Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru

Medi 2024

 
 

Croeso i'n cylchlythyr Diogelwch Adeiladau - sydd wedi'i gynllunio i roi gwybod i chi am gynnydd y Rhaglen Diogelwch Adeiladau.

Gallwch hefyd ein dilyn ni ar X / Twitter gan ddefnyddio  @LlC_Cymunedau

Croeso i Ysgrifennydd y Cabinet

Rydym yn croesawu penodiad Jayne Bryant AS yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. 

Bydd Ysgrifennydd newydd y Cabinet yn ymuno â'n cyfarfod Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ddechrau mis Hydref i drafod a deall blaenoriaethau'r aelodau. 

Adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Grenfell

Roedd tân Tŵr Grenfell ym mis Mehefin 2017 yn ddigwyddiad trasig a hawliodd fywydau 72 o bobl ac a adawodd gannoedd yn ddigartref. Yn dilyn y tân, lansiwyd Ymchwiliad Tŵr Grenfell, dan arweiniad Syr Martin Moore-Bick.

Roedd Cam 1 Ymchwiliad Tŵr Grenfell yn ymwneud â digwyddiadau ar noson y tân, a'r ymateb iddo. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Hydref 2019.

Mae Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell wedi ceisio archwilio achosion sylfaenol y tân, a chyhoeddwyd y canfyddiadau a'r argymhellion ar 4 Medi 2024.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu cyhoeddi adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Grenfell, a bydd yn ystyried ei ganfyddiadau a'i argymhellion yn ofalus. Gallwch weld yr adroddiad llawn yma: Cyhoeddi adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell - GOV.UK (www.gov.uk)

Yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio

Mae'r Tîm Diwygio Diogelwch Adeiladau yn parhau â'i waith i ddatblygu'r polisi ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) arfaethedig. Maes y canolbwyntir arno ar hyn o bryd yw'r heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol o ran eu rôl fel rheoleiddiwr y gyfundrefn newydd. Byddwn yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i ystyried y sgiliau, y profiad a'r cymwysterau sydd eu hangen i gyflawni eu swyddogaethau newydd.

Yn ystod mis Medi a mis Hydref, bydd y tîm yn cynnal cyfres o weminarau i ddarparu trosolwg lefel uchel o'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) arfaethedig. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu defnyddio i ymgysylltu â lesddeiliaid, preswylwyr, asiantiaid rheoli, sefydliadau trydydd sector a gwirfoddol, gan roi cyfle i'r rhai sy'n bresennol gynnig barn a holi cwestiynau.

Os hoffech gymryd rhan yn un o'r sesiynau hyn, cysylltwch â ni yn DiogelwchAdeiladau@llyw.cymru

Tîm Arolygu ar y Cyd

Mae'r Tîm Arolygu ar y Cyd ar gyfer Diogelwch Adeiladau yng Nghymru bellach yn weithredol ac mae wedi cynnal ei arolygiad cyntaf.

Bydd y Tîm Arolygu ar y Cyd yn gweithredu mewn rôl gynghori - gan roi cyngor a gwneud argymhellion i'r awdurdodau gorfodi presennol gan gynnwys adrodd amser real ar faterion sy'n peri pryder sylweddol, adroddiadau manwl i awdurdodau gorfodi, cyfarfodydd ôl-arolygu ac adolygiadau gyda'r Awdurdod Lleol a'r Gwasanaeth Tân ac Achub perthnasol.

Mae'r tîm yn amlddisgyblaethol, gan gyfuno sgiliau a gwybodaeth gweithwyr proffesiynol diogelwch adeiladau a diogelwch tân ac mae'n cynnwys Arweinydd Strategol a phedwar Prif Gynghorydd sy'n arbenigo mewn:

  • Rheolaeth Adeiladu
  • Iechyd yr Amgylchedd
  • Tân ac Achub
  • Peirianneg Tân

Mae rhagor o wybodaeth am y Tîm i'w gweld ar ei wefan:

www.jit.cymru; neu www.jit.wales, e-bost: info@jit.wales

Yr wybodaeth ddiweddaraf am Gyweirio

Mae gan bob adeilad preswyl dros 11 metr (sydd fel arfer yn bum llawr neu fwy) lwybr i'w wneud mor ddiogel rhag tân â phosibl. Ni fydd yn rhaid i lesddeiliaid dalu am y gwaith diogelwch tân hyn, sydd ei angen oherwydd y modd y cafodd yr adeilad ei adeiladu.

