Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru

Rhagfyr 2024

 
 

Croeso i'n cylchlythyr Diogelwch Adeiladau - sydd wedi'i gynllunio i roi gwybod i chi am gynnydd y Rhaglen Diogelwch Adeiladau.

Gallwch hefyd ein dilyn ni ar X / Twitter gan ddefnyddio  @LlC_Cymunedau

Neges gan Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Jane Bryant AS

Cefais fy mhenodi yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Llywodraeth Leol a Thai ar 11 Medi 2024.  Roeddwn yn falch o ymuno â'r Grŵp Rhanddeiliaid Strategol Diogelwch Adeiladau ym mis Hydref a chlywed yn uniongyrchol gan aelodau am flaenoriaethau'r rhaglen.

Ers hynny, rwyf wedi cwrdd â datblygwyr, asiantau rheoli a'r Welsh Cladiators, gan fanteisio ar y cyfle i atgyfnerthu fy uchelgais i gyweirio yn gyflym ac i gynnig cefnogaeth Llywodraeth Cymru i lesddeiliaid a datgloi rhwystrau o ran cynnydd.

Ym mis Tachwedd, rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau yn y Senedd am y cynnydd a wnaed i fynd i'r afael â diogelwch tân adeiladau yng Nghymru. Mae fy natganiad llawn i'w weld yma:  Datganiad Llafar: Diogelwch adeiladau (12 Tachwedd 2024) | LLYW. CYMRU

Yr wybodaeth ddiweddaraf am Gyweirio

Mae gan bob adeilad preswyl canolig ac uchel (11 metr a throsodd) yng Nghymru lwybr tuag at waith cyweirio ac rydym yn parhau i annog lesddeiliaid i sicrhau bod eu Person Cyfrifol (yr Asiant Rheoli fel arfer) wedi cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i Lywodraeth Cymru. Dyma'r man cychwyn ar gyfer cynnal arolygon sy'n gysylltiedig â diogelwch tân. Gellir dod o hyd i fanylion am sut i wneud hyn, gan gynnwys dogfen ganllaw yma: Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru | LLYW.CYMRU

Rydym yn falch o groesawu Firntec Ltd a Part B Group ynghyd â PRP Ltd a FireRite Ltd i gynnal arolygon a datblygu amserlenni gwaith ar gyfer ein hadeiladau amddifad a'n hadeiladau  datblygwyr llai. Mae ychwanegu'r ddau gontractwr hyn wedi ehangu'n sylweddol gapasiti ar gyfer asesu a chynllunio'r broses.

Data Rhaglen Gyweirio

Ar hyn o bryd mae gennym 433 o adeiladau yn Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru. O'r 433 o adeiladau, mae 252 yn adeiladau deiliadaeth breifat a 181 yn adeiladau cymdeithasol.

Mae'r gwaith wedi'i gwblhau (yn amodol ar gymeradwyo'n derfynol) ar 83 o adeiladau. Mae'r gwaith wedi dechrau ar 102 o adeiladau. Mae cynlluniau yn cael eu datblygu ar gyfer 206 o adeiladau eraill. Rydym wedi cael gwybod nad oes angen unrhyw waith diogelwch tân ar 7 adeilad.

Rydym yn gweithio gyda'r 35 adeilad sy'n weddill i nodi unrhyw anghenion cyweirio.

Mae'r ffigurau hyn yn agored i newid wrth i adeiladau pellach gael eu nodi, ac i ragor o wybodaeth gael ei chasglu.

