Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod y flwyddyn nesaf, “Aros ar y Blaen” rhwng Mawrth 10 -14, 2025.
Bydd prif siaradwyr yn y gynhadledd yn cynnwys arweinwyr byd-eang ym maes mewnwelediadau marchnad a defnyddwyr, yn trafod pynciau fel yr economi, syniadau ar gyfer y dyfodol, manwerthu, allforio ac oddi allan i’r cartref, ochr yn ochr ag astudiaethau achosion a phaneli arbenigol.
Bydd manylion cofrestru yn cael eu postio ar wefan Bwyd a Diod Cymru pan fyddant ar gael.
Gall aelodau ddilyn y ddolen isod i gael gafael ar ddeunyddiau o Gynhadledd Mewnwelediad 2024 y llynedd ‘O Her i Lwyddiant’, ar gael yn ardal yr aelodau. Mae adnoddau’n cynnwys fideos cyflwyno a phecynnau sleidiau.
Cynhadledd Mewnwelediad 2024: O Her i Lwyddiant | Business Wales - Food and drink (gov.wales)
|
|
Mae gan James fwy na 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cwrw, gwin a gwirodydd. Mae'n gyfarwyddwr profiadol ar Ddatblygu Busnes a Strategaeth. Mae ganddo hanes amlwg o weithio yn y diwydiant diodydd ar draws gwahanol diriogaethau.
Bu'n allweddol yn natblygiad brandiau rhyngwladol gan gynnwys Red Bull, Corona Extra, Tsingtao Beer, Lambs Rum, Whitley Neill Gin, Alcoholic Ginger Beer a nawr Wrexham Lager.
Mae James wedi gweithio yn y DU ac yn rhyngwladol ac wedi datblygu lefelau uchel o arbenigedd mewn gwerthu, marchnata a gweithgynhyrchu. Mae wedi profi gallu i reoli busnesau, uno a chaffaeliadau sefydledig, a busnesau newydd.
|
Adolygiad o Reoliadau Bwyta'n Iach ar gyfer Bwyd Ysgol
Efallai eich bod eisoes yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi mynegi ymrwymiad cadarn iawn i gryfhau canlyniadau iechyd i ddysgwyr yng Nghymru a dileu anghydraddoldebau iechyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r Pwysau Iach: Cynllun Cyflawni Cymru Iach 2022-2024 yn nodi ein hymrwymiad i; 'Adolygu'r rheoliadau ar faeth bwyd ysgol yn unol â'r safonau a'r canllawiau maeth diweddaraf, a diweddaru'r safonau presennol'.
Gan fod cyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol i ysgolion cynradd yng Nghymru bellach wedi'i gwblhau, rydym yn bwriadu adolygu'r Rheoliadau a'r Canllawiau sy'n berthnasol ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried, a lle bo'n briodol, adlewyrchu'r argymhellion a'r cyngor gwyddonol diweddaraf sydd ar gael ar faeth. Bwriad y polisi yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cynnig bwyd a diod ysgol sy'n gytbwys o ran maeth, a bod bwyta'n iach yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion gyda'r nod o leihau anghydraddoldebau iechyd a chyrhaeddiad.
Amlygodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ei Datganiad Llafar ar 17 Medi mewn perthynas â Phrydau Ysgol Am Ddim Cynradd Cyffredinol yr adolygiad o Reoliadau Bwyta'n Iach a'r amserlen gysylltiedig, a oedd yn cynnwys: 'Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei ddatblygu ar gyfer Gwanwyn 2025 a bydd y rheoliadau diwygiedig yn cael eu gwneud a'u gosod gerbron y Senedd ym mis Ionawr 2026. dod i rym yn fuan wedyn'.
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu barn yr holl randdeiliaid ac yn annog adborth ar y cynigion yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yng Ngwanwyn 2025.
Asesiad Parodrwydd i Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod
Mae Asesiad Parodrwydd i Addasu i’r Hinsawdd newydd ar-lein bellach ar gael i helpu busnesau bwyd a diod i werthuso pa mor agored i niwed ydynt o ran newid hinsawdd. Mae'r adnodd hwn yn cynorthwyo busnesau i nodi eu cryfderau a meysydd i'w gwella o ran parodrwydd i addasu i’r hinsawdd.
Mae’r asesiad yn rhoi adborth ar unwaith ar wyth maes allweddol: Gweithrediadau a’r Gadwyn Gyflenwi, Rheoli Ynni ac Adnoddau, Rheoli Dŵr, Cynhyrchion a Deunydd Pecynnu, Llywodraethu a Pholisi, Pobl, Ariannol a Chyfreithiol, ac Ymgysylltu â Chwsmeriaid a Defnyddwyr.
cliciwch trwy’r URL i Offer cynaliadwyedd ar gyfer eich busnes – Bwyd a Diod Cymru
|
|
Chwilio am yr anrheg perffaith ar gyfer y Nadolig? Beth am y detholiad unigryw hwn o gynnyrch GI Cymreig
Ar gael nawr ar gyfer archebu - £36 gan gynnwys £6.95 am ddanfoniad y diwrnod canlynol.
Mae GI yn sefyll am Ddynodiadau Daearyddol (Geographical indication) ac mae'r holl gynnyrch yn y casgliad hwn yn gynnyrch GI. Mae'r casgliad yn cynnwys 3 Wisgi Brag Sengl Cymreig PGI; Wisgi Brag Sengl Cymreig PGI Da Mhile 5cl, Wisgi Brag Sengl Cymreig PGI Aber Falls 5cl, Wisgi Brag Sengl Cymreig PGI Penderyn 5cl, Ham Caerfyrddin PGI, Caws Caerffili Traddodiadol PGI a Chyffug Halen Mon PDO.
