Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru

Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

21 Chwefror 2025


Llun o Venue Cymru, Llandudno

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


Cyfri’r dyddiau tan Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru

Bydd seremoni Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru (NTAW) yn cael ei chynnal ddydd Iau, 27 Mawrth yn Venue Cymru, Llandudno. Dyma'r tro cyntaf i'r gwobrau gael eu cynnal ers 2018, gan gynnig llwyfan i gydnabod a dathlu rhagoriaeth mewn twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau yng Nghymru.

Mae tocynnau ar gael ac mae’r digwyddiad yn agored i bob busnes twristiaeth neu ddigwyddiad sy’n dymuno mwynhau’r noson fawreddog hon o ddathlu. Mae tocynnau ar gael ar wefan NTAW.

Uchafbwyntiau'r digwyddiad:

  • Dathlu Rhagoriaeth: Ymunwch â ni i anrhydeddu'r llwyddiannau rhagorol yn niwydiant twristiaeth Cymru. Dyma’ch cyfle i fod yn rhan o ddigwyddiad sy’n dathlu gwaith caled ac ymroddiad y rhai sy’n helpu i wneud Cymru’n leoliad o’r radd flaenaf.
  • Rhwydweithio ag arweinwyr diwydiant: Rhannu straeon, a bod yn rhan o gymuned sy'n gwerthfawrogi rhagoriaeth.
  • Perfformiadau Arbennig: Bydd y noson yn cynnwys perfformiadau sy'n dathlu diwylliant a thalent Cymru, gan gynnwys grŵp Welsh of the West End a gyrhaeddodd rownd gyn derfynol Britain’s Got Talent a Band Pres Llareggub, sy’n dod â thro modern newydd i draddodiad oesol bandiau pres o bentrefi glofaol Gogledd Cymru.

Y Rownd derfynol a’r noddwyr:

Diolch i’r noddwyr sy’n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru.

  • Prif Noddwr - Castell Howell
  • Gwesty Gorau - Everbright Hotel
  • Llety Hunanddarpar Gorau - PASC UK Cymru
  • Yr Atyniad Gorau - Folly Farm
  • Gweithgaredd, Profiad neu Daith Orau - The Celtic Collection 
  • Bro a Byd - Trafnidiaeth Cymru
  • Y Lle Gorau i Fwyta - Cambrian Training 
  • Seren y Dyfodol - Academi Croeso
  • Y Digwyddiad Gorau - Avanti West Coast 
  • Busnes Cyfeillgar i Gŵn Gorau - Haven, Hafan y Môr
  • Noddwr argraffu - W.O.Jones

Mae tri chategori yn weddill ar gael: -

  • Llety Gwely a Brecwast, Tafarn, Tŷ Llety Gorau - ar gael
  • Safle Carafanio, Gwersylla a Glampio Gorau - ar gael
  • Gwobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol - ar gael

Am ragor o wybodaeth, i noddi’r categori hwn e-bostiwch info@walestourismawards.co.uk .

Mae rhestr o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a'r noddwyr i'w gweld yn gwobrautwristiaethcymru.co.uk.

Ymunwch â ni am gyfle gwych i ddathlu a rhwydweithio cyn i'r tymor twristiaeth newydd ddechrau.


Teimlo’r Hwyl yn Llundain: Sylwch ar ein hysbysebion cyffrous ar draws y ddinas!

Os byddwch chi'n teithio i Lundain yn ystod yr wythnosau nesaf, cadwch lygad yn agored am ein hymgyrch hysbysebu gyffrous Oddi Allan i’r Cartref. 

Rydyn ni'n dod â Hwyl i'r ddinas gyda hysbysebion yn rhai o'r lleoliadau mwyaf gweladwy. Edrychwch am ein byrddau ar ochr y ffordd ar Heol Cromwell, y prif lwybr rhwng Heathrow a Chanol Llundain, a’r tu allan i’r Outernet ar groesffordd brysur Oxford Street a Tottenham Court Road. Byddwch hefyd yn dod o hyd i'n hysbysebion digidol ar draws gwahanol orsafoedd rheilffyrdd a thanddaearol allweddol.

