“Bywyd Da” ar gyfer anifeiliaid sy’n cael eu ffermio
Oes gennych chi ateb arloesol a all annog "bywyd da" anifeiliaid sy’n cael eu ffermio yng Nghymru? Darllenwch ragor am y gronfa Her yma.
|
|
|
|
|
Beth am gymryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru 2024
Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru yn cael ei chynnal unwaith eto o 11-15 Tachwedd 2024, gan ddwyn ynghyd wahanol randdeiliaid ym maes yr hinsawdd i drafod un o faterion pwysicaf ein cyfnod – addasu i newid hinsawdd. Cewch fwy o fanylion am y digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal yn ystod y gynhadledd rithwir yma.
|
Ymweliad Arloesi â Japan
Mae Innovate UK yn gwahodd cwmnïau yn y sector Lled-ddargludyddion i gymryd rhan mewn Rhaglen Arloesi Busnes Byd-eang yn Japan. Mae croeso i chi nawr anfon eich cais i mewn. I ddarganfod ragor cliciwch yma.
|
|
|
|
|
Her Canser
Cyllid ar gyfer gwaith arloesol sy'n arwain at ddiagnosis cyflymach, gostyngiad mewn amseroedd aros a gwelliannau i driniaeth a chymorth cleifion. Darganfyddwch ragor am yr Her SBRI ddiweddaraf yma.
|
Digwyddiadau
Cynllun Byw’n Glyfar
13 Medi 2024
Digwyddiad briffio ar gyfer Cystadleuaeth Rhaglen Ymchwil Systemau Cyfan ac Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio. Yn agored i awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff twf rhanbarthol / Bargen Ddinesig Cymru. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad briffio ar 13 Medi yma.
Darllenwch ragor am sut mae cyllid wedi cefnogi prosiectau Byw'n Glyfar yma.
Gwobrau Arloesi Myfyrwyr 2024
30 Medi a 1 Hydref 2024 Canolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd,
7 Hydref 2024 Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor
Arddangosfa o’r gwaith prosiect mwyaf arloesol ar lefel TGAU, UG a Safon Uwch mewn Dylunio a Thechnoleg. Darganfyddwch fwy yma.
Hotspot Economi Gylchol Ewrop Cymru 2024
7 – 9 Hydref 2024 – Caerdydd
Bydd y Hotspot yn rhannu llwyddiannau a dyheadau economi gylchol Cymru. Bydd yn cynnig cyfle i ddysgu am atebion economi gylchol o'r sector cyhoeddus, y sector preifat, a chymunedau o Gymru a thu hwnt. I ddarganfod mwy cliciwch yma.
Cydweithredu wrth Arloesi: Sesiwn Froceriaeth
8 Hydref 2024 – Caerdydd
Fel rhan o Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024 mae Innovate UK Business Growth yn cynnal sesiwn froceriaeth Rhwydwaith Mentrau Ewropeaidd er mwyn hwyluso cysylltiadau i archwilio cyfleoedd cydweithredu ar lefel ryngwladol a rhanbarthol. Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer yr Hotspot er mwyn gallu cymryd rhan. Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd yma.
Cymorth Arloesi
9 Hydref 2024 – 10:00 – 17:00 – ar-lein
Archebwch eich lle mewn cyfarfod cymorth cyllid arloesi er mwyn paratoi’n well i gael mynediad at gyllid ymchwil a datblygu a rhedeg prosiectau ymchwil a datblygu mwy effeithiol. Rhagor o wybodaeth a manylion cofrestru yma.
|