Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Ymgyrch farchnata Croeso 25 Croeso Cymru - recordiad o’r weminar ar gael nawr
Mae recordiad o'r weminar, a dolenni defnyddiol eraill o'r sesiwn, bellach ar gael ar ein gwefan newydd ar gyfer y diwydiant.
Cafwyd y newyddion diweddaraf ar:
Fe wnaethom hefyd rannu ein cynlluniau ar gyfer Croeso 25 a buom yn siarad am yr ymgyrch farchnata flaenllaw ar gyfer Cymru, Hwyl, a fydd yn cael ei chyflwyno o dan ymbarél y flwyddyn thematig.
Bydd ymgyrch Hwyl yn lansio ym mis Ionawr 2025 ac yn canolbwyntio ar y teimladau o hwyl a llawenydd y gallwch eu profi "Yng Nghymru yn unig".
Yn ogystal â theledu/ffrydio, partneriaethau digidol a chyfryngau y talwyd amdanynt, bydd “Wal Hwyl” yn ymddangos ar hafan Croeso Cymru pan fydd yr ymgyrch yn lansio ym mis Ionawr 2025.
Os hoffech i'ch busnes neu'ch cyrchfan gael ei ystyried i fod yn rhan o gynnwys lansio’r Wal Hwyl, e-bostiwch Croeso@llyw.cymru.
Gwobrau Croeso Sir Benfro 2024 – cyhoeddi'r enillwyr
Llongyfarchiadau i enillwyr a rownd derfynol Gwobrau Croeso 2024 a gynhaliwyd yng Ngholeg Sir Benfro ar 30 Hydref.
Roedd cynnal y digwyddiad yng Ngholeg Sir Benfro yn gyfle i fyfyrwyr gymryd rhan ym mhob agwedd o'r digwyddiad. Cyflwynwyd y digwyddiad drwy gydweithrediad Coleg Sir Benfro a Chasgliad Seren a welodd fyfyrwyr lletygarwch yn cyflwyno cinio o Sir Benfro gydag arweiniad a chefnogaeth y tîm yn Seren.
Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe'n barod i ddathlu rhagoriaeth yn y Diwydiant
Bydd Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe, sy'n cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth yn y sector, yn dychwelyd ar ôl hir ymaros ar 14 Tachwedd.
Bydd Twristiaeth Bae Abertawe - wedi'i chefnogi gan Gyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru - yn cynnal y gwobrau eleni. Cyhoeddir yr enillwyr ar wefan Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe ar ôl i'r gwobrau gael eu cynnal ar 14 Tachwedd.
Byddwn yn eich diweddaru ar canlyniadau'r gwobrau rhanbarthol dros yr wythnosau nesaf.
Cronfa Y Pethau Pwysig 2025-2026/7 Nawr Ar Agor - Cylch Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol
Mae'r cylch 2025-2026/7 bellach ar agor ac rydym yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer prosiectau o dan y cynllun hwn ar gyfer prosectiau fydd yn para hyd at 1 neu 2 flynedd.
Bydd 2025 yn nodi Blwyddyn Croeso yng Nghymru fel y diweddaraf mewn cyfres lwyddiannus o flynyddoedd thema dan arweiniad Croeso Cymru. Felly, anogir ymgeiswyr i ystyried sut y gall eu prosiect ychwanegu at ddarparu Croeso sy'n gynhwysol, er mwyn creu profiadau llawn. Gallai hyn er enghraifft gynnwys gwneud cyfleusterau'n hygyrch i bob gallu a chreu ymdeimlad o le megis drwy’r defnydd o'r Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn datganiadau o ddiddordeb yw 22 Tachwedd 2024: Cyllid | Drupal (llyw.cymru)
Minecraft Education – llwyfan twristiaeth a lletygarwch newydd i ysgolion
Fel rhan o waith parhaus i hysbysu disgyblion ysgol y gall twristiaeth a lletygarwch gynnig cyfleoedd gyrfa ystyrlon, mae Croeso Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru a Bluestone Resort i ddatblygu 'byd' newydd ar blatfform Minecraft Education, sy'n rhan o'r adnodd arobryn CrefftGyrfaoedd.
Wedi'i gynllunio i ysbrydoli ac ysgogi plant ysgol 8-13 oed, wrth ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth gyrfaoedd, mae byd Bluestone yn gysylltiedig â Maes Dysgu yng nghwricwlwm Cymru.
Drwy archwilio'r tirnodau yn rhithiol ar y platfform a chymryd rhan mewn heriau, caiff pobl ifanc eu hannog i ystyried eu sgiliau, eu priodoleddau a'u diddordebau eu hunain, a sut y gallant gefnogi eu teithiau gyrfa.
Mae'r byd Bluestone newydd bellach ar gael i bob disgybl mewn ysgolion ledled Cymru drwy Minecraft Education Edition ac mae cynlluniau gwersi ar gyfer athrawon yn cyd-fynd ag ef.
I ddathlu hyn, cynhaliodd Gyrfa Cymru ddigwyddiad lansio ar 15 Hydref yng nghyrchfan Bluestone gyda disgyblion o Ysgol Gynradd Gymunedol Tredemel.
I gael gwybod mwy am CrefftGyrfaoedd ewch i wefan Gyrfa Cymru.
