|
|
Mae llawer ohonom yn angerddol am waith ieuenctid oherwydd y profiadau rydym wedi'u cael mewn bywyd. Nid wyf yn wahanol.
Fel person ifanc, nid oeddwn yn gyflawnwr yn yr ysgol. Ond eto, roedd y clwb ieuenctid lleol yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd yn lle gwych i mi. Dyma hefyd lle ymunais â mudiad ieuenctid cenedlaethol, Cyswllt Ieuenctid Cymru, a roddodd gyfleoedd i mi gymryd rhan mewn gwaith ieuenctid dan arweiniad cyfoedion.
Dyma beth a’m hysgogodd i ddod yn Gadeirydd Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid ac eisiau cefnogi’r gwasanaethau a’m cefnogodd fel person ifanc.
|
Yn anffodus, nid yw Clwb Ieuenctid Fitzalan na Chyswllt Ieuenctid Cymru bellach yn bodoli. Nid oes llawer o rai eraill ychwaith, gan gynnwys Clwb Ieuenctid yr Eglwys Newydd, lle des i’n Swyddog Addysg Gymunedol yn ddiweddarach. Ni fyddwn byth wedi breuddwydio, yn 14 oed yn camu’n nerfus i mewn i glwb ieuenctid, y byddwn i, 30 mlynedd yn ddiweddarach yn dod yn Brif Swyddog Gweithredol mudiad hawliau dynol ar gyfer plant a phobl ifanc. Pan ofynnwyd i mi fesur canlyniadau, rwy’n meddwl yn ôl i fy amser fel person ifanc mewn clwb ieuenctid. Pan ofynnwyd, "Beth ydych chi wedi'i gyflawni heno/mis yma/eleni?" Ni ddywedais erioed, “Rwyf ar y llwybr i ddod yn Gadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid neu Brif Swyddog Gweithredol elusen.”
Roedd yn rhan o daith, un a’m harweiniodd i deimlo’n drist, oherwydd toriadau, efallai na fydd pobl ifanc heddiw byth yn cael yr un cyfleoedd. Rwy’n rhannu hyn oherwydd ein bod mewn cyfnod hollbwysig yn hanes gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae gennym gyfle i ail-lunio'r dyfodol; i waith ieuenctid fod yn hawl sylfaenol i bob person ifanc.
Mae’r fframwaith statudol newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru wedi’i gyhoeddi, ac mae’r Bwrdd am glywed eich barn. Mae rhagor o wybodaeth yn adran newyddion gwaith ieuenctid Llywodraeth Cymru yn y rhifyn hwn, gofynnir ichi ymateb.
Bum i gyfarfod yn ddiweddar ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Bydd trefniadau llywodraethu’r dyfodol a llunio’r ddeddfwriaeth i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn dod yn hawl i holl bobl ifanc Cymru yn flaenoriaethau allweddol i’r Bwrdd yn y misoedd nesaf.
Anya Sherlock, Prosiect NABOD
Mae'n gyffrous Ond yn dorcalonnus Cymaint o atgofion A mwy byth o chwerthin
Diwedd cyfnod Ond dechrau dyfodol anhygoel Teimlad chwerwfelys Gweld y cyfan yn dod at ei gilydd Yr holl waith caled Pob diferyn o egni oedd gennym ni
2 flynedd o'n bywydau 2 flynedd o lawenydd 2 flynedd o lwyddiant 2 flynedd o edrych ymlaen 2 flynedd wych o'n bywydau
Amser gyda'n gilydd Mi ddaethon ni’n deulu Cefnogi ein gilydd Crïo gyda'n gilydd Chwerthin gyda'n gilydd
Mi wnaethon ni greu rhywbeth hyfryd Rhywbeth y gallwn ni i gyd uniaethu ag o Cafodd ein lleisiau eu clywed a chafodd ein teimladau lais hefyd
Rydan ni wedi tyfu cymaint Wedi datblygu i fod yn bobl wych Wedi blodeuo fel eirlysiau yn y gwanwyn Wedi agor fel lili mewn dŵr Wedi tyfu ac estyn tua’r awyr fel blodau'r haul
Rydan ni wedi gwthio ein hunain Wedi gwneud mwy na’r hyn roedden ni’n meddwl y gallem ni ei wneud Wedi gadael i'n creadigrwydd lifo i mewn i afon y mawredd hwn
O Nabod i Olion O'r Deiniol i’r Nyth O'r Blaenau i Dremadog, Caernarfon i Fethesda, Pen Llŷn i Fangor a phob man yn y canol
Rydan ni wedi cyffwrdd â chalonnau ac eneidiau pawb ar y daith ryfeddol hon Ac rydw i'n ddiolchgar ein bod ni wedi cael cydgerdded y llwybr hwn gyda’n gilydd. Rydw i'n caru pob un ohonoch chi yn fwy nag y byddwch chi byth yn ei ddeall.