Rydym yn annog lesddeiliaid i sicrhau bod eu Person Cyfrifol (fel arfer yr Asiant Rheoli) wedi cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn ein galluogi i ymgymryd â gwaith arolygu i ddeall a oes diffygion diogelwch tân mewnol ac allanol yn bresennol - heb unrhyw gost i lesddeiliaid.

Mae rhagor o wybodaeth am Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru ar gael yma: https://www.llyw.cymru/cronfa-diogelwch-adeiladau-cymru-canllawiau-ar-gyfer-mynegi-diddordeb

Rydym yn gweithio'n agos gydag asiantiaid rheoli a datblygwyr i nodi'r gwaith diogelwch tân sydd ei angen.

Mae blociau o fflatiau yn adeiladau cymhleth ac mae nodi a oes unrhyw risgiau diogelwch tân posibl a'r atebion i'w cyweirio yn broses gymhleth. Mae'r broses ymchwilio a chynllunio hon yn hanfodol i sicrhau bod yr atebion cywir yn cael eu nodi.

Gallwn eich sicrhau, hyd yn oed os nad ydych yn gweld pobl mewn hetiau caled yn gwneud gwaith, ein bod yn gweithio'n agos gydag asiantiaid rheoli a datblygwyr i nodi'n union beth sydd ei angen a chael contractwyr i'r safle cyn gynted â phosibl.

Ar gyfer yr adeiladau amddifad, sef yr adeiladau lle nad yw'r datblygwr yn hysbys, mae'r datblygwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu neu cafodd yr adeilad ei ddatblygu dros 30 mlynedd yn ôl ac felly mae allan o'r cwmpas ar gyfer contract y datblygwyr. Rydym yn ymgysylltu â'r asiantiaid rheoli ac yn datblygu'r asesiadau diogelwch tân gyda hwy. Bydd yr asesiadau hyn yn ogystal â'r gwaith diogelwch tân mewn adeiladau amddifad yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn mynd i'r afael ag adeiladau a adeiladwyd gan ddatblygwyr llai yn yr un modd ag adeiladau amddifad. Peidiwch â phoeni os ydych yn byw mewn adeilad a adeiladwyd gan ddatblygwr llai gan y byddwn yn sicrhau bod yr asesiadau gofynnol yn cael eu cynnal a bod y gwaith yn cael ei gwblhau ochr yn ochr ag unrhyw sgyrsiau rydym yn eu cael gyda'r datblygwr.

Os ydych chi'n byw mewn adeilad lle mae un o'r datblygwyr mawr yn mynd i'r afael â'r gwaith, rydym yn cyfarfod â hwy'n chwarterol i fonitro cynnydd a'r camau nesaf.

Rydym yn falch o gyhoeddi bod y datblygwr Watkin Jones wedi llofnodi contract cyfreithiol rhwymol Llywodraeth Cymru – gan gadarnhau eu hymrwymiad i gyweirio materion diogelwch tân y maent yn gyfrifol amdanynt. Mae'r 12 datblygwr mawr bellach mewn contract gyda Llywodraeth Cymru i gyweirio eu hadeiladau.

Ar hyn o bryd mae gennym 407 o adeiladau yn Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru. O'r 407 o adeiladau, mae 238 yn adeiladau deiliadaeth breifat a 169 o adeiladau cymdeithasol.

Mae'r gwaith wedi'i gwblhau (yn amodol ar gymeradwyo'n derfynol) ar 67 o adeiladau. Mae'r gwaith wedi dechrau ar 103 o adeiladau. Mae cynlluniau yn cael eu datblygu ar gyfer 151 o adeiladau eraill. Rydym wedi cael gwybod nad oes angen unrhyw waith diogelwch tân ar 7 adeilad.

