Dathlu y Gorau o Gymru yn yr Uwchgynhadledd Genedlaethol ar gyfer Twristiaeth a'r Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol
Ddoe (dydd Iau 27 Mawrth) gwelwyd dathliadau twristiaeth yng Nghymru yn Uwchgynhadledd Genedlaethol ar gyfer Twristiaeth Llywodraeth Cymru a'r Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol, gyda thwristiaeth a lletygarwch yn cael eu canmol fel "enaid economi Cymru" gan greu swyddi ac ysgogi twf.
Wrth fynychu'r uwchgynhadledd yn Llandudno, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, ei bod yn gwerthfawrogi gwybodaeth y sector ac eisiau dysgu o flynyddoedd o brofiad y rhai fu yn bresennol ar y rheng flaen.
Croesawodd Uwchgynhadledd Genedlaethol ar gyfer Twristiaeth Llywodraeth Cymru arweinwyr twristiaeth amlwg o Gymru, ledled y DU ac Ewrop, a ymgasglodd i edrych ar y cyfleoedd i ddiwydiant sy'n pwmpio £3.8bn i economi Cymru bob blwyddyn. Gyda chyfrifoldeb am Dwristiaeth, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth siarad yn y digwyddiad:
"Mewn byd lle mae teithio yn ein cysylltu yn fwy nag erioed o'r blaen, nid wyf yn cymryd yn ganiataol y rôl hynod bwysig y mae busnesau twristiaeth a lletygarwch yn ei chwarae. Maent yn gyrru economïau lleol ac yn cynhyrchu incwm i gymunedau ledled Cymru.
"Mae ein huchelgais yn glir: datblygu profiadau o ansawdd uchel, gydol y flwyddyn sy'n cyfoethogi bywydau ymwelwyr a'n cymunedau lletyol.
"Rydyn ni'n buddsoddi i barhau â'n marchnata arobryn o Gymru i'r byd – ac rwy'n gwybod y gallwn weithio gyda'n gilydd i adeiladu ar y cryfderau niferus sy'n dod â phobl yma."
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector dros y flwyddyn ariannol nesaf yn cynnwys:
- Croeso Cymru: Cyllideb refeniw o dros £9m a chyllideb gyfalaf o £6m
- Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru sy’n werth £50m
- Cronfa Y Pethau Pwysig gwerth £5m
Bydd cyflwyniadau o'r Uwchgynhadledd yn cael eu dosbarthu drwy ein bwletin ac ar gael ar ein Gwefan Diwydiant Croeso Cymru.
Yn ddiweddarach y noson honno yn y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol, agorodd Ysgrifennydd y Cabinet y dathliad twristiaeth fel rhan o Flwyddyn Croeso Croeso Cymru, gan gydnabod y rhai sydd wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau i lunio cyd-destun twristiaeth Cymru.
Cyflwynwyd gwobrau i fusnesau ac unigolion rhagorol. Cyrhaeddodd gyfanswm o 48 o bob cwr o Gymru y rhestr fer mewn 12 categori yn amrywio o'r Atyniad Gorau i'r Digwyddiad Gorau ac yn cynnwys gwobrau am Dwristiaeth Gynaliadwy, Hygyrchedd a Chynhwysiant a Chyfeillgar i Gŵn
Ymhlith yr enillwyr roedd Gwesty Plas Dinas yng Nghaernarfon, a enwyd yn y Gwesty Gorau; Canolfan Rock UK yn Nhreharris, a enillodd y wobr am y Gweithgaredd, y Profiad neu'r Daith Orau – a Charly Dix o Lan y Môr yn Saundersfoot a enillodd wobr Atyniad Newydd.
Wrth annerch y gynhadledd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae twristiaeth yn rhan annatod o wead bywyd Cymru, ac mae gan Gymru atyniadau cynhenid cryf, felly dylem ddathlu hynny ar fwy nag un noson y flwyddyn.
"Mae'r dyfodol yn llawn cyfleoedd. Gadewch i ni roi Croeso Cymreig i hyd yn oed mwy o bobl sy'n dod i Gymru yn yr wythnosau, y misoedd a'r blynyddoedd i ddod!"
Fel rhan o Flwyddyn Croeso, cyflwynwyd "Gwobr Croeso" arbennig er cof am y diweddar Ian Edwards, Prif Weithredwr The Celtic Collection ac ICC Wales i gydnabod ei wasanaethau i dwristiaeth a lletygarwch.
Diolch yn fawr i holl noddwyr y gwobrau! Mae eich cefnogaeth yn amhrisiadwy i lwyddiant Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025.
Llongyfarchion enfawr i'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a'r enillwyr. Gellir dod o hyd i'r rhestr lawn o enillwyr y gwobrau ac uchafbwyntiau'r dathliadau ar The National Tourism Awards.
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|