Ni ydi Tîm Nabod - am byth, yn y bywyd hwn a'r nesaf, dwi’n gobeithio. Mi wn y byddwn ni’n dod o hyd i'n gilydd ble bynnag yr awn ni, a ble bynnag y byddwn ni yn y pen draw, bydd lle i bawb ohonoch chi yn fy nghalon, yn fy meddwl ac yn fy enaid hyd ddiwedd amser ❤
|
|
Mae Anya yn berson ifanc sydd wedi bod yn ymwneud yn agos â gwaith gwych prosiect NABOD ac Enillydd Gwobr Partner Center Point UK 2024.
Mae Cwmni Theatr Ieuenctid Frân Wen ac elusen GISDA wedi bod yn cydweithio er budd pobl ifanc yr ardal. Cafodd Cwmni’r Frȃn Wen gyllid gan Cyngor Celfyddydau Cymru a GISDA gyllid gan Blant Mewn Angen ar gyfer prosiect NABOD.
|
Gyda’i gilydd, datblygwyd prosiect NABOD, a ddarparodd gyfleoedd creadigol profedig i bobl ifanc. Buont yn ymwneud ag ysgrifennu sgriptiau, cyfarwyddo ac ymarfer gydag actorion proffesiynol ac yna'n rhan o gynhyrchiad OLION a gynhaliwyd ym Mangor ym mis Hydref. Dywedodd pob un o'r bobl ifanc eu bod wedi cael amser bythgofiadwy a phrofiadau bythgofiadwy.
"Mae gweithio gyda Frân Wen yn gwneud synnwyr i ni ac rydym mor falch o lwyddiant ein pobl ifanc a bod y prosiect wedi gweithio mor dda. Roedd yn rhaid i ni gefnogi drwy eu cludo o Dde Gwynedd i Fangor ar gyfer ymarferion, ond bu'r ymdrech i gyd werth chweil. Edrychwn ymlaen at ein prosiect nesaf gyda Frân Wen," Sian Tomos, Prif Weithredwr GISDA.
Digwyddiad Dathlu Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid RhCT 2024
Cynhaliwyd digwyddiad Dathlu YEPS 2024 ar ddechrau’r haf a rhoddodd gyfle perffaith i ni arddangos a dathlu rhai o lwyddiannau anhygoel pobl ifanc Rhondda Cynon Taf dros y flwyddyn ddiwethaf.
Am y tro cyntaf erioed, fe wnaethon ni gynnal y Digwyddiad Dathlu ar nos Wener gan ddarparu awyrgylch parti go iawn i'r noson. Thema eleni oedd 'Cŵl Cymru' gan ein bod yn dathlu'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Rhondda Cynon Taf!
Ar draws 8 categori gwobrau gwahanol, gwelsom enghreifftiau anhygoel o waith ieuenctid cadarnhaol, prosiectau creadigol a straeon personol a oedd yn procio'r meddwl. Gyda'i gilydd roedd hyn dangos cyfraniad anhygoel pobl ifanc a gwaith ieuenctid. Cyflwynwyd y gwobrau, a gynhaliwyd gan ddau berson ifanc lleol, rhwng rhai perfformiadau cerddorol gwych gan y band ieuenctid 'The Unknown',
Llongyfarchiadau enfawr i'r holl enillwyr a'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol!
Mae amser o hyd i ymateb i'n hymgynghoriad Gwaith Ieuenctid
Ar y 7fed o Hydref wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg lansio ymgynghoriad ar fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid.
Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, yn enwedig galwad y Bwrdd i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid.
