Mae Her Arloesi Newydd wedi ei lansio ar gyfer datblygu'r Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae'r Her yn ceisio datblygu arloesedd yn y sectorau amaeth a bwyd, gan ymgorffori technoleg newydd ar y fferm neu drwy gydol y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth ehangach gan gynnwys gweithgynhyrchu a chynhyrchu
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â Chanolfan Ragoriaeth SBRI yng Nghymru i lansio'r Her Technoleg Bwyd-Amaeth ar 4 Tachwedd 2024.
Mae datblygu a mabwysiadu Technoleg Amaeth a Thechnoleg Manwl yn faes tŵf strategol ar gyfer economi Cymru ac yn un y mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen sylw penodol a map ffordd i'w ddatblygu. Mae pedair blaenoriaeth i'r cynllun gweithredu:
- Cyflymu gallu amaeth-dechnoleg Cymru cartref.
- I yrru fabwysiadu ar fferm i gyflawni enillion cynhyrchiant ac effeithlonrwydd 'mwy am lai'. (gan gynnwys amgylcheddol)
- Darparu buddion amgylcheddol a chymorth i bontio i Net Zero.
- Cefnogi datblygiad sgiliau ag addysg ymhlith gweithwyr proffesiynol amaethyddol, presennol a’r dyfodol, i fanteisio ar Amaeth-Dechnoleg i'r eithaf.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £500,000 ar gyfer yr her sy'n edrych ar gefnogi prosiectau dichonoldeb a all ddechrau mynd i'r afael â nodau'r Her:
"Datblygu arloesedd o fewn y sectorau amaeth a bwyd, gan ymgorffori technoleg newydd ar y fferm neu drwy gydol y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth ehangach gan gynnwys gweithgynhyrchu a chynhyrchu."
Bydd yr her yn cael ei rhedeg gan Ganolfan Ragoriaeth SBRI yng Nghymru yn dilyn cyfnod 1 o Ddichonoldeb, gyda'r brif ffocws ar ddangos datrysiadau posib o ran raddio a fforddiadwyedd a all cael eu darparu ar frys.
Broses ymgeisio
Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon trwy: https://sdi.click/sbriagrifood
Mae digwyddiad briffio wedi'i gynllunio ar gyfer 10am ar 12 Tachwedd, i gofrestru, cliciwch ar y ddolen ganlynol Digwyddiad Briffio Technoleg Bwyd-Amaeth Her SBRI
|