Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Cymerwch ran ym Mlwyddyn Croeso: ‘Gwahoddwch y byd i deimlo’r hwyl’
Gydag ymgyrch Croeso Cymru wedi cychwyn yn swyddogol y mis hwn, mae’n wych gweld y byd yn cofleidio ymgyrch Hwyl Croeso Cymru wrth i ni wahodd ymwelwyr o bell ac agos i ddathlu a phrofi eiliadau llawen a hwyliog sy’n unigryw i Gymru.
Mae'r ymgyrch eisoes wedi gweld sylw gwych yn y cyfryngau byd-eang o erthygl yn y Guardian. Deep joy: Wales embraces ‘hwyl’ in tourism campaign to rival Danish ‘hygge’ i erthygl yn yr Independent Move over ‘hygge’ – Wales is inviting tourists to feel the ‘hwyl’ | The Independent ac ar Rwydwaith Masnach Deithio Iwerddon - Visit Wales Launches International Marketing Campaign: 'Feel the Hwyl...Only in Wales' - ittn.ie. Mae yna drafodaethau gwych yn cael eu cynnal ynghylch defnyddio’r gair Hwyl yn ein hymgyrch, ac mae hefyd yn ffantastig gweld bod Cymru yn y 5ed safle ar ddarn gan y BBC The 25 best places to travel in 2025 – BBC Travel.
Bydd ein cam marchnata cyntaf yn parhau tan 31 Mawrth 2025 a byddwch yn ein gweld yn cael sylw mewn cyfryngau fel The Times, Good Housekeeping a Gaydio ac rydym yn fyw ar draws yr holl sianeli teledu gan gynnwys ITV, C4 ac S4C, yn ogystal â gwasanaethau ffrydio Disney+, Netflix, Sky ac ITV X. Rydym hefyd mewn sinemâu ar draws y DU ac ar bob llwyfan digidol - gobeithio eich bod wedi cael y cyfle i weld ein deunyddiau creadigol newydd.
Bydden ni wrth ein boddau tasech chi’n rhannu ac yn cymryd rhan yn yr ymgyrch drwy ymddangos ar ein Wal o Hwyl newydd sbon ar dudalen hafan ein gwefan. I ymddangos, y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud ydi ein tagio gyda #FeelTheHwyl, #Hwyl, #CroesoCymru neu @CroesoCymru ar Instagram.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gymryd rhan a theilwra cynnwys i'ch cynulleidfa ar: Blwyddyn Croeso | Diwydiant.
Penodiad newydd i Fwrdd Awdurdod Twristiaeth Prydain
Mae Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi penodi Michael Bewick i Fwrdd Awdurdod Twristiaeth Prydain (BTA), yn gweithredu fel VisitBritain.
Mae Michael yn Gyd-gadeirydd Partneriaeth Twristiaeth Gynaliadwy Gwynedd ac Eryri, yn gadeirydd Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, ac mae’n arwain datblygu economaidd ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru sydd eisoes wedi denu buddsoddiadau yn y cymunedau llechi gwerth miliynau o bunnoedd.
Dywedodd Michael Bewick:
"Mae gan Gymru gyda'i chyfuniad unigryw o dirwedd a diwylliant bopeth i ddenu mwy o ymwelwyr rhyngwladol a thrwy weithio'n agos gyda VisitBritain gallwn fanteisio ar y marchnadoedd hynny er lles ein busnesau a'n cymunedau."
