O’n bro i’r byd – helpwch ni i droi’r byd yn Gymreig ar Ddydd Gŵyl Dewi
Byddwn ni’n dathlu ein diwrnod cenedlaethol eleni trwy gael bach o hwyl a rhannu rhai o’r Pethau Bychain unigryw Cymreig ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r ymgyrch hon yn gyfle wych i chi ymuno â’r hwyl a gwneud ein diwrnod cenedlaethol yn un cofiadwy i’ch partneiriaid a’ch cwsmeriaid.
Os oes gennych chi gynlluniau arbennig i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi byddem wrth ein bodd yn clywed gennych er mwyn i ni allu rhannu eich dathliadau: rhowch wybod i ni ar Croeso@llyw.cymru
Mae’r Pethau Bychain yn:
- Hawdd i’w gwneud, ac yn gwneud gwahaniaeth mawr.
- Dathlu ein pobl a’n traddodiadau.
- Ac, yn fwy na dim, mae’n gwneud diwrnod rhywun ychydig yn well.
Dyma pecyn wybodaeth gyda manylion ychwanegol a fideo i’ch ysbridoli.
Sut i gymryd rhan …
-
-
Dewiswch un o’r Pethau Bychain o’r rhestr llawn ar ein wefan
-
Dilynwch @cymraeg, @Walesdotcom a @croesocymru ar y cyfryngau cymdeithasol
-
Rhannwch y Pethau Bychain ar Ddydd Gwyl Dewi gan ddefnyddio #pethaubychain a #randomactsofwelshness
Mae mwy o wybodaeth am Pethau Bychain ar gael yma.
Pecyn Cymorth Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer Cynhyrchwyr Bwyd a Diod Cymru
Mae Bwyd a Diod Cymru wedi creu pecyn cymorth ar gyfer cynhyrchwyr Bwyd a Diod Cymru i hyrwyddo eu brandiau ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Bydd yr ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn dechrau ar y 24ain o Chwefror - gyda fframiau digidol yn annog prynwyr i ‘Wneud yn Gymreig’.
Fel yn achos ymgyrchoedd blaenorol, ceir pecyn cymorth digidol newydd y gallwch ei ddefnyddio wrth gyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr ymgyrch.
Mae'r pecyn cymorth digidol a mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|