© James Bowden
Croeso 25: Sut i gymryd rhan – adnoddau ac asedau ar gael nawr
Ym mis Ionawr 2025 bydd Croeso 25 yn cael ei lansio. Dyma’r nesaf yn ein cyfres o flynyddoedd thematig a’n hymgyrch farchnata flaenllaw ar gyfer Cymru, sef Hwyl – a fydd yn canolbwyntio ar yr hwyl a’r llawenydd sydd ar gael ichi “dim ond yng Nghymru”.
Mae ein pecyn cymorth ar gyfer Blwyddyn Croeso bellach ar gael i helpu rhanddeiliaid weithio’n agos gyda ni unwaith eto wrth inni weiddi’n fwy uchel i’r byd am ein croeso Cymreig unigryw, a dathlu ein profiadau, ein cynnyrch, ein cyrchfannau a’n diwylliant eiconig, sydd ar gael yng Nghymru yn unig; rhaid gwneud profiadau yr ydym am wahodd ymwelwyr i deimlo, blasu a gweld.
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys ein canllaw Gweithio gyda Ni, logo Croeso 25 a delweddau ansawdd uchel ar gyfer y diwydiant i’w lawrlwytho a’u defnyddio ar gyfer gweithgareddau marchnata cysylltiedig. Cymerwch olwg a’u lawrlwytho ar Asedau: Pecyn Cymorth Blwyddyn Croeso | Croeso Cymru. Byddwn hefyd yn darparu negeseuon allweddol ichi eu defnyddio – gofalwch eich bod yn gwirio yn ôl.
Ac wrth edrych ymlaen at y flwyddyn newydd, mae hefyd yn amser da i ddechrau meddwl am eich cyfleoedd marchnata ar gyfer dathlu Dydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr – fersiwn Cymru o Ddydd San Ffolant.
Dyma ddiwrnod mwyaf rhamantus y flwyddyn yng Nghymru. Mae’r dyddiad allweddol hwn yn cynnig yr adegau cofiadwy hynny o hwyl, pan fyddwn yn anfon cardiau ac yn rhoi anrhegion, yn cael amser i ymlacio, yn cael prydau bwyd arbennig gyda’n hanwyliaid ... a bydd rhai ohonon ni’n mynd mor bell â mynd am dro ar draeth gwag, cerfio llwyau caru, cael cwtsh o flaen tanllwyth o dân pren a’r holl deimladau rhamantus hynny. Mae hyn yn cynnig cyfle gwych i farchnata cynhyrchion ar gyfer profiadau hwyl hyfryd sydd ar gael dim ond yng Nghymru. Bydd syniadau i’ch ysbrydoli ar gael ar ein gwefan cyn bo hir.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|