Bydd ein hymgyrch Hwyl flaenllaw i’w gweld ar draws Llundain cyn Wythnos Cymru Llundain. Bydd yn ymgyrch yn dechrau ar 17 Chwefror ac yn cael ei chynnal am bythefnos. Peidiwch â'i cholli ac os ydych chi'n sylwi ar ein hysbysebion, tagiwch ni gyda #Hwyl / #FeeltheHwyl.

Gallwch hefyd gymryd rhan yn yr ymgyrch drwy ymddangos ar ein Wal o Hwyl ar dudalen hafan ein gwefan. I ymddangos, y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud ydi ein tagio gyda #FeelTheHwyl, #Hwyl, #CroesoCymru neu @CroesoCymru ar Instagram. Am fwy o wybodaeth ewch i Blwyddyn Croeso | Diwydiant.

Llun o ymgyrch Hwyl yn Llundain

Cynllun Gweithredu Twristiaeth Antur i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru (STAC) i ddatblygu Cynllun Gweithredu ar gyfer Twristiaeth Antur yng Nghymru (2025-2030). Bydd y cynllun gweithredu hwn yn sicrhau bod y sector yn gallu ymateb i’r tueddiadau yn yr economi ymwelwyr a darparu buddion iechyd a lles sylweddol i bobl Cymru gan hefyd gydnabod bod rhaid i dwf economaidd fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol.

Os ydych chi’n fusnes sy’n cynnig gweithgareddau awyr agored, rydym yn gobeithio y byddwch yn cwblhau’r arolwg hwn i sicrhau bod y cynllun gweithredu yn adlewyrchu barn ac anghenion y sector darparu gweithgareddau awyr agored. Mae’r arolwg ar agor tan yr 28ain o Chwefror. Diolch yn fawr!

Cynllun Gweithredu Twristiaeth Antur i Gymru (2025-2030) - Arolwg ar-lein o ddarparwyr


Llun o awyr dywyll yn Bannau Brycheiniog

Sêr yn alinio wrth i Gymru arwain y DU i amddiffyn yr awyr dywyll

Yr wythnos hon Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno canllawiau arfer da cenedlaethol i helpu i ddiogelu ei hawyr dywyll.

Canllawiau Arfer Da: Bydd cynllunio cadwraeth a gwella awyr dywyll yn helpu i sicrhau lles pobl, wrth helpu gwylwyr y sêr a bywyd gwyllt i ffynnu yng Nghymru am genedlaethau i ddod.

Mae osgoi llygredd golau - sy'n gwastraffu arian, ynni a charbon - hefyd o fudd i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru a’r hyn sy'n cael ei gynnig i dwristiaid, gyda'r wlad eisoes yn enwog am fod â'r ganran uchaf o awyr dywyll warchodedig yn y byd.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn.


Castell-nedd Port Talbot yn dathlu RB100: canmlwyddiant Richard Burton

Yn 2025, bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn arwain Canmlwyddiant Richard Burton, gan ddathlu 100 mlynedd ers geni'r actor ym Mhont-rhyd-y-fen.  Mae'r rhaglen hon o weithgarwch yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Digwyddiadau Cymru.

Dechreuodd y dathliad ar 14 Chwefror gydag agoriad Llwybrau Richard Burton ym Mhont-rhyd-y-fen a Thai-bach. Mae'r llwybrau rhad ac am ddim hyn yn cynnwys codau QR sy'n rhoi cipolwg ar fywyd cynnar Burton. Gall y cyhoedd ymweld â Llwybr y Man Geni a'r Llwybr Plentyndod yn rhad ac am ddim ar ôl y lansiad.

Bydd y Llwybrau ar agor drwy'r flwyddyn, gan wahodd pobl leol ac ymwelwyr i ddysgu mwy am Richard Burton drwy deithiau, gweithdai, sgyrsiau, digwyddiadau, perfformiadau a dangosiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, yr Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot:

"Mae gwaddol Richard Burton yn un o greadigrwydd, angerdd a chyflawniad artistig anhygoel. Bydd Blwyddyn y Canmlwyddiant yn gyfle gwych i ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan yn y celfyddydau a dysgu mwy am sut y cynrychiolodd Richard Burton Gymru ar y llwyfan rhyngwladol a'r sgrin fawr. Edrychwn ymlaen at lansio RB100 gydag agoriad Llwybrau newydd Richard Burton".