Bu Michael yn rheoli ac yn datblygu Ogofau Llechi Llechwedd ers 2011 cyn cael ei benodi yn Rheolwr Gyfarwyddwr J W Greaves & Sons sydd bellach yn berchen ar 2,000 erw yn Llechwedd. Mae’r cwmni yn landlord i ddau atyniad twristiaeth, sef Zip World Llechwedd ac Antur Stiniog, ac i gwmni chwarela lleol sy’n parhau â’r traddodiad o gynhyrchu llechi ar y safle.
|
Pencampwriaeth Agored Menywod yr AIG, 30 Gorff - 3 Awst 2025 – sut i gymryd rhan
Yr haf hwn bydd Cymru'n croesawu ymwelwyr o bob cwr o'r byd i Glwb Golff Royal Porthcawl lle cynhelir un o'r digwyddiadau mwyaf ym myd golff, Pencampwriaeth Agored Menywod yr AIG. Dyma'r tro cyntaf i'r Bencampwriaeth gael ei chynnal yng Nghymru ac fel y digwyddiad chwaraeon mwyaf i fenywod erioed yng Nghymru, byddwn yn croesawu golffwyr gorau'r byd ac ymwelwyr i lan-môr trawiadol Cymru yn ystod ein Blwyddyn Croeso.
Sut mae cymryd rhan?
- Dewch draw a theimlo hwyl y Bencampwriaeth eich hun – prynwch docynnau ar Royal Porthcawl | Pencampwriaeth Agored Menywod yr AIG.
- Gofalwch fod ymwelwyr yn cael gwybod am y digwyddiad, sut i gael tocynnau a chael blas ar ein llwybrau golff o gwmpas Cymru.
- Gyda chwaraewyr ac ymwelwyr yn dod o bob cwr o'r byd ac o bosibl yn teithio ac yn aros i brofi gweithgareddau eraill, gwnewch yn siŵr bod eich rhestr cynhyrchion ar Croeso Cymru yn gyfredol. Gallwch ei newid gyda'r offeryn rhestru cynnyrch.
- Gwirfoddolwch i helpu yn y Bencampwriaeth a rhannu'r cyfle hwn - Bydd gwirfoddolwyr yn hanfodol i lwyddiant y twrnamaint a bydd Royal Porthcawl am glywed gan unrhyw un sydd am helpu gyda'r digwyddiad. Bydd gofyn i bob gwirfoddolwr weithio 4 shifft gan gynnwys 3 diwrnod y Bencampwriaeth. Bydd pob gwirfoddolwr yn cael dillad, bwyd a diod a thocyn. Cofrestrwch ar: Gwirfoddoli
A hithau'n argoeli bod yn flwyddyn anferth i gampau menywod yn 2025 yng Nghymru, cyhoeddwyd sefydlu Cronfa Etifeddiaeth Golff Menywod, i helpu i sicrhau bod y Bencampwriaeth yn gadael effaith barhaol trwy gefnogi clybiau golff ledled Cymru i fod yn fannau mwy cynhwysol a chroesawgar i fenywod a merched.
Tîm Arweinyddiaeth newydd wedi’i ethol i gynrychioli diwydiant twristiaeth y Canolbarth
Mae MWT Cymru, sy’n cynrychioli 600 o fusnesau twristiaeth a lletygarwch, wedi ethol Dylan Roberts yn gadeirydd a Suzy Davies yn is-gadeirydd, Mae Roberts yn olynu Rowland Rees-Evans, sydd bellach yn gadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru. Canmolodd Roberts Rees-Evans a phwysleisiodd gydweithio i hyrwyddo’r Canolbarth fel cyrchfan twristiaeth llewyrchus.
Mae manylion llawn ar gael ar Wefan MWT Cymru.
Siarad yn glyfar am ddiogelwch yn yr awyr agored ... gydag Adventure Smart!
Mae pecyn cymorth AdventureSmart.UK ar gyfer busnesau yn ei gwneud yn hawdd ichi hyrwyddo neges Adventure Smart i’ch cwsmeriaid, gan eu cadw’n ddiogel ac yn eu helpu i wneud ‘eu diwrnod da’n well’. Mae’r pecyn cymorth yn darparu naratif i arwain sgyrsiau am ddiogelwch gweithgareddau yn yr awyr agored, ac mae’n cynnwys tri chwestiwn AdventureSmart:
- Ydw i’n hyderus bod gen i’r WYBODAETH a’r SGILIAU ar gyfer y diwrnod?