Adeiladau Amddifad ac Adeiladau Datblygwyr Llai 

Mae ein gwaith ar adeiladau amddifad (adeiladau lle nad yw'r datblygwr yn hysbys, wedi rhoi'r gorau i fasnachu neu datblygwyd yr adeilad dros 30 mlynedd yn ôl) yn symud yn gyflym. Ar hyn o bryd mae 77 o adeiladau yn y rhaglen wedi'u categoreiddio fel rhai 'amddifad'.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r arolygon diogelwch tân ymwthiol allanol a mewnol cychwynnol, ac ar ôl hynny, bydd amserlenni manwl o'r gwaith yn cael eu cynhyrchu. Mae'r gwaith diogelwch tân sy'n ofynnol ar gyfer pob adeilad amddifad hefyd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r broses yr un fath ar gyfer nodi ac ymdrin â'r gwaith diogelwch tân sydd ei angen mewn adeiladau a adeiladwyd gan ddatblygwyr llai. Ar hyn o bryd mae 24 adeilad yn y rhaglen wedi'u categoreiddio fel 'datblygwr llai'.

Gall datblygwyr llai ddewis ariannu a gwneud y gwaith diogelwch tân eu hunain neu gallant ofyn am gyllid gan Lywodraeth Cymru, lle byddant yn cael asesiad ariannol i bennu cyfraniad.

Mae Atodlenni Gwaith (sy'n cael eu cynnal yn dilyn yr arolygon diogelwch tân cychwynnol) wedi'u cwblhau neu'n mynd rhagddynt ar 88 o'r 101 o adeiladau.

Perfformiad Datblygwyr

Rydym yn falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud gan y datblygwyr mwy sydd wedi llofnodi'r contract gyda Llywodraeth Cymru ac sydd wedi ymrwymo i ymgymryd â'r gwaith diogelwch tân y maent yn gyfrifol amdano.

Mae'r tabl isod yn rhoi cyfanswm yr adeiladau ar gyfer pob datblygwr. Noder: Nid yw Westmark wedi llofnodi contract y datblygwr, fodd bynnag, mae'n adrodd yn unol â gofynion y contract.

Datblygwr

Cyfanswm nifer yr adeiladau

Barratt

20

Bellway

22

Crest Nicholson

3

Lovell

5

McCarthy Stone

2

Persimmon

38

Redrow

12

Taylor Wimpey

26

Vistry and Countryside            

2

Watkin Jones

6

Lendlease

13

WestMark

2

Mae'r graff isod yn dangos nifer yr adeiladau ym mhob un o'r camau cynnydd amrywiol ar gyfer pob datblygwr. Er mwyn sicrhau cysondeb o ran adrodd ar gyfer pob adeilad yn y rhaglen, defnyddir y disgrifyddion canlynol wrth benderfynu ar gam y cynnydd:

  • Cwblhawyd y gwaith: Mae'r holl waith diogelwch tân angenrheidiol wedi'i gwblhau
  • Cynlluniau yn eu lle – Gwaith wedi dechrau: Gwaith diogelwch tân wedi dechrau
  • Cynlluniau yn eu lle – Gwaith heb ddechrau: Mae'r holl arolygon gofynnol yn gyflawn. Gweithgareddau cyn adeiladu ar y gweill megis dylunio manwl, trafod trwyddedau mynediad, tendro/negodi contractau a chaniatâd cynllunio
  • Cynlluniau yn eu lle – aros am arolygon: Mae'r arolygon gofynnol wedi'u comisiynu a/neu eu trefnu, neu maent wedi'u cwblhau a rhaid aros am adroddiadau terfynol.
  • Dim cynlluniau yn eu lle/gwaith heb ddechrau: Mae'r gwaith adeiladu wedi ei gydnabod fel bod yng nghwmpas y rhaglen, ond does dim arolygon nac ymchwiliadau wedi'u cynnal hyd yma - gallai hyn fod oherwydd diffyg ymgysylltu, er enghraifft

Ffigur 1 - cynnydd datblygwyr

Ffigur 1 - cynnydd datblygwyr

Cynllun Cyflymu Cyweirio Llywodraeth y DU

Mewn ymateb i Adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell ac Adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, ar 2 Rhagfyr 2024, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Chynllun Cyflymu Cyweirio. Mae'r cynllun yn nodi tri phrif amcan;

  • Atgyweirio adeiladau'n gyflymach
  • Adnabod pob adeilad sydd â chladin anniogel
  • Cefnogi preswylwyr, gan gynnwys lesddeiliaid, sy'n wynebu biliau uchel ac anawsterau eraill wrth iddynt aros i'r gwaith cyweirio ddigwydd. 