Marchnad Prydain ac Iwerddon: 24 Ionawr 2025 – InterContinental London, yr O2
Bydd Marchnad Prydain ac Iwerddon yn dychwelyd i Lundain ddydd Gwener 24 Ionawr 2025. Mae'r digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd rwydweithiau ETOA, UKinbound a VisitBritain, yn ogystal â chyrchfannau cenedlaethol a rhanbarthol ledled y DU ac Iwerddon. Cysylltwch â 200+ o brynwyr rhyngwladol mewn cyfres o apwyntiadau un i un - o gwmniau teithio bach pwrpasol i gwmniau grŵp, pob un yn barod i drefnu contract gyda'r gorau o gynhyrchion twristiaeth Prydain ac Iwerddon.
Mae cyfradd ostyngol arbennig ar gael i gyflenwyr Cymru @ £949 + TAW (mae'r gyfradd gynnar hon yn dod i ben ar 15 Tachwedd 2024) – os oes gennych ddiddordeb bod yn bresennol, e-bostiwch traveltradewales@llyw.cymru i gael y cod disgownt cyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad.
Deddfau rhoi tip yn dod i rym
Bydd miliynau o weithwyr yn elwa o gyfreithiau newydd a fydd yn sicrhau eu bod yn cadw 100% o'r arian y maent wedi'i ennill yn sgil cael tip.
Daeth y Ddeddf Cyflogaeth (Dyrannu Tipiau) a'r Cod Ymarfer statudol ar ddosbarthu tipiau yn deg ac yn dryloyw i rym ar 1 Hydref 2024, wedi iddi gael ei chyflwyno drwy Fil Aelod Preifat y llynedd.
Bydd y newidiadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr drosglwyddo'r holl dipiau, arian rhodd a thaliadau gwasanaeth i weithwyr, heb ddidyniadau. Am ragor o fanylion, ewch i:
Diweddariadau cyffrous i God Morol Sir Benfro i Hybu Ymdrechion Cadwraeth
Mae Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF) yn falch iawn o gyhoeddi gwelliannau diweddar i God Morol Sir Benfro, a ddatblygwyd gyda mewnbwn rhanddeiliaid lleol a grwpiau cadwraeth. Nod y cod wedi'i ddiweddaru, a grëwyd mewn partneriaeth â gweithredwyr lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a'r RSPB, yw cefnogi ymhellach fwynhad cynaliadwy o arfordir trawiadol Sir Benfro drwy leihau aflonyddwch i rywogaethau a chynefinoedd morol sensitif.
Ers ei sefydlu, mae Cod Morol Sir Benfro wedi darparu arweiniad hanfodol i reoli pwysau gweithgareddau hamdden ar hyd yr arfordir. Mae'r cod gwirfoddol hwn yn cynnig cyngor ymarferol i ymwelwyr a'r gymuned leol ar fwynhau'r arfordir yn gyfrifol, gan helpu i ddiogelu'r bioamrywiaeth unigryw yn Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro (ACA).
Mae'r diweddariadau diweddar hyn yn cyflwyno argymhellion wedi'u mireinio i sicrhau y gall defnyddwyr hamdden fwynhau harddwch naturiol Sir Benfro wrth chwarae rhan weithredol mewn ymdrechion cadwraeth. Mae'r canllawiau diwygiedig yn adlewyrchu mewnbwn cyrff cadwraeth lleol a'r sector twristiaeth, gan ei gwneud yn haws i bawb gyfrannu at ddiogelu'r amgylchedd morol gwerthfawr hwn.
Mae PCF yn annog pob ymwelydd a phreswylydd i ddilyn Cod Morol diwygiedig Sir Benfro, gan sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol barhau i fwynhau bywyd gwyllt amrywiol a thirweddau arfordirol glân yr ardal. I gael rhagor o fanylion am y diweddariadau ac i gael mynediad at yr adnoddau, ewch i Hafan – Cod Morol Sir Benfro.
Llwybr Arfordir Cymru - Pecyn cymorth busnes
Dyma adnodd ar-lein am ddim sy’n ceisio helpu busnesau arfordirol i farchnata eu busnes trwy ddefnyddio Llwybr Arfordir Cymru fel atyniad grymus. Mae'n rhoi mynediad i chi i amrywiaeth eang o ddeunyddiau a gwybodaeth mewn un lle.
Bydd yn eich helpu i ysgogi syniadau ac yn darparu arweiniad ar sut y gall busnesau roi profiad bythgofiadwy o Lwybr Arfordir Cymru i’w cwsmeriaid newydd a phresennol. Cewch ragor o wybodaeth ar: Llwybr Arfordir Cymru / Pecyn cymorth busnes
Economi Ymwelwyr Gynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035
Nod Economi Ymwelwyr Gynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 yw creu economi ymwelwyr sy’n gwella lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri. Mae’r fenter yn canolbwyntio ar dwristiaeth gyfrifol, gan ystyried ei effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Am ragor o fanylion, ewch i Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 | Eryri
Micro fenthyciadau ar gael i fusnesau yng Nghymru
Gall busnesau bach a busnesau sy’n tyfu yng Nghymru gael Micro Fenthyciadau gan Fanc Datblygu Cymru, gan gynnig rhwng £1,000 a £100,000. I gael gwybod mwy, ewch i dudalen Micro Fenthyciadau Banc Datblygu Cymru. Am ragor o fanylion, ewch i: Micro fenthyciadau - Dev Bank
Newyddion diweddaraf Busnes Cymru
Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion a’r blogiau diweddaraf gan Busnes Cymru – ewch i: Newyddion a Blogiau | Busnes Cymru. Mae rhai o’r erthyglau diweddaraf yn cynnwys:
Tanysgrifiwch ar gyfer newyddlen Busnes Cymru ar Llywodraeth Cymru – ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi a rheoli eich holl danysgrifiadau gyda Llywodraeth Cymru.
Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
|