- Ydw i’n gwybod sut bydd y Tywydd?
- A oes gen i’r offer cywir?
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys modiwl e-Ddysgu Adventure Smart ar gyfer busnesau, i’ch helpu chi a’ch staff i ddeall ac i siarad am ddiogelwch. Drwy hyrwyddo’r negeseuon hyn, rydych yn helpu’r gwasanaethau brys ac yn helpu i leihau damweiniau y gellir eu hosgoi.
I ddysgu mwy ewch i AdventureSmart.UK ac edrych ar y pecyn cymorth i fusnesau lle byddwch yn gweld set o adnodau a syniadau ichi eu defnyddio. Awn ni ati i helpu pobl i fwynhau ein harfordir a’n cefn gwlad drwy #BeAdventureSmart!
|
Gŵyl Gomedi Black Mountains
30 Ionawr – 1 Chwefror
Cafodd Gŵyl Gomedi Black Mountains ei chreu i ddod â goleuni a chwerthin yn ystod y misoedd tywyll, gan gynnig comedi a cherddoriaeth ar gyfer cymunedau ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Eleni mae’r ŵyl yn creu darn newydd o theatr gyda Kitsch N Sync Collective ar gyfer y sector cartrefi gofal lleol, a byddan nhw’n mynd â chomedi slapstick i leoliadau gwledig ledled Powys. Mae rhagor o wybodaeth yma Gŵyl Gomedi Black Mountains.
NODYN ATGOFFA: Cynllun Llysgenhadon Cymru
Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru’n gyfres o gyrsiau ar-lein am ddim a fydd yn eich cyflwyno i wahanol ardaloedd ac atyniadau yng Nghymru. Gallwch gynyddu eich gwybodaeth am Gymru a helpu eraill i fanteisio i’r eithaf ar eu hymweliad.
Os ydych chi'n berchennog busnes, mae'n ffordd wych o rannu'r wybodaeth rydych chi wedi'i dysgu gyda'ch cwsmeriaid. Mae hefyd yn ffordd rad a hawdd o gynnwys eich tîm i helpu ymwelwyr i deimlo bod croeso iddynt a’u galluogi i fanteisio i'r eithaf ar eu hymweliad yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Llysgennad Cymru – Cynllun Llysgenhadon Cymru
Diwrnod Gwytnwch Twristiaeth Fyd-eang 2025
Ar 17 Chwefror, mae'r byd yn dathlu Diwrnod Gwytnwch Twristiaeth Fyd-eang. Mae'r diwrnod hwn yn pwysleisio rôl hanfodol twristiaeth wydn wrth wynebu a goresgyn heriau byd-eang amrywiol.
Mae twristiaeth yn hanfodol i lawer o wledydd sy'n datblygu, gan ddarparu incwm, swyddi a thwf economaidd. Mae twristiaeth gynaliadwy yn hyrwyddo cyfrifoldeb amgylcheddol ac yn cefnogi'r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Global Tourism Resilience Day | United Nations.
Cefnogi Twristiaeth yng Nghymru - Rydyn ni yma i helpu busnesau twristiaeth Cymru i wireddu eu Huchelgais werdd. Lawrlwythwch ein pecynnau adnoddau byr, defnyddiol sy'n cynnwys awgrymiadau gwych a chyngor cyllido: Twristiaeth Gynaliadwy Cymru | Busnes Cymru.
Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru
Gellir dod o hyd i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar Ymgynghoriadau | LLYW.CYMRU.
Newyddion diweddaraf Busnes Cymru
Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf oddi wrth Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Dyma rai o’r erthyglau diweddaraf:
Tanysgrifiwch i gael newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru (govdelivery.com) – ar ôl ichi gofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru mewn un man.
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|