Briff Arloesi Rhifyn 69

Hydref 2024

English

 
 
 
 
 
 
Advances Wales 103

Advances Wales

Mae Advances Wales yn dangos y datblygiadau diweddaraf mewn gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg yng Nghymru. Yn y rhifyn hwn mae uchafbwyntiau yn cynnwys sut mae gêm wedi profi’n boblogaidd ar draws y byd, ffordd newydd i hybu seiberddiogelwch a datrysiadau ar gyfer llawdriniaethau orthopedig. Darllenwch y rhifyn llawn yma.

Cofrestrwch i gael rhifynnau’r dyfodol yma.

Gwobrau Dewi Sant

Mae angen eich help arnom i ganfod enillwyr nesaf Gwobrau Dewi Sant, gwobrau cenedlaethol Cymru.

Mae’r gwobrau yn cydnabod ac yn dathlu pobl o bob cefndir o Gymru a’r tu hwnt, sydd yn cyflawni pethau eithriadol. Enwebwch nawr!

SDD Awards
travel2

Cymorth teithio i fusnesau fynychu digwyddiadau Ewropeaidd

Gallwch ddarganfod mwy a gwneud cais am gyllid Innovate UK yma.

Arolwg technoleg newydd

Sut mae eich sefydliad yn mabwysiadu technoleg newydd?

Cymerwch ran yn arolwg yr Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg i’w cynorthwyo i gefnogi busnesau yn y DU yn well ac i lywio eu polisïau ar gyfer y dyfodol. Gallwch gwblhau’r arolwg yma.

technology
Events button

Digwyddiadau

Wythnos Hinsawdd Cymru

11 – 15 Tachwedd

Cynhadledd rithwir

Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru yn dwyn pobl ynghyd o bob rhan o Gymru i ddysgu ac i archwilio datrysiadau arloesol ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd ac addasu iddo. Gallwch ddarganfod mwy am raglen yr wythnos a chofrestru.

Arloesi Lleol: Wrecsam

19 Tachwedd - 9.00 – 15.30

Ramada Plaza – Wrecsam

Cyfle i gysylltu gydag arbenigwyr arloesi a chydweithwyr posibl. Cewch ddarganfod mwy am y cyfleoedd a’r cymorth sydd ar gael i’ch helpu i drawsnewid eich busnes drwy arloesi. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.

Cymorth Arloesi

21 Tachwedd – 10:00 – 17:00

Ar-lein

Cadwch le yn ein cyfarfod cymorth arloesi er mwyn bod yn fwy parod I gael mynediad at gyllid ymchwil a datblygu a rhedeg prosiectau ymchwil a datblygu mwy effeithiol. Gallwch ddarllen mwy a chofrestru yma.

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: