Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Hydref 2024

Hydref 2024 • Rhifyn 035

 
 

Newyddion

Cynhadledd Blas Cymru / Taste Wales 2024

Cynhadledd Blas Cymru / Taste Wales 2024

Mae'r cyfri yn mynd ymlaen ar gyfer Cynhadledd gyntaf erioed Blas Cymru / Taste Wales!

Yn cael ei gynnal yn Venue Cymru yn Llandudno, Gogledd Cymru, ar 24 Hydref, bydd y digwyddiad trwy'r dydd yn croesawu cynhyrchwyr, arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd a diod o Gymru.

Thema'r gynhadledd yw 'Pontydd i Lwyddiant – dewch â chwestiynau, gadewch gydag atebion.'

Yn cynnwys yr ystod lawn o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, bydd y Gynhadledd yn cynnwys:

  • Arddangosfa gynhwysfawr o raglenni cymorth y diwydiant a ddarperir gan yr Is-adran Fwyd
  • Meddygfeydd Arbenigol – cyfle unigryw i gael gafael ar arbenigedd a allai fod yn newid bywyd i'ch busnes
  • Paneli cyffrous gyda siaradwyr sy'n adnabod ac yn deall y diwydiant
  • Cyfle gwych i ddod i adnabod Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
  • Cyfle i rwydweithio gydag arweinwyr busnes eraill

Ystod wych o wybodaeth, arbenigedd a phrofiad amhrisiadwy ar flaenau eich bysedd, ac mae'n rhad ac am ddim.

Mae lleoedd yn gyfyngedig – i gael gwybod mwy, a sicrhau eich tocyn i fynychu, ewch i: Business Wales Events Finder - Cynhadledd Blas Cymru / Taste Wales 2024 (business-events.org.uk)

Cymorthfeydd cynaliadwyedd un-i-un ar gyfer eich busnes

Ewch draw i’r Parth Cynaliadwyedd yng Nghynhadledd Blas Cymru/Taste Wales am y cyfle i fynychu cymorthfeydd un-i-un i helpu i wella arferion cynaliadwy ar gyfer eich busnes bwyd a diod. Bydd y Parth yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol: Clwstwr Cynaliadwyedd, ardystiad B-Corp, Rhaglen Beilot Cynllun Lleihau Carbon, a chyngor gan Nutri-Cymru ar ddatblygu cynhyrchion bwyd iach a chynaliadwy. Ewch i'n tudalen i ddysgu mwy am yr hyn sydd ar gael.

Alison Lea-Wilson Dirprwy Cadeirydd BDBDC

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: nodyn gan Alison Lea-Wilson (Hydref 2024)

Rwyf wedi byw yng Nghymru ers dod i Brifysgol Bangor yn y 1970au i astudio Saesneg.  Cwblheais gwrs TAR a dysgais am y ddwy flynedd ganlynol. Fodd bynnag, roeddwn bob amser wedi bod eisiau gweithio i mi fy hun, felly, ynghyd â fy ngŵr wnaethom sefydlu ein busnes cyntaf yn  gysylltiedig â'r môr.

Darllen mwy YMA.

Black Mountains Smokery - Ennillwyr Gwobr Great Taste

Black Mountains Smokery yn ennill anrhydedd fawr yng Ngwobrau Great Taste

Mae Black Mountains Smokery yn dathlu ar ôl ennill un o wobrau mwyaf mawreddog y diwydiant bwyd a diod.

Yn seremoni wobrwyo Gwobrau Great Taste, sy’n cael eu hadnabod fel Oscars y byd bwyd, gwelwyd Brest Hwyaden Fwg y cwmni o Grucywel, yn cipio gwobr y Golden Fork o Gymru.

Mewn buddugoliaeth arall i Gymru, enillodd Absinthe Distyllfa Dà Mhìle o Geredigion hefyd Wobr Treftadaeth Nigel Barden am dynnu sylw at ddulliau cynhyrchu traddodiadol a threftadaeth.

Sioe deithiol yn rhoi hwb i gynaliadwyedd bwyd a diod

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i gydweithio â busnesau i gyflawni ei nod o greu un o’r cadwyni cyflenwi bwyd a diod mwyaf cynaliadwy yn y byd. I hybu’r nod hwn, mae Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o gyfarfodydd brecwast a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru dros y misoedd nesaf.

Lansio cronfa entrepreneuriaid bwyd newydd ar ben-blwydd y campws arloesi

Mae cronfa newydd i gefnogi busnesau bwyd newydd wedi’i lansio gan gampws arloesi a menter y biowyddorau, ArloesiAber, wrth iddo ddathlu ei bedwerydd pen-blwydd. 

Bydd Rhaglen Cyflymu Etifeddiaeth Entrepreneuriaeth (LEAP), a fydd yn cael ei ariannu gan Gronfa Etifeddiaeth Dick Lawes, yn cefnogi mentrau sy'n ceisio helpu darpar entrepreneuriaid.

Wythnos Bwyd Môr Cymru yn Dathlu Cynhaeaf y Môr

Chwi bobl sy’n dwlu ar fwyd môr, byddwch yn barod i gael eich sbwylio yn ystod Wythnos Bwyd Môr Cymru (14–18 Hydref 2024), sy’n dathlu cynhaeaf y môr! Bydd gwerthwyr pysgod a manwerthwyr sy’n gwerthu bwyd môr o Gymru yn cynnwys arddangosfeydd arbennig ac yn hyrwyddo #BwydMôrCymru i gwsmeriaid yn eu siopau ac ar-lein. Nod hyn i gyd yw tynnu sylw at safon ac amrywiaeth y dalfeydd o amgylch arfordir Cymru.

Digwyddiadau

15 Hydref 2024 - Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy

16 Hydref 2024 - Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2024

17 Hydref 2024 - Gweminar marchnata Croeso Cymru, yn cynnwys gweithgaredd ymgyrch Blwyddyn Croeso

22 Hydref 2024 - Technolegau Datgarboneiddio Systemau Gwresogi

22 Hydref 2024 - Gweithdai Datblygu Cynhrychion Newydd - Proses y Porth

22 Hydref 2024 - Gweithdy Llaethdy

23 Hydref 2024 - Gweithdy Cigyddiaeth

31 Hydref 2024 - Gweithdai Datblygu Cynhrychion Newydd - Datblygu Cynnyrch Diogel

5 Tachwedd 2024 - Datgarboneiddio Systemau Oeri a Rheweiddio

8 Tachwedd 2024 - Mae’r Clwstwr Cynaliadwyedd yn mynd ar daith!

12 Tachwedd 2024 - Datgarboneiddio Gwastraff Bwyd a Deunydd Pecynnu

12 Tachwedd 2024 - Gweithdai Datblygu Cynhrychion Newydd - Gofynion Labelu Cyfreithiol

5 Rhagfyr 2024 - Gweithdai Datblygu Cynhrychion Newydd - Ymwybyddiaeth Synhwyraidd Sylfaenol

17 - 21 Chwefror 2025 - Gulfood Dubai 2025

11 - 14 Mawrth 2025 - Foodex, Japan

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Cylchlythyr ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru gyda newyddion, digwyddiadau a materion yn ymwneud â'r diwydiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru

 

Dilynwch ni ar Facebook:

@bwydadiodcymru

 

Dilynwch ni ar LinkedIn

Bwyd a Diod Cymru | Food and Drink Wales