Rydym yn gweithio gyda'r 79 adeilad sy'n weddill i nodi unrhyw anghenion cyweirio.

Mae'r ffigurau hyn yn agored i newid wrth i adeiladau pellach gael eu nodi, ac i ragor o wybodaeth gael ei chasglu.

Rydym yn annog lesddeiliaid a phreswylwyr i gysylltu â'u hasiant rheoli i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran eu hadeilad, neu fel y crybwyllwyd uchod i sicrhau eu bod wedi cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i Lywodraeth Cymru.

Taflen Ffeithiau Diogelwch Adeiladau

Propertymark logo

Mae'r tîm wedi bod yn cydweithio â Propertymark i lunio Taflen Ffeithiau Diogelwch Adeiladau i Gymru gyda'r nod o egluro agweddau allweddol ar Ddiwygio a Chyweirio Diogelwch Adeiladau yng Nghymru, yn benodol o ran y gwahaniaeth yn y gyfraith.

Rydym yn gweithio tuag at gael y daflen ffeithiau hon yn barod ar gyfer Hydref 2024. 

Propertymark yw'r corff aelodaeth blaenllaw ar gyfer yr asiantiaid eiddo. Mae'n gosod safonau uwch ac yn darparu canllawiau, cyngor ac ymchwil yn ogystal â rhaglen gynhwysfawr o weithdai, cynadleddau a digwyddiadau. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall Propertymark ei gynnig, cliciwch yma: Y corff proffesiynol ar gyfer y sector eiddo | Propertymark

Yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddiogelwch Tân

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r Swyddfa Gartref a Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân ar fersiwn newydd o'r canllawiau - Fire Safety in Purpose-Built Blocks of Flats.

Bydd y canllawiau newydd hyn yn adlewyrchu datblygiadau o ran gwybodaeth ac arferion diogelwch tân, gan gynnwys y gwersi yn sgil tân Tŵr Grenfell. Byddwn yn darparu crynodeb a dolen ar gyfer y canllawiau hyn pan fydd ar gael. 

Rydym eisoes wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer blociau bach o fflatiau nad ydynt yn rhai cymhleth. Mae’r canllawiau Cymraeg ar gael yma.

Rheolaeth Adeiladu

Bydd ymgynghoriad ar ail gam y gyfundrefn newydd ar gyfer rheolaeth adeiladu yng Nghymru yn cael ei lansio ddiwedd 2024.

Bydd yr ymgynghoriad yn ymdrin â nifer o bynciau, gan gynnwys y canlynol:

  • Rolau deiliad dyletswydd (Prif Ddylunydd, Prif Gontractwr, Cleient, Dylunydd a Chontractwr)
  • Pyrth (atalfeydd caled yn y broses ddylunio ac adeiladu)
  • Llinyn aur o wybodaeth
  • Adroddiadau gorfodol ar ddigwyddiadau (yn y cyfnod dylunio ac adeiladu)
  • Cydymffurfedd a Hysbysiadau Stop

Bydd yr ymgynghoriad ar gael ar-lein ac mewn fformat printiedig ac mae'n gyfle i randdeiliaid fynegi eu barn. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell yn gryf y dylai pob parti sydd â buddiant gymryd rhan.

Grŵp Rhanddeiliaid Strategol

Cefnogir y Rhaglen Diogelwch Adeiladau gan grŵp cynghori - y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol Diogelwch Adeiladau. Mae'n grŵp cynghori annibynnol sydd â chynrychiolwyr o wahanol sectorau y mae materion diogelwch tân yn effeithio arnynt, gan gynnwys lesddeiliaid a phreswylwyr, asiantiaid rheoli, landlordiaid, datblygwyr, benthycwyr, yswirwyr, trawsgludwyr, rheolaeth adeiladau, penseiri, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Mae gan y Grŵp rôl ddeuol o ran darparu cyngor ar ddatblygu polisi newydd, gan ddod â'u gwybodaeth a'u harbenigedd gweithredol i herio a chraffu ar ein cynigion i sicrhau bod y rhain yn ymarferol ac yn gyraeddadwy.

