 Nadolig Llawen
Cyfarchion y tymor gan Croeso Cymru
Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Rhestr Fer Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol
Rydym yn falch o gyhoeddi y cynhelir seremoni Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Iau 27 Mawrth. Dyma’r tro cyntaf i’r gwobrau gael eu cynnal ers 2018 ac maent yn gyfle i gydnabod a hyrwyddo’r goreuon ymhlith diwydiant twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau Cymru.
Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â’r rhanbarth ac am y tro cyntaf, bydd enillwyr Gwobrau Twristiaeth Rhanbarthol 2024 yn mynd ymlaen i Wobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2025. Mae rhestr o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gael ar wefan Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, gan gynnwys cyfleoedd noddi, e-bostiwch
gwybodaeth@gwobrautwristiaethcymru.co.uk.
Croeso ’25: Sut i gymryd rhan – adnoddau ac asedau ar gael nawr
Ym mis Ionawr 2025 bydd Croeso 25 yn cael ei lansio. Dyma’r nesaf yn ein cyfres o flynyddoedd thematig a’n hymgyrch farchnata flaenllaw ar gyfer Cymru, sef Hwyl – a fydd yn canolbwyntio ar yr hwyl a’r llawenydd sydd ar gael ichi “dim ond yng Nghymru”.
Mae ein pecyn cymorth ar gyfer Blwyddyn Croeso bellach ar gael. Mae hyn yn cynnwys canllaw Gweithio gyda Ni, logo Croeso 25 a delweddau o ansawdd uchel i helpu rhanddeiliaid weithio’n agos gyda ni unwaith eto wrth inni weiddi’n fwy uchel i’r byd am ein croeso Cymreig unigryw, a dathlu ein profiadau, ein cynnyrch, ein cyrchfannau a’n diwylliant eiconig, sydd ar gael yng Nghymru yn unig; rhaid gwneud profiadau yr ydym am wahodd ymwelwyr i deimlo, blasu a gweld.
Ewch i ddarganfod mwy am lawrlwytho'r pecyn cymorth, sut i gymryd rhan yn ein hymgyrch hwyl a chael eich cynnwys yn ein wal o hwyl ar Ymgyrchoedd blwyddyn thematig | Cymryd Rhan | Diwydiant Croeso Cymru. Byddwn hefyd yn darparu rhai negeseuon allweddol i'w defnyddio yn eich deunydd - gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych yn ôl.
Ymgynghoriad: Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)
Mae’r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) wedi’i gyfeirio at y Pwylgor Cyllid ar gyfer y gwaith o graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1.
Er mwyn llywio ei waith craffu, mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi galwad agored am dystiolaeth ar y Bil ac mae’n gwahodd pobl i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ar y Bil i’w helpu i’w ystyried.
Os hoffech gyflwyno eich barn, cwblhewch y ddogfen ymgynghori sydd ar gael ar Ymgynghoriad: Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru).
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 16.00 dydd Gwener 10 Ionawr 2025.
Cyllideb i greu dyfodol mwy disglair i Gymru
£1.5 biliwn yn ychwanegol i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi busnesau bach a sbarduno twf economaidd – dyna sylfaen Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-2026.
Er mwyn cefnogi busnesau Cymru, bydd y lluosydd ardrethi annomestig yn cael ei gapio ar 1% ar gyfer 2025-2026 a bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn parhau i gael rhyddhad o 40% tuag at eu biliau. Bydd cyfanswm o £335 miliwn yn cael ei wario ar gymorth ardrethi annomestig yn 2025-2026.
Mae manylion llawn ar gael ar: Cyllideb i greu dyfodol mwy disglair i Gymru | LLYW.CYMRU.
Cyfleoedd i Arddangos mewn Arddangosfeydd Digwyddiadau Busnes Byd-eang yn 2025
Mae tîm Cwrdd yng Nghymru Digwyddiadau Cymru yn arddangos gyda stand brand Cymru mewn pedwar o ddigwyddiadau byd-eang ar gyfer digwyddiadau Busnes yn 2025:
- IMEX, Frankfurt 20-22 Mai 2025
- The Meetings Show ExCel, Llundain 25-26 Mehefin 2025
- IMEX America, Las Vegas 7-9 Hydref 2025
- IBTM World, Fira, Barcelona 18-20 Tachwedd 2025
Gall cyflenwyr digwyddiadau busnes Cymru wneud cais am hyd at 10 gofod ym mhob arddangosfa. Bydd ceisiadau yn cau am 4pm ar 10 Ionawr 2025, cyn belled ag y bydd digon o ddiddordeb gan bartneriaid. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod erbyn 23 Ionawr, 2025.
