Mae ras feicio fwyaf y byd yn dod i Gymru!
Ddoe, cyhoeddwyd y bydd cymal o ras feicio fwyaf y byd, y Tour de France, yn dod i Gymru yn 2027!
Wedi'i darlledu mewn 180 o wledydd ac yn cael ei gwylio gan 150 miliwn yn Ewrop yn unig, bydd y Tour de France yn arddangos Cymru ar y llwyfan mwyaf oll. Mae wedi bod yn uchelgais i groesawu y daith hon i Gymru ers amser maith, ac yn dilyn cydweithrediad agos â'n partneriaid rydym yn barod i fanteisio'n llawn ar y digwyddiad byd-enwog hwn.
Bydd Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos â'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch, cyrff a chymunedau beicio i ddiddanu cynulleidfaoedd ledled y byd, adeiladu ar ein treftadaeth chwaraeon, a chreu etifeddiaeth ar gyfer twristiaeth beicio yng Nghymru.
Mae disgwyl i filiynau o bobl fod ar y hyd y strydoedd i weld y Tour de France yn dychwelyd unwaith eto, ac i'r Tour de France Femmes avec Zwift gael ei chynnal am y tro cyntaf erioed ym Mhrydain, gan gynnig hwb mawr i economi ymwelwyr Cymru.
Meddai Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru:
"Mae cymal Cymru Grand Depart UK 2027 yn addo bod yn brofiad cofiadwy i gystadleuwyr a chefnogwyr fel ei gilydd. Gyda thirweddau trawiadol, cymunedau cynnes a chroesawgar, a sylfaen o bobl sy’n teimlo’n frwdfrydig am feicio, bydd Cymru yn cynnig yr her eithaf a Croeso Cymreig unigryw i ras feicio fwyaf y byd.
"Byddwn yn adeiladu ar ein hanes llwyddiannus o gynnal digwyddiadau beicio ffordd, gan sicrhau bod y Tour De France yn cael effaith gadarnhaol a pharhaol ar feicio yng Nghymru, drwy arddangos Cymru fel y gyrchfan ryngwladol orau i feicwyr ac annog mwy o bobl yng Nghymru i ymddiddori mewn beicio."
Beicio yng Nghymru
Mae'r tirweddau garw, yr elltydd heriol, ac yn bwysig iawn – seibiannau coffi ardderchog – yn gwneud Cymru yn gyrchfan beicio ffordd boblogaidd i'r selogion.
Gyda £102 miliwn yn cael ei wario’n flynyddol ar deithiau twristiaeth beicio yng Nghymru ac amcangyfrifwyd i'r Grand Départ 2014 yn Swydd Efrog gynhyrchu tua £131 miliwn mewn buddion economaidd, mae’r farchnad bosibl yn enfawr. Mae digwyddiadau beicio ar raddfa fawr yng Nghymru yn cynnig cyfle gwych i arddangos ein diwylliant a'n tirwedd o lwybrau teuluol i deithiau beicio. Mae yna gyfleoedd beicio i bawb, o bob gallu a diddordeb.
Mae gan wefan Croeso Cymru ddetholiad o erthyglau, teithlenni a syniadau ar gyfer llwybrau sy'n addas i feicwyr o bob gallu - gan gynnwys beicio ar y ffordd ar lefel uchel, anturiaethau beicio ar raean, teithiau i deuluoedd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a lleoedd i ymweld â hwy ar hyd llwybr beicio'r Llwybr Celtaidd. Byddwn yn edrych mwy hefyd ar sut i ddatblygu ein cynnig digidol ar gyfer beicwyr.
Rydym newydd lansio ein arddangosiad beicio, gan roi trosolwg o pam mae Cymru yn baradwys i feicwyr. Gyda gwybodaeth am lwybrau gwych a digwyddiadau proffil uchel, defnyddiwch a rhannwch hwn i'n helpu i ledaenu'r gair bod Cymru yn gyrchfan feicio wych. Os oes gennych unrhyw newyddion cyffrous am gynnyrch beicio, rhowch wybod i ni drwy e-bostio productnews@llyw.cymru.
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|