© Theo Whiteman / HBO
Mae Croeso Cymru a VisitBritain wedi dod ynghyd i gydweithio i lansio'r ymgyrch ‘Starring Great Britain’ yr wythnos hon. Yr wythnos hon dechreuodd yr ymgyrch ryngwladol sy’n targedu ymwelwyr rhyngwladol, gyda dros £8M mewn gweithgareddau, i ysbrydoli ymwelwyr drwy arddangos lleoliadau eiconig. Yn ffilm fer yr ymgyrch, sydd wedi'i hysbrydoli gan ffilmiau mawr ein hoes, dangosir cyrchfannau o bob rhan o'r DU fel cefndir i straeon, cyffro ac anturiaethau gwych. Mae lle amlwg i Gymru ynddi gan gynnwys golygfeydd o House of the Dragon gan HBO, a ffilmiwyd mewn gwahanol leoliadau ar draws Gogledd Cymru. Mae Croeso Cymru'n gweithio'n agos gyda Cymru Greadigol i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth sgrin.
Mae ffilmiau a sioeau teledu yn ysgogi pobl i deithio. Mae ymchwil ddiweddaraf VisitBritain yn datgelu bod mwy na 9 o bob 10 darpar ymwelydd â'r DU yn awyddus i gynnwys lleoliadau teledu a ffilm yn eu taith. Yn ogystal, dywedodd 19% o bobl o’r DU ar wyliau bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn ymweld â lleoliadau ffilmiau, rhaglenni teledu neu lenyddiaeth yng Nghymru. Gwyliwch y ffilm hon sy’n cynnwys Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Twristiaeth, Marchnata, Digwyddiadau a Chreadigol, sy'n siarad am yr ymgyrch ‘Starring GREAT Britain’, a rhoi pwyslais ar Gymru fel prif leoliad ar gyfer cynhyrchu ffilm a theledu.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans:
“Mae set-jetio yn ffordd wych o arddangos yr amrywiaeth gyfoethog o gyrchfannau eithriadol sydd gennym yng Nghymru, o leoliadau eiconig i berlau cudd sydd wedi eu darlunio mewn ffilmiau a chyfresi teledu Cymreig a Phrydeinig poblogaidd. Does dim amheuaeth y gall lleoliad neu gyrchfan o ffilm neu gyfres deledu ennill lle arbennig yng nghalonnau gwylwyr.
Mae gan Gymru swyn unigryw sy'n dal dychymyg teithwyr ledled y byd, ac mae'n addas iawn mai 2025 yw ein Blwyddyn Croeso a man dechrau ein hymgyrch 'Hwyl', i hyrwyddo profiadau a chyrchfannau unigryw ein gwlad i ymwelwyr o bob cwr o'r byd.”
I'r rhai sydd am gymryd 'gwyliau lleoliad' yng Nghymru, mae digon ar gael iddyn nhw, fel:
- Traphont ddŵr ryfeddol Pontcysyllte, o Wallace & Gromit: Vengeance Most Fowl
- Amrywiaeth o leoliadau oedd eisoes yn eiconig, gan gynnwys Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a champws Caerllion Prifysgol De Cymru, a welwyd yn ffilm boblogaidd Netflix i bobl ifanc Sex Education
- Ar y gyfres deledu chwedlonol His Dark Materials - gyda'r actor adnabyddus Lin-Manuel Miranda - gwelwyd Gerddi Llanddewi ger Caldicot a Chapel San Gofan, Sir Benfro
Mae’r ymgyrch yn cynnwys ymweliadau addysgol ar gyfer masnach ryngwladol a’r cyfryngau, gyda theithiau wedi’u teilwra gan ffilmiau ledled y DU. Yn ddiweddar, croesawodd Cymru brynwyr trefnwyr teithiau o wledydd Llychlyn a Ffrainc. Wrth i'r ymgyrch fynd rhagddi, bydd Cymru'n ymddangos mewn hysbysebion ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol, chefnogir hyn holl gan waith ar y cyfryngau cymdeithasol, gwaith PR, ymweliadau gan y cyfryngau a gwaith gyda'r Fasnach Deithiau. Mae hyn yn cyd-fynd â Blwyddyn Croeso Cymru, gan ganolbwyntio ar brofiadau a lleoliadau Cymreig unigryw.
Dyma sut y gallwch chi gymryd rhan:
- Gall busnesau sy'n cefnogi criwiau Teledu/Ffilm gofrestru ar gyfer Gwobr Croeso Cymru i hyrwyddo eu gwasanaethau.
- Mae VisitBritain yn gwahodd busnesau, atyniadau a chyrchfannau i gymryd rhan trwy rannu’r profiadau y maen nhw’n eu cynnig o dwristiaeth sgrin leol eu hunain gan ddefnyddio #StarringGreatBritain.
-
Defnyddiwch y tagiau canlynol hefyd #FeeltheHwyl, #Hwyl, #VisitWales a #CroesoCymru a dywedwch wrthym am eich teithiau a'ch profiadau twristiaeth sgrin: productnews@llyw.cymru.
Dysgwch fwy am sut i gymryd rhan yn yr ymgyrch Ymgyrch 'Starring GREAT Britain'.
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|