I ddatgan eich diddordeb, llenwch y ffurflen cyfleoedd i arddangos hon neu am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y tîm Cwrdd yng Nghymru ar cwrddyngNghymru@llyw.cymru.
Marchnad Prydain ac Iwerddon: 24 Ionawr 2025 – InterContinental London, yr O2
Bydd Marchnad Prydain ac Iwerddon yn dychwelyd i Lundain ddydd Gwener 24 Ionawr 2025. Mae'r digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd rwydweithiau ETOA, UKinbound a VisitBritain, yn ogystal â chyrchfannau cenedlaethol a rhanbarthol ledled y DU ac Iwerddon. Cysylltwch â 200+ o brynwyr rhyngwladol mewn cyfres o apwyntiadau un i un - o gwmniau teithio bach pwrpasol i gwmniau grŵp, pob un yn barod i drefnu contract gyda'r gorau o gynhyrchion twristiaeth Prydain ac Iwerddon.
Y gost i ‘brif gyflenwr’ fynychu yw £1,299.00 + TAW a gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.
Gwella eich manylion ar croesocymru.com
Mae cannoedd o filoedd yn gweld cynnyrch ar croesocymru.com bob mis a degau o filoedd yn cael eu cyfeirio ar y we.
Mae defnyddwyr y wefan yn aml yn dibynnu ar luniau wrth ddewis lle i aros neu ymweld ag ef. I roi'r argraff orau, gwiriwch fod eich rhestr yn gwneud y defnydd gorau o'ch ffotograffiaeth i arddangos eich cynnig. Mae ychwanegu delweddau yn syml, dim ond mewngofnodi i'r offeryn rhestru cynnyrch, ewch i'r adran 'Delweddau a Fideos', cliciwch ar + Delweddau a llwytho eich lluniau.
Gallwch hefyd wella'r canlyniadau chwilio rydych chi'n ymddangos ynddynt trwy ddefnyddio'r opsiynau hidlo. Os ydych chi'n cynnig pethau fel Llogi E-Feiciau, E-wefru neu Derbyn Anifeiliaid Anwes, ticiwch yr opsiynau perthnasol yn yr adran 'Cyfleusterau' yn yr offeryn rhestru cynnyrch.
Os oes angen unrhyw help arnoch, mae ein Stiwardiaid Data wrth law, e-bostiwch Stiward Data Croeso Cymru croesocymruhelp@nvg.net neu ffoniwch 0330 808 9410 a byddant yn hapus i helpu.
Cynllun Cwpan Ail-lenwi a Dychwelyd Caerdydd yn cael cefnogaeth gref
Mae Caerdydd yn dangos cefnogaeth gref tuag at yr ymgyrch Cwpan Ail-lenwi. Mae eu cynllun Cwpan Ail-lenwi a Dychwelyd a lansiwyd ar 4 Hydref wedi gweld canlyniadau sylweddol. Dros gyfnod o fis, benthycwyd dros 2,500 o gwpanau a chafwyd cyfradd ddychwelyd o 97%. Amcangyfrifir felly fod y cynllun wedi arbed 43kg o CO2. Wedi ei gefnogi gan FOR Cardiff a City Sea, ac wedi ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, nod y fenter yw atal hyd at 30,000 o gwpanau untro rhag cyrraedd ffrwd wastraff Caerdydd erbyn mis Mawrth 2025.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.forcardiff.com,
Byddwch yn “Lysgennad Cymru” a darganfyddwch lwybrau cerdded eiconig yng Nghymru
Mae Llwybr yr Arfordir, y Llwybrau Cenedlaethol (Llwybr Glyndŵr, Llwybr Clawdd Offa, a Llwybr Arfordir Sir Benfro) yn cynnig profiadau cerdded unigryw sy’n dangos tirwedd, bywyd gwyllt, iaith, treftadaeth a diwylliant Cymru. Dysgwch fwy drwy Gynllun Llysgenhadol Cymru am ddim ar-lein, sy’n cynnwys mannau lle mae bywyd gwyllt arbennig, dinas leiaf Prydain, y pentref sydd â’r enw hiraf yn y DU, ffigwr hanesyddol gwrthryfelgar, a chofeb hanesyddol sy’n rhannu Cymru a Lloegr.
Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn cynnig modiwlau ar-lein am ddim am ranbarthau yng Nghymru, sy’n llawn cynnwys amrywiol. Gall unrhyw un ymuno a dod yn Lysgennad Cymru. Mae’n wych i fusnesau ar hyd y llwybrau i rannu gwybodaeth leol gydag ymwelwyr.
Cofrestrwch am ddim ar wefan Cynllun Llysgenhadon Cymru. Cwblhewch fodiwlau yn eich amser eich hun ac atebwch y cwis er mwyn dod yn lysgennad. Rhannwch eich gwybodaeth neu ddysgwch fwy am Gymru.
Am ragor o wybodaeth ewch i, Rydym yn rhan o Gynllun Llysgenhadon Cymru.
Canolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau y bydd ei ganolfannau ymwelwyr yng nghanolbarth Cymru yn aros yn agored i bobl gerdded a beicio ac i ymwelwyr ddefnyddio cyfleusterau eraill. Bydd gwasanaethau manwerthu ac arlwyo yn parhau hyd at 31 Mawrth, a mesurau dros dro yn dechrau ym mis Ebrill.
Mae CNC yn ceisio partneriaid lleol i reoli’r canolfannau yn yr hir dymor, ac yn cynnal sesiynau gwybodaeth galw heibio drwy gydol mis Ionawr. Mae CNC hefyd wedi lansio hwb ymgysylltu â’r cyhoedd, sy’n rhoi manylion ar sut gall grwpiau fynegi diddordeb i ddefnyddio’r gofod yng Nghanolfan Ymwelwyr Ynyslas.
Mae cynigion ar gyfer Nant yr Arian a Choed y Brenin yn cael eu datblygu, a’r prosesau Caffael ffurfiol i gychwyn ar 1 Ebrill 2025. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan CNC.
Gwreiddiau cryf yn rhoi rhagor o dwf i’r Goedwig Genedlaethol
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cyhoeddi bod 18 o safleoedd ychwanegol wedi cael statws Coedwig Genedlaethol Cymru drwy rownd ddiweddaraf y Cynllun Statws.
Cynllun Awdurdodi Teithio Electronig y DU – Digwyddiadau Gwybodaeth Rhagfyr 2024 – Mawrth 2025
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dyddiadau ar gyfer camau nesaf cyflwyno Cynllun Awdurdodi Teithio Electronig ar gyfer gwladolion cymwys. Dylai teithwyr i’r DU nodi bod newidiadau ar fin digwydd.
Mae digwyddiadau gwybodaeth ar gyfer Ionawr-Mawrth 2025 ar gael ar MS Teams Weminar, am ddim.
Cysylltwch â ETAengagement@homeoffice.gov.uk am y manylion yn llawn.
Atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle: rhestr wirio a chynllun gweithredu
Ein pecyn cymorth ar gyfer y sector lletygarwch ar atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle i’w alinio â Deddf Diogelu Gweithwyr 2023. Mae’r canllaw yn darparu rhestr wirio a chynllun gweithredu i gyflogwyr ynglŷn â sut i atal aflonyddu rhywiol yn benodol yn y diwydiant lletygarwch, ond gellir ei addasu ar gyfer gweithleoedd eraill hefyd. Edrychwch ar y pecyn cymorth yma:
Atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle: rhestr wirio a chynllun gweithredu i gyflogwyr | EHRC.
Atal Camfanteisio ar Blant #EdrychynAgosach – canllaw i fusnesau twristiaeth
Yn anffodus, mae darparwyr llety, gan gynnwys gwersylla, parciau carafanau, llety hunanarlwyo, gwestai a llety gwely a brecwast, yn cael eu defnyddio fel lle i ecsbloetio a cham-drin plant a phobl ifanc.
Cyfrifoldeb deiliaid trwydded safle, a’u rheolwyr, yw sicrhau bod mesurau priodol ar waith yn eu lleoliadau i amddiffyn plant rhag niwed.
Dysgwch sut i adnabod arwyddion camfanteisio ar blant gydag adnoddau #EdrychynAgosach rhad ac am ddim sy’n benodol ar gyfer busnesau twristiaeth ar Atal Camfanteisio ar Blant – canllaw i fusnesau twristiaeth | Busnes Cymru (llyw.cymru).
Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru
Mae ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru i’w cael ar Ymgyngoriadau | LLYW.CYMRU ac maent yn Cynnwys.
Newyddion diweddaraf Busnes Cymru
Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf oddi wrth Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Dyma rai o’r erthyglau diweddaraf:
Tanysgrifiwch i gael newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru (govdelivery.com) – ar ôl ichi gofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru mewn un man.
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|