Dim ond i Loegr y mae'r cynllun hwn yn berthnasol. Gellir gweld y cynllun cyflawn yma:  Cynllun Cyflymu Cyweirio - GOV.UK

Rydym yn ystyried manylion y cynllun cyflymu'n ofalus ond ein barn gychwynnol yw ein bod ar yr un cam â'r gwaith a nodir yng Nghynllun Cyflymu Cyweirio Llywodraeth y DU, os nad o'i flaen. Mae'r Rhaglen Diogelwch Adeiladau yng Nghymru yn edrych ar risgiau diogelwch tân mewnol ac allanol felly mae'n ehangach na dull Lloegr sy'n canolbwyntio ar adeiladau â chladin anniogel, ac ni ellir cymharu'r ddau gynllun yn uniongyrchol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhellion adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell yn ofalus.

Rydym yn parhau i fod yn gadarn yn ein dull o sicrhau bod yr holl risgiau diogelwch tân mewn adeiladau yng Nghymru yn cael eu cyweirio i'r safonau gofynnol, cyn gynted â phosibl.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio

Mae disgwyl i'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) gael ei gyflwyno yn Haf 2025. Bydd y Bil yn sefydlu cyfundrefn newydd yng Nghymru sy'n cwmpasu meddiannu a rheoli adeiladau preswyl amlfeddiannaeth yn barhaus.

Bydd y Bil yn cyflwyno dyletswyddau diogelwch tân newydd a fydd yn cael eu datblygu ar gyfer adeiladau preswyl a rhannau preswyl o adeiladau defnydd cymysg.

Bydd yn ofynnol i bob adeilad sydd o fewn y cwmpas gael ei gofrestru gan y Prif Berson Atebol, gyda'r awdurdod diogelwch adeiladau. Bydd y cynigion yn rhoi dyletswyddau statudol ar waith i asesu a rheoli risgiau diogelwch adeiladau i'r Person Atebol.

Gweminarau a Ffrydiau gwaith

Ym mis Tachwedd, cynhaliwyd cyfres o weminarau gydag ystod o randdeiliaid i ddarparu amlinelliad o'r polisi sy'n sail i'r Bil arfaethedig. Cafwyd trafodaeth dda ar draws y sesiynau, ac rydym yn bwriadu cynnal sesiynau pellach gyda swyddogion Dylunio ac Adeiladu Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.

Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r Bil, rydym wedi sefydlu ffrydiau gwaith gydag awdurdodau lleol i ystyried yn ofalus y goblygiadau o ran costau ac adnoddau y bydd cyfundrefn cyfnod meddiannu diogelwch adeiladau newydd yn ei gosod arnynt. Ym mis Tachwedd, gwnaethom gyfarfod ag awdurdodau lleol i drafod y sgiliau, yr arbenigedd a'r adnoddau sydd eu hangen o fewn y gyfundrefn newydd.

Cyhoeddi Adroddiad Ymchwil – Diogelwch Tân mewn adeiladau amlfeddiannaeth

Fe wnaethom ni gomisiynu ymchwilwyr annibynnol i ymgysylltu â thrigolion sy'n byw mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth yn y sector cymdeithasol a phreifat.

Yr amcanion allweddol oedd archwilio gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymddygiad preswylwyr tuag at ddiogelwch tân a sut maent yn ymgysylltu â'u rheolwyr adeiladau. Roedd hyn er mwyn deall y ffyrdd mwyaf effeithiol o gyfleu negeseuon diogelwch tân i breswylwyr.

