Bwletin Newyddion: Gweminar marchnata Croeso Cymru - recordiad ar gael nawr

Newyddion diwydiant
Croeso Cymru

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

1 Tachwedd 2024


Adv

Gweminar marchnata Croeso Cymru - recordiad ar gael nawr

Roedd mor dda gweld bron i 300 o randdeiliaid a ymunodd â ni ar gyfer gweminar marchnata Croeso Cymru a gynhaliwyd ar 17 Hydref. Diolch.

Mae recordiad o'r weminar, a dolenni defnyddiol eraill o'r sesiwn, bellach ar gael ar ein gwefan newydd ar gyfer y diwydiant.

Cafwyd y newyddion diweddaraf ar:

  • Weithgaredd marchnata diweddar a chyfredol (defnyddwyr a'r diwydiant teithio)
  • Ein gwefan newydd ar gyfer y diwydiant
  • Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025

Fe wnaethom hefyd rannu ein cynlluniau ar gyfer Croeso 25 a buom yn siarad am yr ymgyrch farchnata flaenllaw ar gyfer Cymru, Hwyl, a fydd yn cael ei chyflwyno o dan ymbarél y flwyddyn thematig.

Bydd ymgyrch Hwyl yn lansio ym mis Ionawr 2025 ac yn canolbwyntio ar y teimladau o hwyl a llawenydd y gallwch eu profi "Yng Nghymru yn unig". Mae’r cyfnod cyn y lansiad yn amser perffaith i randdeiliaid wneud yn siŵr bod eu cofnod ar wefan Croeso Cymru yn gyfoes ac yn barod i wneud y mwyaf o weithgarwch Croeso 25.

Yn ogystal â theledu/ffrydio, partneriaethau digidol a chyfryngau y talwyd amdanynt, bydd “Wal Hwyl” yn ymddangos ar hafan Croeso Cymru  pan fydd yr ymgyrch yn lansio ym mis Ionawr 2025.  Bydd y "wal" yn llawn adegau o hwyl a llawenydd - hwyl - ledled Cymru.

Os hoffech i'ch busnes neu'ch cyrchfan gael ei ystyried i fod yn rhan o gynnwys lansio’r Wal Hwyl, e-bostiwch Croeso@llyw.cymru.  Y cyfan sydd ei angen arnom yw enw cyswllt, e-bost, ac enw eich busnes, ac yna byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod pa fath o fideo neu bostiad yr ydym yn chwilio amdano a'ch helpu i gael eich cynnwys.

Edrychwch ar wefan y diwydiant yn rheolaidd wrth i ni barhau i ychwanegu adnoddau defnyddiol ar gyfer cymryd rhan yn Croeso 25: Digwyddiadau ymgysylltu â'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch | Diwydiant



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyrau a bwletinau a gyhoeddwyd yn flaenorol i’r diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).


HomepageFacebookTwitter XYoutubeInstagram