Bydd y fframwaith statudol newydd yn gofyn i bob awdurdod lleol gydweithio â'i bartneriaid, gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol, i ystyried tystiolaeth o'r hyn y mae pobl ifanc ei angen a'i eisiau, a nodi mewn cynllun strategol sut orau i fynd i'r afael â'r anghenion hynny i ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyfoethog a pherthnasol i'n pobl ifanc.
Bydd strwythurau cyfranogi cadarnhaol ac ystyrlon a dull 'un sector' o gyflawni yn ganolog i lwyddiant y fframwaith newydd.
Rydym bellach yn gwahodd ymarferwyr, arweinwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl ifanc yng Nghymru i ymateb i'r ymgynghoriad ffurfiol fel y gallwn gasglu ystod amrywiol o safbwyntiau i gefnogi'r camau nesaf.
Diolch yn fawr i'r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r cynigion hyn hyd yma.
Helpwch ni i gasglu barn pobl ifanc am y cynigion hyn
Er mwyn i bobl ifanc fod ag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth lawn o'r newidiadau hyn, a chael yr hyder i rannu eu profiadau a'u barn eu hunain gyda ni, mae angen eich cefnogaeth chi arnom fel gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid ac eraill sy'n gweithio gyda phobl ifanc ledled Cymru, i'w hannog i roi eu safbwynt.
Rydym wedi datblygu canllaw sy'n cynnwys pwyntiau trafod i bobl ifanc yn seiliedig ar rai o nodweddion allweddol y fframwaith statudol newydd arfaethedig. Os hoffech gael copi o'r canllaw hwn, e-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru
Llai nag 8 wythnos i ymateb!
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 10 Ionawr 2025.
Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid
Mae'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid yn amlinellu proses i sefydliadau gydweithio er mwyn adnabod a chefnogi pobl ifanc 11 i 18 oed sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg, cyflogaeth na hyfforddiant / nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant / sydd mewn perygl o ddigartrefedd.
Yn dilyn cyhoeddi Llawlyfr y Fframwaith a chanllawiau'r Fframwaith ar adnabod yn gynnar, mae gwaith wedi'i wneud i nodi astudiaethau achos pellach i gefnogi'r broses o gyflwyno'r Fframwaith. Mae'r astudiaethau achos hyn wedi'u datblygu i ganiatáu i awdurdodau lleol ddangos y prosesau y maent wedi'u sefydlu a rhannu eu llwyddiant o ran sut i ddelio â heriau.
Y cyntaf yn y gyfres hon yw astudiaethau achos gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili welir yma.
Mae mwy o astudiaethau achos i'w cyhoeddi a fydd yn cael eu rhyddhau dros y misoedd nesaf i alluogi rhanddeiliaid i ddysgu o brofiadau ei gilydd.
Rhianta Corfforaethol
Mae Llywodraeth Cymru wrthi ar hyn o bryd yn datblygu rhaglen waith i weddnewid gwasanaethau cymdeithasol i blant yng Nghymru. Un o brif elfennau’r Rhaglen yw hyrwyddo rhianta corfforaethol ymhlith sefydliadau ledled Cymru. |
|
|
Beth yw Rhianta Corfforaethol?
Mae'r term "rhianta corfforaethol" wedi ei ddefnyddio'n bennaf i esbonio rôl awdurdod lleol ym mywydau plant o’i ardal sy'n derbyn gofal. Dyma egluro ei ystyr gan ddefnyddio awdurdodau lleol fel enghraifft:
Pan ddaw plentyn i ofal, daw'r awdurdod lleol yn “rhiant corfforaethol” sy'n golygu bod ganddo'r cyfrifoldeb ar y cyd â'i aelodau etholedig, ei weithwyr a'i asiantaethau partner i fod y rhiant gorau y gall fod i'r plentyn hwnnw. Mae gan bob aelod a gweithiwr cyngor gyfrifoldeb statudol i weithredu ar ran y plentyn hwnnw yn yr un modd ag y byddai rhiant da yn gweithredu dros ei blentyn ei hun.