Mae'r canfyddiadau'n atgyfnerthu pwysigrwydd gosod preswylwyr wrth wraidd ein cynigion. Rydym yn eich annog i ddarllen adroddiad llawn y gwaith hwn, sydd i'w weld yma - Diogelwch tân mewn adeiladau amlfeddiannaeth: ymchwil trigolion | GOV. CYMRU

Tîm Arolygu ar y Cyd

Mae'r Tîm Arolygu ar y Cyd (JIT) wedi cynnal ei arolygiadau cyntaf yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam ac maent wedi cytuno ar broses i flaenoriaethu adeiladau i'w harchwilio y flwyddyn nesaf. 

Mae rhagor o wybodaeth am y Tîm i'w gweld ar ei wefan:

www.jit.cymru; neu www.jit.wales, e-bost: info@jit.wales

Lansio ymgynghoriad Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024

Fel rhan o weithredu Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, byddwn yn gosod rheolau newydd ynghylch sut y dylid talu asiantau rheoli a rhydd-ddeiliaid am weithgareddau sy'n gysylltiedig ag yswiriant.

Ar 2 Rhagfyr, cyhoeddodd Gweinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar ffioedd yswiriant a ganiateir ar gyfer landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantau rheoli eiddo.  Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar y cyd, a cheisir barn ar gyfer Cymru a Lloegr.

Bydd yr ymgynghoriad yn ein galluogi i ystyried yn iawn ddisodli strwythurau presennol y comisiwn gyda ffi yswiriant a ganiateir sy'n dryloyw a theg, sy'n adlewyrchu'r gwaith a wneir gan landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantau rheoli. Bydd hefyd yn llywio is-ddeddfwriaeth sy'n ofynnol i ddod â'r mesurau hyn i rym.   

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg am 12 wythnos o 2 Rhagfyr 2024 hyd 24 Chwefror 2025. Rydym yn croesawu'n fawr bob barn a chyfraniad: ymgynghoriad cyhoeddus yw hwn, a byddem yn ddiolchgar pe gallech anfon y neges hon ymlaen at eraill a allai fod â diddordeb.   

Er nad yw hyn yn fater diogelwch tân uniongyrchol, rydym yn cydnabod y bydd yr ymgynghoriad o ddiddordeb i lawer o'n tanysgrifwyr.

Taflen Ffeithiau Diogelwch Adeiladau yng Nghymru

Propertymark logo

Rydym wedi bod yn gweithio ar y cyd â Propertymark i gynhyrchu Taflen Ffeithiau Diogelwch Adeiladau ar gyfer Cymru.

Mae'r daflen ffeithiau yn darparu agweddau allweddol ar Ddiwygio a Chyweirio Diogelwch Adeiladau yng Nghymru, ac yn benodol y gwahaniaethau yng nghyfraith Lloegr. 

Rydym yn falch o atodi’r daflen ffeithiau er gwybodaeth ichi.

Fact sheet: Building Safety | Propertymark

Diweddariad Rheoli Adeiladau

Bydd ymgynghoriad ar ail gam y gyfundrefn newydd ar gyfer rheoli adeiladau yng Nghymru yn cael ei lansio yn chwarter cyntaf 2025.

Bydd yr ymgynghoriad yn ymdrin â nifer o bynciau, gan gynnwys y canlynol:

  • Rolau deiliad dyletswydd (Prif Ddylunydd, Prif Gontractwr, Cleient, Dylunydd a Chontractwr)
  • Pyrth (atalfeydd caled yn y broses ddylunio ac adeiladu)
  • Llinyn aur o wybodaeth
  • Adroddiadau gorfodol ar ddigwyddiadau (yn y cyfnod dylunio ac adeiladu)
  • Cydymffurfedd a Hysbysiadau Stop

Bydd yr ymgynghoriad ar gael ar-lein ac mewn fformat printiedig ac mae'n gyfle i randdeiliaid fynegi eu barn.

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell yn gryf y dylai pob parti sydd â buddiant gymryd rhan.

 
 
 

AMDANOM NI

Mynd i’r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau canolig ac uchel a diwygio’r system diogelwch adeiladu gyfredol, fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/tai

 

Cysylltu:

BuildingSafety@llyw.cymru

Dilynwch ni ar X:

@LlC_Cymunedau