Digwyddiadau i ddod a ariennir gan Digwyddiadau Cymru 2025:
Digwyddiadau ychwanegol:
Diwydiant Croeso Cymru ar Facebook a LinkedIn
Mae Diwydiant Croeso Cymru bellach ar LinkedIn! Cysylltwch â ni i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd diweddaraf y diwydiant.
Dilynwch ni ar
Facebook: @Croeso Cymru Diwydiant
LinedIn: @Visit Wales Industry
|
Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru
Gellir dod o hyd i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar Ymgynghoriadau | LLYW.CYMRU.
Newyddion diweddaraf Busnes Cymru
Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf oddi wrth Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Dyma rai o’r erthyglau diweddaraf:
Tanysgrifiwch i gael newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru (govdelivery.com) – ar ôl ichi gofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru mewn un man.
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|