I gael gwybod mwy am rianta corfforaethol, ewch i Rhianta corfforaethol: cyflwyniad | LLYW.CYMRU
Siarter Rhianta Corfforaethol
Ar 22 Medi 2023 lansiwyd Siarter Rhianta Corfforaethol yn swyddogol. Mae’r Siarter wedi’i datblygu gan Grŵp Gweithredu Rhianta Corfforaethol, ac mae’n cynnwys cyfres o 9 addewid ac 11 egwyddor yr ydym yn gwahodd unrhyw sefydliad i ymrwymo iddynt a bod yn rhiant corfforaethol. I gael gwybod mwy am y Siarter, ewch i Siarter rhianta corfforaethol | LLYW.CYMRU
Mae pecyn cymorth ar-lein sy’n nodi sut y gall sefydliadau sy’n ymrwymo i fod yn rhieni corfforaethol gefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i fyw bywydau annibynnol llawn.
https://www.llyw.cymru/beth-maen-ei-olygu-i-fod-yn-rhiant-corfforaethol
Helpwch ni i lunio dyfodol ein Polisi Cynhwysiant Digidol
Hoffai'r tîm Cynhwysiant Digidol yn Llywodraeth Cymru eich gwahodd i gwblhau'r arolwg nhw o safbwynt sefydliadol i helpu i lunio dyfodol cynhwysiant digidol yng Nghymru. Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg hwn yw dydd Gwener 29 Tachwedd 2024.
Os hoffech drefnu cyfarfod i ddarparu adborth manylach neu angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r blwch post: DigitalInclusionMailbox@gov.wales
Cymru sy'n Falch o'r Mislif
Lansiwyd Cynllun Cymru sy'n Falch o'r Mislif ym mis Chwefror 2023 ac mae'n nodi dull Llywodraeth Cymru o sicrhau urddas mislif erbyn 2027.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid drwy'r Grant Urddas Mislif i bob awdurdod lleol yng Nghymru.
|
|
|
Mae hyn er mwyn sicrhau bod cynhyrchion mislif am ddim ar gael ym mhob ysgol, coleg a lleoliad cymunedol.
Mae gan bob awdurdod lleol Arweinydd Urddas Mislif dynodedig. Maent yn gallu darparu cyngor ac arweiniad ar y cynhyrchion a'r hyfforddiant sydd ar gael drwy'r grant. Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol ar wefannau awdurdodau lleol hefyd.
Gallwch hefyd gysylltu ag Urddas.Mislif@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Gynhadledd Gwaith Ieuenctid – Cydweithio a Phartneriaeth 2025
Lleoedd cyfyngedig ar gael! Cofrestrwch heddiw i ymuno â ni yn y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid y flwyddyn nesaf!
Gobeithiwn eich gweld yno ddydd Iau, 20 Chwefror 2025 ar ddiwrnod llawn o ddysgu, prif sgyrsiau, dewis o weithdai i weithwyr ieuenctid, addysgwyr, ac arweinwyr cymunedol ddod ynghyd, rhannu mewnwelediadau, ac adeiladu dyfodol ymgysylltu ieuenctid.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
Gan mai hon yw ein Cynhadledd Gwaith Ieuenctid gyntaf ers pum mlynedd, mae'n siŵr y bydd rhaglen y flwyddyn nesaf yn arbennig.
Ni fyddwn yn datgelu'r cyfan nawr, ond gallwch ddisgwyl:
- Sgyrsiau Panel Rhyngweithiol a sesiwn holi ac ateb gyda rhai o arbenigwyr gwaith ieuenctid mwyaf blaenllaw'r DU yn y sector.
- Cyfleoedd rhwydweithio – dewch i gwrdd â wynebau newydd a dysgu am gyfleoedd cyffrous i bawb a darganfod cyfleoedd newydd.
- Digonedd o luniaeth – Gydag amserlen orlawn, bydd angen i chi fod yn llawn egni ar gyfer y diwrnod. Gallwch ddisgwyl te a choffi wrth gyrraedd, egwyl ganol bore, cinio, ac egwyl prynhawn lle gallwch chi flasu bwyd a gynhyrchir yn lleol.
- Dewis o weithdai bore a phrynhawn i’w mynychu – gan eich helpu i ddatblygu eich sgiliau.
- Perfformiad Byw gan grŵp ieuenctid i gloi ar ddiwedd y dydd!
- Stondinwyr
A dyma'r rhan orau - ar ôl i chi gofrestru, gallwch fynychu AM DDIM!