Mae'n ofynnol hefyd i aelodau'r Grŵp roi adborth i'r Rhaglen ynghylch eu profiadau byw a cheisio atebion gan aelodau eraill am y gwahanol broblemau y maent yn eu hwynebu. 

Os hoffech ragor o wybodaeth am aelodau cynrychioliadol y grŵp, cysylltwch â ni yn DiogelwchAdeiladau@llyw.cymru

Cymorth i Lesddeiliaid a Phreswylwyr

Cymorth cyfreithiol i lesddeiliaid

Cymorth Cyfreithiol i Lesddeiliaid

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau canolig ac uchel iawn yma yng Nghymru (adeiladau dros bum llawr o uchder yw'r rhain fel arfer). Fel rhan o'r cymorth sy'n cael ei gynnig i lesddeiliaid, neu eu cynrychiolwyr, lansiwyd y Cynllun Cynghori Cyfreithiol i Lesddeiliaid ym mis Mai 2024. Mae'r Cynllun hwn yn rhoi cyngor cyfreithiol yn benodol ar gyfer materion sy'n ymwneud â diogelwch tân.

Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd achlysuron pan fo angen cyngor cyfreithiol am eu heiddo o ganlyniad uniongyrchol i faterion sy'n ymwneud â diogelwch tân ar lesddeiliaid, neu bersonau cyfrifol ar ran lesddeiliaid.  Dyma le y gall y Cynllun Cynghori Cyfreithiol i Lesddeiliaid helpu.

Mae'r cynllun yn rhad ac am ddim ac mae wedi'i gynllunio i gynnig cyngor cyfreithiol arbenigol i lesddeiliaid a chymorth i ddatrys anghydfodau posibl. Mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau (LEASE) a'r cam cyntaf i gael mynediad at y cymorth hwn yw cysylltu â hwy.

Bydd cynghorydd yn edrych ar yr amgylchiadau, yn asesu a yw cymorth cyfreithiol yn briodol, ac os oes angen, yn rhoi cyngor ar y camau nesaf a sut i ddatblygu'r rhain. Pan fo'n briodol, bydd LEASE wedyn yn gweithredu fel gwasanaeth atgyfeirio i ddarparwr gwasanaethau cyfreithiol penodol a bydd Llywodraeth Cymru yn talu am ei gyngor cychwynnol.

Os  ydych yn teimlo y gallech fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun, cysylltwch â LEASE. Gallwch hefyd gysylltu â LEASE os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill sy'n gysylltiedig â lesddaliadau.

Y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid

I'r rhai sydd mewn caledi ariannol, mae'r Cynllun Cymorth Lesddeiliaid yn parhau ar agor.  Gall y cynllun hwn ddarparu cyngor ariannol am ddim a threfnu prynu eich eiddo am bris teg ar y farchnad, os mai dyma'r ateb cywir i'r lesddeiliad.  Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynllun hwn yma: Y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid | LLYW. CYMRU

Hawliau Preswylwyr gydag Asiantiaid Rheoli

Rydym yn ymwybodol, i lawer o lesddeiliaid, efallai na fydd cyfathrebu ag asiant rheoli bob amser yn hawdd nac yn syml. Mae asiantiaid rheoli yn aml yn aelodau o gyrff proffesiynol. Bydd y cyrff proffesiynol hyn yn disgwyl i aelodau gadw at safonau a chodau ymddygiad penodol. Mae'n bosibl y bydd y cyrff proffesiynol hyn yn gallu eich helpu gydag unrhyw anawsterau rydych chi'n eu cael.

Er mwyn gwirio a yw'ch asiant rheoli yn aelod o gorff proffesiynol, mae'n bosibl y bydd y dolenni isod o gymorth i chi.