Am fwy o wybodaeth ar ddynodiadau daearyddol, ewch i Cynlluniau Dynodiad Daearyddol Newydd y DU (GI y DU) | Busnes Cymru - Bwyd a Diod
|
|
|
|
Grŵp Arbenigol Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn nodi bylchau a chyfleoedd yn y diwydiant
Yn ddiweddar fe alwodd rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru ar lysgenhadon y diwydiant bwyd a diod i ffurfio Grŵp Arbenigol penodol i nodi bylchau sgiliau a chyfleoedd o fewn y diwydiant.
Dan gadeiryddiaeth Neil Burchell, Mentor profiadol a Chyfarwyddwr The Welsh Whisky Company; nododd y Grŵp Arbenigol y prif feysydd y gallai rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru gyfrannu atynt a mynd i'r afael â hwy.
Darllenwch fwy yma
|
|
|
‘Gwledd o Gyfleoedd’ yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf
Lansiodd rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru eu Hadnoddau Addysg NEWYDD ddydd Llun, 25 Tachwedd yn Ffair Aeaf CAFC; adnodd i rymuso pobl ifanc i archwilio’r cyfleoedd enfawr yn y diwydiant bwyd a diod.
Darllenwch fwy yma
|
Rhaglen Parod am Buddsoddiad
Ers 2018, mae’r Rhaglen Parod am Buddsoddiad wedi cefnogi dros 240 o fusnesau bwyd a diod yng Nghymru, gan godi £22M+ mewn buddsoddiad a diogelu miloedd o swyddi. Mae’r rhaglen yn cynnig hyfforddiant arbenigol, adolygiadau ariannol a chysylltiadau â buddsoddwyr i gefnogi twf busnesau. Dysgwch mwy: Parod am Buddosddiad.
Mae aelodau Clwstwr Garddwriaeth Cymru yn cael cyfle i gwblhau'r Safon Cyflenwyr Bach, a ddyfeisiwyd gan Ffermio Cyswllt Garddwriaeth. Mae'r safon wedi'i chyflwyno i alluogi tyfwyr sydd am gyflenwi i ddosbarthwyr lleol, i ddangos diogelwch bwyd ac olrheinadwyedd yn eu busnes, fodd bynnag, mae'r safon ar agor ar gyfer unrhyw fusnes garddwriaeth fasnachol sydd wedi'i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Mae tyfwyr yn gallu cael gafael ar gymorth i gwblhau'r safon trwy dîm garddwriaeth FC ac mae'r Clwstwr Garddwriaeth yn rhoi cyfle i ddatblygu, cydweithio a rhannu arfer da gyda chyfoedion. Ewch i'n tudalen i ddysgu mwy am yr hyn sydd ar gael.
Yn galw holl fusnesau bwyd a diod Cymru – cofrestrwch nawr ar gyfer digwyddiad Broceriaeth "Cwrdd â'r Prynwr" Blas Cymru 2025 ar 22-23 Hydref 2025 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Celtic Manor Resort, Casnewydd.
Gallwch arddangos eich cynhyrchion i 300 o brynwyr blaenllaw’r diwydiant o’r sectorau manwerthu a gwasanaeth bwyd, rhwydweithio gyda ffigurau allweddol, a darganfod cynhyrchion a thueddiadau arloesol.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae 200 o gynhyrchion newydd o fewn arddangosfa o gynhyrchion ar raddfa fawr i brynwyr.
I gymryd rhan, mae'n ofynnol i gwmnïau gael achrediad gan gynnwys SALSA neu BRCGS.
Mae'r ffenestr ymgeisio yn cau ar 18 Rhagfyr 2024. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: foodanddrinkwales@mentera.cymru.
Cliciwch drwy URL i https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/sut-gallwn-ni-helpu/blas-cymru-taste-wales
Gallwch nawr gofrestru ar gyfer y Gynhadledd Twf Bwyd a Diod Cymru 2025, fydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ar y 6ed o Chwefror 2025. Bydd thema’r gynhadledd, “Cydnabod Risg, Datblygu Gwydnwch” yn ymchwilio i risgiau ariannol, gweithredol a chadwyni cyflenwi, gyda newid hinsawdd yn ffocws allweddol. Dysgwch gan arbenigwyr yn y diwydiant a chyd-weithgynhyrchwyr bwyd a diod trwy gyflwyniadau, trafodaethau panel a sgyrsiau 1:1.
1 Tachwedd - Newidiadau i'w cyflwyno i safonau marchnata Rheoliad ar gyfer wyau
8 Ionawr 2025 - Hyfforddiant cynaliadwyedd ar-lein am ddim
10 - 14 Mawrth 2025 - Cynhadledd Mewnwelediad 2025: Aros ar y Blaen
11 - 14 Mawrth 2025 - Foodex, Japan
4 - 11 Ebrill 2025 - FHA, Bwyd a Diod, Singapore
22 Mai 2025 - Gwobrau Bwyd a Diod Cymru - Dyddiad cau ar gyfer Mynediad: 21 Chwefror 2025 (Saesneg yn unig)
25 Mehefin 2025 - Cynhadledd Entrepreneuriaid Busnes Du y DU 2025 (Saesneg yn unig)
|