🎟Cofrestrwch Nawr a mynnwch eich tocyn cyn bod hi'n rhy hwyr. Ewch i Business Wales Events Finder - Fe’ch gwahoddir i Gynhadledd Gwaith Ieuenctid – Cydweithio a Phartneriaeth 2025 i hawlio'ch tocyn a'r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch.
Dilynwch @IeuenctidCymru i gadw llygad am fwy o ddiweddariadau sy'n cael eu rhyddhau wrth i ni agosáu at ddiwrnod y Gynhadledd. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â manon@cwvvys.org.uk neu branwen@cwvys.org.uk
|
Yr Urdd a TG Lurgan yn dod ynghyd i chwalu rhwystrau iaith
Mae aelodau mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, Urdd Gobaith Cymru a phrosiect ieuenctid Gwyddelig TG Lurgan unwaith eto wedi dod ynghyd i chwalu rhwystrau iaith drwy ryddhau fideo cerddoriaeth Gymraeg/Gwyddelig newydd. Mae'r ffenomen gydweithredol a ddechreuodd yn ystod Covid-19, wedi cael ei wylio dros 1 miliwn gwaith ar draws gwasanaethau ffrydio fideo a cherddoriaeth. Maen nhw nawr yn ychwanegu at eu gwaith anhygoel trwy ryddhau eu 8fed cydweithrediad - cân boblogaidd Florence and the Machine, Dog Days are Over - mewn cymysgedd o'r Wyddeleg a'r Gymraeg.
Ym mis Awst, mynychodd tua 400 o bobl ifanc TG Lurgan a 30 o’r Urdd ysgol haf Coláiste Lurgan yn Connemara i recordio’r cyhoeddiad diweddaraf hwn, cyn perfformio mewn cyngerdd byw. Wrth wraidd y cydweithio hwn mae cyd-weledigaeth o arddangos ieithoedd lleiafrifol fel yr endidau byw y maen nhw, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr hyder i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Wyddeleg mewn bywyd bob dydd.
|
Llwybr 2 Taith bellach ar agor am geisiadau!
Mae Llwybr 2 Taith bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer ei alwad ariannu 2024. Mae hwn yn gyfle gwych i fudiadau addysgol neu hyfforddi di-elw sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i ariannu prosiectau cydweithredol rhyngwladol, ac efallai bod rhai o’ch rhanddeiliaid wedi elwa o’r cyllid hwn yn flaenorol.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais, ewch i wefan Addysg Cymru gyda rhagor o wybodaeth am Taith, Llwybr 2, a'r gweminarau sydd ar ddod y bydd Taith yn eu cynnal.
Cyfleoedd Gwirfoddoli Rhyngwladol gyda WCIA
Mae gan WCIA nifer cyfyngedig o leoliadau gwirfoddoli rhyngwladol a ariennir yn llawn ar gael eleni. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a chroesawu diwylliannau eraill. Os oes gennych chi neu berson ifanc yr ydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn gwirfoddoli rhyngwladol, cysylltwch â Tom Weiser, tomweiser@wcia.org.uk.
I fod yn gymwys ar gyfer lleoliad a ariennir mae'n rhaid i chi fod rhwng 18-25 oed ac yn byw yng Nghymru. Dim ond lleoliadau i Ewrop y gallwn eu hariannu ar hyn o bryd.
|
|
Marc Ansawdd
Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn arf unigryw i fudiadau hunanasesu eu hansawdd yn erbyn tair lefel safonol Efydd, Arian ac Aur, ac yna i wneud cais am asesiad allanol i gyflawni safon y Marc Ansawdd.
|
Gall mynd drwy broses y Marc Ansawdd helpu eich mudiad i ddod at ei gilydd i ddeall a dangos tystiolaeth o effaith eich gwaith, herio eich hunain i wella a sicrhau eich bod yn diwallu anghenion pobl ifanc. Mae llawer o wybodaeth ar wefan CGA gan gynnwys mudiadau sydd eisoes wedi llwyddo i ennill y Marc Ansawdd yn siarad am eu profiadau, yn ogystal â llawer o enghreifftiau o arferion da i chi edrych arnynt.
Os hoffech chi wybod mwy, cysylltwch drwy e-bostio youthwork.qualitymark@ewc.wales
Llongyfarchiadau i dderbynwyr diweddaraf y Marc Ansawdd. Fe gafodd Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd y Marc Ansawdd arian, ac fe gafodd Gwasanaeth Ieuenctid Evolve Abertawe, a Phrosiect Ieuenctid Tŷ Cymuned ar gael y wobr efydd.