Dod o hyd i asiant eiddo yn eich ardal chi | Propertymark

Dod o hyd i asiant - Rheoleiddio asiantiaid gosod eiddo | SafeAgent (safeagents.co.uk)

Cymdeithas Asiantiaid Gosod Eiddo y DU - UKALA

Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 ar 24 Mai. Mae'r Ddeddf yn gymwys i Gymru a Lloegr, gan ddod â gwelliannau pwysig i'r gyfraith a hawliau newydd sylweddol i berchnogion tai yma, megis:

  • Gofyn am dryloywder ynglŷn â thaliadau gwasanaeth lesddeiliaid.
  • Cyflwyno ffioedd gweinyddu tryloyw yn lle comisiynau yswiriant adeiladau i asiantiaid rheoli a landlordiaid.
  • Dileu'r rhagdybiaeth bod rhaid i lesddeiliaid dalu costau cyfreithiol eu landlordiaid wrth herio arferion gwael. 
  • Pennu uchafswm o ran ffi ac amser ar gyfer darparu gwybodaeth sy'n ofynnol i gefnogi gwerthu eiddo lesddaliadol neu eiddo rhydd-ddaliadol sy'n ddarostyngedig i gostau rheoli ystad, er mwyn gwerthu eiddo o'r fath yn gyflymach. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio gweithredu'r Ddeddf a gwneud yr is-ddeddfwriaeth angenrheidiol i Gymru. O ystyried cymhlethdod y diwygiadau, y cam nesaf fydd ymgysylltu ac ymgynghori, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau hyn mewn cylchlythyr yn y dyfodol.

Canllawiau Safonau Masnach

Mae'r Safonau Masnach Cenedlaethol wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar yr hyn sy'n gyfystyr â  Gwybodaeth Berthnasol mewn rhestrau eiddo.

Nod y canllawiau yw cynnig eglurder a chysondeb i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr, a helpu i leihau amseroedd o ran trafodiadau eiddo a nifer y gwerthiannau sy'n methu. Maent ar gael yma: Gwybodaeth Berthnasol - Safonau Masnach Cenedlaethol

Pwyntiau allweddol i dynnu sylw atynt o'r gyfres o ganllawiau y dylai pob rhestr eiddo, lle bo'n berthnasol, roi manylion amdanynt:

  • Cladin anniogel
  • Cyfanrwydd y deunyddiau adeiladu
  • Y risg o gwympo
  • Decin pren
  • Unrhyw broblemau hysbys gyda systemau goleuo brys, tân a mwg

Pan fo materion diogelwch adeiladau yn cael eu nodi, dylid darparu ‘Gwybodaeth Berthnasol’ ddigonol er mwyn sicrhau bod y cwestiynau yn y rhestr hon yn gallu cael eu hateb o leiaf:

  • Beth yw'r diffyg/perygl?
  • Pa waith y mae angen ei wneud?
  • Pa waith sydd eisoes wedi'i wneud?
  • Beth fydd y gost bosibl i'r prynwr newydd?
  • A fydd yn effeithio ar allu'r prynwr i fyw yn yr eiddo?
  • Tystysgrifau cwblhau ar gyfer unrhyw waith cyweirio
  • Manylion unrhyw waith

Gellir gofyn am Wybodaeth Berthnasol naill ai gan yr asiant rheoli neu'r rhydd-ddeiliad. Mae'r wybodaeth hon yn caniatáu i'r gwerthwr tai benderfynu beth ddylai fod ar y rhestr (e.e. os oes costau disgwyliedig, problemau gyda chael morgais neu gynhyrchion yswiriant perthnasol, neu lle gallai gwaith cyweirio neu waith cynnal a chadw amharu ar fwynhad y meddiannydd o'r eiddo).

Adborth

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth ar arddull newydd ein cylchlythyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch nhw at diogelwchadeiladau@llyw.cymru

 
 
 

AMDANOM NI

Mynd i’r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau canolig ac uchel a diwygio’r system diogelwch adeiladu gyfredol, fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/tai

 

Cysylltu:

BuildingSafety@llyw.cymru

Dilynwch ni ar X:

@LlC_Cymunedau