Darllenwch y datganiad llawn ar wefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Am fwy o wybodaeth am RB100 ewch i Ganmlwyddiant Richard Burton | Dathlu 100 mlynedd


Ymgynghoriad agored: Diwygio'r drefn Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr)

Mae'r rheolau presennol ar gyfer eiddo rhent tymor byr sydd angen Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) yn seiliedig ar ganllawiau gosod gwyliau. Mae angen EPC os yw'r eiddo'n cael ei rentu fel llety gwyliau wedi'i ddodrefnu am lai na 31 diwrnod fesul tenant ac am gyfanswm o bedwar mis neu fwy'n flynyddol, gyda'r deiliad yn gyfrifol am gostau ynni.

Bydd diweddariadau arfaethedig i'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i bob eiddo rhent tymor byr gael Tystysgrif Perfformiad Ynni dilys ar yr adeg y caiff ei osod, ta waeth pwy sy'n talu'r costau ynni.

Gofynnir am farn y cyhoedd ar y cynigion hyn drwy ddau gwestiwn:

  1. A ddylai eiddo rhent tymor byr gael Tystysgrif Perfformiad Ynni ddilys ar y pwynt gosod?
  2. A ddylai'r gofyniad hwn fod yn berthnasol ta waeth pwy sy'n talu'r costau ynni?

Mae'r ymatebion yn amrywio o anghytuno'n gryf i gytuno'n gryf, gyda lle ar gyfer sylwadau a thystiolaeth ychwanegol.

Darllenwch y cyhoeddiad llawn a manylion ar sut i ymateb (Saesneg yn unig).


TXGB yn cynnig cyfleoedd dosbarthu newydd i fusnesau Twristiaeth Cymru

Mae TXGB yn cynnig cyfleoedd dosbarthu newydd i fusnesau Cymru, gan gynnwys y cysylltiad diweddar â Stay in a Pub a Croeso Bae Abertawe. Mae'r bartneriaeth hon yn cynnig posibiliadau eang i ddarparwyr twristiaeth a lletygarwch lleol gyrraedd cynulleidfa ehangach a denu mwy o ymwelwyr. Drwy fanteisio ar rwydwaith TXGB, gall busnesau integreiddio'n rhwydd yr hyn y maent yn ei gynnig ac elwa ar farchnadoedd newydd. P'un a ydych chi'n llety gwely a brecwast bach, yn dafarn hyfryd, neu'n atyniad lleol unigryw, yn newydd i archebion ar-lein neu'n brofiadol, mae TXGB yn darparu'r offer a'r gefnogaeth sydd eu hangen i wella eich gwelededd ac i yrru twf.

Ehangwch eich cyrhaeddiad ac dangoswch y gorau o Gymru i'r byd. Dysgwch ragor am TXGB heddiw a dechreuwch archwilio sianeli dosbarthu newydd a all ddyrchafu eich busnes TXGB | Cynyddu gwerthiannau eich busnes | Diwydiant Croeso Cymru


Bydd Wych. Ailgylcha. Mae’n ymgyrch gwastraff bwyd

Gan ddechrau ar 28 Chwefror ac yn rhedeg tan 23 Mawrth, bydd yr ymgyrch yn cyd-fynd â digwyddiadau cenedlaethol allweddol gan gynnwys Dydd Gŵyl Dewi, y Chwe Gwlad, a’r Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd a hwn fydd yr ymgyrch fwyaf i helpu i gael Cymru i fod yn genedl ailgylchu orau'r byd!

Mae rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi gymryd rhan ar gael ar wefan Cymru yn Ailgylchu.


Digwyddiadau i ddod a ariennir gan Digwyddiadau Cymru 2025:

Digwyddiadau ychwanegol:


logo LinkedIn

Diwydiant Croeso Cymru ar LinkedIn

Mae Diwydiant Croeso Cymru bellach ar LinkedIn! Cysylltwch â ni i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd diweddaraf y diwydiant.

Dilynwch ni ar @Visit Wales Industry / Diwydiant Croeso Cymru


Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru

Gellir dod o hyd i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar Ymgynghoriadau | LLYW.CYMRU.


Newyddion diweddaraf Busnes Cymru

Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf oddi wrth Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Dyma rai o’r erthyglau diweddaraf:

Tanysgrifiwch i gael newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru (govdelivery.com) – ar ôl ichi gofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru mewn un man.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


HomepageFacebookTwitter - XYoutubeInstagram