Mae CGA yn chwilio am aseswyr Marc Ansawdd
Mae aseswyr y Marc Ansawdd yn chwarae rôl allweddol o ran helpu grwpiau a sefydliadau adnabod, hyrwyddo a dathlu arferion da gyda phobl ifanc. Os oes diddordeb gennych gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar eu gwefan.
Gadewch i ni ailgyflwyno ein Pencampwyr Gwaith Ieuenctid!
Rydym yn gyffrous i ailgyflwyno ein Pencampwyr Gwaith Ieuenctid, grŵp ymroddedig o unigolion angerddol sydd wedi ymrwymo i eirioli dros a chefnogi gwaith ieuenctid ledled Cymru. Maen nhw'n grŵp o bobl dalentog o fewn eu hunain sydd wedi cyfrannu at y sector gwaith ieuenctid.
Mae rôl y pencampwyr yn cynnwys codi lleisiau pobl ifanc, hyrwyddo mentrau ieuenctid-ganolog, a meithrin partneriaethau sy'n gwella cyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad.
|
|
Yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid fe gyflwynom rhai o’n pencampwyrr i’r sector a dyma beth ddywedon nhw;
‘Mae dod yn Bencampwrr Gwaith Ieuenctid yn rhoi'r cyfle i mi helpu i gefnogi pobl eraill i siarad am sut y gall gwaith ieuenctid newid bywydau.’ – Molly Fenton, Ymgyrch Caru’ch Mislif a Phencanpwr Gwaith Ieuenctid
|
'Rwyf wrth fy modd gyda'r cyfle i fod yn un o Bencampwyr Gwaith Ieuenctid Cymru eleni. Wrth siarad am y Gymraeg a'i dyfodol mae plant a phobl ifanc yn hollbwysig ac mae gweithio gyda nhw, trafod gyda nhw a chlywed eu syniadau yn flaenoriaeth amlwg i mi.' – Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg a Phencampwr Gwaith Ieuenctid
Efa Gruffudd yn cefnogi Wythnos Gwaith Ieuenctid 24. Efa Gruffudd supporting Youth Work Week 24. (youtube.com)
Cymerwch ran
Ydych chi'n meddwl y gallech chi fod yn Hyrwyddwr Gwaith Ieuenctid nesaf? E-bostiwch Manon@cwvys.org.uk neu branwen@cwvys.org.uk am ragor o wybodaeth.
Mae Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant Gweithlu Gwaith Ieuenctid 2024 yma!
Mae’r adroddiad yn deillio o argymhellion a wnaed yn adroddiad Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru,'Mae'n Bryd Cyflawni', i ddarparu model cynaliadwy ar gyfer Gwaith Ieuenctid.
Mae'r Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant yn rhan o fenter beilot sydd â'r nod o wella'r gweithlu Gwaith Ieuenctid. Mae'n darparu sylfaen hanfodol ar gyfer hyfforddi, cymhwyso, a pharatoi Gweithwyr Ieuenctid i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru yn well. I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i - Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant
Urdd Gobaith Cymru yn dathlu degawd o rymuso 1,000 o ddysgwyr drwy ei Adran Brentisiaethau
Ym mis Medi, dathlodd mudiad ieuenctid mwyaf Cymru 10fed pen-blwydd ei Adran Brentisiaethau, a degawd o rymuso 1,000 o bobl ifanc ac oedolion sy’n dysgu ledled Cymru. Mae Adran Brentisiaethau Urdd Gobaith Cymru yn ddarparwr prentisiaethau blaenllaw o fewn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru.
Ers 2014 mae’r adran wedi ymrwymo i bontio’r bwlch rhwng addysg a chyflogaeth ac wedi helpu dros 1,000 o unigolion i ennill profiad ymarferol a chael cymwysterau a gydnabyddir gan ddiwydiant.
Mae'r cyflawniadau allweddol dros y degawd diwethaf yn cynnwys:
-
Hyfforddi dros 600 o brentisiaid: Mae’r adran wedi hwyluso hyfforddiant mwy na 600 o brentisiaid mewn amrywiaeth o sectorau, o chwaraeon ac addysg awyr agored, i ofal plant a’r sectorau ieuenctid.
-
Cynnydd o 400% mewn lleoedd Prentisiaethau ers 2018 (o 35 i 180).
- Gweithio mewn partneriaeth â dros 80 o gyflogwyr yn flynyddol.
-
Galluogi 400 o unigolion i ennill Cymwysterau Sgiliau Hanfodol: Mae’r adran wedi sefydlu ei Hwb Sgiliau Hanfodol ei hun i sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn cael y dewis o ddatblygu a diweddaru eu sgiliau Cyfathrebu, Rhifedd a Llythrennedd Digidol trwy gymorth wedi’i deilwra, mentora a chyflawni Cymwysterau Sgiliau Hanfodol. Mae HWB yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr hyfforddiant a cholegau ledled Cymru, gan sicrhau mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i bawb.
Gweithgareddau Youth Cymru
Prosiect Mentora Youth Cymru
Mae ein prosiectau Mentora mewn ysgolion ledled De Cymru ar waith eto, mae’r sesiynau hyn yn cael eu harwain gan bobl ifanc ac yn cyd-fynd â’u nodau unigol, y nod yw datblygu’r myfyrwyr yn gyfannol ac yn gymdeithasol. I gymryd rhan ewch i Mentor Ieuenctid - Youth Cymru
40 Mlynedd o Sglefrio Canol Nos
Rydym yn eich gwahodd i ddathlu 40 mlynedd o Sglefrio Canol Nos, digwyddiad blynyddol eiconig Youth Cymru! Dyddiad: Dydd Gwener, 7 Rhagfyr Amser: 10:30PM - 1:30AM
I wneud cais am docyn, ewch ihttps://share-eu1.hsforms.com/1y2b620_hRg24w11dVr5ybQeydbn
Cwrs gwaith ieuenctid datgysylltiedig ac allgymorth yn dechrau Rhagfyr 4
Mae’r cwrs hyfforddi Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig ac Allgymorth yn rhedeg dros sawl diwrnod ac yn cyfuno theori ac ymarfer.
I gadw eich lle, ewch i https://www.eventbrite.co.uk/e/detached-and-outreach-youth-work-202425-online-tickets-1037780337927?aff=oddtdtcreator
Gweithdai Beic
Fel rhan o’n prosiect Dyfodol Adnewyddadwy, rydym hefyd yn cynnal gweithdai beiciau i bobl ifanc ledled Casnewydd i hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy, a diogelwch i bobl ifanc sy’n beicio. Os hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost atom yn communications@youthcymru.org.uk
Cynhadledd Digartrefedd Ieuenctid
Ar ôl y Gynhadledd Digartrefedd Ieuenctid fis diwethaf (Hydref 8), gwrandewch ar Nick Hudd (Cydlynydd Digartrefedd Ieuenctid o Wasanaeth Ieuenctid Sir Benfro) ac Emma Chivers (Cynghorydd Gwaith Ieuenctid) o’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn trafod 'Arwain y Cyhuddiad: Atal Digartrefedd Ieuenctid' (yn Saesneg).
Os ydych yn arweinydd gwaith ieuenctid ac yn dymuno cymryd rhan mewn podlediad, darparu astudiaeth achos o'ch gwaith fel Arweinydd, neu ddysgu mwy am ein gwaith, cysylltwch â ni: Emma.chivers@agaa.cymru.
Cynhadledd Lles Arweinwyr – llefydd dal ar gael!
|
|
Fel arweinydd yn y sector gwaith ieuenctid, mae eich llesiant a llesiant pobl eraill yn rhan allweddol o’ch rôl. Cynhelir cynhadledd wyneb yn wyneb eleni ddydd Mercher 27 Tachwedd 10am-3.15pm yng Ngwesty'r Parkgate, Heol y Porth, Caerdydd, CF10 1DA. Gallwch gofrestru yma |
Cysylltwch drwy e-bost (gwaithieuenctid@llyw.cymru) os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf. Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni, gyda gwybodaeth am nifer geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.
Cofiwch ddefnyddio #GwaithIeuenctidCymru #YouthWorkinWales wrth drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Dilynwch @ieuenctidcymru ar X a Facebook i gadw i fyny gyda'r holl newyddion.
Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn gyflym yma
|